3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd 2020

– Senedd Cymru am 2:58 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:58, 6 Hydref 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganid gan y Gweinidog Addysg ar adolygiad addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—yr OECD—a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am adroddiad newydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiadau Economaidd, yr OECD, sef 'Cyflawni Cwricwlwm Newydd Cymru', a gyhoeddwyd ddoe. Mae cyngor a her amserol gan yr OECD wedi bod yn elfen allweddol o agwedd y Llywodraeth hon a minnau tuag at ddiwygio addysg. Mae'r Aelodau yn gwybod ein bod ni wedi meithrin perthynas newydd a chadarn yn rhyngwladol dros y pedair blynedd diwethaf. Rydym yn cynnig cyfleoedd sy'n trawsnewid bywydau ym Mhrifysgol Yale, mae athrawon dan hyfforddiant o Sefydliad Technoleg Massachusetts yn dysgu gwyddoniaeth yn ein hysgolion ni, ac rydym yn gweithio gyda systemau eraill er mwyn dysgu a rhoi cyngor.

Mae'r OECD yn adnabod ac yn deall ein system ni, ac maen nhw'n gallu dangos darlun cywir iawn i ni yn y Llywodraeth, ond i'n system ni yn ei chyfanrwydd hefyd, ac maen nhw'n cydnabod bod gan Gymru, yn wahanol i bedair blynedd yn ôl, weledigaeth glir o ran ei system addysg a'i dysgwyr. Maen nhw'n cydnabod swyddogaeth y Llywodraeth o ran ymgorffori datblygu ar y cyd ar draws y system yn egwyddor ar gyfer datblygu'r cwricwlwm a llunio polisïau addysg yn fwy cyffredinol.

Roedden nhw'n arfer dweud bod Cymru yn anwybyddu arweinyddiaeth fel sbardun ar gyfer diwygio a llwyddiant. Nid yw hynny'n wir bellach. Ac maen nhw'n dweud bod cyfathrebu wedi bod yn eglur a chyson, gydag arweinyddiaeth gref o'r brig. Maen nhw'n gweld ein bod ni wedi ymateb i her adroddiadau blaenorol a'n bod ni wedi sefydlu cydlyniad i'r elfennau amrywiol o bolisi ac eglurder i'r weledigaeth, gan osod sylfaen gref i weithwyr addysg proffesiynol gymryd meddiant o'r genhadaeth genedlaethol.

Fe ŵyr yr OECD ein bod ni wedi adeiladu sylfeini cryf ar gyfer cam nesaf ein taith ni gyda'r cwricwlwm newydd. Sylfeini megis perfformio'n well na gwledydd eraill y DU yn ein canlyniadau Lefel-A gorau, lle'r oeddem ni ymhell ar ei hôl hi ar un adeg, yn ôl yn 2016; mae miloedd ar filoedd yn fwy o ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn ennill TGAU mewn pynciau fel gwyddoniaeth erbyn hyn, gan roi hwb uniongyrchol i'w cyfleoedd nhw mewn bywyd; ac mae perfformiad ein Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr wedi gwella ym mhob maes am y tro cyntaf erioed, gan ein rhoi ni'n ôl ym mhrif ffrwd yr OECD.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:00, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Ystyr hyn i gyd yw ein bod ni'n gallu ac fe fyddwn ni'n parhau i edrych yn ofalus ar gyngor yr OECD. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn cynnig her sy'n ddefnyddiol ac yn dilysu'r cynnydd yr ydym yn ei wneud, ac rwy'n falch o ddweud nad oedd ynddo unrhyw beth annisgwyl. Yr wythnos nesaf fe fyddaf i'n cyhoeddi fersiwn wedi'i diwygio o 'Ein cenhadaeth genedlaethol'. Fe fydd hon yn ystyried argymhellion yr OECD, fe fydd yn adolygu ein hymdrechion ar y cyd hyd yma a'r hyn a gyflawnwyd, ac, yn hollbwysig, yn mynd ar drywydd cam nesaf y daith. Felly, Llywydd, rwy'n benderfynol, er gwaethaf COVID, na fyddwn ni'n gorffwys ar ein rhwyfau.

Rwyf am ganolbwyntio ar themâu allweddol yn yr adroddiad y prynhawn yma, sy'n cynnig mwy o her i ni. Mae'r OECD yn glir mai'r brif thema ar gyfer parhau â'n llwyddiant ni yw bod yn fwy dyfal wrth fabwysiadu safbwynt yr ysgol. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y cydbwysedd cywir rhwng cydlyniad y system a'r hyn y mae hynny'n ei olygu wrth i ysgolion wireddu'r cwricwlwm. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y sylwadau a ddaeth o fewn y system yn ogystal â'r sylwadau gan yr OECD ar fater cyfiawnder, ac wrth inni symud ymlaen gyda'r cwricwlwm, fe ddaw hynny'n bwysicach eto: cyfiawnder o ran cael gafael ar adnoddau, cyfiawnder o ran cyfleoedd i ddysgwyr a chyfiawnder o ran dysgu proffesiynol i athrawon.

