Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 30 Medi 2020.
Roedd y pwyllgor yn ddamniol yn ei gondemniad o Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn contractau roedd wedi'u cytuno ar gyfer gwerthu pren. Tynnwyd sylw at ganfyddiadau'r archwilydd cyffredinol fod y contractau'n newydd, yn arwain at sgil-effeithiau ac yn ddadleuol, ac atgyfnerthodd y farn fod yna ansicrwydd a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a rheolau cymorth gwladwriaethol.
Yr hyn sy'n gwneud y canfyddiadau'n waeth yw na ddysgwyd y gwersi, oherwydd 18 mis yn ddiweddarach ailadroddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei feirniadaeth. Canfu fod nifer o bryderon yn codi ynghylch dyfarnu'r contractau pren nad oedd esboniad iddynt, gan arwain y pwyllgor i ddod i'r casgliad y bu methiant diwylliannol o fewn y sefydliad mewn perthynas â llywodraethu a bod galw am ailwampio difrifol.
Weinidog, a ydych chi wedi sylwi ar y tebygrwydd i'r Titanic eto? Fel amryw o gyrff cyhoeddus a phrosiectau cyhoeddus eraill yng Nghymru, nid oedd digon o drosolwg ac atebolrwydd, dim ymrwymiad i ddefnyddio punt y trethdalwr yn ddoeth a cheisio gwerth am arian, ac anallu llwyr i ddysgu o fethiant. Roedd y camgymeriadau'n dal i ddigwydd dro ar ôl tro.
Tynnwyd sylw at ganfyddiadau tebyg pan archwiliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y rhaglen Cefnogi Pobl. Canfu arafwch i wneud cynnydd wrth fynd i'r afael â materion a godwyd gan adolygiadau blaenorol, er enghraifft mewn perthynas â'r fformiwla ariannu a monitro effaith y rhaglen. Roedd anghysondebau parhaus hefyd wrth reoli'r rhaglen ar lefel leol. Weinidog, roedd hon yn rhaglen a oedd wedi bod ar waith ers 14 mlynedd, ac am 14 mlynedd, ni allodd eich rhaglen weithredu fel y dylai. Faint o amser ddylai hynny ei gymryd?
Ni wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymatal ychwaith yn ei waith craffu ar Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Gadewch i mi roi dyfyniad uniongyrchol arall i chi:
'Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol am gymhwysedd, gallu a
chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol yng ngofal iechyd Cymru. Ac eto canfuwyd diwylliant o hunan-sensoriaeth a diarddeliad ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am fwrw ymlaen â’r agenda'.
A dweud y gwir, nid yw hynny'n syndod. Rwyf wedi gweld diwylliant o hunansensoriaeth a gwadiad yn agos bob mis dros y degawd diwethaf neu fwy.
Mae pwyllgorau eraill yn gwneud yr un pwyntiau mewn ymchwiliadau i bortffolios penodol, gan gynnwys sawl un ar iechyd, yn amrywio o gartrefi gofal i glystyrau meddygon teulu, addysg a gwariant cymunedol. Weinidog, nid adroddiadau pleidiol yw'r rhain a ysgrifennwyd gan felinau trafod anghyfeillgar neu wleidyddion y gwrthbleidiau, ond canfyddiadau pwyllgorau craffu Senedd Cymru sydd â chynrychiolaeth drawsbleidiol, yn aml yn dilyn adroddiadau gan yr archwilydd cyffredinol.
Rwy'n dweud wrth bobl Cymru: peidiwch ag anobeithio, mae bad achub ar y gorwel. Oherwydd byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn sicrhau, o'r diwrnod cyntaf, ei bod yn atebol ac yn dryloyw. Byddwn yn rhoi swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth (OGRE) ar waith ar unwaith, a byddai ar wahân i'r Llywodraeth a chanddi gyfrifoldeb traws-bortffolio i sicrhau bod penderfyniadau polisi a gwariant yn dilyn amcanion cyffredinol y Llywodraeth ac yn cydblethu â'i gilydd. Wedi'r cyfan, gwelsom drychineb polisi newid hinsawdd Llywodraeth Lafur Cymru. Roedd yn croes-ddweud llanast ffordd liniaru'r M4 yn llwyr. Cymerodd £157 miliwn cyn i Lafur sylweddoli hynny.
Bydd y swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn newid y diwylliant o hunansensoriaeth a gwadiad. Ni fydd arnom ofn herio a newid. Dyna pam ein bod angen chwyldro datganoli. Bydd y swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth nid yn unig yn craffu ar wariant, bydd yn craffu ar ein holl bolisïau ac yn sicrhau cydlyniant, boed yn newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, hawliau dynol, codi safonau addysgol, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed ac yn dlawd, diogelu cyflenwad bwyd, darparu gofal cymdeithasol wedi'i ariannu'n briodol, neu ddiogelu'r GIG.
Byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cofio ein bod yma i wasanaethu dinasyddion Cymru. Byddwn yn gwario punt y trethdalwr yn ddoeth. Byddwn yn cael gwared ar yr haenau diangen o fiwrocratiaeth ac yn sicrhau ein bod yn darparu Llywodraeth fwy syml a thryloyw. Mae gan bolisïau'r Ceidwadwyr Cymreig amcanion clir, canlyniadau clir a rheolaeth drwyadl, lle rhoddir pob cyfle i bolisïau lwyddo, ond lle cânt eu gwerthuso a'u dirwyn i ben os nad ydynt yn gweithio. Dim mwy o bunnoedd trethdalwyr yn mynd i dwll diwaelod.
Gadewch imi orffen drwy ei gwneud yn glir fod pwynt olaf ein cynnig wedi ei seilio'n fwy ar obaith na phrofiad. Gobeithiwn y bydd Llafur yn camu i'r adwy ac yn atal y gwastraff, ond y realiti ar ôl oddeutu 20 mlynedd ac ymhell dros £1 biliwn o arian trethdalwyr wedi'i wastraffu dros y degawd diwethaf, yw nad wyf yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gallu sbarduno newid diwylliant, darparu gwerth am arian, herio'r broses o wneud penderfyniadau. Byddwn yn galw am hynny, ond nid wyf yn obeithiol iawn. Ond fe ddylech, Weinidog. Mae'r Titanic yn suddo.