2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 30 Medi 2020.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau symud COVID-19 yn Rhondda Cynon Taf? OQ55605
Diolch am y cwestiwn. Yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion yn Rhondda Cynon Taf, cyflwynwyd cyfyngiadau newydd ar 17 Medi i leihau lledaeniad coronafeirws a diogelu iechyd y cyhoedd. Adolygodd Gweinidogion Cymru y cyfyngiadau hyn ar 24 Medi, a bryd hynny cytunwyd i gadw'r cyfyngiadau am o leiaf saith diwrnod arall.
Weinidog, diolch ichi am yr ateb hwnnw. Bydd trigolion yn fy etholaeth yn pryderu'n fawr ynglŷn â'r newyddion am y nifer fawr o achosion o COVID-19 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd, gwaetha'r modd, wedi arwain at farwolaeth wyth claf, gyda chwech arall yn yr uned gofal dwys, Weinidog. Hoffwn fynegi fy nhristwch a fy syndod o glywed y newyddion hwn, ond wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda'u teuluoedd yn awr.
Cyfarfûm â chadeirydd y bwrdd iechyd heddiw, ac rwy'n cefnogi'r camau sy'n cael eu cymryd gan y bwrdd iechyd i sicrhau bod y clwstwr o achosion wedi'i gyfyngu'n llawn. Weinidog, a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig, a allwch chi roi manylion y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i helpu i reoli'r achosion? A allech chi hefyd roi unrhyw fanylion am y goblygiadau i'r rheini y bu'n rhaid gohirio eu llawdriniaethau? Ac yn olaf, Weinidog, byddwn yn ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y mae'r cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf yn mynd rhagddynt o ran y cyfraddau heintio, a chan gadw'r achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn cof, a ydych chi'n gweld angen i dargedu adnoddau profi pellach ar gyfer RhCT?
Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. O ran y camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, cawsant gyfarfod ddoe â phartneriaid lleol, a'r awdurdod lleol yn fwyaf pwysig, lle trafodwyd ac y cytunwyd ar yr ystod o fesurau sy'n cael eu cymryd, a chredaf fod lleihau gofal rheolaidd yn fesur diogelwch synhwyrol a hwythau'n wynebu clwstwr o achosion o'r haint. Mae hynny'n golygu y bydd llawdriniaethau'n cael eu gohirio a'u hail-drefnu ar gyfer dyddiad diweddarach, ond mae hynny er lles gorau'r cleifion hynny—peidio â'u derbyn ar safle ar gyfer llawdriniaethau rheolaidd lle deallwn fod clwstwr o achosion yn peri niwed. Ac mae hwnnw'n fesur dros dro tra bo'r achosion yn cael eu rheoli.
Ar hyn o bryd, mae prif weithredwr GIG Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â'r bwrdd iechyd i gael dealltwriaeth briodol o'r mesurau sy'n cael eu cymryd, a throsolwg, fel y nodwyd yn gynharach, ar y mesurau a'r camau rheoli i ddeall yr hyn sy'n digwydd, gyda'r profion sydd ar waith i staff, i ddeall a oes angen gwneud mwy. Yn sgil canlyniadau profion staff, gallwn weld ble mae'r clwstwr o achosion mewn gwirionedd, a gweld pa mor dda y mae'n cael ei reoli. Felly, rydym yn dysgu ac yn cymhwyso'r mesurau o Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ar eich pwynt ehangach ynglŷn â mesurau yn y gymuned, credaf ei bod yn bwysig ystyried, er nad ydym wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer yr achosion a welsom, yn ffodus, yng Nghaerffili—ac mae Casnewydd hefyd yn gwneud cynnydd da—fod rhywfaint o dystiolaeth ofalus dros feddwl y gallem fod yn gweld lefelau mwy gwastad. Mae'n dal ar lefel uchel iawn, ond byddwn eisiau deall a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, a bydd hynny'n rhoi rhywfaint o obaith pellach inni ar gyfer y dyfodol. Ond tystiolaeth Caerffili yw ei bod yn bosibl gweld gostyngiad yn y cyfraddau, ac nad yw'n esgyn un ffordd tuag at fwy a mwy o gyfyngiadau. Byddwn yn parhau i bwyso a mesur a oes angen gwneud mwy i helpu i reoli lledaeniad y feirws ar draws ardal Rhondda Cynon Taf.