Nawr, dros y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi dangos ein bod ni'n gallu ymgodymu â'r dyhead a'r bwlch cyrhaeddiad. Mae'r rhai sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig mewn pynciau craidd ym mlwyddyn 9 bellach 20 y cant yn uwch nag yr oedd ddegawd yn ôl; mae 30 y cant yn fwy o fyfyrwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ennill TGAU dda mewn gwyddoniaeth; ac rydym wedi gweld gwelliant o fod â 37 y cant yn unig o'n hysgolion ni â defnydd band eang cyflym iawn i wasanaeth o 100 y cant erbyn hyn.

Nid oes unrhyw ystyr i'r cwricwlwm newydd—unrhyw ystyr o gwbl—os nad yw'n sicrhau bod pob dysgwr unigol yn elwa ar yr addysg eang a chytbwys yr ydym ni'n ymgyrraedd ati, gan ddod â gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ynghyd. Felly, beth ydym ni'n ei wneud, beth ydym ni am ei wneud a beth fyddwn ni'n parhau i'w wneud i gefnogi'r broses o wireddu hyn ym mhob ysgol? Wel, rydym yn diwygio ein rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr. Fe fydd y rhain yn cysylltu athrawon ac ysgolion, yn casglu gwybodaeth, yn nodi materion ac yn cydweithio i gynghori ar eu gweithredu. Ochr yn ochr â hyn, fe fydd yna adnoddau a deunyddiau newydd ar gael erbyn yr haf nesaf, a gaiff eu cynllunio yn benodol ar gyfer y cwricwlwm newydd. Nawr, fe allwn ni fod yn falch iawn o Hwb a'r miliynau sy'n mewngofnodi iddo bob wythnos, yn ogystal â'r berthynas addysgol gref a goleddwyd â Google, Microsoft a Adobe, sy'n golygu adnoddau rhad ac am ddim i deuluoedd ac athrawon ledled y wlad.

Yn ystod y pandemig, rydym wedi darparu offer yn rhad ac am ddim i ddysgwyr o gefndiroedd incwm isel, ond rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy—mwy gydag athrawon, ysgolion a rhieni ynghylch sut i wneud y mwyaf o'r adnoddau digidol ac addysg ddigidol. Fe fydd hon yn flaenoriaeth wrth i ni barhau i gyflwyno ein rhaglen dysgu proffesiynol uchelgeisiol a chyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y cwricwlwm. Ond fe wn i hefyd y gallwn ni fod yn fwy eglur byth o ran ein disgwyliadau a'n swyddogaethau cyffredin ar draws y system. Yn fuan iawn, fe fyddaf i'n cyhoeddi'r disgwyliadau cyffredin hynny i gefnogi ysgolion a'r camau sy'n rhaid iddyn nhw eu cymryd i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm.

Mae hwn yn gam mawr ymlaen i addysg Cymru, ac yn union fel yr ydym ni i gyd wedi cydweithio yn ystod y pandemig, mae'n golygu ymrwymiad o'r newydd gan bob partner i gydweithredu, i gydnabod swyddogaethau a chyfrifoldebau a chefnogi ein holl ysgolion gyda chynllunio a gweithredu'r cwricwlwm.

Mae'n amlwg o adroddiad yr OECD fod cefnogaeth yn gysyniad pwysig ar gyfer gweithredu'n llwyddiannus. Rwy'n falch bod Estyn yn parhau i esblygu ac y bydd yn arolygiaeth addysg a chanddi gylch gwaith eglur o ran sut y bydd yn gweithio gydag ysgolion, consortia ac awdurdodau addysg lleol unigol ac yn eu cefnogi nhw.

Gan symud ymlaen at yr athrawon. Ar hyn o bryd rydym yn gwario'r swm mwyaf erioed ar athrawon yn hanes addysg yng Nghymru. Mae hon wedi bod yn flaenoriaeth i mi ers tro byd, ac roedd cydnabod a chefnogi rhagoriaeth mewn addysgu yn un o'r polisïau yn y cytundeb a ddaeth â mi i mewn i'r Llywodraeth hon. Mae'r OECD yn gywir yn nodi bod angen inni wneud mwy i gefnogi athrawon i fod yn brif ysgogwyr i'r cwricwlwm mewn ysgolion a gwella eu sgiliau nhw. Byddwn yn canolbwyntio'n fawr ar hyn dros y misoedd nesaf, ac yn ei ystyried fel bod modd rhoi'r cymorth gorau posibl i'n holl weithwyr proffesiynol ni, boed hynny'n hyfforddiant cychwynnol i athrawon, hyd at gymorth sy'n ymestyn dros yrfa gyfan. Felly, rydym yn adolygu ac yn ail gynllunio cyfnod sefydlu athrawon a chymorth cynnar mewn gyrfa, ochr yn ochr â dull cenedlaethol o hyfforddi a mentora. Rwy'n teimlo'n arbennig o gyffrous am ein gradd Meistr mewn Addysg ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn canolbwyntio ar benaethiaid ac athrawon yn ystod eu gyrfaoedd cynnar. Rwy'n hyderus y daw hyn yn dod yn batrwm rhyngwladol o arfer gorau, ac rwyf wedi bod mor falch o weld ein holl brifysgolion yn cydweithio arno.

