– Senedd Cymru am 3:39 pm ar 30 Medi 2020.
Symudwn at eitem 5, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith COVID-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar COVID-19.
Cyn imi siarad am ein canfyddiadau, hoffwn dalu teyrnged i ymrwymiad ac ymroddiad pawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o sicrhau bod ein gwasanaethau rheng flaen yn parhau i weithredu o dan amgylchiadau anodd dros ben. Er y byddwn yn meddwl yn awtomatig am y sector iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid cydnabod hefyd ymdrechion diflino cynifer o sectorau a phroffesiynau eraill, a hynny'n aml y tu ôl i'r llenni.
Mae'r cyhoedd hefyd wedi aberthu llawer, ac mae angen cydnabod hynny. Cafodd teuluoedd a chyfeillion eu gwahanu, a chafodd y rhai mwyaf agored i niwed eu hynysu oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth ehangach. Mae eu hymdrechion i gadw at y cyfyngiadau symud wedi atal y feirws rhag lledaenu'n sylweddol. Yn anffodus, rydyn ni'nawr yn wynebu heriau tebyg eto, ac rydyn ni'n gofyn i bobl Cymru ddangos yr un ysbryd eto i gyd-ymdrechu i helpu i ffrwyno'r feirws llechwraidd yma unwaith eto.
Pan gadarnhawyd yr achos cyntaf o'r coronafeirws yng Nghymru ym mis Mawrth eleni, ychydig iawn ohonom, gredwn i, oedd yn sylweddoli y byddai'r feirws yn cael effaith mor ddinistriol a hirhoedlog arnom ni i gyd. Mae wedi bod yn greulon ac yn ddidostur ac mae wedi cipio cyfeillion ac anwyliaid oddi arnom. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ystyried effaith y coronafeirws, a'r modd y cafodd ei reoli, ar y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni wedi ystyried ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol, yn ogystal â’r effaith ar staff, cleifion ac eraill sy'n cael gofal neu driniaeth yn y gymuned neu mewn lleoliadau clinigol. Ein diben wrth ymgymryd â'r gwaith hwn oedd ceisio helpu i ddangos beth weithiodd yn dda a beth na weithiodd cystal, a hynny er mwyn dysgu gwersi a'u cymhwyso'n gyflym, efo'r cynnydd yn y gyfradd heintio sy'n digwydd nawr.
Rydyn ni wedi cael tystiolaeth gan amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid, ac rydyn ni'n parhau i wneud hynny. Cynhaliwyd arolwg o staff rheng flaen, cleifion, gofalwyr, a'r rhai sy'n derbyn gofal neu driniaeth, i ddeall yr effaith y mae'r pandemig wedi ei gael arnynt. Hefyd, roedd gwahoddiad agored i unrhyw rai a oedd yn dymuno rhannu eu profiadau efo ni. Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at ein gwaith.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys 28 o argymhellion, ac mae 21 ohonynt wedi'u derbyn yn llawn, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog yn fawr am ei ymateb manwl. Ni fydd gennyf amser i ymdrin â phob argymhelliad, ond byddaf yn ceisio ymdrin â rhai o'r negeseuon allweddol, gan droi yn gyntaf at gyfarpar diogelu personol, PPE. Nawr, yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, rhoddwyd cryn dipyn o sylw i'r pryder ynglŷn â sicrhau cyflenwad digonol a pharhaus o gyfarpar diogelu personol. Roedd llawer o'r dystiolaeth gynnar a gawsom yn tanlinellu ofnau a phryderon staff rheng flaen ynghylch cyfarpar diogelu personol priodol. Yn ôl arolwg a gynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain, nid oedd 67 y cant o feddygon yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi'u diogelu'n llawn rhag COVID-19 yn y gwaith, ac roedd 60 y cant ohonyn nhw wedi gorfod prynu eitemau o gyfarpar diogelu personol yn uniongyrchol, neu wedi derbyn cyflenwadau fel rhodd allanol, oherwydd nad oedd y gwasanaeth iechyd yn gallu caffael cyflenwadau digonol.
Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd fod nifer fawr o'u haelodau, yn enwedig timau nyrsio cymunedol, wedi ffonio am eu bod yn poeni nad oeddent yn gallu cael gafael ar gyfarpar diogelu personol. Dywedodd fod 74 y cant o staff nyrsio wedi dweud eu bod yn poeni am brinder cyfarpar diogelu personol, a bod dros hanner wedi teimlo dan bwysau i ofalu am glaf heb amddiffyniad digonol. Yn wir, dywedodd y Gweinidog iechyd wrthym fod y sefyllfa yn peri pryder gwirioneddol i'r Llywodraeth hefyd ar y pryd.
Mae'r sefyllfa hon wedi gwella, ac rydyn ni'n falch iawn o hynny, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Mae angen sicrwydd arnom y bydd cyflenwadau PPE yn parhau, yn enwedig o gofio'r cynnydd yn y gyfradd heintio'n ddiweddar. Gwnaethom, felly, argymell y canlynol: rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i gyhoeddi strategaeth i sicrhau cyflenwad gwydn o gyfarpar diogelu personol; i gasglu ynghyd lefelau digonol o gyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer unrhyw achos yn y dyfodol; i adolygu’r cyfarpar diogelu personol y mae wedi’i gasglu ynghyd i sicrhau ei fod yn parhau i fod o ansawdd digonol a’i fod yn addas at y diben; i gyhoeddi strategaeth ar gyfer sicrhau gwydnwch y trefniadau dosbarthu; i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn cael eu diweddaru yng ngoleuni’r cyngor gwyddonol diweddaraf, a chyfathrebu’r cyngor hwn yn glir i’r staff. Dyna argymhelliad 1. Dwi'n falch iawn o ddweud bod yr argymhelliad hwn wedi’i dderbyn a bod cynllun strategol ar gyfer caffael cyfarpar diogelu personol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddatblygu.
O gofio bod Cymru, yn draddodiadol, yn dibynnu’n gryf ar gyflenwadau o Tsieina a gwledydd eraill yn Asia, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru i ddatblygu ein cyflenwad cartref ein hunain. Gwnaethom argymell felly fod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei systemau i sicrhau bod y mecanweithiau ar waith i alluogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i ymateb yn gyflym wrth gyflenwi cyfarpar diogelu personol priodol pe bai unrhyw achosion yn y dyfodol. Dyna argymhelliad 2. Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, roedd y Gweinidog yn cydnabod rôl bwysig busnesau Cymru yn y gwaith o gryfhau ein gallu i wrthsefyll ail don o COVID-19. A dywedodd y bydd y cynllun caffael PPE ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfuniad o gyflenwadau lleol a rhyngwladol.
