– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 6 Hydref 2020.
Symudwn at eitem 4, sy'n ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19—heriau a blaenoriaethau. Galwaf ar Jeremy Miles.
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pob un ohonom ni mewn sawl ffordd. Mae wedi cael effaith ddwys ar ein heconomi, ar ein cymdeithas a'n cymunedau, a bydd hynny yn parhau. Mae'r feirws yn dal i gylchdroi ac rydym ni'n sylweddoli gymaint yw'r gofyn ar bobl Cymru o hyd, ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu hymdrechion parhaus i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.
Wrth inni barhau i reoli'r feirws, mae'n bwysig ein bod yn ymateb hefyd i'r effaith hir dymor sy'n debygol ac yn cynllunio at y dyfodol. Mae ein hymateb i'r pandemig wastad wedi bod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Dyna hefyd sut yr awn ati i ail-greu.
Rydym ni wedi dechrau sgwrs genedlaethol ynglŷn â sut y dylai Cymru edrych yn y dyfodol. Fe wnaethom ni ofyn i aelodau'r cyhoedd gysylltu â ni i ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig iddyn nhw ar gyfer y dyfodol, a chawsom dros 2,000 o sylwadau gan unigolion, gan sefydliadau cymunedol, elusennau, busnesau a chyrff cynrychioliadol. Rwyf wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gyda phobl o grwpiau cymunedol, y trydydd sector, awdurdodau lleol, undebau llafur, busnesau, academyddion, pobl ifanc, ynghyd â sefydliadau cynrychioliadol o Gymru, rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol.
Bydd aelodau'r Senedd hefyd yn ymwybodol fy mod wedi sefydlu grŵp cynghori o arbenigwyr, sydd â phedwar aelod sefydlog: Torsten Bell, o'r Resolution Foundation; Rebecca Heaton, sy'n cynrychioli Cymru ar Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ac sy'n arwain ar newid yn yr hinsawdd yn y Drax Group; Paul Johnson, sy'n bennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; a Miatta Fahnbulleh, sy'n arwain y Sefydliad Economeg Newydd; a bu pumed aelod gwahanol yn bresennol ym mhob sesiwn, gan ddod â phrofiad a gwybodaeth o sector penodol neu o fath arall sy'n berthnasol i'r mater sy'n cael ei drafod.
Yn y cyfarfodydd bord gron fe ystyriwyd ystod eang o faterion i'n helpu i gloriannu ble fyddai orau i ni flaenoriaethu ein hymdrechion, o ystyried maint yr her sy'n ein hwynebu. Bu'r cyfarfodydd yn hynod ddefnyddiol ac mae'r safbwyntiau a gyflwynwyd yn y trafodaethau hyn wedi llywio datblygiad ein blaenoriaethau. Maen nhw hefyd wedi ailddatgan i ni fod ein pryderon presennol—yr argyfwng hinsawdd, effaith ddamniol tlodi, yr angen i addasu i newid economaidd cyflym a phwysigrwydd ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus i'w gwneud yn fwy ymatebol a hygyrch—a'n gwerthoedd a'n hamcanion o Gymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach yw'r rhai cywir i'n cenedl er mewn cyd-destun newydd. Drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi cael ein harwain gan y weledigaeth honno ac, er gwaethaf heriau'r pandemig, rydym ni wedi parhau i flaenoriaethu cyflawni'r camau gweithredu yn ein rhaglen lywodraethu a fydd yn cael yr effaith ymarferol fwyaf.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad: 'Ailadeiladu ar ôl COVID-19—Heriau a Blaenoriaethau'. Mae'r adroddiad yn nodi meysydd allweddol lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion a'n hadnoddau ar gyfer ailadeiladu er mwyn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol i Gymru.