Y pwynt allweddol yw mai mater i bobl yn eu cymunedau yw gofalu am ei gilydd, ac mae'r rheolau yno er budd pawb. Os cawn lefel uchel o gydymffurfiaeth â hynny, gallwn ddisgwyl gweld gostyngiad yn lledaeniad coronafeirws a'r niwed y gwyddom ei fod eisoes wedi'i achosi ac yn debygol o'i achosi. Byddwn yn parhau i adolygu materion yn rheolaidd; mae hynny'n cynnwys darparu gwasanaethau profi. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n manteisio ar y gwasanaethau profi sydd ar gael, felly nid yw'r bwrdd iechyd yn pryderu nad oes gennym ddigon o brofion fel y cyfryw, ond yn hytrach, nad yw pobl a ddylai gael prawf yn cael un. Felly, unwaith eto, mae'n apêl ar bobl i ddefnyddio'r adnoddau profi sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf, a byddwn yn parhau i adolygu sut a ble y cânt eu darparu i sicrhau eu bod ar gael yn rhwydd i'r cymunedau a ddylai gael mynediad atynt.
Weinidog, mae'n amlwg fod y digwyddiad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn un difrifol iawn. Mae'n fis Medi—pan wynebwn bwysau'r gaeaf ddiwedd mis Tachwedd, mis Rhagfyr a mis Ionawr, gallem fod dan bwysau mwy difrifol eto. Nawr, ledled Cymru, gwn mai rhan o'r broses o reoli risg COVID yw symud rhai llawdriniaethau i gyfleusterau eraill—llawdriniaethau canser, er enghraifft, i ysbyty Vale ac yng Nghaerdydd i ysbyty Spire. Ac mae triniaethau canser yn mynd rhagddynt, yn ôl yr hyn a ddeallaf—bydd triniaethau brys yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond mae'r holl ofal dewisol arall bellach wedi dod i ben. Rhaid diogelu cleifion canser yn enwedig rhag cael eu heintio—gall arwain at ganlyniadau gwael iawn os ydych wedi cael llawdriniaeth a'ch bod ar gyffuriau imiwnoataliol. Felly, a allwch chi ein sicrhau bod creu parthau mewn ysbytai, neu symud mathau penodol o ofal i safleoedd penodol, yn digwydd ac y byddant yn ffordd o sicrhau y gellir darparu lefelau uwch o ofal canser na fel arall pan fyddwn yn wynebu'r mathau hyn o argyfyngau?
Gallaf, rwy'n hapus i roi'r sicrwydd uniongyrchol hwnnw—dyna'n union y mae'r bwrdd iechyd yn cynllunio ar ei gyfer gyda'u partneriaid. Maent wedi gweithio gyda phartneriaid awdurdod lleol ynglŷn â'r angen i gael pobl i adael yr ysbyty er mwyn creu mwy o le yn gyffredinol, ond ar eich pwynt ehangach a mwy penodol am wasanaethau canser, maent eisoes yn gweithio gyda phartneriaid eraill hefyd i weld beth y gellir ei symud er mwyn sicrhau bod triniaethau'n parhau cyn belled ag y bo modd. Felly, rwy'n hapus i roi'r sicrwydd uniongyrchol y mae'r Aelod yn gofyn amdano.
Rwy'n pryderu'n fawr am y clwstwr o achosion a'r marwolaethau o COVID-19 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a beth fydd hyn yn ei olygu i gleifion a staff. Yn amlwg, rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt.
