Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 30 Medi 2020.
Gallaf, rwy'n hapus i roi'r sicrwydd uniongyrchol hwnnw—dyna'n union y mae'r bwrdd iechyd yn cynllunio ar ei gyfer gyda'u partneriaid. Maent wedi gweithio gyda phartneriaid awdurdod lleol ynglŷn â'r angen i gael pobl i adael yr ysbyty er mwyn creu mwy o le yn gyffredinol, ond ar eich pwynt ehangach a mwy penodol am wasanaethau canser, maent eisoes yn gweithio gyda phartneriaid eraill hefyd i weld beth y gellir ei symud er mwyn sicrhau bod triniaethau'n parhau cyn belled ag y bo modd. Felly, rwy'n hapus i roi'r sicrwydd uniongyrchol y mae'r Aelod yn gofyn amdano.