Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau a'i chwestiynau. Llywydd, nid wyf yn ceisio dianc na chuddio rhag yr heriau sy'n ein hwynebu ni wrth inni symud i'r cam gweithredu. Fel y crybwyllodd Suzy Davies, pe byddem wedi bod yn amddiffynnol o'r hyn yr oedd gan yr OECD i'w ddweud amdanom ni, fe fyddem wedi gohirio cyflwyno'r adroddiad i Aelodau'r Senedd gael craffu arno. Rydym yn croesawu'r arweiniad gan yr OECD i sicrhau bod yr hyn a wnawn ni'n llwyddo.
Rwyf i o'r farn fod Siân Gwenllian wedi holi nifer o gwestiynau pwysig. Yn gyntaf, ynglŷn â'r amserlen, fel y dywedais i wrth ymateb i Suzy Davies, ar hyn o bryd, rydym yn credu ei bod yn dal yn bosibl symud at ddyddiad gweithredu yn 2022 ond, fel y croesawyd gan adroddiad yr OECD, roedden nhw'n ein canmol ni am sefydlu system o ddatblygu ar y cyd yng Nghymru o ran addysg. Nid yw'r Llywodraeth hon yn ymyrryd yng ngwaith yr athrawon; mae'n gwneud pethau ar y cyd â'r athrawon. A bydd hynny'n dal i'n harwain wrth inni fwrw ymlaen â'r gweithredu.
Yn amlwg, fe ofynnodd hi'r cwestiwn, 'A ydych chi'n asesu effaith COVID yn barhaus?' Credwch chi fi, rydym ni'n asesu'r effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar ein system addysg ni bob dydd ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny.
O ran cyfiawnder, fel y dywedais i yn fy natganiad, ni fydd yna unrhyw ddiben i'r cwricwlwm os nad ydym ni'n sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ble bynnag y bo, beth bynnag fo natur ei ysgol, a chyfrwng yr addysg a gaiff—ni fydd unrhyw ddiben i hynny oni bai bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fynd ar drywydd a chyrraedd ei uchelgeisiau yn llawn. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw y bydd angen mwy o gymorth ychwanegol ar rai ysgolion nag eraill. Efallai y bydd rhai ysgolion wedi cyrraedd ymhellach ar eu taith nhw i ddiwygio'r cwricwlwm. Efallai y bydd gan rai ysgolion lefelau uwch o ran y cynllunio ac arbenigedd cwricwlwm yn eu hysgolion nhw nag eraill. A dyna pam mae'n bwysig iawn, yn ein dogfen o ddisgwyliadau, ein bod ni'n glir ynghylch gwaith pwy yw hyn a chyfrifoldeb pwy yw darparu'r adnodd ychwanegol hwnnw i ysgolion, gan gydnabod bod gan ein hawdurdodau addysg lleol a'n gwasanaeth gwella ysgolion ac, yn wir, Estyn, swyddi penodol i'w gwneud i sicrhau bod pob ysgol yn barod, a chydnabod y bydd angen mwy o help ar rai ysgolion nag eraill wrth wneud hynny. Mae sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol yn un o amcanion y ddogfen disgwyliadau.
O ran 14 i 16 oed, yr un pryderon sydd gan yr OECD a minnau, yn y cyfnod diweddar mewn addysg—nid yw hyn yn rhywbeth penodol i system Cymru—mae asesu ar gyfer dysgu wedi bod ynghlwm wrth atebolrwydd y system yn rhy aml. Ac mae hynny wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol, lle mae mesurau atebolrwydd yn aml wedi sbarduno cyfres o ymddygiadau mewn ysgolion sydd, efallai, fel y dywedais, wedi cael canlyniadau anfwriadol. Gallai'r rheini fod yn rhwystredigaeth i'r plant rhag cyrraedd eu llawn botensial yn ôl natur y cymwysterau y'u cofrestrwyd ar eu cyfer neu gulhau'r cwricwlwm gan ganolbwyntio'n ddi-baid ar y craidd. Neu gallai olygu eithrio peth o'r creadigrwydd a rhai o'r pynciau eraill y mae plant yn eu gwerthfawrogi ac yn eu mwynhau ac yn cael boddhad o'u hastudio. Felly, yn gyntaf oll, mae angen inni ddychwelyd at system sy'n cydnabod asesu ar gyfer dysgu a sut y gall asesiad athrawon fel hyn hebrwng plant ymlaen ar eu teithiau dysgu. Ac mae hynny'n wahanol i atebolrwydd. Nid oes unman heb unrhyw atebolrwydd; rwyf i'n atebol, ac mae pob Aelod unigol sy'n eistedd yn y Senedd yn atebol. Mae'r rhain yn gysyniadau sy'n gyfarwydd i bob un ohonom ni. Mae angen atebolrwydd yn ein system ni, ond ni ddylid ei ddrysu ag asesu ar gyfer dysgu.