I droi at gartrefi gofal rŵan, roedd cynnal profion mewn cartrefi gofal yn fater dadleuol, a chafodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru eu beirniadu, fel rydym ni'n gwybod, am fethu â chynnal digon o brofion mewn lleoliadau gofal. Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu 663 o farwolaethau oherwydd COVID-19 yng nghartrefi gofal Cymru.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, roedd y drefn o ryddhau cleifion o’r ysbytai i gartrefi gofal wedi cyfrannu’n sylweddol at y ffaith bod yr haint wedi lledaenu mor frawychus o gyflym mewn cartrefi gofal. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei bod yn pryderu nad oedd hawliau pobl hŷn wedi’u diogelu’n ddigonol. Roedd nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal yn peri pryder mawr i ni. Rydym ni'n credu bod agwedd gychwynnol Llywodraeth Cymru tuag at gynnal profion mewn cartrefi gofal yn ddiffygiol ar y dechrau, ac roedd ei hymateb i’r argyfwng cynyddol yn rhy araf wedyn. O ganlyniad, roedd nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal yn cyfrif am 28 y cant o’r holl farwolaethau cysylltiedig â choronafeirws yng Nghymru.
Roedd argymhelliad 9 yn ein hadroddiad yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob claf sy’n cael ei ryddhau o’r ysbyty yn uniongyrchol i gartref gofal wedi cael prawf, yn unol â’r arfer gorau diweddaraf, i sicrhau bod preswylwyr a staff yn cael eu diogelu cystal ag y bo modd. Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn mewn egwyddor. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid cael canlyniadau’r profion cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y sicrwydd hwn ac am dderbyn ein hargymhelliad.
I droi at brofi, olrhain a diogelu yn olaf, cyn imi orffen ar y dechrau yma, hoffwn sôn am y strategaeth profi, olrhain a diogelu—system olrhain cysylltiadau Llywodraeth Cymru. Mae gan y rhaglen profi ac olrhain o dan y strategaeth nifer o ddibenion allweddol, gan gynnwys: gwneud diagnosis o'r clefyd; cadw golwg ar iechyd y boblogaeth; olrhain cysylltiadau; a pharhad busnes, gan alluogi gweithwyr allweddol i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflymach ac yn fwy diogel.
Mae nifer o dystion wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dychwelyd canlyniadau profion yn gyflym er mwyn sicrhau llwyddiant y strategaeth profi, olrhain a diogelu. Fel y dywedodd Syr David King, aelod o SAGE Annibynnol, mae’n hanfodol bwysig bod canlyniadau’r profion ar gael yn gyflym.
Dwi'n dyfynnu: 'Os daw’r canlyniad bum niwrnod ar ôl cynnal y prawf, ac mae’r person hwnnw’n dal yn crwydro o amgylch ei gymuned, dychmygwch faint o bobl y gall eu heintio yn ystod y cyfnod hwnnw.'
Rydym ni'n cytuno y bydd cyflymder y profi, yr amser mae’n ei gymryd i brosesu canlyniadau, a chywirdeb y canlyniadau hynny yn hanfodol i lwyddiant y strategaeth profi, olrhain a diogelu. Po hiraf yw’r amser prosesu o’r dechrau i’r diwedd, o gasglu sampl i roi canlyniadau i unigolion, po fwyaf yw’r oedi ar yr adeg pan mae’r clefyd ar ei fwyaf heintus, neu po fwyaf tebygol yw hi y bydd pobl—[Anghlywadwy.]
[Anghlywadwy.]—argymell felly fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, geisio sicrhau bod canlyniadau pob prawf yn cael eu dychwelyd o fewn 24 awr. Dyna argymhelliad 19, a chafodd yr argymhelliad hwnnw hefyd ei dderbyn mewn egwyddor.
Clywsom hefyd y byddai cefnogaeth y cyhoedd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth. Mae angen i bobl fod yn barod i fod yn onest wrth rannu manylion am eu symudiadau a'u cysylltiadau, a hunanynysu os gallent fod mewn perygl, a hynny er budd y gymuned ehangach. Gwnaethom argymell, felly, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda’i phartneriaid, sicrhau ei bod yn cyflwyno negeseuon cyhoeddus clir, a’u hailadrodd yn gyson ar lefel genedlaethol a lleol, yn tanlinellu cyfrifoldeb unigolion i hunanynysu os oes ganddynt symptomau a phwysigrwydd gofyn am brawf ar unwaith. Dyna argymhelliad 25, a derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw.
Wrth gwrs, os bydd y broses o olrhain cysylltiadau yn llwyddiannus, mae’n bosib y bydd yn rhaid i bobl hunanynysu sawl gwaith, ac mae hyn yn bryder arbennig i bobl sydd mewn swyddi cyflog isel, gan na fyddant yn gallu fforddio aros gartref o'r gwaith. Yn ôl y canllawiau presennol, mae gan unrhyw un sy'n hunanynysu hawl i dâl salwch statudol, sef £95 yr wythnos, ond nid yw hwn yn gyflog cynaliadwy nac yn gyflog byw. Mae’r demtasiwn i anwybyddu symptomau a chyngor a mynd i’r gwaith yn bryder gwirioneddol, felly, ac yn faes y mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw brys iddo, yn enwedig o ystyried nad yw trefniadau tâl salwch statudol wedi’u datganoli. Rydym felly wedi galw ar i Lywodraeth Cymru fynd ati, fel mater o frys, i holi Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y trefniadau tâl salwch statudol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac eraill yng Nghymru sy’n gorfod hunanynysu. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad yma a’i sicrwydd ei fod yn parhau i dynnu sylw Gweinidogion y Deyrnas Unedig at y pryderon am effaith ariannol hunanynysu.
I gloi, hoffwn gydnabod bod maint yr her sy’n wynebu Llywodraethau a’u partneriaid wrth iddynt ymdopi ag effeithiau COVID-19 wedi bod yn ddigynsail hollol. Gwnaed ymdrechion aruthrol yn gyffredinol a llwyddwyd i gyflawni gwyrthiau. Yn anffodus, mae cyfraddau heintio yn codi unwaith eto. Rhaid inni ddefnyddio'r profiad a gawsom a’r cyfan a ddysgwyd wrth frwydro yn erbyn y don gyntaf o'r clefyd i sicrhau bod unrhyw fesurau newydd a gyflwynir i reoli'r feirws yn effeithiol yn amserol ac yn gymesur. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Rwy'n sylweddoli nad oeddwn ar y pwyllgor pan gynhaliwyd yr adolygiad hwn, neu’r ymchwiliad hwn, ond hoffwn dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Angela Burns, am y gwaith a wnaeth yn ystod ei hamser ar y pwyllgor, a hefyd i Gadeirydd y pwyllgor, y staff a'r Aelodau eraill sydd wedi cynhyrchu gwaith manwl a chryno, gyda rhai argymhellion allweddol, a dweud y lleiaf. Ac mae'r Llywodraeth, ar y cyfan, wedi ymgysylltu â'r argymhellion hynny, er fy mod, a minnau’n wleidydd ers oddeutu 13 mlynedd, bob amser ychydig yn betrus wrth glywed 'cytunwyd mewn egwyddor' oherwydd yn aml iawn, yn anffodus, yn aml iawn ni chaiff hynny ei gyflawni, a byddai llawer, os nad pob un o'r argymhellion hyn, o'u derbyn yn eu cyfanrwydd, yn ychwanegu’n aruthrol at gynnig gwell, ymateb gwell, a ninnau bellach, fisoedd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwn, yn gweld yr hyn y byddai llawer yn ei galw'n ail don o COVID yn taro llawer o'n trefi a'n dinasoedd a'n cymunedau ledled Cymru.
