1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Hydref 2020.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol eraill ynghylch atal ymweliadau â chartrefi gofal? OQ55669
Llywydd, rydym ni'n cyfarfod gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn rheolaidd i drafod amrywiaeth o faterion gan gynnwys cartrefi gofal ac ymweliadau â chartrefi gofal.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yr ydych chi newydd ei grybwyll, wedi codi pryderon am yr effaith y gallai gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau, yn ei geiriau hi, ei chael ar iechyd a llesiant preswylwyr cartrefi gofal. Mae'r angen i atal heintiau mewn cartrefi gofal yn hollbwysig, wrth gwrs, ac rwy'n sylweddoli ei bod hi'n anodd cydbwyso hyn gydag anghenion emosiynol preswylwyr. Fodd bynnag, rwy'n ofni y gallai'r trawma o wahaniad estynedig oddi wrth aelodau teulu gael effaith echrydus ar bobl sy'n dibynnu ar weld aelodau o'u teulu. Gellid hwyluso ymweliadau trwy gyfuniad o fesurau diogelwch, gan gynnwys rhoi cyfarpar diogelu personol a hyfforddiant diogelwch COVID i deuluoedd sy'n ymweld, caniatáu ymweliadau awyr agored o bell pan fo hynny'n briodol, a chadarnhau canlyniadau prawf positif gydag ail brofion, fel mai dim ond pan ei bod yn sicr eu bod yn angenrheidiol y caiff cyfyngiadau symud cartrefi gofal 28 diwrnod eu gorfodi. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried, felly, rhinweddau cyhoeddi canllawiau newydd o'r math hwnnw er mwyn ailddechrau rhai ymweliadau teuluol?
Llywydd, mae'r Aelod yn codi un o'r materion mwyaf heriol sy'n wynebu'r sector cartrefi gofal, am yr holl resymau y mae hi wedi eu nodi: y niwed a wneir i breswylwyr pan nad ydyn nhw'n cael gweld eu perthnasau, ac wedi'i gydbwyso yn erbyn hynny, fel y dywedodd Delyth Jewell, yr angen i atal cyflwyno coronafeirws i gartrefi, pan ein bod ni'n gwybod o'n profiad yn gynharach yn y flwyddyn, pan fydd wedi cyrraedd yno, ceir poblogaeth agored iawn i niwed, a gall y niwed fod yn sylweddol iawn.
Rydym ni'n diweddaru ein canllawiau yn gyson. Dilynwyd y canllawiau diwethaf a gyhoeddwyd ar 28 Awst gan lythyr ar 23 Medi gan Albert Heaney, pennaeth y gwasanaethau cymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, a Gillian Baranski, prif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, ac unwaith eto ar 2 Hydref, gyda rhagor o fanylion mewn diweddariad pellach gan Mr Heaney. A wnaf i ddarllen, Llywydd, yn gryno, baragraff olaf y llythyr hwnnw, oherwydd mae'n dangos sut yr ydym ni'n ceisio ymateb i'r pwyntiau a wnaeth Delyth Jewell? Felly, mae ein cyngor i'r sector, yn y llythyr, yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau cydbwysedd rhwng amddiffyn pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal rhag y risgiau gwirioneddol a achosir gan coronafeirws a chynnal eu llesiant a'u cysylltiadau â theulu. Mae'n bwysig ein bod ni'n osgoi dull gweithredu cyffredinol sy'n cyfyngu'n ddiangen a bod ymweliadau â chartrefi gofal yn cael eu cefnogi pan eu bod yn ddiogel ac yn bosibl.
Byddaf yn cyfarfod yfory, Llywydd, yn bersonol, â Fforwm Gofal Cymru a nifer o gyrff eraill sy'n gyfrifol am y ffordd y caiff cartrefi gofal eu rhedeg. Byddwn yn trafod y mater hwn ynghyd â materion eraill sy'n ymwneud â rhedeg cartrefi gofal yn ddiogel yn ystod yr argyfwng coronafeirws, a bydd y mathau o bosibilrwydd y soniodd Delyth Jewell amdanyn nhw yn ei chwestiwn atodol yn rhan o'r drafodaeth honno, rwy'n siŵr.