Llywydd, i gloi: fel y dywed yr OECD, diolch i 'Ein cenhadaeth genedlaethol', mae gan Gymru weledigaeth glir i'n system ni ac i'n dysgwyr ni. Mae gennym gydlyniad, eglurder, ac rydym ar drywydd trawsnewidiad a fydd o fudd i ddysgwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae eu cyngor nhw o ran esblygu safbwynt yr ysgol fel ei fod yn arddel ein gweledigaeth genedlaethol ni, a sicrhau'r ddealltwriaeth gyflawn honno a rennir, yn hynod werthfawr. Fe wn i hefyd y bydd systemau ledled y byd yn elwa ar yr adroddiad hwn hefyd a'r cyngor sydd ynddo ac y byddan nhw'n gweld bod Cymru yn wlad sy'n camu ymlaen yn hyderus. Ac fe wn i fod yr hyder hwn yn cael ei rannu ar draws y system, ac rwy'n edrych ymlaen, wrth gydweithio dros y cyfnod hwn, at gyflawni ein huchelgeisiau cyffredin ni ar gyfer pob dysgwr. Diolch yn fawr.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:06, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog, am eich datganiad chi hefyd. Mae cryn dipyn ynddo, ac rwy'n siŵr na fyddaf i'n gallu ymdrin â phopeth yn llawn heddiw. A gaf i eich llongyfarch hefyd am allu rhoi'r datganiad hwn ar yr agenda o fewn oriau i'r adroddiad gael ei ryddhau o'r gwaharddiad? Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n defnyddio eich galluoedd dewiniol chi gyda Gweinidogion eraill er mwyn cael trafodaethau ar reoliadau yn gynt hefyd, oherwydd os ydych chi'n gallu gwneud hyn, rwy'n siŵr y bydden nhw'n gallu gwneud hynny hefyd.

Fel yr ydych chi'n dweud, nid oes unrhyw beth mawr annisgwyl yn yr adroddiad, ac mae rhywfaint o hynny yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano, yn fy marn i. Mae yna lawer ynddo am gynnydd, sydd i'w groesawu ac rydym yn gwerthfawrogi hynny, ac rwy'n diolch yn arbennig i chi hefyd am y sylwadau a wnaethoch am gefnogaeth i athrawon tua diwedd eich datganiad chi nawr. Ond, yn y pen draw, mae athrawon yn awyddus i gael gwybod sut i gyflawni'r cwricwlwm hwn, ac mae'r adroddiad yn eglur iawn bod llawer iawn i'w wneud eto ynglŷn â hyn a chaiff pryderon eu mynegi o hyd am gydlyniad—fe wn eich bod yn dweud bod canmoliaeth gref wedi bod i'r cydlyniad, ond fe geir cryn bryder yn ei gylch hefyd—yn sicr o ran cysondeb, o ran safonau, o ran y ddealltwriaeth o'r dull o gynnal asesiadau. Y dyfyniad a oedd yn peri gofid i mi yn hyn o beth oedd mai 'ychydig o dystiolaeth sy'n bodoli ar effaith syniadau mawr ar ganlyniadau dysgwyr.' Ac felly, fel y dywedais i, er bod llawer i'w groesawu yma, credaf fod rhywfaint o dystiolaeth yn peri pryder yn yr adroddiad hwn i gefnogi'r argymhellion ar gyfer eich cam nesaf chi.

Nid yw'r adroddiad, wrth gwrs, yn sôn dim am COVID ac rwy'n sylweddoli, Gweinidog, eich bod wedi dweud eich bod chi'n bwriadu symud ymlaen—nid gorffwys ar eich rhwyfau, rwy'n credu mai dyna a ddywedasoch chi—er gwaethaf COVID, ac nid wyf i'n credu y gallwn ni adael hyn fel 'er gwaethaf COVID'. Dyma'r drwg mawr yn y caws wrth gyflwyno'r cwricwlwm hwn. Fel y dywedodd pennaeth ysgol uwchradd Pencoed yn fy rhanbarth i fy hun pan wnaed y datganiad hwn, 'Fe aeth yn llwyr ar goll yn niwl COVID-19'.

Felly, sut wnaiff yr holl bartïon perthnasol yn hyn, y rhanddeiliaid, fynd i'r afael â'r argymhellion ar yr un pryd ag ymdopi â phwysau COVID, ac, wrth gwrs, yr ansicrwydd ynghylch a fydd gennym ni arholiadau ai peidio? Oherwydd rwyf i o'r farn os na allwch chi ateb y cwestiwn hwnnw, yna fe fydd yn rhaid inni ddechrau meddwl pa bryd y bydd yn realistig gweithredu hyn mewn gwirionedd.

Mae'r adroddiad yn gwbl eglur, fel y dywedwch, o ran mabwysiadu safbwynt yr ysgol, ac mae hyn yn ymwneud yn helaeth â sut mae ysgolion yn troi'r cwricwlwm o fod yn syniad gwych i fod yn rhywbeth gweithredol, oherwydd nid yw'r athrawon yn dymuno cyflwyno rhywbeth nad yw cystal ag y gallai fod, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud ers peth amser. Felly, ar wahân i'r cyfyngiad amser hwnnw, beth arall yn eich barn chi y mae'r athrawon yn nerfus yn ei gylch? A yw'r arweiniad yn yr adroddiad hwn, yr argymhellion yn yr adroddiad hwn, yn ddigon i leddfu'r pryderon ynghylch y gallu i gyflawni'r holl gamau nesaf hyn?

