Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 30 Medi 2020.
Rydym wedi darparu £400,000 i Age Cymru i sefydlu gwasanaeth cyfeillio cenedlaethol dros y ffôn i ddarparu cymorth emosiynol i bobl hŷn. Rydym hefyd wedi gweithio gyda llywodraeth leol a'r trydydd sector i sicrhau bod cymorth ymarferol ac emosiynol ehangach ar waith, megis cynlluniau cynhwysiant digidol a chyfeillio.