Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 6 Hydref 2020.
Y broblem yma o ysgolion sydd mewn ardaloedd difreintiedig, ysgolion sydd ddim yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, y broblem a'r risg sydd iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio rhoi cwricwlwm hollol newydd ar waith. Felly, dwi eisiau sicrhad gennych chi y bydd cydraddoldeb yn y polisi yn cael mwy o amlygrwydd yn y trafodaethau am y cwricwlwm o hyn ymlaen.
A'r trydydd pwynt, a'r pwynt olaf mewn ffordd, ydy'r diffyg eglurder sydd ynghlwm â'r fframwaith atebolrwydd a chymwysterau gadael yr ysgol. A dwi'n dyfynnu eto o'r adroddiad: