Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:55, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy'n falch o glywed, wrth gwrs, fod lefelau ailddechrau gwasanaethau'n cynyddu mewn gwirionedd, ond mae etholwr wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod yn aros i'w mab gael triniaeth ddeintyddol ac wedi cael gwybod gan y bwrdd iechyd lleol mai 81 wythnos yw'r amser aros yn fras, er iddo gael ei ychwanegu at restr flaenoriaethol ar gyfer cael triniaeth theatr. Nawr, rwy'n siŵr y cytunwch fod aros 81 wythnos yn gwbl annerbyniol. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda byrddau iechyd ynglŷn ag archwilio ffyrdd eraill i gleifion gael triniaeth, megis rhoi triniaethau ar gontract allanol, fel nad yw etholwyr fel fy un i'n wynebu amser aros o 81 wythnos?