Gan gydnabod ein bod yn dechrau ar gyfnod heriol iawn i'r farchnad swyddi, sy'n debygol o fod yn arbennig o anodd i bobl ifanc, byddwn yn canolbwyntio ar gadw pobl mewn swyddi a chreu swyddi newydd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau diweithdra a rhoi'r cyfle gorau i bawb ddod o hyd i waith teilwng gyda rhagolygon hirdymor ac i allu cadw'r gwaith hwnnw, gan ychwanegu gwerth at raglen Kickstart Llywodraeth y DU. Byddwn yn gweithio gydag undebau llafur, cyflogwyr, ysgolion a cholegau i roi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau ac i feithrin rhai newydd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal ein pobl ifanc rhag bod ar eu colled yn addysgol neu'n economaidd oherwydd effeithiau'r coronafeirws a dirywiad economaidd nad oes unrhyw fai arnyn nhw amdano. Byddwn yn cefnogi ein holl bobl ifanc i aros mewn addysg ac i ddal i fyny yn yr ysgol ac yn y coleg. Hefyd, byddwn yn sicrhau bod grwpiau arbennig o ddifreintiedig, gan gynnwys aelodau o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
Byddwn yn bwrw iddi i adeiladu mwy o dai cyngor a thai cymdeithasol fel bod mwy o dai o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru, gan fuddsoddi yn enwedig mewn nifer sylweddol o dai carbon isel ac uwchraddio'r stoc dai, yn enwedig tai cymdeithasol, i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac i leihau tlodi tanwydd. Bydd hyn yn arwain at fanteision mewn tri maes: yn rhoi hwb economaidd; yn galluogi mwy o bobl i fyw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus; a chyfrannu at ddatgarboneiddio.
Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad yng nghanol ein trefi lleol er mwyn helpu i adeiladu cymunedau cryf ac i fanteisio ar sut y mae'r coronafeirws wedi ail-ganolbwyntio bywydau pobl ar y cymunedau lle maen nhw'n byw, gan gynnwys darparu gwell mynediad i fannau agored, creu canolfannau gweithio o bell, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch. Gan gydnabod ein bod yn parhau i fynd i'r afael â heriau mawr eraill, byddwn yn parhau i ymateb yn egnïol i'r argyfwng yn yr hinsawdd drwy ddilyn agenda datgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau'r dyfodol, a diogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.
Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy newid patrymau gweithio a theithio i adeiladu ar yr arbrofi a fu gyda thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n ymateb i'r galw a rhoi pwyslais clir yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd ar leihau'r angen i deithio, lledaenu'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfartal drwy'r dydd, a galluogi teithio llesol fel buddsoddiad mewn iechyd cyhoeddus. Byddwn yn canolbwyntio ar yr economi beunyddiol neu sylfaenol ac yn cefnogi twf ac annibyniaeth busnesau sydd â phencadlys yng Nghymru er mwyn meithrin cadernid economi Cymru yn wyneb y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio'r UE. Byddwn yn cefnogi'r GIG i wneud iawn am yr oedi a fu o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â'r coronafeirws.
Ym mhob un o'r wyth blaenoriaeth hyn ac ym mhopeth a wnawn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng, gan gynnwys plant a phobl ifanc, menywod, y rhai mewn gwaith ansicr ac sy'n talu'n wael, pobl o gefndir du a lleiafrifol ethnig a phobl anabl. Mae'r pecyn hwn yn fodd o ailadeiladu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i lywio gan brofiadau pobl Cymru ac yn un a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach.
Diolch, Gweinidog, am gopi o'ch datganiad cyn y sesiwn y prynhawn yma. Rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad 'Ailadeiladu ar ôl COVID-19—Heriau a Blaenoriaethau'. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud ynglŷn â faint o ymgysylltu y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn cynhyrchu'r ddogfen honno, ac rwy'n croesawu llawer iawn o'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi o ran pethau yr hoffai eu cyflawni wrth symud ymlaen. Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu bod pethau yr hoffwn i ofyn rhai cwestiynau i chi amdanynt.
Sylwaf eich bod yn cyfeirio at yr angen i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion yng Nghymru ar gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan argyfwng COVID-19. Rhestrwyd pob math o unigolion—plant, pobl ifanc, menywod, y rhai mewn gwaith ansicr ac ar gyflog gwael, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl—ond yr un grŵp na wnaethoch chi amdano oedd pobl hŷn, ac, wrth gwrs, gwyddom i gyd fod effaith y pandemig ar bobl hŷn, yn anffodus, wedi bod yn llawer mwy difrifol nag ar grwpiau eraill mewn cymdeithas. A wnewch chi ddweud wrthyf a oes rheswm pam nad oes fawr ddim sôn am bobl hŷn—dim sôn o gwbl yn eich datganiad ac ychydig iawn yn y ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi heddiw?
