Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:37, 30 Medi 2020

Diolch, Llywydd, a gwnaf innau bigo i fyny ar y cwestiynau pwysig yna ynglŷn â brechlyn y ffliw. Gaf i dynnu eich sylw chi at astudiaeth ddiweddar yn yr Eidal sydd wedi nodi perthynas rhwng cyfraddau brechu'r ffliw a chyfraddau symptomau a goroesi coronafeirws? Mewn rhanbarthau lle'r oedd mwy o bobl dros 65 oed wedi manteisio ar y brechlyn ffliw y llynedd, mi oedd yna lai o farwolaethau neu bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd coronafeirws eleni. Gallwn ni ddim ond dyfalu ar y pwynt yma beth ydy'r rheswm am hynny, ond gan ein bod ni yn eiddgar i gyfyngu ar ledaeniad y ffliw beth bynnag, mi oedd yn fy nharo i y gallai gwneud yn siŵr bod y brechlyn ffliw ar gael i bawb sydd eisiau ei gael o, nid dim ond grwpiau targed, yn fuddsoddiad gwerthfawr iawn, nid yn unig wrth fynd i'r afael â phwysau arferol y gaeaf ar yr NHS, ond hefyd i leihau effaith coronafeirws. Felly, yn ogystal â'r ymrwymiad i gael mwy o bobl i gael y brechlyn, a fyddech yn fodlon ymrwymo i rywbeth pellach, sef ei ehangu fo i bawb gan y gallai hynny fod yn fuddsoddiad da?