Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 30 Medi 2020.
Cyflwyniad rhagorol gan Jack, a dadl ddiddorol iawn gan bobl o bob plaid, a dyna sut y dylai fod. Mae'n ymddangos i mi mai'r pandemig COVID, a'r cydweithredu sy'n rhaid ei gael i'w drechu, yw'r hyn sydd wedi dod ag ymatebion radical o dan y chwyddwydr. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai Canghellor y Trysorlys, yn un o'r Llywodraethau rhyddewyllysol mwyaf asgell dde y mae'r DU wedi'i chael ers cyn cof, yn cytuno i dalu 80 y cant o holl gyflogau'r wlad hon er mwyn achub swyddi pobl?
Rwyf wedi cefnogi'r egwyddor o incwm sylfaenol cyffredinol ers tro byd. Roeddwn yn un o gefnogwyr cynnar Wages for Housework, ymhell cyn i lawer o'r Aelodau, gan gynnwys Jack, gael eu geni. Mae angen inni gofio mai nod y lwfans teulu gwreiddiol, a ddaeth yn fudd-dal plant yn ddiweddarach, oedd cydnabod y gwaith pwysig o fagu'r genhedlaeth nesaf. Yn anffodus, mae wedi cael ei adael i ddihoeni ac mae'n gyfraniad cwbl annigonol gan gymdeithas at y gost o fagu ein plant. Ond tan yn ddiweddar, nid oeddwn yn teimlo mai nawr oedd yr amser i bwyso am incwm sylfaenol cyffredinol, oherwydd roeddwn yn credu, yng nghanol pandemig, fod llawer gormod o broblemau uniongyrchol eraill roedd angen i Lywodraethau fynd i'r afael â hwy. Ac yn ogystal â hynny, nid oes gan Lywodraeth Cymru adnoddau, na phwerau yn wir, i wneud iddo ddigwydd. Ond rwy'n credu bod dyfnder yr argyfwng a wynebwn yn awr, yr argyfyngau sy'n hel at ei gilydd, yn gwneud hyn yn rhywbeth y mae gwir angen inni edrych arno ar fyrder yn awr, oherwydd nid pandemig yn unig rydym yn ei wynebu, rydym hefyd yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y bydd y DU yn torri ei chysylltiadau â'n cymdogion Ewropeaidd ar ôl 40 mlynedd heb gael cytundeb masnach dichonadwy. Ac ar ben hynny, mae gennym argyfwng hinsawdd cynyddol, a fydd, os na wnawn unrhyw beth yn ei gylch, yn gwaethygu'n gyflym iawn.
Felly, rwy'n argyhoeddedig mai dyma sydd ei angen arnom yn awr: incwm sylfaenol cyffredinol i ddiogelu ein gwlad rhag y lefel o chwalfa economaidd a chymdeithasol sy'n llawer mwy ac yn fwy dinistriol nag unrhyw beth a welsom yn 1973, 1982, 1989 a 2008. Yn anad dim, mae'n rhaid inni osgoi'r newidiadau gwleidyddol treisgar sy'n aml yn cael eu sbarduno gan fethiant i reoli ysgytiadau economaidd. Dyn a ŵyr beth fyddai wedi digwydd yn 2008 pe na bai Gordon Brown ac Alistair Darling wedi llwyddo i atal ein holl fanciau rhag mynd i'r wal.
Felly, cyn COVID, roedd Cymru eisoes yn dioddef o lefelau uchel iawn o ansicrwydd, fel y mae eraill wedi'i ddweud eisoes. Gwyddom fod un o bob wyth o bobl mewn gwaith ansicr, ac mae gan Gymru un o'r lefelau uchaf o gontractau dim oriau, sef y ffordd fwyaf ansicr, mae'n debyg, i unrhyw un orfod ceisio jyglo cyfrifoldebau cartref a gwaith. Ond yn sail i'r ystadegyn gwarthus hwnnw mae'r ffaith bod traean o blant yn y wlad hon yn byw ar aelwydydd sy'n ei chael yn anodd rhoi digon o fwyd ar y bwrdd heb wneud arbedion ar hanfodion eraill fel gwres a theithiau ysgol, ac mae hyn yn digwydd yn y chweched economi gyfoethocaf yn y byd.
Hefyd, mae gennym system fudd-daliadau gosbol a gwastraffus, a gynlluniwyd i gosbi pobl am fethu dod o hyd i swydd, hyd yn oed os nad oes swyddi'n bodoli. Fel y mae Mick eisoes wedi'i ddweud, pe bai budd-daliadau cyffredinol wedi cael eu hariannu'n briodol a'u gweithredu mewn ffordd wahanol, gallent fod yn rhwyd ddiogelwch ddibynadwy y mae unrhyw gymdeithas wâr ei hangen pan fydd pobl yn mynd i drafferthion, ond ni ddigwyddodd hynny, ac nid yw hynny'n wir. Y cyfan a wnaethant yw cynyddu diflastod a thlodi'r rhai mwyaf agored i niwed. Ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch ddarllen am rai o'r pethau gwarthus sy'n digwydd i bobl cyn gynted ag y bydd unrhyw newid yn digwydd i'w budd-daliadau cyffredinol. Mae gorfodi pobl i aros pum wythnos am unrhyw fudd-daliadau cyffredinol yn sicr o arwain at fenthycwyr arian didrwydded a dyled gynyddol. Mae budd-daliadau cyffredinol yn costio—