Part of the debate – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 6 Hydref 2020.
Pan fyddwn ni'n cymryd eiliad i feddwl am yr hyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw, pan fyddwn ni'n aros ac yn meddwl mewn gwirionedd ein bod, yn 2020, yn dal i orfod siarad am fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth yn ein cymdeithas, yn ein gwlad ni, mae'n gwbl anhygoel, ac mae'n anghredadwy bod pobl yn dal i gael eu barnu, eu cam-drin a'u bwrw o'r neilltu dim ond oherwydd lliw eu croen.