Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch hefyd i Jack Sargeant am gyflwyno'r cynnig gwirioneddol bwysig hwn rwy'n hapus iawn i'w gefnogi? Hoffwn ddechrau drwy roi rhywfaint o gyd-destun i fy nghyfraniad, gan obeithio peidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud, ac egluro pam rwy'n credu bod hwn yn syniad y mae ei amser yn dod, a pham y byddai o fudd i gymunedau fel y rhai rwy'n eu cynrychioli ym Merthyr Tudful a Rhymni.
Felly, rhywfaint o gyd-destun yn gyntaf. Ym mis Ebrill 2018 cyhoeddais ddarn trafod i Fabians Cymru am Gymru'n bod yr hyn a ddisgrifiais fel gwladwriaeth lesiant, ac yn y darn hwnnw ymchwiliais i'r awgrym y gallai rhwyd ddiogelwch ein gwladwriaeth les draddodiadol esblygu'n wladwriaeth lesiant fwy cyfannol. Roedd y syniad wedi dod i'r amlwg o ddarn a awdurdodwyd yn wreiddiol gan ein Cwnsler Cyffredinol bellach, Jeremy Miles, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu,
'Roedd Bevan yn un o benseiri'r wladwriaeth les. Yr orchwyl yfory fydd Gwladwriaeth Lesiant.'
Ond roedd angen i mi ofyn i mi fy hun sut beth yn union fyddai gwladwriaeth lesiant Gymreig, ac i mi, yn ganolog i ymagwedd o'r fath, rhaid cynnwys llesiant yn ein holl bolisïau, yn debyg iawn i'r ffordd rydym yn sicrhau bod ein polisïau'n bodloni'r prawf cydraddoldeb, a'r ffordd y dylem, yn fy marn i, sicrhau bod polisïau'n bodloni'r prawf tlodi. Felly hefyd, dylem sicrhau bod polisïau'n bodloni'r prawf llesiant. Ac yna nodais amryw o syniadau a allai helpu i adeiladu gwladwriaeth lesiant, ac roeddent yn cynnwys gwarant isafswm incwm i ddinesydd yng Nghymru sy'n cyfateb i gyflog byw go iawn, gan wella amgylchiadau nifer o bobl o fewn arbediad cost-effeithlonrwydd cysylltiedig, ac ychwanegu at daliadau gwladwriaeth les â thaliadau llesiant personol, i'w talu mewn cyfnodau byr i wrthbwyso straen a chyflyrau gwanychol megis argyfyngau iechyd meddwl. Mae'n dilyn, felly, y dylai symud o fod yn dderbynnydd lles i fod yn gyfranogwr mewn llesiant fod yn sail i wladwriaeth lesiant. Byddai hyn yn cydnabod rhwymedigaeth i fod yn ddinesydd gweithgar yn y gymuned lle rydym yn rhannu cyfrifoldeb cyffredin i wella llesiant.
Felly, beth yw mantais ymarferol y syniad hwn i gymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni? Wel, gallai herio a newid rhai o'r amgylchiadau ofnadwy sydd wedi plagio rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig ac sydd wedi'u dwysáu yn ystod yr argyfwng COVID presennol. Fel y mae eraill eisoes wedi sôn, mae pethau fel cyflogaeth ansicr gyda chontractau dim oriau, amodau ac arferion gwaith camfanteisiol a chyflogau isel a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn falltod ar ormod o fy etholwyr, ac maent yn haeddu gwell. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ateb, ac mae'n ateb synhwyrol yn awr, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig ofnadwy hwn.
Mewn argyfyngau, mae cyfleoedd yn codi, a chredaf fod yr hyn a nodwyd yn 2018 a'r hyn sy'n cael ei ddatblygu yn y ddadl bresennol hon yn ymateb synhwyrol a rhesymegol i'n hamgylchiadau presennol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn feiddgar ac yn ymatebol, ac yn ystyried y galwadau yn y cynnig hwn, oherwydd nid yw bellach yn ddigon da i barhau i wneud yr hyn a wnawn a disgwyl i bethau newid. Mae fy etholwyr wedi aros yn rhy hir am hynny, a rhaid inni edrych ar ddull gwahanol o weithredu. Gallai incwm sylfaenol cyffredinol fod yn floc adeiladu yn yr adferiad ôl-COVID, ac mae'n rhywbeth y dylem ei groesawu. Diolch.