8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:39 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:39, 30 Medi 2020

Felly, mae'r bleidlais gyntaf yn y cyfnod pleidleisio ar ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar incwm sylfaenol cyffredinol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.

Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21 (iv) Incwm Sylfaenol Cyffredinol: O blaid: 28, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 2211 Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21 (iv) Incwm Sylfaenol Cyffredinol

Ie: 28 ASau

Na: 13 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Wedi ymatal: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 30 Medi 2020

Mae'r gyfres o bleidleisiau nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar werth am arian i drethdalwyr. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, pedwar yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr - cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 10, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 2207 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr - cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar

Ie: 10 ASau

Na: 37 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Wedi ymatal: 4 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:41, 30 Medi 2020

Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 1, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi cael ei gymeradwyo ac mae gwelliant 2 a gwelliant 3 yn cael eu dad-ddethol.

Gwelliant 1 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2208 Gwelliant 1 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans

Ie: 27 ASau

Na: 24 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:42, 30 Medi 2020

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid chwech, neb yn ymatal, 45 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.

Gwelliant 4 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Neil McEvoy: O blaid: 6, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 2209 Gwelliant 4 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Neil McEvoy

Ie: 6 ASau

Na: 45 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:42, 30 Medi 2020

Pleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM7404 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth gwael am arian.

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw ers 2010.

3. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa Cadernid Economaidd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli cyllidebau yn dda.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:42, 30 Medi 2020

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 2210 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 27 ASau

Na: 24 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw