Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hamser yn ystyried y pwnc pwysig hwn, a’r hyn sy'n adroddiad interim? Mae'r craffu’n parhau; cefais y pleser o dreulio mwy na dwy awr yng nghwmni’r pwyllgor heddiw yn ateb cwestiynau am y gwaith parhaus a wnawn ar sut rydym yn cadw Cymru’n ddiogel, ac ymateb ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r staff ar draws ein sector iechyd a gofal cymdeithasol, nid yn unig am eu gwaith caled anhygoel a'u hymroddiad i ofalu am bobl sydd â COVID-19 a'u tosturi a'u gwytnwch anhygoel—maent yn glod i bob un ohonom—ond hefyd y gwaith y maent wedi'i wneud gydag eraill wrth fynd i'r afael ag anghenion iechyd a gofal brys i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.
Rwy'n cefnogi ac yn derbyn, neu'n derbyn mewn egwyddor, y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Mae cynllun diogelu’r gaeaf bellach wedi'i gyhoeddi ac mae hwn yn gynllun trosfwaol sy'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn llywio ymgysylltiad â phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach. Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn ceisio ymgorffori’r hyn rydym wedi’i ddysgu o'r adroddiad i gryfhau ein dull o weithredu dros y gaeaf sydd i ddod.
Ar brofi, mae'r strategaeth brofi a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf yn amlinellu ein cynllun ar gyfer profi staff iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn ddiweddar rwyf wedi darparu datganiad ysgrifenedig ar y blaenoriaethau ar gyfer profi ar ddechrau'r wythnos hon. Mae ein strategaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Fel erioed, gallai newid gan y gallai'r sylfaen dystiolaeth newid yn ystod y pandemig. A byddwn yn dweud yn ofalus wrth y pwyllgor y byddant yn clywed, ac y byddant yn parhau i glywed, galwadau anecdotaidd am brofion asymptomatig. Ni all y pwyllgor fynnu dull eang sy'n seiliedig ar dystiolaeth a mynnu ymlyniad at y dystiolaeth wyddonol a meddygol i helpu i gadw Cymru'n ddiogel, a dewis wedyn pryd i ddewis a dethol, a chwyddo galwadau a wneir i wrthdroi'r dystiolaeth rydym yn dibynnu arni i helpu i gadw Cymru’n ddiogel.
Rydym wedi nodi'n agored y sylfaen dystiolaeth gan y grŵp cyngor technegol, ac mae'r pwyllgor wedi cael cyfle i glywed tystiolaeth gan gyd-gadeiryddion y grŵp cyngor technegol, gan gynnwys y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd yn ogystal â mynediad at y prif swyddog meddygol. Rydym yn parhau i gyhoeddi'r dystiolaeth honno'n agored ac i wneud dewisiadau yn seiliedig arni.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau a achosir gan oedi yn y profi gan labordai goleudy; amlygwyd hynny eto heddiw yn y cwestiynau gan Andrew R.T. Davies a dynnodd sylw at yr oedi cyn cael 2,000 o ganlyniadau yn ôl o labordai goleudy i lifo i mewn i'n system, ac mae hwnnw'n ffactor pwysig. Yn rhaglen brofi'r labordai goleudy yn gyffredinol, nid yw'r 2,000 o brofion hynny yn swm sylweddol, ond mewn gwirionedd, o ran y niferoedd cyffredinol ar gyfer Cymru, gallent wneud gwahaniaeth sylweddol i’n dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw'r haint mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, rwy'n cydnabod bod honno'n her wirioneddol i ni ac, fel y dywedaf, mae'n rhywbeth rydym yn bwriadu gweithio'n adeiladol arno gyda gwahanol swyddogion a gwahanol Weinidogion yn wir a byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny nid yn unig gydag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros iechyd, ond hefyd gyda Gweinidogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddem yn disgwyl i'r labordy goleudy yng Nghasnewydd agor dros yr haf; mae oedi mewn perthynas â hwnnw bellach a disgwylir iddo agor ym mis Hydref. Dylai hynny ein helpu i gynyddu nifer y profion sydd ar gael ond mae rhywbeth yma hefyd am drylwyredd a’r mynediad at y sylfaen boblogaeth fwyaf yng Nghymru. Felly, dylai hwnnw fod yn gam cadarnhaol ymlaen i ni. Ond mae capasiti labordai Cymru eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer profi pobl yn gyflym yn dilyn clystyrau o achosion a digwyddiadau, ac ar gyfer GIG Cymru. Rydym yn parhau i weithio ar frys gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n GIG i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd i ychwanegu at gapasiti labordai goleudy â'r labordai sy'n cael eu gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Unwaith eto, llwyddais i sôn am rywfaint o hyn gyda’r pwyllgor y bore yma, gyda'r diweddariad, er enghraifft, am y cynnydd yn argaeledd profion a fydd gennym yng ngogledd Cymru lle rydym yn disgwyl cynyddu capasiti profi oddeutu 40 y cant yr wythnos hon. Mae hynny i raddau helaeth oherwydd ein defnydd o brofion labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn defnyddio ac yn blaenoriaethu capasiti labordai Cymru wrth inni weld pwysau a galw yn cynyddu ledled y DU ac wrth gwrs, i ymdrin â mannau lle ceir llawer o achosion yma yng Nghymru. Rwy’n cydnabod bod amseroedd dychwelyd canlyniadau profion yn hollbwysig i weithrediad effeithiol ein system profi, olrhain a diogelu. Ac mae profi, olrhain a diogelu yn system ac yn ddarpariaeth arloesol a llwyddiannus yng Nghymru, wedi'i chynllunio a'i darparu gan iechyd a llywodraeth leol mewn partneriaeth, ar draws daearyddiaeth a gwleidyddiaeth wahanol llywodraeth leol, gan weithio gyda gwasanaeth iechyd lleol a gwladol. Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £32 miliwn yn ddiweddar i gynyddu'r capasiti i brosesu profion yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hynny'n cynnwys chwe labordy gwib newydd sydd i fod i agor ym mis Tachwedd, ac ymestyn labordai rhanbarthol i weithredu ar sail 24 awr a ddylai ddigwydd cyn diwedd mis Hydref. Ac yn yr wythnos ddiweddaraf rydym wedi gallu cyhoeddi ffigurau ar ei chyfer, olrheiniwyd 94 y cant o achosion newydd yn llwyddiannus drwy ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu, yn ogystal ag 86 y cant o'u cysylltiadau.