Rydych chi hefyd wedi dweud yr hoffech chi sicrhau y caiff swyddi pobl eu diogelu lle bo'n bosib, ac y gall pobl ifanc yn arbennig gael gwaith, a byddwn yn adleisio'r sylwadau hynny'n fawr iawn. Ond mae pryder cynyddol ledled Cymru bod rhai o'r cyfyngiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith yn anghymesur â maint y risg yng nghymunedau pobl. Ydych chi'n derbyn bod perygl y bydd mwy o bobl ifanc yng Nghymru yn ddi-waith o ganlyniad i rai o fesurau Llywodraeth Cymru a'i bod hi'n anodd iawn, mewn gwirionedd, i aelodau'r cyhoedd benderfynu a yw'r hyn a wnaed hyd yma yn gymesur, oherwydd diffyg data manwl fesul cymuned sydd ar gael ac wedi eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill.
A gaf i hefyd ofyn am fynediad at welliannau o ran ein stoc dai? Rwy'n amlwg yn deall pam y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar geisio gwella'r stoc tai cymdeithasol. Mae'n hawdd cymell landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda grantiau i ôl-osod cyfarpar yn yr eiddo hynny, ond mae'n amlwg bod angen i ni hefyd annog pobl sy'n berchen ar eu cartrefi eu hunain i fynd ati i wella eu heiddo hefyd. Mae gan Lywodraeth y DU, wrth gwrs, ei chynllun grant cartrefi gwyrdd, sy'n hael iawn, ac mae llawer o bobl yn manteisio ar y cyfle i fanteisio ar hynny ar hyn o bryd, ond nid oes gennym ni gynllun cyfatebol yma yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt ar hynny ac a oes ffordd y gallwch chi hybu pobl i fuddsoddi yn eu cartrefi a'u heiddo eu hunain drwy eu cymell gyda chyfraniad o goffrau'r Llywodraeth yn y ffordd y mae'r grant cartrefi gwyrdd yn ei wneud yn Lloegr?
A gaf i hefyd godi pryderon gyda chi ynglŷn â faint y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi i wella canol trefi? Byddwch yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gronfa adfer ar ôl COVID gwerth £250 miliwn, sydd, yn amlwg, yn fuddsoddiad llawer mwy na'r arian sydd wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canol trefi hyd yma. A allwch chi roi syniad inni o faint y buddsoddiad yng nghanol trefi yn y dyfodol o ganlyniad i'ch cynllun?
Ac yn olaf—o, mae gennyf i ychydig mwy o amser nag yr oeddwn yn ei feddwl. Os caf i hefyd, felly, sôn am drafnidiaeth gyhoeddus. Sylwaf eich bod yn annog pobl i newid eu patrymau gwaith. Bydd hynny'n amlwg yn lleihau'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'r rheswm pam yr ydych chi wedi dewis targed o 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio gartref y tu hwnt i mi; nid wyf yn hollol siŵr pam yr ydych chi wedi penderfynu tynnu'r ffigur hwnnw o'r awyr neu ble mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny. Ond dyna'r targed yr ydych chi wedi'i osod. Yn amlwg, os bydd mwy o bobl yn gweithio gartref, bydd llai o alw am drafnidiaeth gyhoeddus, a fydd yn gwneud llawer o lwybrau'n llai hyfyw. Nawr, rydych chi wedi sôn am geisio lledaenu'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus drwy'r dydd. Gallaf ddeall hynny ar y llwybrau prysur hynny lle mae gennym ni rywfaint o orlenwi, yn enwedig ar ein gwasanaethau trên, ond beth fydd hyn yn ei olygu o ran llwybrau bysiau? Rwy'n bryderus iawn, oherwydd mae pobl hŷn, yn amlwg, yn defnyddio gwasanaethau bysiau lawer iawn mwy na phobl eraill, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru lle nad oes ganddyn nhw gludiant arall ac efallai nad oes ganddyn nhw gar. Felly, pa waith ydych chi'n ei wneud i nodi'r llwybrau hollbwysig hynny y mae pobl hŷn yn arbennig yn dibynnu arnynt yn y mathau hynny o gymunedau?
