5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Effaith COVID-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:05, 30 Medi 2020

Dwi yn falch bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 8, sef y dylen nhw asesu'n ofalus y galw tebygol am brofion yn y dyfodol a chymryd camau i sicrhau bod yna ddigon o allu i brofi, fel y bydd unrhyw un sydd angen prawf yn gallu cael un yn gyflym ac yn hawdd. Ond y gwir amdani ydy bod yna fethiant i gyrraedd y galw presennol, wrth gwrs, heb sôn am y galw cynyddol y bydd yna dros y gaeaf. Ac mae eisiau gwahaniaethu'n bendant rhwng capasiti a faint o brofi sy'n digwydd yn ymarferol. Mi soniodd y Prif Weinidog yr wythnos yma am gapasiti o 15,000 o brofion y dydd yng Nghymru, ond yn aml iawn 2,500 i 3,000 o brofion oedd yn cael eu gwneud. 

Dwi'n gwybod bod problemau cael prawf wedi dod i'r amlwg fwyaf wrth i ysgolion ailagor. Mi aeth capasiti yn brin ar yr union amser oedd angen iddo fo gynyddu. Mi fuaswn i wedi disgwyl y buasai yna fwy o baratoi wedi bod am hynny, mwy o adeiladu gwytnwch yn y system erbyn dechrau y tymor ysgol. Ac er gwaethaf addewidion y bydd pethau'n well mewn ychydig wythnosau o ran labordai lighthouse, dydy o ddim yn rhoi llawer o ffydd i rywun o ran y gwytnwch fydd ei angen dros y gaeaf, wrth i'r ail don barhau i dyfu. 

Dwi'n falch bod y Llywodraeth hefyd yn derbyn ein hargymhelliad 7 ni, fod angen datblygu cynllun clir ar gyfer profion rheolaidd ac ailadroddus ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys staff ansymptomatig—rhywbeth dwi wedi bod yn galw amdano fo yn gyson. Mae yna dal gormod o bobl ar y rheng flaen sy'n nerfus iawn. Dwi'n clywed straeon am nyrsys cymunedol, er enghraifft, sydd ddim yn cael cynnig profion yn bryderus iawn am fynd i gartrefi cleifion, rhag ofn iddyn nhw basio'r feirws ymlaen. Mae'n rhaid inni ehangu sgôp y profi ansymptomatig i gynnwys gofalwyr yn y cartref hefyd, er enghraifft. 

Mater arall y buon ni'n sbio arno fo oedd y goblygiadau ariannol ar lywodraeth leol gydol y pandemig yma. Dwi'n croesawu'r gydnabyddiaeth bod angen i'r Llywodraeth gadarnhau fel mater o flaenoriaeth y pecyn cymorth ariannol i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o gyflogi gweithwyr olrhain proffesiynol, yn dibynnu beth maen nhw wedi bod yn ei wneud dros y misoedd o ran adleoli staff. Argymhelliad 24 ydy hwnnw. Mi oedd hwn yn rhywbeth y gwnes i godi efo'r Gweinidog cyllid ym mis Gorffennaf. Timau gwirfoddol oedd yna o fewn y cynghorau sir bryd hynny yn gwneud y gwaith—gweithwyr oedd wedi cael eu tynnu o adrannau eraill i mewn i'r tîm olrhain. Dwi'n meddwl ei bod hi'n amlwg, er bod y nifer o staff olrhain wedi tyfu'n arw erbyn hyn, fel y clywon ni yn y pwyllgor y bore yma, y bydd angen cefnogaeth bellach gan ein cynghorau ni ar y ffrynt yma. 

Gwaith arall pwysig y mae llywodraeth leol wedi bod yn arwain arno fo ydy helpu pobl a fu'n gwarchod neu'n 'shield-o'. Mi welwch chi sawl cyfeiriad yn yr adroddiad am gefnogi pobl oedd yn cael eu gwarchod, a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael bwyd, ac yn y blaen. Ac ar y pwynt hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn i'n siomedig efo'r ymateb y ces i yr wythnos yma i lythyr gen i yn gofyn am sicrhau cymorth i lywodraeth leol allu cynllunio ar gyfer darparu bwyd ac ati i bobl fregus yn ystod ail don. Roedd yna bartneriaeth wych yn Ynys Môn, yn cael ei arwain gan y cyngor, efo Menter Môn, Medrwn Môn a busnesau lleol fel bwyty Dylan's, ac ati, i wneud yn siŵr bod pecynnau bwyd yn cael eu dosbarthu. Mi oedd Dylan's yn awyddus i weld bod paratoadau mewn lle i allu ymateb yn gyflym i'r ail don. Roedd yr ymateb yn gyflym iawn yn Ynys Môn y tro cyntaf, ond wrth gwrs mi oedd yn rhaid dysgu wrth fynd. Y tro yma, mae'r wybodaeth a'r cefndir gennym ni. Mae angen gwneud yn siŵr bod yna well paratoi, a doeddwn i ddim yn clywed hynny yn y llythyr yma, felly mi liciwn i glywed sicrwydd bod gwaith cynllunio yn mynd ymlaen. 

Ac yn olaf, dwi'n ategu'r argymhellion am gael cyfarpar diogelu PPE digonol yn ystod y pandemig yma. Mi glywsom ni'r gair 'diolch' yn cael ei ddweud dro ar ôl tro i'n gweithwyr iechyd a gofal ond, wrth gwrs, beth maen nhw'n chwilio amdano fo, beth mae angen iddyn nhw wybod rŵan ac yn y dyfodol ydy bod yr adnoddau yno sy'n eu galluogi nhw wneud eu gwaith yn ddiogel.