Yn yr adroddiad, bron â bod fel trydydd person yn dod ato, o’i ddarllen o glawr i glawr, credaf fod y mynegai o’r dyddiadau yn y cefn yn atgoffa'n amserol o ba mor gyflym rydym wedi teithio eleni, o fis Ionawr hyd at pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf, a'r lefel, y nifer, y trawsnewidiad llwyr mewn gwasanaethau, yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymateb—nid oes ond angen i chi edrych ar ein gwaith yma heddiw a ddoe i weld sut y mae COVID wedi llyncu popeth a wnawn gan ei fod yn hollgwmpasol.
Wrth ddarllen rhai o'r sylwadau ynghylch cyfarpar diogelu personol a'r argymhellion ynghylch cyfarpar diogelu personol, roedd yn atgof amserol o'r heriau gwirioneddol y mae'r sectorau’n eu hwynebu, yn enwedig y sector iechyd a'r sector gofal. Ac wrth ei ddarllen, roedd yn pwysleisio'r pwynt ynglŷn â sut y mae angen ystyried y sector iechyd a'r sector gofal yn bartneriaid cyfartal, yn hytrach na bod un sector yn cael darpariaeth o gyfarpar diogelu personol yn y lle cyntaf, a bod y sector gofal yn cael yr hyn sydd dros ben ac efallai’n gorfod dal i fyny. Mae angen cywiro hynny, os bydd y sefyllfa honno’n codi eto gyda chyflenwadau cyfyngedig. Ac rwy'n falch o glywed sicrwydd y Gweinidog fod y cyflenwad o gyfarpar diogelu personol wedi'i gynyddu’n helaeth ers dechrau'r argyfwng, ond mae'n bwysig iawn clywed a deall y parch cydradd hwnnw. Yn benodol, pe gallai’r Gweinidog dynnu sylw yn ei ymateb at y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r gwaith y mae’r Llywodraeth wedi’i gomisiynu gan Deloitte ar fapio’r galw am gyfarpar diogelu personol, unwaith eto, byddai hynny’n dda er mwyn deall sut y ceir tegwch ledled Cymru yn y gadwyn gyflenwi cyfarpar diogelu personol pe bai'r pwysau'n cynyddu yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae profi, fel y clywn yn aml y dyddiau hyn, a'r pryderon ynglŷn â phrofi—yn absenoldeb brechlyn, profi yw ein hunig amddiffyniad i gadw rheolaeth ar y feirws ac i ddeall ble mae'r achosion o'r feirws, ac yn y pen draw, sut y mae'n lledaenu drwy ein cymunedau. Mae darllen rhai o'r argymhellion a wnaed, ac yn bwysig iawn, sut y cânt eu rhoi ar waith yn hanfodol bwysig, yn enwedig pan feddyliwch am gynyddu nifer y profion a fydd ar gael. Mae braidd yn ddigalon gweld, ym mis Gorffennaf eleni, fod capasiti profi Llywodraeth Cymru yn 15,000; yma, tua deufis yn ddiweddarach, ym mis Medi, mae'n dal i fod yn 15,000, a'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog ei hun—rwy’n ei ganmol am ei onestrwydd—y byddem, efallai'n gallu ymdrin â hynny ar sail ddyddiol, ond na fyddai defnyddio’r capasiti llawn hwnnw’n gynaliadwy dros unrhyw gyfnod hirdymor o amser. Ac felly, gweithio ar y cyd ar draws y Deyrnas Unedig, er gwaethaf problemau’r labordai goleudy, fydd yr unig ateb er mwyn dod â lefel go iawn o brofion yma i Gymru, ac yn wir, i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio'n fawr y gellir datrys llawer o'r namau sydd wedi amharu ar y system.
Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y defnyddir y nifer o brofion, oherwydd yn aml iawn, fel gwleidyddion, fel y noda’r adroddiad, rydym yn canolbwyntio ar gapasiti, ond mae a wnelo hyn â gallu'r system gyfan i weithio, o'r capasiti i nifer y profion a gyflawnir, a'r gyfradd ymateb, fel y nododd y Cadeirydd, a phwysigrwydd cael yr ymateb yn ôl o fewn 24 awr. Mae’n rhaid i unrhyw system brofi effeithiol sicrhau bod o leiaf 90 y cant o'i chanlyniadau yn ôl o fewn 24 awr. Os na all wneud hynny, rydym yn methu'r nod o sicrhau bod y gyfundrefn brofi mor effeithiol ag y bo modd.
Rwy'n sylweddoli bod fy mhum munud bron ar ben ar y cloc. Profi, olrhain, diogelu: mae graddfa’r cynllun profi, olrhain a diogelu’n enfawr, fel y noda’r adroddiad, a soniodd tystiolaeth Cymdeithas Feddygol Prydain yn benodol am y rhaglen enfawr hon y bydd ei hangen, o rhwng 7,500 ac 8,000 o gysylltiadau mewn diwrnod, i hyd at 0.5 miliwn o bobl ar un adeg yn y system. Mae hynny'n rhoi syniad o raddfa'r gwaith rydym yn sôn amdano, a phe bai pobl wedi dweud wrth wleidyddion ddechrau'r flwyddyn hon, 'Beth y credwch fydd eich pum prif her?', ni chredaf y byddai unrhyw un wedi crybwyll argyfwng COVID a'i natur hollgwmpasol.
Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r cyhoedd yn gyffredinol, ac rwy'n cymeradwyo gweithgarwch y pwyllgor yn cyflawni'r adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau â gwaith y pwyllgor pan fydd yn ailedrych ar rai o'r argymhellion i weld eu bod wedi'u rhoi ar waith yn y dyfodol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Unwaith eto, mae ein Cadeirydd wedi rhoi cyflwyniad trylwyr a chryf iawn i’r adroddiad yn ei gyfraniad y prynhawn yma, a hoffwn ategu ei deyrnged i holl staff y GIG a’r gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru am yr hyn a wnaethant pan oedd y pandemig ar ei anterth ac ers hynny, a'r hyn y maent yn parhau i’w wneud yn awr ac y byddant yn ei wneud drwy'r gaeaf rwy'n siŵr. Buom yn curo dwylo iddynt bob wythnos bryd hynny, ond maent yn haeddu cymaint mwy na hynny. Mae eu hymrwymiad yn ddiamheuol ac yn ddi-ben-draw.
