Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:54, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Dau bwynt: y cyntaf yw ein bod eisoes wedi ailgychwyn gwasanaethau sgrinio, fel y soniais wrth yr Aelodau eisoes. Yr ail yw: efallai nad ydych wedi nodi hyn, ond mae Tom Crosby wedi cadarnhau y cafwyd cytundeb o fewn GIG Cymru i gyflwyno rhaglen genedlaethol o ganolfannau diagnosteg, yn dilyn y treialon a gynhaliwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn gwirionedd, yn y ganolfan ddiagnosteg yno hefyd. Felly, byddaf yn rhoi manylion priodol i'r Aelodau am y rhaglen gyflwyno honno, ond mae'n gyfle da i ddweud bod y treial y buom yn ei gynnal yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus, ac rydym yn disgwyl i hynny ddigwydd yn genedlaethol. Felly, rwy'n meddwl efallai ein bod eisoes hanner cam ar y blaen i'r cwestiwn a ofynnwyd heddiw.