2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 30 Medi 2020.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem unigrwydd ymhlith pobl hŷn? OQ55583
Y Dirprwy Weinidog i ymateb.
Rydym wedi darparu £400,000 i Age Cymru i sefydlu gwasanaeth cyfeillio cenedlaethol dros y ffôn i ddarparu cymorth emosiynol i bobl hŷn. Rydym hefyd wedi gweithio gyda llywodraeth leol a'r trydydd sector i sicrhau bod cymorth ymarferol ac emosiynol ehangach ar waith, megis cynlluniau cynhwysiant digidol a chyfeillio.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Mae llawer o bobl hŷn, yn enwedig rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain, yn dioddef o unigrwydd. A wnaiff y Llywodraeth hyrwyddo sesiynau Zoom i'r rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain er mwyn iddynt allu gweld a siarad â'u ffrindiau pan fydd TGCh ar gael iddynt? A hefyd, a ellir gwneud mwy i gynyddu nifer y bobl sy'n cael budd o wasanaeth cyfeillio dros y ffôn ardderchog Age Cymru?
Diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Gwn fod llawer o bobl, gan gynnwys pobl hŷn, yn unig. Ceir llawer o bobl hefyd nad ydynt yn hyderus yn ddigidol, nid ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ac nid oes ganddynt fynediad at y dyfeisiau priodol, a dyna pam y gwnaethom ariannu Age Cymru i sefydlu gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, ac fel y dywedais, rydym wedi rhoi £400,000 iddynt ar gyfer y gronfa. Teimlwn fod y gwasanaeth Ffrind mewn Angen yn wasanaeth rhagorol, fel y dywed Mike Hedges, ac mae ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag Age Cymru i sicrhau bod cysylltiadau'n cael eu gwneud ym mhob awdurdod lleol i sicrhau bod yr hyn y mae Ffrind mewn Angen yn ei ddarparu yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud hefyd. A thrwy Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn cydlynu mentrau mewn cymunedau lleol i bobl, gan gynnwys pobl hŷn, allu meithrin sgiliau a chael ysgogiad a hyder i gymryd rhan mewn cyfarfodydd Zoom, fel y dywed Mike Hedges. Ond rwy'n credu ei fod wedi gofyn cwestiwn pwysig iawn ac rydym yn sicr yn gweithio i'r perwyl hwnnw.
Ddirprwy Weinidog, dywedant mai'r lle mwyaf unig i fod ynddo yn aml iawn yw mewn torf ac fe fyddwch yn gwybod am adroddiad y comisiynydd pobl hŷn a gyhoeddwyd yn gynharach ar gartrefi gofal ac unigrwydd, ynysigrwydd, yr holl waharddiadau cyffredinol rydym yn eu cael mewn cartrefi gofal a pha mor anodd yw hi gyda'r holl gyfyngiadau symud. Cyn inni fynd ar y trywydd hwnnw eto, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau y gallwn fod yn llawer mwy tosturiol y tro hwn a thargedu'n well y modd rydym yn trin pob un o'r unigolion sy'n rhan o'r senario hon? Oherwydd efallai fod gennym bobl mewn cartrefi gofal, ond mae llawer iawn o'r bobl yno'n ei chael hi'n anodd iawn ymgysylltu â'r staff, yn eithriadol o anodd ymgysylltu â chyd-breswylwyr yn y cartrefi gofal—pobl sydd o gwmpas eu pethau, pobl sy'n deall beth sy'n digwydd, ond nad yw eu cyrff yn gryf; mae eu meddyliau'n hollol iawn. Rwyf wedi cael un hanes gofidus ar ôl y llall yn dweud wrthyf am bobl a oedd yn teimlo eu bod wedi'u anghofio yn ystod y cyfnod diwethaf o gyfyngiadau symud a'r gwaharddiadau cyffredinol yn dweud, 'Ni chewch weld y bobl rydych chi'n eu caru, a dyna ddiwedd ar y mater', pan oeddent dan glo, neu pan oeddent yn teimlo'u bod dan glo, yn eu hystafelloedd ar eu pen eu hunain, heb fawr ddim cysylltiad cymdeithasol ag unrhyw un.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Angela. Yn sicr, rydym yn ymwybodol iawn o'r mater pwysig hwn ynglŷn â sut i alluogi pobl hŷn mewn cartrefi gofal i gael cysylltiad â'u hanwyliaid. Mae'n fater o droedio ffin anodd iawn rhwng diogelu iechyd pobl hŷn yn y cartrefi gofal a'r staff, a'u hiechyd meddwl o ran cael y cysylltiad y maent ei angen a'i eisiau â'u hanwyliaid. Felly, yn sicr nid ydym yn cefnogi unrhyw waharddiadau cyffredinol; rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol geisio ymdrin â hyn ar sail unigol a gweld ble y gellir ymweld yn ddiogel. Credwn hefyd ei bod yn bwysig iawn defnyddio'r holl dechnoleg sydd ar gael i breswylwyr cartrefi gofal allu cadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid. Darparwyd £800,000 gennym tuag at ddyfeisiau digidol ar gyfer cartrefi gofal a hosbisau i alluogi hynny i ddigwydd, ond rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr fod yna lawer o drigolion na fyddant yn gallu manteisio ar y dyfeisiau digidol hynny. Felly, rydym wedi rhoi canllawiau ynglŷn ag ymweld yn yr awyr agored, ac yn ystod y cyfnod byr hwn—yn sicr nid heddiw—ond am beth amser cyn y daw'r gaeaf, gallai ymweliadau awyr agored barhau. Yn amlwg, mater i'r darparwr a'r awdurdod lleol yw hwn, ond gyda'n canllawiau, rydym am annog cymaint o hyblygrwydd â phosibl ac rydym yn derbyn yn llwyr ei bod yn bwysig iawn i drigolion cartrefi gofal weld eu hanwyliaid pryd bynnag y bo'n bosibl iddynt wneud hynny'n ddiogel.