Fe wnaethoch chi sôn hefyd bod angen i'r gwasanaeth iechyd gwladol wneud iawn am y gohirio a fu ar drin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â'r coronafeirws, ac eto nid wyf wedi gweld un ateb yn y ddogfen o ran sut yr ydych yn mynd i ymdrin â'r ôl-groniad o apwyntiadau. Unwaith eto, pobl hŷn yn fwy na neb arall—
All hyn fod eich sylw olaf, Darren?
—y mae'r ôl-groniad hwnnw yn effeithio arnynt ac y mae eu hansawdd bywyd yn dioddef o ganlyniad iddo. Felly, a gaf i ofyn beth gaiff ei wneud yn benodol ac yn bwrpasol er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad penodol hwnnw? Diolch ichi am eich goddefgarwch.
Diolch i Darren Millar am yr ystod bwysig yna o gwestiynau, a chroesawaf ei gefnogaeth i'r ymgysylltu a'r pwyslais y mae'r ddogfen yn ei ddisgrifio, a'r ymgysylltu â phobl yng Nghymru sydd wedi helpu'n fawr i lunio'r blaenoriaethau a'r pwyslais y mae'r ddogfen yn eu disgrifio. Mae'n gywir wrth ddweud yr effeithiwyd ar bobl hŷn yn anghymesur mewn sawl ffordd o ran y pandemig yma o'r coronafeirws. Rydym ni wedi trafod yr union broblem honno gyda'r comisiynydd pobl hŷn, er enghraifft, ac fel y mae'r ddogfen yn ei gwneud hi'n glir, bydd y rhai yr effeithiwyd fwyaf andwyol arnynt yn elwa o'r ymyriadau y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno. Bydd pobl hŷn yn elwa ar yr ystod o ymyriadau, boed hynny'n gymorth i wasanaethau cyhoeddus, i'r trydydd sector ac ystod o ymyriadau eraill a ddisgrifir yn y ddogfen.
Mae'n codi pwynt pwysig iawn am bobl ifanc a'u rhagolygon cyflogaeth. Gobeithio y bydd yn cydnabod bod y ddogfen yn rhoi cryn bwyslais ar ba mor arwyddocaol yw hynny fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac adlewyrchir hynny yn yr ystod o ymrwymiadau yn y ddogfen o ran cefnogi pobl ifanc i wella eu sgiliau hyfforddiant, i'w cefnogi wrth eu gwaith, ac yn wir i'w cefnogi mewn prentisiaethau. Felly, mae amrywiaeth o ymyriadau penodol o ran pobl ifanc mewn cyflogaeth, i ychwanegu gwerth, mae'n debyg, at rai o'r ymyriadau sy'n digwydd ar lefel y DU gyfan, yn enwedig y cynllun Kickstart, ac i ategu rhywfaint o hynny mewn ffordd sy'n ychwanegu gwerth pellach i bobl ifanc, i sicrhau nad ydynt yn cario'r baich hwn gyda nhw drwy gydol eu hoes waith, sef rhywbeth y gallent ei wneud fel arall.
Mae Darren Millar yn codi pwynt pwysig am arwyddocâd ôl-osod ar gyfer y stoc dai. Nid wyf eisiau tresmasu ar gyhoeddiadau'r Gweinidog tai yn y maes hwn yn y dyfodol, ond yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed yn y trafodaethau a gawsom ni yw ei bod hi'n bwysig gallu gweithredu ar raddfa mewn ffordd sy'n ein galluogi i ysgogi rhannau o'r economi i gynhyrchu cyflenwad o wasanaethau yn y sector pwysig hwn. Ac mae hynny'n bwysig, oherwydd mae'r gyfres o ymyriadau ynghylch uwchraddio ynni a thai gwyrdd yn y ddogfen yn bodloni nifer o amcanion polisi, yn amlwg o ran effeithlonrwydd ynni, yn amlwg o ran tlodi tanwydd, ond hefyd ystod ehangach o effeithiau sy'n gysylltiedig ag ysgogiad economaidd a datblygu cadwyn gyflenwi a chadwyn cyflenwi sgiliau. Yr asesiad a wnaethom ni fel Llywodraeth yw mai'r ymyriad a ddisgrifir yn y ddogfen sydd â'r cyfle gorau i gyflawni'r ystod honno o amcanion.