Credaf fod angen inni atgoffa ein hunain hefyd pam y gwnaethom gyflwyno'r adroddiad, gan ei fod yn ymwneud ag effaith y feirws a pha wersi y byddem yn eu dysgu o hynny. Mae'n dal i fod cymaint o deuluoedd wedi eu dinistrio gan y feirws hwnnw ac ar ôl colli anwyliaid, mae eraill wedi dioddef cyflyrau iechyd difrifol o ganlyniad i ddal y feirws ac wedi treulio amser maith yn yr ysbyty, ac mae’n rhaid inni beidio ag anghofio'r bobl hynny ym mhopeth a wnawn.
Ond rydym wedi dod yn bell ers dechrau'r pandemig, ac wedi dysgu llawer gobeithio. Mae llawer i'w ddysgu, oherwydd os edrychwn ar yr adroddiad a rhai o'r materion a godir, ac rwy'n ailadrodd rhai o'r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd, ond os edrychwch arnynt, maent yn dal yn berthnasol heddiw, nid ydynt wedi diflannu. Y cwestiwn ynghylch cyfarpar diogelu personol: rwy'n falch iawn fod gennym gyfarpar diogelu personol digonol bellach, ond pan ddaeth hwn allan, nid oedd hynny’n wir. Ni waeth faint o eitemau y credem oedd gennym, nid oedd hynny'n wir. Rwy'n falch iawn hefyd fod busnesau lleol bellach yn defnyddio cyfleoedd i greu a datblygu cyfarpar diogelu personol—mae gennyf un yn fy etholaeth fy hun, Rototherm, sydd wedi trawsnewid ei hun. Mae gwaith rhagorol yn mynd rhagddo i sicrhau bod gan Gymru gyflenwad o fusnesau lleol yn cynhyrchu'r cyfarpar diogelu personol.
Ond hefyd, gadewch inni beidio ag anghofio’r hyn y mae gwisgo'r cyfarpar diogelu personol yn ei wneud i staff, oherwydd pe baem yn darllen ein harolwg o'r staff, a rhai o'r sylwadau a wnaethant, roeddent yn ei chael yn anodd iawn gweithio o dan yr amgylchiadau hynny, a chafodd hynny effaith arnynt. Weithiau, mae angen inni fyfyrio ar hynny, fel ein bod yn sicrhau ein bod yn diogelu ein staff hefyd, a'n bod yn gwneud pethau’n iawn mewn perthynas â’r cyfarpar diogelu personol hwn. Nid ydym am roi pobl mewn sefyllfa lle maent yn wynebu sefyllfaoedd lle mae eu bywydau yn y fantol pan fyddant yn mynd i ofalu am bobl am nad oes gennym gyfarpar diogelu personol ar eu cyfer. Mae'n rhaid inni gael hynny'n iawn. Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud ein bod yn gwneud hynny; mae gennym fwy o gyfarpar diogelu personol bellach, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Ond hoffwn ofyn iddo hefyd, efallai—oherwydd hanner ffordd drwy’r pandemig, newidiwyd y canllawiau ar gyfer cyfarpar diogelu personol, a hoffwn ofyn a oes mwy o newidiadau i ddod i’r canllawiau hynny oherwydd y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig hwnnw, a gallu pobl—. Oherwydd mae parafeddygon yn dweud eu bod weithiau'n mynd i sefyllfa'n gwisgo ffedog a menyg yn unig, ac nid yw hynny’n ddigonol ar brydiau. Mae angen inni sicrhau bod ein staff yn cael eu diogelu.
A gaf fi hefyd godi mater cartrefi gofal? Gwyddom yn iawn eu bod, ar y cychwyn, yn agored i niwed, ac yn anffodus, roedd preswylwyr, sy'n agored i niwed eu hunain, yn dal y feirws. Gwelsom lawer iawn o breswylwyr yn mynd i’r ysbyty, ac yn anffodus, ni oroesodd rhai o'r rheini. Mae Dai wedi nodi bod dros 600 ohonynt. Rydym mewn sefyllfa bellach lle rydym wedi rhoi gwell mesurau diogelwch ar waith, ond gwnaethom ofyn am gynnal profion yn rheolaidd. Gwn fod hynny'n digwydd, ac rwy'n falch iawn am hynny, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod hynny’n parhau, ond rwy'n dal i bryderu ynglŷn â’r agenda profi gartref ac ansawdd yr hyfforddiant a roddir i bobl wneud hynny. Mae gormod o ganlyniadau negatif ffug a chanlyniadau positif ffug yn dod drwy'r system brofi, ac mae'n rhaid inni gyfyngu ar y rheini. Un o'r ffyrdd o leihau hynny yw drwy ddilyn argymhelliad 10, pwynt bwled 2, sy'n dweud y dylid sicrhau 'bod profion o’r fath yn cael eu gwneud gan unigolion sydd wedi cael hyfforddiant addas'. Mae llawer o nyrsys eisoes yn cael eu cyflogi mewn cartrefi gofal, a gallai fod rhai eraill yn cael eu defnyddio yn y rheini sydd heb gael hyfforddiant o'r fath, felly ni chredaf ei fod yn rhywbeth y dylai'r Llywodraeth fod wedi'i wrthod. Credaf y dylai'r Llywodraeth fod wedi derbyn hynny, a sicrhau bod pobl sydd wedi cael hyfforddiant addas yn gwneud y profion hynny i sicrhau cyn lleied â phosibl o ganlyniadau negatif ffug a chanlyniadau positif ffug, gan fod hynny'n rhoi gwybodaeth gamarweiniol, ac yn rhoi hyder camarweiniol ar brydiau, felly mae angen inni fynd i'r afael â hynny.
Y mater arall, yn amlwg, yw profi—mae pobl wedi sôn am brofi—yn gyffredinol, a chodwyd y cwestiwn hwn gennym am brofi a pharatoi. Mewn gwirionedd, dywedasom, yn argymhelliad 8 rwy'n credu, fod angen inni baratoi ar gyfer ail don, ac y dylem weithio gyda phartneriaid i gymryd camau i sicrhau capasiti digonol. Serch hynny, rydym yn dal i sôn am gapasiti. Rydym yn dal i drafod a ydym yn defnyddio labordai goleudy ai peidio. Mae cwestiwn yno sy’n dal i gael ei godi. Rwy'n derbyn bod y Gweinidog wedi clywed hyn sawl tro yn barod, ond gobeithio ei fod yn ystyried y ffaith na fydd profion yn rhywbeth a fydd yn diflannu—mae'n rhywbeth a fydd yn gyrru'r agenda yn ei blaen, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â mater capasiti, o ran y gallu i gymryd y prawf, ond y gallu i ddadansoddi’r profion hefyd. Oherwydd dyna ble mae pobl yn drysu; maent yn meddwl, 'O, gallaf gael prawf', ond peidiwch ag anghofio bod yn rhaid ei ddadansoddi a bod yn rhaid i’r canlyniadau gael eu darparu. Roeddem yn dweud bryd hynny ein bod am gael rhagor o fewn 24 awr, ac nid ydym yn gweld rhai o'r ffigurau hynny’n cynyddu o hyd. Mae angen inni fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw.
