Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am y croeso y mae wedi'i roi i'r ddogfen a'r ymyriadau a ddisgrifir ynddi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwy'n credu y gellid crynhoi ei sylwadau mewn dau bwynt bras, ac rwy'n gobeithio nad wyf yn gwneud anghymwynas drwy wneud hynny. Yn gyntaf, ein hatgoffa bod angen ystyried cynnwys y ddogfen ochr yn ochr â'r her iechyd cyhoeddus y mae COVID yn amlwg yn ei chynrychioli bob dydd yn ein bywydau, ac mae cyd-destun hynny'n gyd-destun sy'n newid. Credaf iddi grybwyll y cyd-destun ei hun, a chredaf ei bod yn bwysig cadw hynny mewn cof, ac rwy'n cydnabod y sylw y mae hi'n ei wneud am y pryderon y mae pobl ledled Cymru'n eu teimlo ynghylch byw drwy'r cyfnod hwn a byw drwy gyfyngiadau symud ac ati.
Felly, credaf mai'r dasg y mae'r ddogfen yn ceisio'i chyflawni yw ymateb i'r hyn a wyddom ni eisoes yw effaith COVID, ochr yn ochr â'r dasg o ymateb yn fwy beunyddiol i rai o'r heriau hynny. Ond mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw hefyd. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld—ac nid ydym ni wedi dilyn y llwybr hwnnw yng Nghymru—yw math o ddull adweithiol, sydd efallai wedi bod yn nodwedd mewn mannau eraill. Rydym ni wedi ceisio ymateb i COVID yn ei amryfal ffurfiau mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi ei raglennu a'i gynllunio, a dyna ddyfodol y ddogfen hon hefyd: mae'n ymgais i edrych ymlaen yn ogystal â dechrau'r gwaith ailadeiladu nawr.
Mae hi'n gwneud sylw arall, a chredaf ei fod wedi'i fwriadu fel beirniadaeth. Dweud y mae hi fod rhai ymyriadau yma a allai, yn ei geiriau hi, fod wedi digwydd beth bynnag, a chredaf—y pwynt yr oeddwn yn ei wneud i Aelod yn gynharach yw y bu llawer o'r ymyriadau hyn ar waith eisoes. Os yw hi'n edrych ar y rhan o'r ddogfen sy'n sôn am yr ymyriadau yn y cyfnod yn union ar ôl COVID, bydd yn adnabod nifer o bolisïau cyfarwydd yno, a, thrwy gydol y pandemig, rydym ni wedi parhau i fynd i'r afael â llawer o'r heriau hyn y gwyddom ni sydd wedi bodoli ers peth amser drwy flaenoriaethu rhannau o'n rhaglen lywodraethu sy'n ymdrin yn fwyaf penodol â'r rheini.
Ond rwy'n credu—a gobeithio y bydd hi'n derbyn hyn—mai yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yw dealltwriaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd at ei gilydd o anferthedd y materion hyn a brwdfrydedd—mwy o frwdfrydedd efallai, os caf i ddweud hynny—i fynd i'r afael â nhw. Ac yn sicr mae COVID wedi dangos i ni ble mae'r anghydraddoldebau hynny wedi bodoli yng Nghymru, ond rwyf eisiau pwysleisio wrthi ein bod wedi ymafael â'r dasg hon drwy ofyn i bobl yng Nghymru beth sydd bwysicaf iddynt ond yng ngoleuni'r egwyddorion y buom yn eu harddel fel Llywodraeth drwyddi draw, sef cyfiawnder economaidd, cyfiawnder amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol, a dyna wedyn sy'n rhoi'r ystod o flaenoriaethau ac ymyriadau i chi a nodir yn y ddogfen.