O ran gwella canol trefi, fel y mae'n gweld, mae hynny'n flaenoriaeth sylweddol. Bydd y Gweinidog cyllid yn gwneud datganiad yn fuan ynghylch faint yw'r ymrwymiad ariannol o ran yr ymyriadau polisi yn y ddogfen hon yn fwy cyffredinol. O ran trafnidiaeth gyhoeddus, bydd wedi sylwi yn y ddogfen ar y symiau sylweddol o arian y mae'r Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi'u darparu i drafnidiaeth gyhoeddus eisoes, yn enwedig yng nghyswllt gwasanaethau bysiau, am y rheswm y mae Darren Millar yn ei roi yn ei ddatganiad. Credaf y bydd hefyd wedi sylwi bod y ddogfen yn sôn am bwysigrwydd trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw fel dewis ar gyfer y dyfodol, y gwn yn sicr y bydd llawer o bobl hŷn yn fy etholaeth fy hun, a chredaf yn ei etholaeth ef, yn ei groesawu fel ffordd o ddarparu trafnidiaeth hyblyg na fyddai ar gael fel arall.
Yn olaf, o ran y pwyntiau a wnaeth am y GIG, byddwn yn ei gyfeirio at y trafodaethau yn gynharach yn y Siambr gyda'r Prif Weinidog ynglŷn â hynny, a hefyd at gynllun diogelu'r gaeaf y mae'r ddogfen yn cyfeirio ato. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, yn hapus i ymhelaethu ar hynny pan fydd nesaf yn y Siambr.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am ddarparu copi o'r adroddiad ymlaen llaw. Dwi'n ddiolchgar hefyd iddo am gytuno i ryddhau popeth yn gyhoeddus.
Mae'r adroddiad yn un swmpus, sy'n cynnwys nifer o ymrwymiadau gwario y bydd angen i'n plaid ni eu dadansoddi yn ofalus, ond o ran y blaenoriaethau mae'r Llywodraeth wedi'u gosod, maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn eu harddel, a dwi'n croesawu nifer fawr iawn o'r argymhellion. Yn wir, mae nifer o'r camau yma yn rhai rydym eisoes wedi galw amdanynt, er enghraifft yr angen i wneud popeth er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn ddioddef sgil-effeithiau hirdymor o ran eu haddysg, eu hiechyd a'u sefyllfa economaidd oherwydd sefyllfa lle nad oes bai arnyn nhw o gwbl. Mae'r pandemig wedi effeithio ar bobl o bob oedran mewn ffyrdd creulon, ond mae'n bwysig nad yw pobl ifanc yn colli allan ar ran hynod bwysig o'u datblygiad cymdeithasol oherwydd y cyfyngiadau sy'n eu hatal rhag gallu cymdeithasu â chyfoedion a datblygu yn addysgiadol.
Mae'r adroddiad yn nodi'r angen hefyd i sicrhau bod pobl ifanc sydd eisoes dan anfantais oherwydd annhegwch strwythurol yn cael cymorth ychwanegol. A fyddai'r Gweinidog yn gallu rhoi manylion ynglŷn â sut bydd y gefnogaeth yna yn cael ei rhoi, a sut byddwch yn sicrhau ei bod yn cyrraedd y bobl iawn, os gwelwch yn dda? Hefyd, allai e ddweud sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynnig gobaith am y dyfodol i bobl ifanc a myfyrwyr, yn sgil y ffaith eu bod nhw wedi colli allan ar y profiadau yna roeddwn i'n eu gosod mas? Mae'r adroddiad yn nodi'r angen i geisio lleihau diswyddiadau gymaint â phosib, yn ogystal â chreu swyddi newydd. Wrth gwrs, mae'n amhosibl gwybod ar hyn o bryd beth fydd maint y broblem, ond mae'n hanfodol bod rhaglenni a chynlluniau yn cael eu sefydlu cyn gynted â phosib, a dwi'n siŵr bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny.
Rwy'n deall y rhesymeg o geisio ychwanegu at fenter Kickstart Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ond a all y Gweinidog gadarnhau ei fod yn bwriadu gwneud hyn mewn modd sy'n mynd i'r afael â gwendidau'r fenter honno? Er enghraifft, a fydd yn rhoi pwyslais ar ddarparu cyfleoedd hyfforddi, cefnogi busnesau bach a cheisio darparu gyrfa tymor hir i weithwyr, yn hytrach na dim ond ateb tymor byr fydd ddim yn arwain at ddatblygiad gyrfaol? A all y Gweinidog hefyd roi esboniad am y ffigurau sydd yn yr adroddiad yn hyn o beth? Mae'n nodi y bydd £2.4 biliwn i'r gronfa cadernid economaidd, ond dim ond £40 miliwn ar gyfer darparu swyddi. A all e gadarnhau faint o'r gronfa yna fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cadw pobl mewn gwaith a hefyd sut bydd gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi, os gwelwch yn dda?
Un peth oedd ar goll yn natganiad y Gweinidog, ond rwy'n cydnabod ei fod yn cael ystyriaeth yn yr adroddiad, yw'r angen dirfawr i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd meddwl sydd yn siŵr o ddatblygu a gwaethygu fel y mae amser yn mynd yn ei flaen. Mae'r adroddiad yn sôn am raglen fawr o gymorth iechyd meddwl i blant, ac rwy'n croesawu hynny, ond a all y Gweinidog roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â sut bydd y Llywodraeth yn cyflawni hyn, o ystyried y methiannau enbyd o fewn y system gymorth iechyd meddwl oedd yn bodoli cyn y pandemig ei hunan? Sut fyddwch chi'n cynyddu'r ddarpariaeth sydd ar gael i'r lefel angenrheidiol mor gyflym?
Mater arall sydd angen ei flaenoriaethu ydy cymorth i'r celfyddydau. Roedd sylwadau'r Canghellor heddiw yn dweud wrth artistiaid i ganfod swyddi eraill yn warthus, a gyda chymhelliant gwleidyddol, yn fy marn i. Rwy'n croesawu, felly, y gronfa o £53 miliwn i gefnogi'r sector, a byddai'n ddefnyddiol clywed asesiad y Gweinidog ynghylch sut y bydd yn sicrhau bod yr arian yma yn cyrraedd y bobl a'r sefydliadau sydd ei angen mewn da bryd. Mae'r un peth yn wir am gefnogaeth i brifysgolion, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau parhaus â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol, oherwydd mae ein prifysgolion yn hanfodol bwysig o ran lles deallusol ein cenedl.
Nawr, mae nifer o rannau eraill o'r adroddiad yr hoffwn i siarad amdanyn nhw mewn manylder, er enghraifft y cynlluniau i adeiladu tai, sefydlu hubs cymdeithasol i bobl weithio ynddynt, rheoli tir er budd cymunedol, trafnidiaeth gyhoeddus—rhai o'r pethau mae'r Gweinidog wedi ymateb yn eu cylch yn barod—a newid hinsawdd, ond does dim modd siarad mewn manylder am bopeth. Hoffwn argymell, felly, i'r Gweinidog ystyried perswadio ei gyd-aelodau Cabinet i roi datganiad ynghylch y cynlluniau ôl-COVID yma yn eu meysydd unigol, er mwyn galluogi Aelodau i graffu ar y cynlluniau eang yma mewn modd priodol.
Ac i gloi, mi wnaf i holi un cwestiwn arall: sut mae'r broses o wneud y gwaith yma wedi newid meddwl y Gweinidog ynghylch beth ddylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud? Ac a oes gwersi pwysig wedi eu dysgu ynghylch yr angen i greu cymdeithas ac economi ar seiliau mwy gwydn ar gyfer y dyfodol? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am yr ystod eang o gwestiynau hynny sy'n cyffwrdd ar y ddogfen yn gyfan gwbl. Jest ar y pwynt y gwnaeth hi gloi arno fe, mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r siwrnai dros y cyfnod nesaf, ond bydd datganiad wrth y Gweinidog cyllid nesaf ynglŷn â'r cyllid, ac wedyn bydd Gweinidogion yn gwneud datganiadau pwrpasol ynglŷn â phethau maes o law. Felly, bydd cyfle eto i ddatganiadau ac ati yn y meysydd hynny.
