Part of the debate – Senedd Cymru am 7:18 pm ar 6 Hydref 2020.
Yn gynnar yn y pandemig, daeth yn eithaf amlwg bod cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael. Ac ar y pryd, yn lleol, roedd gennym rai problemau yn ein cymunedau, lle'r oedd llawer iawn o bryder a phoeni, yn ddealladwy. Yna fe wnaethom ni drefnu cyfarfodydd gyda'r bwrdd iechyd lleol, a oedd yn ddefnyddiol ac yn gynhyrchiol iawn, ac yna, wrth gwrs, roedd Llywodraeth Cymru yn gyflym iawn i weithredu.
Hoffwn dalu teyrnged i Jane a'r Prif Weinidog, a'r Llywodraeth gyfan, am sefydlu'r gweithgor a ystyriodd y materion hynny ac, yn wir, a gynhyrchodd becyn cymorth ar gyfer asesu risg i weithwyr rheng flaen ac eraill yn y cymunedau hynny o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, oherwydd roedd hynny yn bwysig iawn. Aeth y grŵp hwnnw ymlaen wedyn i wneud gwaith ehangach ar yr economi ac amgylchiadau cymdeithasol a chynhyrchu argymhellion, sy'n bwysig iawn.
Fe wnaeth y pwyllgor yr wyf i'n gadeirydd arno hefyd, Llywydd, rywfaint o waith a wnaeth ganfyddiadau tebyg. Ac rwy'n credu mai'r hyn a ddarganfuom ni, mewn gwirionedd, oedd bod y ffactorau yr oeddem ni'n gwybod amdanyn nhw ers amser maith o ran y gwahaniaethu a'r anfantais y mae ein lleiafrifoedd ethnig yn ei wynebu yn amlygu eu hunain o ran COVID: problemau yn ymwneud â swyddi o ansawdd gwael, diogelwch annigonol yn y gwaith, gwaith ansicr a chyflog isel, tai gorlawn ac o ansawdd gwael, ac, wrth gwrs, y swyddi rheng flaen yr oedd pobl o'n cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn eu gwneud, weithiau, yn anffodus, gyda dealltwriaeth annigonol o ba mor agored i niwed yr oedden nhw ac nad oedd digon o ddiogelwch.
Felly, gyda'r gyfres honno o broblemau—y problemau hirsefydlog, ond yr argyfwng a'r sefyllfa wirioneddol frys ynghylch COVID—roedd yn gwbl angenrheidiol gweithredu'n gyflym iawn yn genedlaethol yng Nghymru ac yn lleol, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a'n hawdurdod lleol yng Nghasnewydd, ac rwy'n siŵr bod eraill ledled Cymru, bod camau wedi'u cymryd yn gyflym ac yn effeithiol. Rwy'n credu mai ein her ni yn awr yw adeiladu ar y camau gweithredu tymor byr hynny a'r argymhellion sydd wedi eu cyflwyno a sicrhau ein bod yn effeithiol yn y tymor canolig a'r tymor hwy hefyd. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai o'i strategaethau: mae yna ddiweddariad tymor byr ar y strategaeth gydlyniant a'r fframwaith mynd i'r afael â throseddau casineb a hefyd ymrwymiad i strategaeth integreiddio tymor hwy, ac fe wyddom am y cynllun gweithredu a'r strategaeth cydraddoldeb hiliol. Felly, mae llawer o bethau yn digwydd.
Rwy'n credu, yng ngoleuni hynny i gyd, ein bod yn myfyrio hefyd ar yr hyn a ddywedwyd droeon gan ein cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig—y bu llawer o waith, llawer o argymhellion, llawer o adroddiadau a strategaethau dros gyfnod o flynyddoedd, ond, yn amlwg, o gofio bod y problemau sefydledig hyn gennym ni o hyd, ni fu digon o gamau effeithiol gwirioneddol, ar lawr gwlad i ymdrin â'r materion hyn. Ac rwy'n credu, yn aml iawn, ei fod yn dod i'r amlwg yn gryf iawn o'r cymunedau hyn eu bod, yn ddealladwy ac yn briodol, o'r farn ei bod yn bryd i gymryd camau effeithiol ar y cyd i ymdrin â'r problemau hirsefydlog hyn. Tynnwyd sylw at y broblem cymaint o weithiau ac eto, i raddau helaeth iawn, maen nhw'n dal i fod gyda ni. Felly, pan fyddan nhw'n gwneud yr erfyniadau hynny, rwy'n credu, yn amlwg, bod yn rhaid i ni wrando ac mae'n rhaid i ni weithredu yn fwy effeithiol fyth.
Rwy'n gwybod ei bod wedi bod yn dda iawn yn lleol yng Nghasnewydd i weld gweithredwyr ifanc ac eraill yn dod i'r amlwg. Cawsom orymdaith effeithiol iawn gan Mae Bywydau Du o Bwys drwy Gasnewydd, a oedd yn parchu ymbellhau cymdeithasol, ac a oedd wedi'i threfnu yn gyfrifol iawn ac yn effeithiol iawn o ran y negeseuon a gafodd eu cyfleu. Rydym ni wedi gweld cynghorwyr Asiaidd lleol yn cymryd rhan yng ngweithgor Llywodraeth Cymru ac yn bwydo gwybodaeth yn ôl yn lleol, ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn hefyd. Rydym ni'n gweld llawer o gynnydd, ond rwy'n credu ei bod yn gwbl glir, nawr, onid ydyw, yn sgil amlygu'r sefyllfa agored i niwed sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig hwn, bod y problemau hyn mor hwyr yn cael sylw, o ran ymdrin â hwy yn effeithiol, fel na ellir cael rhagor o oedi. Mae angen camau effeithiol ac eang arnom ar y gwahanol argymhellion a gyflwynwyd, ac mae eu hangen arnom yn gyflym iawn.
Felly, rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi deall y brys hwnnw, wedi cael grwpiau at ei gilydd, wedi gwneud gwaith pwysig, ac mae bellach wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor ar y problemau hyn y mae gan, yn fy marn i, ledled Cymru, gymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig bob hawl i ddweud bod yn rhaid mynd i'r afael â nhw yn effeithiol unwaith ac am byth.