Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 721,000 neu 23 y cant o'r holl unigolion—plant, oedolion o oedran gweithio a phensiynwyr—yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru, sy'n uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Yn ôl rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, Cymru sydd â'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y DU, ac mae 25 y cant o swyddi yng Nghymru yn talu llai na'r isafswm cyflog.
Mae incwm sylfaenol cyffredinol wedi ennyn diddordeb sylweddol yn ddiweddar. Fodd bynnag, fel y dywed Sefydliad Bevan:
Fel gyda llawer o gynlluniau sy'n effeithio ar incwm pobl, mae cynllun a gwerth yr argymhellion yn wirioneddol bwysig.
Er y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn helpu i gyrraedd pobl sydd y tu allan i'r system fudd-daliadau ar hyn o bryd, ac y gallai leihau stigma, daethant i'r casgliad fod anghenion pobl yn gwahaniaethu'n fawr. Roeddent yn dweud nad yw'r rhain yn debygol o gael eu bodloni gan gyfradd uchel hyd yn oed o incwm sylfaenol cyffredinol, ac roeddent yn dweud:
Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau'n dangos mai effaith gyfyngedig ar y cyfan y mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei chael ar ymgysylltiad pobl â'r farchnad lafur... Yn fwyaf arbennig, canfuwyd bod menywod â phlant a phobl hŷn sy'n derbyn incwm sylfaenol cyffredinol yn lleihau rhywfaint ar eu cyfranogiad mewn cyflogaeth.
Maent hefyd yn gofyn a fyddai cyfradd uchel o incwm sylfaenol cyffredinol mor ddrud fel y byddai'n anodd buddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol eraill, megis adeiladu tai cymdeithasol newydd a darparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus cost isel.
Dadleuodd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Universal Basic Income: An Effective Policy for Poverty Reduction?', hefyd nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn fforddiadwy, gan beryglu'r gallu i ddarparu gwasanaethau pwysig mewn gofal iechyd ac addysg, gan ychwanegu:
Nid yw'n diwallu anghenion aelwydydd incwm isel sy'n wynebu problemau cymhleth fel dibyniaeth ar gyffuriau, dyledion peryglus, a chwalfa deuluol; mae'n ddatgymhelliad mawr i ddod o hyd i waith...ac nid yw'n fwy hael i'r aelwydydd mwyaf difreintiedig na darpariaethau'r credyd cynhwysol.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros fusnes, Alok Sharma:
Yr hyn sy'n bwysig iawn yn y ffordd rydym yn darparu cymorth, yn enwedig yn fwy cyffredinol yn y system les, yw ein bod yn ei dargedu at bobl, ac mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei brofi mewn gwledydd eraill ac nid yw wedi cael ei ddatblygu.
Y llynedd, ni wnaeth Llywodraeth y Ffindir fwrw ymlaen ag incwm sylfaenol cyffredinol ar ôl treial dwy flynedd, gan ddod i'r casgliad ei fod wedi methu helpu pobl ddi-waith i ailymuno â'r gweithlu. Er bod math o incwm sylfaenol cyffredinol ar waith yn Alaska, nid yw lefel y taliad yn ddigonol i gymryd lle incwm pobl ac felly nid yw ond yn gweithredu fel atodiad. Er bod Sbaen wedi cyflwyno cynllun isafswm incwm yn ddiweddar, mae'n ymddangos bod ganddo fwy'n gyffredin â system nawdd cymdeithasol y DU na'r fersiwn o incwm sylfaenol cyffredinol sydd dan sylw.
Ni ellir lleihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru gydag un weithred. Mae Sefydliad Bevan yn galw am ddatblygu strategaeth gwrthdlodi sy'n nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Fel y dywed Oxfam Cymru, nid yw'n wir nad yw strategaethau gwrthdlodi yn gweithio; mae'n ymwneud â sut y caiff y strategaethau hynny eu targedu.
Yn ddiweddar, mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer prydau ysgol, y grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gan ddweud y byddai hyn yn ei gwneud yn haws i deuluoedd mewn tlodi gael mynediad atynt. Lle bo modd, dywedant, dylid darparu'r cymorth hwn ar sail pasbort. Fel y dywed National Energy Action Cymru, dylai Llywodraeth Cymru ddynodi tlodi tanwydd yn flaenoriaeth seilwaith.
Mae atal yn hanfodol os yw pobl a sefydliadau yng Nghymru am fynd i'r afael â'r heriau mawr a wynebwn, a rhoi camau ymarferol ar waith i atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Nid yw plastr yn ddigon; mae angen inni ddod o hyd i'r achosion sylfaenol a gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â hwy. Os yw pobl yn disgyn i mewn i afon o hyd, oni fyddai'n well codi ffens yn uwch i fyny i'w harbed rhag syrthio i mewn, yn hytrach na'u hachub dro ar ôl tro cyn iddynt foddi? Fel y nododd Sefydliad Joseph Rowntree, nid yw incwm sylfaenol cyffredinol yn fforddiadwy, mae'n annymunol i'r rhan fwyaf o'r cyhoedd oherwydd ei dag "arian am ddim" ac efallai'n bwysicaf oll—mae'n cynyddu tlodi oni bai ei fod yn cael ei addasu'n rhywbeth hollol wahanol.
Dyfyniad uniongyrchol ganddynt hwy oedd hwnnw. Ni fydd camau i fynd i'r afael â thlodi'n ehangach ond yn llwyddo drwy sicrhau bod ymwneud dinasyddion yn ganolog iddynt. Rydym angen troi geiriau'n gamau gweithredu go iawn yn awr, gan wneud pethau gyda phobl yn hytrach nag iddynt. O'r diwedd, mae angen inni roi croeso llawn i gydgynhyrchu, gan symud y tu hwnt i rethreg ac ymgynghori i wneud pethau'n wahanol yn ymarferol, gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau yn gweithio ochr yn ochr i ddarparu atebion. Diolch yn fawr.