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y strwythurau diwygiedig ar gyfer gwella ysgolion ar waith. Roeddech chi'n crybwyll hynny gyda pheth manylder, ond roedd yn parhau i bwysleisio'r angen, o hyd, i flaenoriaethu gwella ysgolion. Ac nid wyf i'n eich beio chi am dynnu sylw at rai o lwyddiannau'r ddwy flynedd ddiwethaf, ond nid yw'r darlun mor ddeniadol ag yr ydych chi'n ei honni, er gwaethaf yr ymdrech lew gan ein haddysgwyr ni, oherwydd rydyn ni'n cytuno â'r OECD bod angen parhau i flaenoriaethu hyn. Er bod £100 miliwn yn cael ei wario ar wella ysgolion yn y tymor Seneddol hwn, rydym ni'n dal i fod yn dweud mai llai na hanner ein hysgolion uwchradd ni sydd o safon dda neu well, ac mae chwarter ohonyn nhw naill ai mewn cyflwr o ymyrraeth statudol uniongyrchol neu'n cael eu hadolygu rhag ofn eu bod nhw ar fin mynd i'r cyflwr hwnnw. Efallai fod ein canlyniadau PISA ni ychydig yn uwch na chyfartaledd yr OECD, ond nid y rheswm lleiaf am hynny yw bod y cyfartaledd hwn wedi gostwng ei hunan. Mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU o ran y rhai sy'n cael prydau bwyd ysgol am ddim wedi lleihau ychydig, ond nid cymaint ag yr oeddech chi wedi gobeithio—rwy'n credu y byddech chi'n dweud hynny eich hun, Gweinidog—ac mae'r bwlch yn agor eto wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, fel y gwyddom. Fe wyddom ni hefyd fod y bwlch cyrhaeddiad rhyngom ni a gwledydd eraill y DU o ran disgyblion nad ydyn nhw'n cael prydau ysgol am ddim, wrth gwrs, yn parhau i fod yn un enfawr. Felly, gan mai dim ond un rhan o'r rhaglen i ddiwygio addysg yw'r cwricwlwm, pa beth yn yr adroddiad hwn sy'n cyfeirio at fesurau a fydd yn datrys y mater hwn o wella ysgolion, sydd y tu hwnt i'ch cyrhaeddiad chi ar hyn o bryd, yn fy marn i?

Mae'r adroddiad yn sôn llawer am gydlyniad ac atgyfnerthu i gyflawni safonau cyson. Roeddech chi'n crybwyll fod yna rywfaint o dystiolaeth o hynny eisoes, ond mae llawer i'w wneud eto. Pa mor fawr yw'r perygl y bydd yr holl gydweithio amlbleidiol hwn yn rhy gymhleth yn y pen draw, yn arbennig felly gan y dylai, mewn gwirionedd, gynnwys mwy o athrawon, rhieni a'r gymuned? Ac os byddwn ni'n cadw at yr amserlen hon, a fyddwn ni mewn sefyllfa lle bydd raid i'r Llywodraeth, er gwaethaf ei dyheadau, fod yn fwy rhagnodol ynglŷn â'r dulliau o gyrraedd safonau cyson, er mwyn gyrru'r cwch i'r dŵr?

Ac yna'n olaf gennyf i—y mater o sut olwg fydd ar y cwricwlwm hwn i flynyddoedd 10 ac 11 a hyd yn oed y ddwy flynedd ddilynol, lle mae angen i'r cwricwlwm fod yn fwy nag eang a chytbwys yn unig, lle mae gofyn iddo fod yn ddigon dwfn i ddangos lefelau uchel o wybodaeth o leiaf mewn meysydd pwnc a sgiliau dadansoddi, nad yw'n rhywbeth sydd wedi cael llawer o sylw, yn ôl yr hyn a welais yn yr adroddiad hwn. Pwy sy'n cyd-ddatblygu'r rhan honno o'r cwricwlwm i rai rhwng 14 ac 16 oed, ac efallai hyd yn oed i rai rhwng 16 a 18 oed? Ble mae'r colegau Addysg Bellach yn sefyll yn hyn o beth, er enghraifft, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw gyflwyno rhywfaint o'r cwricwlwm hwn? Rwy'n credu ei bod hi'n drawiadol iawn na ddywedodd yr OECD ddim am addysgwyr y tu allan i'r system ysgolion, er gwaethaf y ffaith y bydd y cwricwlwm yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau ysgolion. Diolch. Neu os wnaethant hynny, mae'n rhaid fy mod i wedi ei fethu.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:12, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Suzy Davies am ei sylwadau a'i chwestiynau. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n hollbwysig i mi, ac nid wyf i'n dymuno bod yn rhy feirniadol, ond rwyf wedi bod yn y Senedd yn ddigon hir i fod wedi gweld llawer iawn o ymdrech, amser, egni ac adnoddau sydd wedi rhoi pwyslais yn aml ar sefydlu datganiadau polisi a dogfennau polisi teilwng iawn—mae deddfwriaeth, yn wir, yn aml yn sail i bethau o'r fath—ac yna, efallai, awgrym neu deimlad, pan fydd hynny wedi digwydd, fod y gwaith wedi ei orffen. Er mwyn i'r cwricwlwm fod yn llwyddiant, mae angen inni ganolbwyntio'n ddi-baid ar weithredu, a dyna pam y cafodd yr OECD ei gwahodd i adolygu'r gwaith, i'n rhoi ni ar ben y ffordd i sicrhau bod y gweithredu nawr yn dilyn yr egni a'r ymdrech sydd wedi bod i ddiwygio'r cwricwlwm hyd yn hyn. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau a'r argymhellion gan yr OECD ynglŷn â'r dull o gael y cam nesaf hwn, sydd yn fy marn i wedi bod ar goll yn y gorffennol—yn iawn.

Gofyn y mae Suzy Davies pa gamau y byddwn ni'n eu cymryd. Wel, yn gyntaf, fel y dywedais i yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o 'Ein cenhadaeth genedlaethol'. Mae'r Aelod yn ymwybodol bod gennym ni, yn fersiwn gyntaf 'Ein cenhadaeth genedlaethol', gynllun clir iawn o ddisgwyliadau ynglŷn â'r hyn oedd i'w ddisgwyl ym mhob rhan o'r system, a pha bryd y byddai'r gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau. A bydd ein fersiwn newydd ni'n adeiladu ar hynny, gan ystyried argymhellion yr OECD, ac, fel y dywedais i, yn amlinellu'r camau y mae angen eu cymryd, gan ein symud ni ymlaen i weithredu'n llwyddiannus.

Mae Suzy yn iawn i ganolbwyntio ar fater cydlyniad. Rwy'n credu bod hyn yn arbennig o bwysig o ran haen ganol system addysg Cymru, a chael dealltwriaeth glir o swyddogaethau a chyfrifoldebau pob aelod o'r haen ganol honno wrth gefnogi ysgolion i wireddu'r cwricwlwm newydd. Felly, mae hynny'n cynnwys popeth o'n hawdurdodau addysg lleol unigol, ein gwasanaethau gwella ysgolion, yr Academi Genedlaethol dros Arweinyddiaeth Addysgol a'n Cyngor Gweithlu Addysg. Mae angen i ysgolion wybod pa gymorth fydd ar gael a chan bwy i geisio am y cymorth hwnnw wrth iddyn nhw ddechrau ar daith unigol eu sefydliadau nhw eu hunain a datblygu eu cwricwlwm newydd. Yr allwedd i hynny yw diwygiad parhaus ein harolygiaeth ysgolion Estyn, sy'n symud tuag at system o ganolbwyntio llawer mwy ar gefnogi ysgolion yn hytrach nag, efallai, fel yr ystyrid yr arolygiaeth yn y gorffennol, fel rhywun sy'n dod, yn ffurfio barn ac yna'n diflannu, ac nad yw'n bresennol, mewn gwirionedd, i gefnogi ysgolion i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a nodir gan yr arolygiaeth gyda sefydliadau unigol.

Felly, fe fydd ein dogfen ni o ddisgwyliadau yn eglur iawn, ac fe gafodd ei datblygu drwy ddatblygu ar y cyd â'n grŵp addysg strategol ni. Rhan hanfodol o hynny fydd ein perthynas barhaus â'n sefydliadau addysg uwch, sy'n datblygu'n fawr iawn, yn enwedig y rhai sy'n darparu addysg gychwynnol athrawon; mae honno'n rhan hanfodol iawn o gefnogi ysgolion, gan symud ymlaen, a darparu cymorth unigol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae'n rhaid cyflwyno'r rhaglen dysgu proffesiynol mewn ffordd wahanol oherwydd COVID-19, ond, hyd yn oed gyda'r holl bwysau a straen ar y system, mae ysgolion yn parhau i gymryd rhan yn y dysgu proffesiynol hwnnw, lle bynnag y bo modd.

Felly, mae hynny'n dod â mi at fater effaith COVID-19 ar ein hamserlen o ddiwygio'r cwricwlwm. Yn amlwg, ar hyn o bryd, rydym yn credu bod modd inni barhau ar y daith i ddiwygio gyda'r amserlen a gyhoeddwyd, er ein bod yn cymryd camau drwy'r amser i sicrhau bod yr wybodaeth a'r gefnogaeth, a'n disgwyliadau ni o ysgolion, yn cael eu profi yn erbyn yr heriau o redeg ysgolion o ddydd i ddydd ar hyn o bryd. Felly, nid ydym yn ceisio llethu'r ysgolion, ond mewn gwirionedd rydym eisiau cynnig gwybodaeth a chymorth ychwanegol iddyn nhw mewn da bryd.

Yn gwbl briodol, unwaith eto, mae Suzy yn sôn am faterion codi safonau. Un o'r rhesymau pendant dros gyflwyno cwricwlwm newydd, ochr yn ochr â'n diwygiadau addysgol eraill ni, yw er mwyn codi safonau—codi safonau i'n holl fyfyrwyr ni, ond, yn benodol, sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad sy'n bodoli. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd a chredaf ei bod yn iawn cydnabod hynny, ond mae llawer mwy eto o gynnydd y mae angen ei wneud. Dyna pam rwy'n awyddus i beidio ag oedi cyn dechrau'r cwricwlwm newydd, oherwydd rwy'n credu bod y cwricwlwm yn rhan bwysig o'r agenda hon i godi safonau.

O ran addysg bellach, yn amlwg, y cwricwlwm yr ydym ni'n sôn amdano yw'r cwricwlwm 3 i 16 oed, ond mae iddo oblygiadau ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae addysg bellach wedi bod yn rhan o'r broses ddatblygu ar y cyd, gyda chynrychiolwyr Addysg Bellach yn rhan o bob un o'r grwpiau meysydd dysgu a phrofiad a gynullwyd i ddatblygu'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' a datblygu'r dogfennau ategol ar gyfer y cwricwlwm. Felly, rwy'n fodlon bod hynny wedi bod yn rhan o'r ystyriaeth wrth lunio'r cwricwlwm sydd ger ein bron ni ar hyn o bryd. Diolch, Llywydd.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:19, 6 Hydref 2020

Mae'n wir dweud bod adroddiad yr OECD yn un defnyddiol ac yn tynnu sylw at faterion pwysig a chreiddiol; materion a phryderon sy'n cael eu trafod eisoes ymhlith rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae'n wir i ddweud 'no surprises', fel dywed y Gweinidog Addysg, ond mae'r adroddiad yn tanlinellu, fodd bynnag, fod yna lawer iawn o waith i'w wneud, fod y materion a'r pryderon yn rhai byw iawn a bod angen cyflymu'r broses o hoelio'r sylw ar y rheini er mwyn osgoi methiant, a does yna neb ohonom ni eisiau gweld y cwricwlwm yn methu, wrth gwrs, nac oes.

Mae'r adroddiad yn dweud bod Cymru wedi mapio allan ei chynllun polisi yn llwyddiannus a bod y weledigaeth yn glir, ac mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r weledigaeth honno, ond mi rydym ni wedi dadlau yn gyson fod angen i'r weledigaeth honno wreiddio yn iawn yn ein hysgolion ni, ac mae'r adroddiad yn ategu hynny ac yn dweud bod y camau nesaf angen egluro'r weledigaeth a beth mae amcanion y cwricwlwm yn ei olygu i fyfyrwyr yn dysgu yn yr ysgol, sef egluro beth rydym ni'n trio ei wneud efo'r cwricwlwm newydd, beth ydy'n disgwyliadau ni efo'r cwricwlwm newydd, a sut mae mynd ati i gyfleu hynny i fyfyrwyr ac i rieni ac i gyflogwyr ac i'r gymuned gyfan yng Nghymru. Y ffordd mae'r OECD yn ei ddweud o ydy:

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:20, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

I sicrhau bod bwriadau'r cwricwlwm newydd yn trosi i ymarfer, mae'n hanfodol i Gymru fynd i'r afael â sawl mater, gan gynnwys diffyg dealltwriaeth ddofn o'r hyn y byddai gwireddu'r cwricwlwm yn llwyddiannus yn ei olygu yn ymarferol.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:21, 6 Hydref 2020

Felly, yn amlwg, mae eisiau hoelio sylw ar hynny, ar y diffyg cysylltiad rhwng y weledigaeth a'r ymarfer fydd yn ddisgwyliedig yn yr ysgolion. Does yna ddim dwywaith fod honno'n her fawr yn wyneb cyllid annigonol. Fel mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi'i danlinellu, does yna ddim digon o gyllid yn cyrraedd yr ysgolion. Felly, mae'r her o wreiddio'r cwricwlwm yn un anodd mewn sefyllfa felly, a hefyd, wrth gwrs, fel rydych chi wedi'i drafod, mae sgil effeithiau'r COVID yn gorfod cael sylw wrth inni drafod yr adroddiad yma ac wrth inni symud ymlaen efo'r cwricwlwm. Wrth gwrs, dydy'r adroddiad ddim yn cyfeirio at yr argyfwng iechyd presennol, ond mae angen cymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, yr hyn sy'n tynnu sylw'n hathrawon ni a'n penaethiaid ni, sef sgil effeithiau’r COVID, a hynny'n ddyddiol.

Ac rydych chi wedi cyffwrdd ar hyn, ond a gaf i bwyso chi ymhellach? Ydych chi yn ystyried a oes angen gohirio amserlen gweithredu'r cwricwlwm newydd? Dwi wedi clywed rhyw led awgrym ei fod yna bosibilrwydd y byddech chi'n fodlon ystyried hynny, felly dwi jest yn pwyso dipyn bach mwy ynglŷn ag ydych chi'n asesu beth fyddai effaith hynny ac ydy hwnnw'n rhywbeth rydych chi'n ei drafod ar hyn o bryd.

Mae'r adroddiad yn nodi bod perig i ysgolion a myfyrwyr sydd dan anfantais yn sgil materion cydraddoldeb gael eu gadael ar ôl, a dwi'n falch iawn o'ch gweld chi yn eich datganiad yn cyfeirio'n glir at hyn. Mae'r adroddiad yn dweud hyn, onid ydyw:

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:23, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Mae perygl y bydd anghydraddoldebau yn cynyddu oherwydd yr heriau y gall ysgolion difreintiedig eu gweld wrth roi'r cwricwlwm ar waith, sy'n pwysleisio'r angen i egluro'r adnoddau sydd ar gael i ysgolion.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Y broblem yma o ysgolion sydd mewn ardaloedd difreintiedig, ysgolion sydd ddim yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, y broblem a'r risg sydd iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio rhoi cwricwlwm hollol newydd ar waith. Felly, dwi eisiau sicrhad gennych chi y bydd cydraddoldeb yn y polisi yn cael mwy o amlygrwydd yn y trafodaethau am y cwricwlwm o hyn ymlaen. 

A'r trydydd pwynt, a'r pwynt olaf mewn ffordd, ydy'r diffyg eglurder sydd ynghlwm â'r fframwaith atebolrwydd a chymwysterau gadael yr ysgol. A dwi'n dyfynnu eto o'r adroddiad:

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:24, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

diffyg eglurder ynghylch y fframwaith atebolrwydd a'r cymwysterau gadael ysgol, sy'n creu perygl y gallai mesurau atebolrwydd ac asesu anghymwys danseilio'r cwricwlwm.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni yn Plaid Cymru wedi bod yn tynnu sylw ato fo dros y Sul, fel mae'n digwydd. Mae rhan o'r adroddiad yn nodi bod risg mawr y bydd dysgu ac addysgu oedran 14 i 16 yn cael ei wyro at gynnwys y cymwysterau yn hytrach na helpu myfyrwyr i gyrraedd pedwar pwrpas y cwricwlwm. Ac mi ydym ni yn Plaid Cymru yn grediniol fod angen ail-lunio'n cymwysterau ni—cymhwyster Cymreig i gyd-fynd efo cwricwlwm Cymru, efo llai o bwyslais ar arholiadau a mwy ar asesu parhaol.

Ydych chi felly yn cytuno efo fi bod angen erbyn hyn ymestyn sgôp y gwaith mae Cymwysterau Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, gan ehangu'r drafodaeth o'r un bresennol, sydd ynglŷn â sut i newid TGAU, i un mwy eang o lawer sydd yn trafod sut orau i asesu'r cwricwlwm newydd? Fyddwch chi'n fodlon arwain y drafodaeth yna a threfnu fforwm arbennig i edrych ar y mater yma, sydd yn cael tipyn o sylw, yn enwedig ar y fforwm Trydar ar hyn o bryd, ond mi fyddai'n wych cael chi yn arwain y drafodaeth mewn fforwm cenedlaethol i edrych ar y materion yna? Gwnaf i orffen yn fanna. Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:25, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau a'i chwestiynau. Llywydd, nid wyf yn ceisio dianc na chuddio rhag yr heriau sy'n ein hwynebu ni wrth inni symud i'r cam gweithredu. Fel y crybwyllodd Suzy Davies, pe byddem wedi bod yn amddiffynnol o'r hyn yr oedd gan yr OECD i'w ddweud amdanom ni, fe fyddem wedi gohirio cyflwyno'r adroddiad i Aelodau'r Senedd gael craffu arno. Rydym yn croesawu'r arweiniad gan yr OECD i sicrhau bod yr hyn a wnawn ni'n llwyddo.

Rwyf i o'r farn fod Siân Gwenllian wedi holi nifer o gwestiynau pwysig. Yn gyntaf, ynglŷn â'r amserlen, fel y dywedais i wrth ymateb i Suzy Davies, ar hyn o bryd, rydym yn credu ei bod yn dal yn bosibl symud at ddyddiad gweithredu yn 2022 ond, fel y croesawyd gan adroddiad yr OECD, roedden nhw'n ein canmol ni am sefydlu system o ddatblygu ar y cyd yng Nghymru o ran addysg. Nid yw'r Llywodraeth hon yn ymyrryd yng ngwaith yr athrawon; mae'n gwneud pethau ar y cyd â'r athrawon. A bydd hynny'n dal i'n harwain wrth inni fwrw ymlaen â'r gweithredu.

Yn amlwg, fe ofynnodd hi'r cwestiwn, 'A ydych chi'n asesu effaith COVID yn barhaus?' Credwch chi fi, rydym ni'n asesu'r effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar ein system addysg ni bob dydd ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny.

O ran cyfiawnder, fel y dywedais i yn fy natganiad, ni fydd yna unrhyw ddiben i'r cwricwlwm os nad ydym ni'n sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ble bynnag y bo, beth bynnag fo natur ei ysgol, a chyfrwng yr addysg a gaiff—ni fydd unrhyw ddiben i hynny oni bai bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fynd ar drywydd a chyrraedd ei uchelgeisiau yn llawn. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw y bydd angen mwy o gymorth ychwanegol ar rai ysgolion nag eraill. Efallai y bydd rhai ysgolion wedi cyrraedd ymhellach ar eu taith nhw i ddiwygio'r cwricwlwm. Efallai y bydd gan rai ysgolion lefelau uwch o ran y cynllunio ac arbenigedd cwricwlwm yn eu hysgolion nhw nag eraill. A dyna pam mae'n bwysig iawn, yn ein dogfen o ddisgwyliadau, ein bod ni'n glir ynghylch gwaith pwy yw hyn a chyfrifoldeb pwy yw darparu'r adnodd ychwanegol hwnnw i ysgolion, gan gydnabod bod gan ein hawdurdodau addysg lleol a'n gwasanaeth gwella ysgolion ac, yn wir, Estyn, swyddi penodol i'w gwneud i sicrhau bod pob ysgol yn barod, a chydnabod y bydd angen mwy o help ar rai ysgolion nag eraill wrth wneud hynny. Mae sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol yn un o amcanion y ddogfen disgwyliadau.

