1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Hydref 2020.
3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cosbau i'r rhai sy'n torri rheolau COVID-19? OQ55666
Llywydd, rydym ni'n adolygu pob agwedd ar ein rheoliadau yn barhaus, gan gynnwys ein dull o ymdrin â hysbysiadau cosb benodedig. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ystyried pa un a oes angen addasu'r drefn i fynd i'r afael â phroblemau penodol, fel cynnal partïon stryd neu mewn tŷ.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n gwbl amlwg nad yw'r dull moron yn gweithio ac nad yw'r dirwyon sy'n cael eu gorfodi yn llawer o rwystr ychwaith. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y de yn destun cyfyngiadau symud llym unwaith eto a'r cwbl oherwydd gweithredoedd lleiafrif hunanol. Rydym ni wedi colli ein rhyddid oherwydd bod rhai pobl eisiau cael partïon yn y tŷ. Nid ydym ni'n cael ymweld â'n hanwyliaid oherwydd bod rhai pobl o'r farn nad oedd y rheolau yn berthnasol iddyn nhw neu fod £60 yn bris bach i'w dalu am ychydig o hwyl. Mae rheolau yn berthnasol i bawb, o Weinidogion y Llywodraeth i fyfyrwyr llywodraethu ac mae'n hen bryd i ni fynd i'r afael â'r rhai sy'n torri'r rheolau, ac rwyf i wedi cael llond bol o weld cyfryngau cymdeithasol yn llawn pobl yn torri'r rheolau yn amlwg ac yn ddigywilydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ein bod ni angen cosbau llawer mwy llym a gorfodi mwy llym os ydym ni'n mynd i osgoi mwy o gyfyngiadau symud lleol neu genedlaethol hyd yn oed? Diolch.
Wel, rwy'n cytuno ag agweddau ar gwestiwn atodol yr Aelod. Rwy'n cytuno â hi bod y mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru yn parhau i gadw at y rheolau ac i fod yn gydwybodol yn ei gylch, ac mai lleiafrif bach o bobl sy'n torri'r rheolau pan fo'r achosion hynny o dorri'r rheolau yn fwriadol, yn amlwg ac yn ailadroddus. Pan siaradais i â phrif gwnstabl Gwent yr wythnos diwethaf am y sefyllfa yng Ngwent, lle mae cyfyngiadau lleol wedi bod ar waith ers nifer o wythnosau, dywedodd wrthyf fod 95 y cant o'r boblogaeth yno yn cydymffurfio â'r rheolau ac yn gweithio'n galed i wneud hynny. Felly, nid wyf yn cytuno â rhai o'r pethau a ddywedodd yr Aelod, a oedd fel pe byddai'n awgrymu bod diffyg cydymffurfiad helaeth â'r cyfyngiadau y bu'n rhaid i ni eu rhoi ar waith.
Pan fo angen cynyddu cosbau, rydym ni wedi gwneud hynny. Yn ôl ym mis Mai, ychwanegwyd at y lluosydd o bobl sy'n torri'r rheolau dro ar ôl tro fel bod y gosb uchaf yng Nghymru yn mynd o £120 i £1,920, ac fe symudasom yn gyflym, cyn gŵyl y banc ym mis Awst, i wneud yn siŵr bod dirwyon o £10,000 ar gael yng Nghymru i bobl sy'n ceisio trefnu digwyddiadau cerddoriaeth anghyfreithlon. Nawr, rydym ni'n parhau i drafod gyda'r heddlu a fyddai'n ddefnyddiol iddyn nhw gael cosbau estynedig, fel y dywedais, mewn nifer o feysydd penodol, gan gynnwys i bobl sy'n trefnu partïon yn y tŷ a phobl sy'n amlwg yn gwrthod hunanynysu, ac os yw'r achos yno, yna byddwn yn gwneud hynny.
Yn y pen draw—hoffwn ddim ond gwneud y pwynt olaf hwn i'r Aelod, Llywydd—dim ond os oes gennym ni system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth y mae hyn yn gweithio, os yw pobl yn fodlon chwarae eu rhan ac yn argyhoeddedig o'r angen i wneud hynny. Mae'n rhaid i orfodi fod y dewis olaf, nid y dewis cyntaf, ond pan fydd angen y dewis olaf hwnnw, ni fyddwn yn petruso cyn ei ddefnyddio yng Nghymru.
Rwyf i'n byw yn y boblogaeth fwyaf sy'n croesi ffin genedlaethol yn y DU, gyda pherthnasau agos gerllaw ar ddwy ochr ein ffin anweledig. Yn y cyd-destun hwn, pa gosbau am dorri rheolau COVID-19 ydych chi'n credu a ddylai fod yn berthnasol pe byddai meddyg iau anesthetig yn Ysbyty Glan Clwyd yn cyfarfod â'i ddyweddi, sy'n ymgymryd â chymrodoriaeth glinigol yn ysbyty Christie ym Manceinion, pan fo'n rhaid i'r ddau fyw yn lleol i'r ysbytai hyn, y mae'r ddau wedi bod ar reng flaen pandemig coronafeirws ers ei ddechrau yma, a arweiniodd at y ddau yn dal COVID-19 yn ystod eu gwaith, y mae'r ddau wedi gweithio oriau ychwanegol heb dâl ychwanegol, ac y mae'r ddau yn byw ar ei pennau eu hunain. Llwyddasant i ddyfalbarhau â blinder corfforol a meddyliol trwy gefnogi ei gilydd. Fodd bynnag, mae eich cyhoeddiad diweddaraf o gyfyngiadau symud yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn golygu bod eu prif gymorth bellach yn anghyfreithlon gan na chânt ymweld â'i gilydd.
Wel, nid oes gen i amheuaeth, Llywydd, y byddan nhw'n deall yn well na'r Aelod pam mae angen y cyfyngiadau hynny. Ar ein hochr ni o ffin gogledd-ddwyrain Cymru, mae cyfraddau coronafeirws yn dal i fod yn is na 100 o bob 100,000 o'r boblogaeth. Ym Manceinion, heddiw, maen nhw'n adrodd dros 500 o bob 100,000 o'r boblogaeth. A bydd pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn sicr o ddeall pam nad yw'n ddoeth i bobl o ardaloedd coronafeirws uchel iawn gael teithio at bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle nad yw'r firws mewn cylchrediad mor fywiog a chymysgu â nhw. Bydd yr aelodau hynny o'r gwasanaeth iechyd hefyd yn gwybod, hyd yn oed os nad yw'r Aelod, bod effaith coronafeirws ar lefel gymunedol yn cael ei theimlo yn ein hysbytai hefyd erbyn hyn. Yn ystod yr wythnos diwethaf, roedd pobl ag achosion tybiedig neu a gadarnhawyd o coronafeirws mewn 453 o welyau yn ein GIG; 203 oedd y ffigur bythefnos yn ôl. Nawr, os nad yw'r Aelod yn deall yr angen i weithredu ac i weithredu nawr i atal yr effaith ar ein GIG rhag dychwelyd i'r sefyllfa yr oedd ynddi yn gynharach yn y flwyddyn, yna gallaf ei sicrhau bod pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn deall hynny yn dda iawn.