Mae llawer o lawdriniaethau dewisol eisoes wedi'u gohirio yn ystod y pandemig, ac yn awr mae'r ôl-groniad yn mynd i waethygu. Bydd cleifion brys yn cael eu trosglwyddo mewn ambiwlans yn awr i ysbytai eraill, gan ychwanegu oedi a allai fod yn dyngedfennol o ran cael triniaeth sy'n achub eu bywyd.
Rwyf am wybod beth y gall y Llywodraeth ei wneud i ddod â'r argyfwng hwn yn yr ysbyty i ben yn gyflym a chreu amgylchedd diogel i gleifion a staff. Gallwch wella'r rhaglen brofi. A allwch chi roi hwb i'r capasiti profi ar y safle fel y gallwn olrhain y feirws yn well? A allwch chi wella'r amser ar gyfer dychwelyd canlyniadau er mwyn i bobl gael y canlyniadau hynny'n gyflymach? Mae staff angen gweld gwelliannau yn y rhaglen brofi a phrofion cyflymach, felly beth allwch chi ei wneud i helpu gyda hynny? Yn olaf, a oes gennych unrhyw hyder ar ôl yn y labordai goleudy bellach?
Rwy'n credu bod amrywiaeth o bethau i'w trafod, a rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, gobeithio, ac i unrhyw bobl sy'n gwylio. O ran clystyrau o achosion a rheoli achosion, fe fyddwch wedi gweld o'r achosion blaenorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ein bod wedi cynnal profion ar staff ac ar gleifion pan gafodd y clwstwr o achosion ei ddatgan drwy ein labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac fe wnaethant ddarparu canlyniadau'n gyflym iawn. Mae'r profion ar gyfer clwstwr o achosion yn cael eu blaenoriaethu, felly daw'r canlyniadau'n ôl yn gyflym iawn, a gallwch ddisgwyl y lefelau o 90 y cant a mwy a gyflawnwyd gennym yn Wrecsam o ran darparu canlyniad o fewn diwrnod.
Felly, rydym yn defnyddio profion GIG Cymru ar gyfer hyn, ar gyfer rheoli'r clwstwr o achosion, a dyna'n union yw'r bwriad, gyda'r capasiti ychwanegol a'r capasiti ymchwydd sy'n bodoli yn ein system. Dylai hynny roi sicrwydd i staff ac yn wir, i bobl sy'n mynd ar y safle hefyd. Os oes angen triniaeth arnynt o hyd ac mai dyna'r lle iawn iddynt gael eu triniaeth, dylid eu profi. Unwaith eto, gallant ddisgwyl i hynny ddigwydd drwy labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd.
O ran y sicrwydd ynglŷn â phobl yn cael eu trosglwyddo i safleoedd eraill, bydd pobl yn cael eu trosglwyddo gan weithwyr proffesiynol yn ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, a gallant ddisgwyl cael gofal o ansawdd uchel. Rydym yn y sefyllfa ffodus fod yna ysbytai sy'n gymharol agos at safle presennol Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid wyf yn credu bod sail i bobl boeni y gallai'r trosglwyddiad arwain at oedi gormodol yn y driniaeth achub bywyd. Fel bob amser, mae'n gydbwysedd rhwng trosglwyddo pobl o'r safle hwnnw os oes angen, a'r risg i'r bobl hynny o'u derbyn fel arall, a dyna'r risg sy'n rhaid ei chydbwyso a'r penderfyniad sy'n rhaid ei wneud. Mae gennyf hyder yn arweinyddiaeth y bwrdd iechyd; mae gennyf hyder yn y ffordd y maent wedi gweithio gyda phartneriaid i wneud hynny. Rwy'n credu y gallwn edrych ymlaen at weld y clwstwr o achosion yn cael ei reoli. Yn sicr, ni cheir diffyg o ran profi ac argaeledd profion ar y safle i bobl y mae gwir angen iddynt gael prawf, a chredaf inni ddangos hynny gyda'r ymateb blaenorol i'r clwstwr o achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam.