Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. O ran y camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, cawsant gyfarfod ddoe â phartneriaid lleol, a'r awdurdod lleol yn fwyaf pwysig, lle trafodwyd ac y cytunwyd ar yr ystod o fesurau sy'n cael eu cymryd, a chredaf fod lleihau gofal rheolaidd yn fesur diogelwch synhwyrol a hwythau'n wynebu clwstwr o achosion o'r haint. Mae hynny'n golygu y bydd llawdriniaethau'n cael eu gohirio a'u hail-drefnu ar gyfer dyddiad diweddarach, ond mae hynny er lles gorau'r cleifion hynny—peidio â'u derbyn ar safle ar gyfer llawdriniaethau rheolaidd lle deallwn fod clwstwr o achosion yn peri niwed. Ac mae hwnnw'n fesur dros dro tra bo'r achosion yn cael eu rheoli.
Ar hyn o bryd, mae prif weithredwr GIG Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â'r bwrdd iechyd i gael dealltwriaeth briodol o'r mesurau sy'n cael eu cymryd, a throsolwg, fel y nodwyd yn gynharach, ar y mesurau a'r camau rheoli i ddeall yr hyn sy'n digwydd, gyda'r profion sydd ar waith i staff, i ddeall a oes angen gwneud mwy. Yn sgil canlyniadau profion staff, gallwn weld ble mae'r clwstwr o achosion mewn gwirionedd, a gweld pa mor dda y mae'n cael ei reoli. Felly, rydym yn dysgu ac yn cymhwyso'r mesurau o Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ar eich pwynt ehangach ynglŷn â mesurau yn y gymuned, credaf ei bod yn bwysig ystyried, er nad ydym wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer yr achosion a welsom, yn ffodus, yng Nghaerffili—ac mae Casnewydd hefyd yn gwneud cynnydd da—fod rhywfaint o dystiolaeth ofalus dros feddwl y gallem fod yn gweld lefelau mwy gwastad. Mae'n dal ar lefel uchel iawn, ond byddwn eisiau deall a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, a bydd hynny'n rhoi rhywfaint o obaith pellach inni ar gyfer y dyfodol. Ond tystiolaeth Caerffili yw ei bod yn bosibl gweld gostyngiad yn y cyfraddau, ac nad yw'n esgyn un ffordd tuag at fwy a mwy o gyfyngiadau. Byddwn yn parhau i bwyso a mesur a oes angen gwneud mwy i helpu i reoli lledaeniad y feirws ar draws ardal Rhondda Cynon Taf.
Y pwynt allweddol yw mai mater i bobl yn eu cymunedau yw gofalu am ei gilydd, ac mae'r rheolau yno er budd pawb. Os cawn lefel uchel o gydymffurfiaeth â hynny, gallwn ddisgwyl gweld gostyngiad yn lledaeniad coronafeirws a'r niwed y gwyddom ei fod eisoes wedi'i achosi ac yn debygol o'i achosi. Byddwn yn parhau i adolygu materion yn rheolaidd; mae hynny'n cynnwys darparu gwasanaethau profi. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n manteisio ar y gwasanaethau profi sydd ar gael, felly nid yw'r bwrdd iechyd yn pryderu nad oes gennym ddigon o brofion fel y cyfryw, ond yn hytrach, nad yw pobl a ddylai gael prawf yn cael un. Felly, unwaith eto, mae'n apêl ar bobl i ddefnyddio'r adnoddau profi sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf, a byddwn yn parhau i adolygu sut a ble y cânt eu darparu i sicrhau eu bod ar gael yn rhwydd i'r cymunedau a ddylai gael mynediad atynt.