Rwyf am gloi drwy ddiolch yn fawr i staff y pwyllgor. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli hyn bob amser, ond mae staff y pwyllgor wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol y cyfnod, a thros yr haf, i sicrhau bod gennym y dystiolaeth roedd ei hangen arnom i ddarparu'r adroddiad hwn. Mae'n rhaid inni ddiolch iddynt ac i'r tystion a roddodd y dystiolaeth i ni. Mae'r tystion hynny'n cynrychioli'r bobl ar y rheng flaen, ac ni allwn anghofio hynny, chwaith. Felly, diolch yn fawr iawn. Ac os gwelwch yn dda, Weinidog, rwy'n sylweddoli ein bod wedi dod yn bell, ac rwy'n sylweddoli nad ydym lle roeddem yn ôl ym mis Mawrth, ond gadewch inni sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu a bod y cyngor yn cael ei ddilyn. Diolch.
Un siaradwr arall yn unig sydd gennyf cyn i mi alw ar y Gweinidog, a Rhun ap Iorwerth yw'r siaradwr hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Mi fuaswn i'n licio ategu'r diolch yna i waith rhyfeddol tîm y pwyllgor, y tîm clercio ac ymchwil ac yn y blaen, sydd wedi gweithio mor ddiflino drwy'r cyfnod yma. Dwi wedi bod yn falch iawn o allu bod yn rhan o'r ymchwiliad yma—ymchwiliad sy'n parhau, wrth gwrs, a pharhau fydd o am sbel. Yr adroddiad cyntaf mewn cyfres ydy hwn, yn canolbwyntio ar nifer o feysydd penodol. Af fi drwy'r rheini. Un o'r elfennau mawr, wrth gwrs, y buon ni'n edrych arno fo oedd profi, sy'n rhan mor, mor allweddol o'r frwydr yn erbyn y feirws. Rydyn ni'n gwybod bod y system ddim mor gadarn ag y dylai fo fod. Mae yna nifer fawr o fy etholwyr i wedi bod yn cysylltu efo fy swyddfa i—pobl yn methu cael profion cartref ac yn gorfod teithio'n bell i ganolfannau profi; pobl yn methu cael profion oherwydd bod ganddyn nhw ddim cyfeiriad e-bost a ffôn symudol—does gan bawb ddim o hyd—pobl sy'n cael trafferth gyrru, hyd yn oed, i ganolfannau profi. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yr elfen yma yn cael ei chryfhau.
Dwi yn falch bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 8, sef y dylen nhw asesu'n ofalus y galw tebygol am brofion yn y dyfodol a chymryd camau i sicrhau bod yna ddigon o allu i brofi, fel y bydd unrhyw un sydd angen prawf yn gallu cael un yn gyflym ac yn hawdd. Ond y gwir amdani ydy bod yna fethiant i gyrraedd y galw presennol, wrth gwrs, heb sôn am y galw cynyddol y bydd yna dros y gaeaf. Ac mae eisiau gwahaniaethu'n bendant rhwng capasiti a faint o brofi sy'n digwydd yn ymarferol. Mi soniodd y Prif Weinidog yr wythnos yma am gapasiti o 15,000 o brofion y dydd yng Nghymru, ond yn aml iawn 2,500 i 3,000 o brofion oedd yn cael eu gwneud.
Dwi'n gwybod bod problemau cael prawf wedi dod i'r amlwg fwyaf wrth i ysgolion ailagor. Mi aeth capasiti yn brin ar yr union amser oedd angen iddo fo gynyddu. Mi fuaswn i wedi disgwyl y buasai yna fwy o baratoi wedi bod am hynny, mwy o adeiladu gwytnwch yn y system erbyn dechrau y tymor ysgol. Ac er gwaethaf addewidion y bydd pethau'n well mewn ychydig wythnosau o ran labordai lighthouse, dydy o ddim yn rhoi llawer o ffydd i rywun o ran y gwytnwch fydd ei angen dros y gaeaf, wrth i'r ail don barhau i dyfu.
Dwi'n falch bod y Llywodraeth hefyd yn derbyn ein hargymhelliad 7 ni, fod angen datblygu cynllun clir ar gyfer profion rheolaidd ac ailadroddus ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys staff ansymptomatig—rhywbeth dwi wedi bod yn galw amdano fo yn gyson. Mae yna dal gormod o bobl ar y rheng flaen sy'n nerfus iawn. Dwi'n clywed straeon am nyrsys cymunedol, er enghraifft, sydd ddim yn cael cynnig profion yn bryderus iawn am fynd i gartrefi cleifion, rhag ofn iddyn nhw basio'r feirws ymlaen. Mae'n rhaid inni ehangu sgôp y profi ansymptomatig i gynnwys gofalwyr yn y cartref hefyd, er enghraifft.
Mater arall y buon ni'n sbio arno fo oedd y goblygiadau ariannol ar lywodraeth leol gydol y pandemig yma. Dwi'n croesawu'r gydnabyddiaeth bod angen i'r Llywodraeth gadarnhau fel mater o flaenoriaeth y pecyn cymorth ariannol i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o gyflogi gweithwyr olrhain proffesiynol, yn dibynnu beth maen nhw wedi bod yn ei wneud dros y misoedd o ran adleoli staff. Argymhelliad 24 ydy hwnnw. Mi oedd hwn yn rhywbeth y gwnes i godi efo'r Gweinidog cyllid ym mis Gorffennaf. Timau gwirfoddol oedd yna o fewn y cynghorau sir bryd hynny yn gwneud y gwaith—gweithwyr oedd wedi cael eu tynnu o adrannau eraill i mewn i'r tîm olrhain. Dwi'n meddwl ei bod hi'n amlwg, er bod y nifer o staff olrhain wedi tyfu'n arw erbyn hyn, fel y clywon ni yn y pwyllgor y bore yma, y bydd angen cefnogaeth bellach gan ein cynghorau ni ar y ffrynt yma.