Fe ddywed Siân Gwenllian fod angen cymhwyster Cymreig arnom ar gyfer cwricwlwm Cymru. Wel, fe fyddwn i'n dadlau bod gennym ni gymwysterau Cymreig ar hyn o bryd. Mae rhai ohonyn nhw'n hollol unigryw i Gymru, fel ein Bagloriaeth Cymru ni neu ein TGAU rhifedd mathemateg ni, ac, yn wir, y ffordd yr ydym ni wedi cadw ein Lefelau-AS, lle mae gennym elfennau o waith cwrs yn parhau yn ein TGAU, ac mae plant yn parhau i gael profion llafar mewn Cymraeg iaith gyntaf, Cymraeg ail iaith a Saesneg—pob un o'r rhain wedi diflannu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Ac, yn amlwg, mae adolygiad Cymwysterau Cymru o ddyfodol cymwysterau, a ddaeth yn ofynnol oherwydd ein diwygiad ni o'r cwricwlwm, yn bwysig. Fe hoffwn i atgoffa'r Aelod y mynegwyd cefnogaeth gref i gadw TGAU yng ngham cyntaf eu hymgynghoriad nhw. Mae'n frand sy'n gyfarwydd iawn i ddisgyblion, i rieni, i ysgolion, i fusnesau a sefydliadau addysg uwch. Ac fe hoffwn i atgoffa Siân Gwenllian pa mor aml yr wyf i wedi ateb cwestiynau yn y Siambr, pan mae pobl wedi codi pryderon am gydnabyddiaeth i gymwysterau Cymreig, weithiau gan brifysgolion dros y ffin, a'r ffaith bod Cymwysterau Cymru wedi gorfod cyflogi aelod ychwanegol o staff sy'n gweithio gyda sefydliadau addysg uwch y tu hwnt i Gymru, fel nad yw myfyrwyr Cymru dan anfantais.
Mae'r hyn sy'n hanfodol i mi yn mynd y tu hwnt i enw cymhwyster yn unig. Yr hyn sy'n hanfodol i mi yw bod yna werth i gymhwyster, ei fod yn caniatáu i blant Cymru gyflawni eu huchelgeisiau, boed hynny'n fynychu colegau addysg bellach, ennill prentisiaeth, dechrau yn y byd gwaith, y tu draw i'n ffiniau ni efallai i astudio mewn sefydliadau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, mewn mannau eraill yn y byd yn wir. Ni fydd neb yng Nghymru yn diolch inni am greu system o gymwysterau sydd, mewn rhyw ffordd, yn lleihau'r gwerth hwnnw. Ac rwyf i o'r farn mai dyna sydd raid i ni ganolbwyntio arno.
Ond fe fyddwn i'n cytuno â'r Aelod, sut olwg bynnag fydd ar y cymwysterau hynny, na ddylen nhw bennu cynnwys y cwricwlwm. Cynnwys y cwricwlwm a ddylai bennu'r cymhwyster, ac weithiau—ac rwy'n credu y bydd hon yn un o'r trafodaethau y bydd yn rhaid inni barhau i'w chael gyda'r system—mae'n peri pryder i mi weithiau, y cwestiwn hwnnw ynghylch, 'Os dywedwch chi wrthyf beth fydd yn y fanyleb ar gyfer yr arholiad, yna fe wnaf innau gynllunio'r cwricwlwm.' Mae angen cynllunio ein cwricwlwm yn gyntaf, ac yna deall sut y byddwn ni'n ei asesu. Diolch.