Part of the debate – Senedd Cymru am 7:49 pm ar 6 Hydref 2020.
Cyn i mi alw ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl, hoffwn ddweud fy mod i wedi cynnig cyfle i chi, Neil McEvoy, i siarad pe byddech yn tynnu eich gag a rhoi eich prop atgas i lawr. Dewisoch beidio â gwneud hynny, ac felly rwy'n tybio nad ydych chi wedi cytuno i gydymffurfio â'm—[Torri ar draws.]—ddim wedi cytuno i gydymffurfio â'm cais yn gynharach, a'ch bod allan o drefn i wneud hynny. Rwyf bellach wedi penderfynu symud ymlaen at y Dirprwy Weinidog—[Torri ar draws.] Iawn. Siaradwch felly, Neil McEvoy.