O ran 14 i 16 oed, yr un pryderon sydd gan yr OECD a minnau, yn y cyfnod diweddar mewn addysg—nid yw hyn yn rhywbeth penodol i system Cymru—mae asesu ar gyfer dysgu wedi bod ynghlwm wrth atebolrwydd y system yn rhy aml. Ac mae hynny wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol, lle mae mesurau atebolrwydd yn aml wedi sbarduno cyfres o ymddygiadau mewn ysgolion sydd, efallai, fel y dywedais, wedi cael canlyniadau anfwriadol. Gallai'r rheini fod yn rhwystredigaeth i'r plant rhag cyrraedd eu llawn botensial yn ôl natur y cymwysterau y'u cofrestrwyd ar eu cyfer neu gulhau'r cwricwlwm gan ganolbwyntio'n ddi-baid ar y craidd. Neu gallai olygu eithrio peth o'r creadigrwydd a rhai o'r pynciau eraill y mae plant yn eu gwerthfawrogi  ac yn eu mwynhau ac yn cael boddhad o'u hastudio. Felly, yn gyntaf oll, mae angen inni ddychwelyd at system sy'n cydnabod asesu ar gyfer dysgu a sut y gall asesiad athrawon fel hyn hebrwng plant ymlaen ar eu teithiau dysgu. Ac mae hynny'n wahanol i atebolrwydd. Nid oes unman heb unrhyw atebolrwydd; rwyf i'n atebol, ac mae pob Aelod unigol sy'n eistedd yn y Senedd yn atebol. Mae'r rhain yn gysyniadau sy'n gyfarwydd i bob un ohonom ni. Mae angen atebolrwydd yn ein system ni, ond ni ddylid ei ddrysu ag asesu ar gyfer dysgu.

Fe ddywed Siân Gwenllian fod angen cymhwyster Cymreig arnom ar gyfer cwricwlwm Cymru. Wel, fe fyddwn i'n dadlau bod gennym ni gymwysterau Cymreig ar hyn o bryd. Mae rhai ohonyn nhw'n hollol unigryw i Gymru, fel ein Bagloriaeth Cymru ni neu ein TGAU rhifedd mathemateg ni, ac, yn wir, y ffordd yr ydym ni wedi cadw ein Lefelau-AS, lle mae gennym elfennau o waith cwrs yn parhau yn ein TGAU, ac mae plant yn parhau i gael profion llafar mewn Cymraeg iaith gyntaf, Cymraeg ail iaith a Saesneg—pob un o'r rhain wedi diflannu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Ac, yn amlwg, mae adolygiad Cymwysterau Cymru o ddyfodol cymwysterau, a ddaeth yn ofynnol oherwydd ein diwygiad ni o'r cwricwlwm, yn bwysig. Fe hoffwn i atgoffa'r Aelod y mynegwyd cefnogaeth gref i gadw TGAU yng ngham cyntaf eu hymgynghoriad nhw. Mae'n frand sy'n gyfarwydd iawn i ddisgyblion, i rieni, i ysgolion, i fusnesau a sefydliadau addysg uwch. Ac fe hoffwn i atgoffa Siân Gwenllian pa mor aml yr wyf i wedi ateb cwestiynau yn y Siambr, pan mae pobl wedi codi pryderon am gydnabyddiaeth i gymwysterau Cymreig, weithiau gan brifysgolion dros y ffin, a'r ffaith bod Cymwysterau Cymru wedi gorfod cyflogi aelod ychwanegol o staff sy'n gweithio gyda sefydliadau addysg uwch y tu hwnt i Gymru, fel nad yw myfyrwyr Cymru dan anfantais.

Mae'r hyn sy'n hanfodol i mi yn mynd y tu hwnt i enw cymhwyster yn unig. Yr hyn sy'n hanfodol i mi yw bod yna werth i gymhwyster, ei fod yn caniatáu i blant Cymru gyflawni eu huchelgeisiau, boed hynny'n fynychu colegau addysg bellach, ennill prentisiaeth, dechrau yn y byd gwaith, y tu draw i'n ffiniau ni efallai i astudio mewn sefydliadau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, mewn mannau eraill yn y byd yn wir. Ni fydd neb yng Nghymru yn diolch inni am greu system o gymwysterau sydd, mewn rhyw ffordd, yn lleihau'r gwerth hwnnw. Ac rwyf i o'r farn mai dyna sydd raid i ni ganolbwyntio arno.

Ond fe fyddwn i'n cytuno â'r Aelod, sut olwg bynnag fydd ar y cymwysterau hynny, na ddylen nhw bennu cynnwys y cwricwlwm.  Cynnwys y cwricwlwm a ddylai bennu'r cymhwyster, ac weithiau—ac rwy'n credu y bydd hon yn un o'r trafodaethau y bydd yn rhaid inni barhau i'w chael gyda'r system—mae'n peri pryder i mi weithiau, y cwestiwn hwnnw ynghylch, 'Os dywedwch chi wrthyf beth fydd yn y fanyleb ar gyfer yr arholiad, yna fe wnaf innau gynllunio'r cwricwlwm.' Mae angen cynllunio ein cwricwlwm yn gyntaf, ac yna deall sut y byddwn ni'n ei asesu. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:32, 6 Hydref 2020

Diolch i'r Gweinidog. Fe fydd yna doriad byr nawr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:32.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:41, gyda David Melding yn y Gadair.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:41, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Gawn ni drefn, gawn ni drefn. Mae'r Senedd yn eistedd drachefn.