Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 30 Medi 2020.
Lywydd, mae'r ffactor cyntaf gyda ni eisoes, a gellir ei weld o'n cwmpas: tlodi. Mae tlodi'n prysur ddod yn endemig—digartrefedd a thlodi bwyd yw'r arwyddion mwyaf gweladwy. Mae Marcus Rashford, y pêl-droediwr, wedi taflu goleuni ar y mater hwn yn ddiweddar, gan ddefnyddio ei stori bersonol ei hun i egluro pa mor ofnadwy yw mynd i'r ysgol yn llwglyd. Gall effeithiau hyn bara am oes, a byddant yn gwneud hynny'n aml. Nawr, rydym yn aml yn twyllo ein hunain mai problem i bobl eraill yw tlodi, ond gyfeillion, ystyriwch y ffaith hon: mae traean o aelwydydd un cyflog mis i ffwrdd o fod yn ddigartref. Nawr, mewn byd lle mae bywydau pobl yn fwyfwy ansicr, pa ateb y credwch y byddem yn ei gael pe baem yn ymestyn y ffigur hwnnw i bedwar mis? Cyfrannwr pwysig arall i'r angen i edrych ar incwm sylfaenol cyffredinol yw natur gynyddol ansicr gwaith, a'r gwastatáu yn nhwf cyflogau i bawb ond ychydig o bobl gyfoethog. Nododd adroddiad diweddar gan Gyngres yr Undebau Llafur fod llawer o'r gyflogaeth a grëwyd yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn waith am gyflog isel ac o natur ansicr, fel yr adlewyrchir yn y defnydd cynyddol o gontractau dim oriau a'r cynnydd mewn swyddi yn yr economi gìg.
Y ffactor olaf yw cynhesu byd-eang, a'r risg wirioneddol, os na fyddwn yn newid y ffordd rydym yn meddwl am dwf, na fydd neb o gwmpas i elwa ohono. Bydd ffyniant anghynaliadwy lle nad ydym yn ystyried yr angen i fod yn garbon niwtral yn drychinebus. Nawr, er bod angen y newid hwn, ni fydd yn ddi-boen, a bydd rhai ar eu colled yn ogystal â rhai ar eu hennill. Felly, sut rydym yn eu cefnogi drwy hyn? Mae'r Prif Weinidog Jacinda Ardern yn crynhoi fy safbwynt mewn gwirionedd: mae twf yn ddibwrpas os nad yw pobl yn ffynnu. Dywedodd Ardern y dylai Llywodraethau ganolbwyntio yn hytrach ar les cyffredinol dinasyddion a buddsoddi mewn meysydd sy'n datgloi'r potensial dynol. Cyfeiriodd at gyllideb llesiant newydd Seland Newydd, sy'n ceisio ehangu gwasanaethau iechyd meddwl, lleihau tlodi plant a digartrefedd, ymladd newid yn yr hinsawdd a gwella cyfleoedd.
Nid llwyddiant yw twf economaidd a ddaw â chanlyniadau cymdeithasol sy'n gwaethygu yn ei sgil— meddai Ardern— methiant ydyw.
Felly, beth yn union rwy'n gofyn amdano? Wedi'r cyfan, mae treial yn ymddangos yn eithaf niwlog. Ond Aelodau, mae'n eithaf syml mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ddewis grŵp o bobl a gweld a yw eu canlyniadau'n gwella drwy gael incwm sylfaenol cyffredinol. Gallai grŵp o'r fath fod yn bobl sy'n gadael gofal neu'n bobl a ddiswyddwyd yn ddiweddar mewn diwydiant sydd wedi dioddef yn fawr yn sgil COVID. Byddem yn cefnogi'r grŵp hwn wedyn tra'n gweld a yw ein treial yn ailadrodd canlyniadau cadarnhaol treialon mewn mannau eraill. Dangosodd treial yng Nghanada fod pobl ifanc yn fwy tebygol o aros mewn hyfforddiant; dangosodd astudiaeth yn y Ffindir fod pobl sy'n cael incwm sylfaenol cyffredinol yn fwy tebygol o weithio. Nawr, mae hyn yn wahanol i gredyd cynhwysol, sy'n mynd ati'n weithredol i gosbi gwaith.
Rwy'n deall y bydd llawer, yn enwedig ar yr asgell Geidwadol, 'gwladwriaeth fach' mewn gwleidyddiaeth, yn dweud na allwn fforddio cefnogi pobl mewn cyfnod cythryblus. Ond rwy'n aml yn meddwl tybed pam nad yw'r lleisiau hyn yn codi pan fydd costau credyd cynhwysol yn cynyddu allan o reolaeth, pan roddir biliynau i gwmnïau allanol sy'n darparu gwasanaethau gwarthus, neu pan welwn gostau prosiectau seilwaith mawr, fel HS2, yn mynd drwy'r to. Ac rwy'n gwybod hefyd nad yw llawer ar fy ochr i o'r sbectrwm gwleidyddol wedi'u hargyhoeddi, nid oherwydd nad ydynt eisiau cefnogi pobl, ond am eu bod yn poeni am yr adnoddau cyfyngedig mewn gwlad sydd eisoes wedi gweld y Torïaid yn torri cymaint o'r hyn rydym i gyd yn ei ystyried yn werthfawr. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthynt yw: edrychwch ar y rhestr o broblemau rwyf wedi'u trafod heddiw—pa bwysau fydd canlyniadau'r newidiadau hyn yn ei roi ar wasanaethau cyhoeddus?
Nawr, Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau heddiw, felly rwyf am orffen gyda hyn: os yw economi marchnad yn mynd i ffynnu, mae angen i'w holl ddinasyddion allu cymryd rhan ynddi. Mae angen iddynt allu amsugno'r ergydion sydd i ddod a bod yn berchnogion cartrefi, yn ddefnyddwyr, yn grewyr ac yn entrepreneuriaid. Os ydym am roi lle iddynt gymryd cyfrifoldeb a sicrhau y gallant wneud hyn, bydd angen sbardun llawer gwell arnom—sbardun llawer mwy caredig—a'r sbardun hwnnw yw incwm sylfaenol cyffredinol. Diolch yn fawr.