Gwaith arall pwysig y mae llywodraeth leol wedi bod yn arwain arno fo ydy helpu pobl a fu'n gwarchod neu'n 'shield-o'. Mi welwch chi sawl cyfeiriad yn yr adroddiad am gefnogi pobl oedd yn cael eu gwarchod, a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael bwyd, ac yn y blaen. Ac ar y pwynt hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn i'n siomedig efo'r ymateb y ces i yr wythnos yma i lythyr gen i yn gofyn am sicrhau cymorth i lywodraeth leol allu cynllunio ar gyfer darparu bwyd ac ati i bobl fregus yn ystod ail don. Roedd yna bartneriaeth wych yn Ynys Môn, yn cael ei arwain gan y cyngor, efo Menter Môn, Medrwn Môn a busnesau lleol fel bwyty Dylan's, ac ati, i wneud yn siŵr bod pecynnau bwyd yn cael eu dosbarthu. Mi oedd Dylan's yn awyddus i weld bod paratoadau mewn lle i allu ymateb yn gyflym i'r ail don. Roedd yr ymateb yn gyflym iawn yn Ynys Môn y tro cyntaf, ond wrth gwrs mi oedd yn rhaid dysgu wrth fynd. Y tro yma, mae'r wybodaeth a'r cefndir gennym ni. Mae angen gwneud yn siŵr bod yna well paratoi, a doeddwn i ddim yn clywed hynny yn y llythyr yma, felly mi liciwn i glywed sicrwydd bod gwaith cynllunio yn mynd ymlaen.
Ac yn olaf, dwi'n ategu'r argymhellion am gael cyfarpar diogelu PPE digonol yn ystod y pandemig yma. Mi glywsom ni'r gair 'diolch' yn cael ei ddweud dro ar ôl tro i'n gweithwyr iechyd a gofal ond, wrth gwrs, beth maen nhw'n chwilio amdano fo, beth mae angen iddyn nhw wybod rŵan ac yn y dyfodol ydy bod yr adnoddau yno sy'n eu galluogi nhw wneud eu gwaith yn ddiogel.
Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hamser yn ystyried y pwnc pwysig hwn, a’r hyn sy'n adroddiad interim? Mae'r craffu’n parhau; cefais y pleser o dreulio mwy na dwy awr yng nghwmni’r pwyllgor heddiw yn ateb cwestiynau am y gwaith parhaus a wnawn ar sut rydym yn cadw Cymru’n ddiogel, ac ymateb ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r staff ar draws ein sector iechyd a gofal cymdeithasol, nid yn unig am eu gwaith caled anhygoel a'u hymroddiad i ofalu am bobl sydd â COVID-19 a'u tosturi a'u gwytnwch anhygoel—maent yn glod i bob un ohonom—ond hefyd y gwaith y maent wedi'i wneud gydag eraill wrth fynd i'r afael ag anghenion iechyd a gofal brys i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.
Rwy'n cefnogi ac yn derbyn, neu'n derbyn mewn egwyddor, y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Mae cynllun diogelu’r gaeaf bellach wedi'i gyhoeddi ac mae hwn yn gynllun trosfwaol sy'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn llywio ymgysylltiad â phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach. Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn ceisio ymgorffori’r hyn rydym wedi’i ddysgu o'r adroddiad i gryfhau ein dull o weithredu dros y gaeaf sydd i ddod.
Ar brofi, mae'r strategaeth brofi a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf yn amlinellu ein cynllun ar gyfer profi staff iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn ddiweddar rwyf wedi darparu datganiad ysgrifenedig ar y blaenoriaethau ar gyfer profi ar ddechrau'r wythnos hon. Mae ein strategaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Fel erioed, gallai newid gan y gallai'r sylfaen dystiolaeth newid yn ystod y pandemig. A byddwn yn dweud yn ofalus wrth y pwyllgor y byddant yn clywed, ac y byddant yn parhau i glywed, galwadau anecdotaidd am brofion asymptomatig. Ni all y pwyllgor fynnu dull eang sy'n seiliedig ar dystiolaeth a mynnu ymlyniad at y dystiolaeth wyddonol a meddygol i helpu i gadw Cymru'n ddiogel, a dewis wedyn pryd i ddewis a dethol, a chwyddo galwadau a wneir i wrthdroi'r dystiolaeth rydym yn dibynnu arni i helpu i gadw Cymru’n ddiogel.
Rydym wedi nodi'n agored y sylfaen dystiolaeth gan y grŵp cyngor technegol, ac mae'r pwyllgor wedi cael cyfle i glywed tystiolaeth gan gyd-gadeiryddion y grŵp cyngor technegol, gan gynnwys y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd yn ogystal â mynediad at y prif swyddog meddygol. Rydym yn parhau i gyhoeddi'r dystiolaeth honno'n agored ac i wneud dewisiadau yn seiliedig arni.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau a achosir gan oedi yn y profi gan labordai goleudy; amlygwyd hynny eto heddiw yn y cwestiynau gan Andrew R.T. Davies a dynnodd sylw at yr oedi cyn cael 2,000 o ganlyniadau yn ôl o labordai goleudy i lifo i mewn i'n system, ac mae hwnnw'n ffactor pwysig. Yn rhaglen brofi'r labordai goleudy yn gyffredinol, nid yw'r 2,000 o brofion hynny yn swm sylweddol, ond mewn gwirionedd, o ran y niferoedd cyffredinol ar gyfer Cymru, gallent wneud gwahaniaeth sylweddol i’n dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw'r haint mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, rwy'n cydnabod bod honno'n her wirioneddol i ni ac, fel y dywedaf, mae'n rhywbeth rydym yn bwriadu gweithio'n adeiladol arno gyda gwahanol swyddogion a gwahanol Weinidogion yn wir a byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny nid yn unig gydag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros iechyd, ond hefyd gyda Gweinidogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddem yn disgwyl i'r labordy goleudy yng Nghasnewydd agor dros yr haf; mae oedi mewn perthynas â hwnnw bellach a disgwylir iddo agor ym mis Hydref. Dylai hynny ein helpu i gynyddu nifer y profion sydd ar gael ond mae rhywbeth yma hefyd am drylwyredd a’r mynediad at y sylfaen boblogaeth fwyaf yng Nghymru. Felly, dylai hwnnw fod yn gam cadarnhaol ymlaen i ni. Ond mae capasiti labordai Cymru eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer profi pobl yn gyflym yn dilyn clystyrau o achosion a digwyddiadau, ac ar gyfer GIG Cymru. Rydym yn parhau i weithio ar frys gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n GIG i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd i ychwanegu at gapasiti labordai goleudy â'r labordai sy'n cael eu gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Unwaith eto, llwyddais i sôn am rywfaint o hyn gyda’r pwyllgor y bore yma, gyda'r diweddariad, er enghraifft, am y cynnydd yn argaeledd profion a fydd gennym yng ngogledd Cymru lle rydym yn disgwyl cynyddu capasiti profi oddeutu 40 y cant yr wythnos hon. Mae hynny i raddau helaeth oherwydd ein defnydd o brofion labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn defnyddio ac yn blaenoriaethu capasiti labordai Cymru wrth inni weld pwysau a galw yn cynyddu ledled y DU ac wrth gwrs, i ymdrin â mannau lle ceir llawer o achosion yma yng Nghymru. Rwy’n cydnabod bod amseroedd dychwelyd canlyniadau profion yn hollbwysig i weithrediad effeithiol ein system profi, olrhain a diogelu. Ac mae profi, olrhain a diogelu yn system ac yn ddarpariaeth arloesol a llwyddiannus yng Nghymru, wedi'i chynllunio a'i darparu gan iechyd a llywodraeth leol mewn partneriaeth, ar draws daearyddiaeth a gwleidyddiaeth wahanol llywodraeth leol, gan weithio gyda gwasanaeth iechyd lleol a gwladol. Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £32 miliwn yn ddiweddar i gynyddu'r capasiti i brosesu profion yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hynny'n cynnwys chwe labordy gwib newydd sydd i fod i agor ym mis Tachwedd, ac ymestyn labordai rhanbarthol i weithredu ar sail 24 awr a ddylai ddigwydd cyn diwedd mis Hydref. Ac yn yr wythnos ddiweddaraf rydym wedi gallu cyhoeddi ffigurau ar ei chyfer, olrheiniwyd 94 y cant o achosion newydd yn llwyddiannus drwy ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu, yn ogystal ag 86 y cant o'u cysylltiadau.
Rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan aelodau'r pwyllgor am gefnogaeth i bobl sy'n hunanynysu. Mae ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu yn cysylltu â phobl sy'n ynysu. Dyma sut y maent yn deall i ba raddau y mae pobl yn llwyddo i ynysu. Rwyf wedi cael adborth gan fy etholwyr fy hun ac eraill am y gwahaniaeth y mae'r alwad honno iddynt wedi'i wneud o ran eu llwyddiant i barhau i hunanynysu. Ond rwy'n cydnabod y materion a godwyd nid yn unig yn adroddiad Cronfa'r Brenin ond hefyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) ac eraill am y pryder nad yw pobl yn hunanynysu'n llwyddiannus. Felly, roedd yn rhywbeth i'w groesawu pan gadarnhaodd Michael Gove, mewn galwad gyda'r Prif Weinidogion ledled y DU, y dylai fod arian newydd ar gael i gyfateb i'r cynnig polisi a gyhoeddwyd eisoes yn Lloegr—sef taliad ychwanegol o £500 ar ben tâl salwch statudol i weithwyr ar gyflogau isel. Rydym yn awr yn disgwyl i Drysorlys y DU anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw, felly mae Prif Weinidog Cymru wedi bod mewn sefyllfa i gadarnhau y byddwn yn cyflwyno'r taliad hwnnw i sicrhau y gall pobl hunanynysu'n llwyddiannus.
Mae darparwyr cartrefi gofal, yn ogystal â phobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, wedi wynebu her na welwyd ei thebyg o'r blaen eleni, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rheini sydd wedi wynebu misoedd o fod ar wahân oddi wrth deulu a ffrindiau, ac yn enwedig i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid. Gwnaethom gefnogi'r sector drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn cyhoeddi'r cynllun gweithredu ar gyfer cartrefi gofal y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo iddo. Bydd hwnnw'n nodi'r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau bod y sector cartrefi gofal yn cael cefnogaeth dda cyn heriau'r gaeaf.
Rydym wedi cael ein herio—clywsom hyn eto heddiw—ynglŷn â'n dull o ryddhau pobl o'r ysbyty i gartrefi gofal yn ystod cyfnod cychwynnol y pandemig. Ac os caf fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw'r pwyllgor at waith ymchwil diweddar a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Ni chanfu'r gwaith hwnnw unrhyw dystiolaeth fod rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gysylltiedig â risg sylweddol o achosion newydd mewn cartref gofal mewn gwirionedd. Fodd bynnag, canfuwyd bod maint cartrefi gofal yn gysylltiedig â risg o'r fath. Mae ymchwil i sut y gallai ffactorau eraill, gan gynnwys polisïau'n ymwneud â staff ac ymwelwyr, effeithio ar risg yn parhau i gael blaenoriaeth i gefnogi ein hymdrechion i leihau neu ddileu achosion mewn cartrefi gofal.
Mae cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi bod yn eithriadol o anodd, ac yn dorcalonnus mewn gwirionedd, a chlywsom hyn eto heddiw yn y pwyllgor. Ond mae wedi bod yn un o'r mesurau angenrheidiol y bu'n rhaid inni eu gweithredu ar wahanol gamau yn y pandemig i leihau'r risg o haint i gartrefi gofal. Rydym wedi cydweithio â'r sector i gynhyrchu canllawiau i gynorthwyo darparwyr i ailgyflwyno ymweliadau'n ddiogel wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio dros yr haf. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau, a gwn fod y grŵp wedi cyfarfod eto yr wythnos hon i ystyried sut y mae'r canllawiau'n gweithio'n ymarferol, ac unwaith eto, y ddealltwriaeth na ddylid mabwysiadu polisi cyffredinol—dylid gwneud penderfyniadau yn ôl amgylchiadau unigol bob amser lle gellid neu lle dylid diwallu anghenion gofal yr unigolyn hwnnw drwy ymweliadau.
Mae cyfyngiadau lleol diweddar yn golygu bod awdurdodau lleol unwaith eto wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynglŷn ag ymweliadau â chartrefi gofal, gan sicrhau cydbwysedd rhwng llesiant parhaus pobl a'r risg o gynyddu trosglwyddiad cymunedol. Ac unwaith eto, rwy'n annog ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol i ymgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda'u timau rheoli digwyddiadau lleol i wneud y penderfyniadau hynny. Rwy'n disgwyl i gyfyngiadau fod yn rhai dros dro, i gyfyngu cyn lleied ag sy'n ddiogel, ac i gael eu hadolygu'n barhaus. Mae system ymateb cyflym ar waith i fyrddau iechyd lleol fynd ag unedau profi symudol i gartrefi gofal lle ceir achos positif, ac mae porth profi cartrefi gofal penodol ar gael i brofi staff cartrefi gofal yn barhaus.
Mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol, mater y treuliodd y cadeirydd amser yn ei gyflwyno, mae'n werth nodi bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi dosbarthu 342.3 miliwn o eitemau ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol ers 9 Mawrth, ac mae 167 miliwn o eitemau wedi'u rhoi i ofal cymdeithasol—sef 48 y cant o gyfanswm yr eitemau. Ac rydym yn dal i ddosbarthu tua 13 miliwn o eitemau yr wythnos. Mae maint y gweithgarwch yn dal i fod yn sylweddol, ac ers dyddiau cynnar iawn y pandemig, rydym wedi darparu’r eitemau’n rhad ac am ddim i ddarparwyr cartrefi gofal. Cyfrifoldeb cyfreithiol cyflogwyr yw darparu cyfarpar diogelu personol ar gyfer eu gweithlu. Bu'n rhaid i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gamu i mewn oherwydd fel arall byddai risg annerbyniol o niwed wedi bod i staff a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, ac rwy'n falch o weld bod Lloegr wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddant yn dilyn yr arweiniad rydym wedi'i roi drwy sicrhau bod cyfarpar diogelu personol ar gael yn rhad ac am ddim i'r sector cartrefi gofal.
Hefyd, rydym wedi gallu darparu cymorth cilyddol i wledydd eraill y DU, mae gennym gadwyn gyflenwi iach o archebion yn y dyfodol, rydym mewn sefyllfa lawer mwy cadarn ac rydym yn pentyrru stoc ar gyfer y gaeaf sydd i ddod ac ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod ein system wedi llwyddo'n dda i wrthsefyll y pwysau eithriadol arni a'r tynhau sydyn iawn a welsom yn y farchnad ryngwladol. Mae hynny'n wir o ran archebu a darparu mwy o gyfarpar diogelu personol i'r wlad, ac mewn gwirionedd, rydym wedi darparu rhywfaint o gymorth yn y sgyrsiau â Lloegr lle bu'n rhaid iddynt ailadeiladu gweithgarwch prynu a chaffael canolog a gollwyd yn niwygiadau Lansley. Ond yn fwy na hynny, fel y soniodd Dai Rees, rydym hefyd wedi gweld busnesau a gweithgynhyrchwyr Cymru yn ymateb yn sylweddol i'r her o greu mwy o gyfarpar diogelu personol. Ac yn y dyfodol, bydd angen inni gael cydbwysedd gwahanol yn yr hyn rydym yn ei gaffael o wledydd eraill a'r hyn rydym yn parhau i'w ddarparu gan wneuthurwyr yma yng Nghymru. Efallai y bydd cost ychwanegol fesul eitem i hynny, ond dyna'r peth iawn i'w wneud i sicrhau bod gennym system fwy cadarn ar waith.
Weinidog, rydych wedi cymryd 11 munud bellach. Nid ydym dan bwysau—[Torri ar draws.] Gan bwyll. Nid ydym dan bwysau o ran amser ac mae hon yn ddadl bwysig, felly os cymerwch funud neu ddwy i gloi, mae hynny'n iawn, ond mae'n rhaid inni roi rhywfaint o sylw i'r terfynau amser.
Diolch. Yn ffodus, rwy'n tynnu at ddiwedd fy sylwadau, sef yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r chwe mis cyntaf. Rydym wedi dysgu am weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd ar yr holl fesurau cyfyngu lleol. Rydym wedi cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol ni waeth ble maent yng Nghymru na beth fo'u lliwiau gwleidyddol, ac mae hynny'n gryfder gwirioneddol o ran y safbwynt rydym wedi'i gymryd yma yng Nghymru, yn wahanol i rai o'r dewisiadau lle mae arweinwyr wedi canfod hynny mewn rhannau eraill o'r DU, yn enwedig yn Lloegr.
Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel: y Llywodraeth, iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, ac yn hollbwysig, ni fel aelodau unigol o'n teuluoedd a'n cymunedau. Mae'r rheolau ar waith i bob un ohonom, maent yn berthnasol i bob un ohonom, maent er budd pob un ohonom, ac os yw pob un ohonom yn chwarae ein rhan, gyda'n gilydd gallwn gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.
Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ymwybodol o'r amser. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon yn gyntaf oll? Cyfraniadau rhagorol gan bawb, yn gwneud amrywiaeth o bwyntiau sy'n deillio o'n dadansoddiad yn ein hadroddiad cyntaf ar COVID-19 fel pwyllgor iechyd, gan gyflawni ein rôl graffu fel pwyllgor ac fel aelodau o'r pwyllgor. Mae adroddiadau eraill i ddilyn.
Nawr, mae'n deg dweud, yn amlwg, ei bod wedi bod yn flwyddyn gwbl ddinistriol. Roedd ofn gwirioneddol ar ein wardiau ysbytai yn ystod y dyddiau cynnar hynny ym mis Chwefror, Mawrth—ofn gwirioneddol—ac mae'n amlwg ein bod wedi clywed am yr heriau hefyd, heriau a amlinellwyd gan ein cyd-Aelodau, Andrew R.T. Davies, David Rees a Rhun ap Iorwerth: heriau'n ymwneud â phrofi yn y dyddiau cynnar hynny ac mae'r heriau hynny'n ein hwynebu o hyd mewn perthynas â phrofi, ac yn yr un modd gyda chyfarpar diogelu personol, er bod y sefyllfa'n ymddangos yn llawer iachach gyda chyfarpar diogelu personol.
Rydym wedi cael llawer o dystiolaeth am ofal cymdeithasol a sut rydym ni fel cymdeithas yn gweld gofal cymdeithasol. Ac os nad yw argyfwng y pandemig hwn wedi gwneud unrhyw beth arall, rhaid ei fod wedi crisialu ein barn fod angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â'r ffordd rydym yn trefnu ac yn gweld gofal cymdeithasol yn gyffredinol. Os ydym yn credu ei fod yn haeddu'r un parch â'r gwasanaeth iechyd, oni ddylem geisio ad-drefnu gofal yn yr un ffordd ag y trefnwn iechyd? Yn ogystal, mae problemau iechyd meddwl wedi bod yn amlwg mewn llawer o'r dystiolaeth a gawsom, ac nid yw'n syndod, a dyna fydd sail yr adroddiad nesaf gan y pwyllgor iechyd.
Ond wrth gloi, a gaf fi dalu teyrnged enfawr, fel y gwneuthum ar y dechrau ac fel y mae eraill wedi'i wneud, i'r ymateb enfawr, arwrol ac epig i'r pandemig hwn, nid yn unig yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd, fel y clywsom gan Rhun, mae awdurdodau lleol wedi bod ar eu gorau yn ystod hyn—mae awdurdodau lleol wedi disgleirio yn wir. Yn ogystal â miloedd o wirfoddolwyr yn y cefndir sydd wedi bod yn gwneud popeth o ddarparu bwyd a meddyginiaethau, gwnïo gynau, gwnïo masgiau, a hefyd y miloedd o ofalwyr di-dâl sydd wedi teimlo straen y chwe mis diwethaf yn fawr. Bu'n gyfnod erchyll i lawer, ac mae rhai sydd wedi gwella wedi'u gwanychu gan COVID hirdymor yn awr, wrth inni siarad—cronig, gwanychol ac maent yn dal i ddioddef. Bydd gwasanaethau adsefydlu'n allweddol wrth i amser fynd yn ei flaen, a bydd hynny'n sail i adroddiad pellach gan y pwyllgor iechyd hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod ac ymchwilwyr a gweithwyr cymorth cyfreithiol, a phawb sy'n gwneud i'r pwyllgor iechyd hwn weithredu mor dda. Mae'n adroddiad rhagorol, fel rwyf wedi clywed llawer yn ei ddweud, ac mae llawer o'r diolch am hynny i waith ymchwil rhagorol a gwaith clercio rhagorol.
Felly, i gloi, dywedwn hyn: sefwch yn gadarn a gwnewch y pethau sylfaenol drwy gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo masg a chyfyngu ar eich cysylltiadau cymdeithasol—dyna sydd angen i ni barhau i'w wneud—a chefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Dai. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.