Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch, Llywydd. Mae 2020 wedi bod yn un o'r blynyddoedd mwyaf heriol ac anoddaf o fewn cof, yn enwedig i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae COVID-19 wedi amlygu anghydraddoldebau dwfn yn ein cymdeithas. Mae ailymddangosiad y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, yn dilyn marwolaeth dreisgar George Floyd, yn dangos pam mae'r ddadl flynyddol hon ar fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol yn bwysicach nag erioed. Mae'r cynnig hwn yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau eleni, ond mae hefyd yn ailddatgan yr ymrwymiadau a wnaethom y llynedd yn ein dadl ar hil—ymrwymiadau trawsbleidiol. Yn y ddadl honno, fe wnaethom gefnogi, fel y gwnawn ni heddiw yn ein cynnig, bwysigrwydd sylfaenol y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol.
Llywydd, wrth i'r coronafeirws ennill tir yn gynharach eleni, fe wnaethom ni ddechrau dysgu am ei effaith ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Sefydlodd y Prif Weinidog grŵp cynghori BAME COVID-19 ar unwaith, o dan arweinyddiaeth y Barnwr Ray Singh. Sefydlwyd dau is-grŵp, dan arweiniad yr Athro Keshav Singhal a'r Athro Emmanuel Ogbonna. Fe wnaeth y grwpiau hyn gyflawni yn hynod o gyflym, gan ddarparu cyngor a dulliau diriaethol ac ymarferol a roddodd Cymru ar y blaen o ran ein hymateb. Mae datblygiad yr offeryn asesu risg gweithlu Cymru, y cyntaf o'i fath yn y DU, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n eang yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond a gaiff ei gyflwyno mewn gweithleoedd eraill, yn helpu i ddiogelu iechyd a lles pobl.
Dewisodd Llywodraeth Cymru hefyd fynd i'r afael â chyfraniad y ffactorau economaidd-gymdeithasol i'r feirws yn uniongyrchol, gan ymateb i adroddiad Emmanuel Ogbonna a'i grŵp—cydnabyddiaeth na allai data meddygol esbonio'r effaith anghymesur ar bobl BAME ar ei ben ei hun. Fe wnaeth adroddiad gan y grŵp economaidd-gymdeithasol nodi'r anghydraddoldebau sefydledig a brofir gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, y mae COVID-19 wedi tynnu sylw atyn nhw yn y modd mwyaf trasig. Dylai hyn ein hatgoffa nad yw'r hawliau sydd wedi'u hymgorffori dros 50 mlynedd yn ôl yn erthygl 5 y confensiwn ar ddileu pob math o wahaniaethu hiliol wedi eu gwreiddio'n llawn eto mewn cymdeithas. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r grwpiau cynghori am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud, am eu harweinyddiaeth barhaus, ynghyd â rhannu mewnwelediad ac arbenigedd, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i bob un ohonom ni.
Nid yw hwn yn waith sy'n gallu aros. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ein hymateb i'r adroddiad economaidd-gymdeithasol ar 24 Medi. Roeddem ni eisoes wedi gweithredu nifer o argymhellion, ac mae mwy ar y gweill. Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ni gynhyrchu gohebiaeth 'Diogelu Cymru' mewn 36 o ieithoedd gwahanol, er mwyn sicrhau bod negeseuon iechyd ar gael i bawb sy'n byw yng Nghymru. Ehangwyd gwasanaethau profi, olrhain a diogelu i sefydlu gweithwyr allgymorth duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn cymunedau. Ac mae'r rhai hynny sydd mewn cyflogaeth hefyd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau symud. Fe wnaethom ariannu'r tîm cymorth lleiafrifoedd ethnig ac ieuenctid, gyda phartneriaid, i ddarparu llinell gymorth amlieithog BAME i bobl gael cyngor a chymorth ar lawer o faterion, gan gynnwys cyflogaeth ac incwm. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod rhaglenni hyfforddi gwrth-hiliaeth yn cael eu cynnal ar draws y sector cyhoeddus. Llywydd, ym mis Chwefror fe wnaethom ni lansio strategaeth penodiadau cyhoeddus i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth pobl BAME a phobl anabl mewn penodiadau cyhoeddus. Mae hyn wedi cychwyn, gan ddatblygu rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac anabl, fel yr argymhellwyd yn adroddiad Ogbonna.
Mae adnewyddu ein hymrwymiad i ddileu hiliaeth a gwahaniaethu ledled ein cenedl yn cynnwys addysg, ac mae'r Gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r cwricwlwm newydd, dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams, wedi ei sefydlu. Ein nod yw ymgorffori addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws pob rhan o'r cwricwlwm ysgol.
Rwyf wedi bod yn ymgysylltu â fforymau a digwyddiadau BAME ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiadau Mae Bywydau Du o Bwys, yn ogystal â thrwy ein Fforwm Hil Cymru, a phan oedd y pandemig ar ei waethaf, roeddwn i'n ddiolchgar am y cyngor a'r ymgynghoriad rheolaidd. Cyfarfuom yn aml iawn i ddysgu a rhannu gwybodaeth, i weithredu gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag anghenion sy'n dod i'r amlwg, ac mae'r deialog hwn yn hanfodol wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i'w gyflawni erbyn diwedd tymor hwn y Senedd. A bydd ein cynllun yn cael ei gyflawni drwy ymgysylltu helaeth a chaiff ei gyd-lunio â chymunedau, grwpiau cymunedol a sefydliadau BAME, gyda'r Athro Ogbonna yn cyd-gadeirio'r grŵp llywio gyda'r Ysgrifennydd Parhaol. Mae'n rhaid i'r cynllun hwn ddarparu'r sylfaen ar gyfer sicrhau newid systemig a chynaliadwy i Gymru.
Gwyddom fod llawer o faterion i fynd i'r afael â nhw ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd, cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc, addysg, mynediad at dai, profiad bob dydd o hiliaeth, hiliaeth strwythurol a systemig, cynrychiolaeth a gwelededd. Rydym ni'n cydnabod yr angen am newid sylfaenol yn ein cymdeithas. Ni allwn ac ni fyddwn ni'n gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, clywed eu tystiolaeth a gweithredu ar y dystiolaeth honno. Byddwn ni'n mynd i'r afael â buddiannau cymunedau penodol a materion a godir gan ryngblethedd. Caiff ei lywio gan ymchwil a data, ymchwiliadau swyddogol ac adroddiadau sydd eisoes wedi digwydd. Fe'i hategir gan gamau gweithredu ac argymhellion clir a chryno, gan gynnwys datblygu uned gwahaniaethau ar sail hil yn Llywodraeth Cymru.
Ond rwyf eisiau gwneud hyn yn glir: nid fy nghynllun i yw hwn; mae'n eiddo i Lywodraeth Cymru gyfan, ac rydym ni eisiau gweld newid diwylliannol ar draws y Senedd, mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yng nghymdeithas Cymru, oherwydd mae Cymru yn genedl amlddiwylliannol sydd â hanes a rennir a chyfraniad a rennir i'w llwyddiant. Roedd ymfudwyr i Gymru yn rhan bwysig o'r wlad hon yn datblygu i fod yn rym economaidd cryf cyn y rhyfel byd cyntaf, ac mae ymfudwyr wedi parhau i fod yn rhan annatod o'n cenedl sydd wedi datblygu fel cenedl noddfa, sef yr hyn yr ydym ni'n ymdrechu i fod. Rydym ni'n clodfori ein cymunedau BAME ac yn cydnabod bod yn rhaid i bob un ohonom ni fyfyrio ar ein safbwyntiau i sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn gallu cyrraedd eu potensial.
Heddiw, rwy'n galw ar arweinyddion yng Nghymru ar bob lefel i ddileu hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol o'n gwlad. Gofynnaf i bawb sefyll yn erbyn anghydraddoldeb pa le bynnag a phryd bynnag y byddan nhw'n ei weld neu'n ei brofi, i chwilio am anghydraddoldebau hiliol, gwahaniaethau hiliol ac ar sail hil a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ac yn onest ar y strwythurau a'r systemau mewn cymdeithas, ac ystyried ble a sut y gallwn ni sicrhau newid gwirioneddol i fywydau pobl groenliw yng Nghymru. Mae gennym ni gyfle, cyfrifoldeb a modd i wneud hyn. Beth am ddangos yr undod mewn diben hwnnw yma yn y Senedd heddiw. Diolch yn fawr.