O ran yr hyn rŷn ni wedi ei ddysgu'n gyffredinol, wrth gwrs mae amryw o'r sialensiau yma yn sialensiau cyfarwydd. Yr hyn sydd wedi digwydd, rwy'n credu, yw bod brwdfrydedd ehangach a dealltwriaeth ddyfnach ymhlith y cyhoedd, efallai, ar lefel y sialensiau a'r parodrwydd, felly, i fynd i'r afael â nhw. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn newid eu cyd-destun nhw o'n safbwynt ni i gyd, am wn i. Fuaswn i yn dweud bod yr ymateb rŷn ni wedi ei gael i'r ymgynghoriad gan y cyhoedd a'r mudiadau ac ati wedi adlewyrchu—ar lefel fras, hynny yw—yr egwyddorion a'r blaenoriaethau efallai oedd gyda ni fel Llywodraeth cyn hynny. Rŷn ni wedi parhau trwy gyfnod y pandemig i allu blaenoriaethu yr elfennau hynny o'r rhaglen lywodraethu sydd yn cael yr impact fwyaf ar bobl yn y meysydd hyn, felly mae hyn yn adeiladu efallai ar hynny, gydag amryw o syniadau newydd, ond hefyd yn pwysleisio rhai o'r pethau yna rŷn ni wedi gallu eu gwneud.
O ran y pethau y gwnaeth hi sôn amdanyn nhw yn benodol, yn sicr mae angen cynnig gobaith i bobl ifanc ac i gydnabod bod plant a phobl ifanc wedi cario rhan sylweddol o'r baich yn y cyfnod diwethaf. Felly, mi wnaeth hi sylwi ar y buddsoddiad yn yr ysgolion a'r buddsoddiad mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac mae hynny'n cynnwys—. Mi wnaeth hi sôn am iechyd meddwl. Mae hynny'n cynnwys cronfa i gefnogi pobl yn ein prifysgolion ni sy'n mynd trwy broblemau gydag iechyd meddwl ac ati i ddelio gyda'r sefyllfa sydd ohoni.
Mi wnaeth yr Aelod ofyn amryw o gwestiynau ynglŷn â lefel y gefnogaeth ac ati, a'r bwriad ar gyfer cefnogi pobl yn eu swyddi. Mae'r ffigwr o £2.4 biliwn yn lefel o'r buddsoddiad sydd wedi bod, hyd yn hyn, o ran cefnogaeth i gwmnïau ac ati. Rŷn ni'n credu bod y gefnogaeth wedi arbed rhyw 100,000 o swyddi, mwy neu lai, yn y cyfnod diwethaf, ond mae'r Aelod yn iawn i bwysleisio'r angen ar gyfer hyfforddi, ar gyfer swyddi cynaliadwy yn yr hirdymor, a hefyd i sicrhau bod dilyniant a chynnydd yn gallu digwydd i bobl yn eu swyddi dros y cyfnod hynny. Felly, mae hynny yn rhan o'r flaenoriaeth yn yr hyn sydd yn y ddogfen.
O ran iechyd meddwl yn ehangach, mae amryw o bethau sy'n cael eu crybwyll yn y ddogfen, hynny yw cefnogaeth i'r trydydd sector ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl—mae'r trydydd sector wedi bod o dan bwysau penodol yn y cyd-destun hwnnw—a hefyd ymyriadau yn yr ysgol, mewn addysg uwch a hefyd trwy'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i gefnogi pobl efallai sydd ddim wastad â phroblemau dirfawr meddyliol yn y cyd-destun hwn, ond mae'n sicr bod angen rhyw elfen o gefnogaeth ar bobl.
O ran y cwestiynau ar y sector llawrydd, dwi'n cytuno'n llwyr gyda hi pa mor gwbl annerbyniol oedd sylwadau'r Canghellor yn San Steffan, a bydd hi'n sicr wedi talu sylw i'r datganiad ddoe fod y cynllun i gefnogi gweithwyr llawrydd wedi agor, a bod ail gyfnod i hynny ar y gweill hefyd. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y sector yn gwrando'n astud ar y drafodaeth, ac yn gwybod pa mor bwysig yw'r issue hyn iddo fe fel blaenoriaeth hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Gweinidog, roeddwn yn darllen drwy'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych chi yn gynharach heddiw, a rhaid imi ddweud fy mod yn croesawu natur y ddogfen, ysbryd y ddogfen a'r cynigion yr ydych chi yn eu gwneud yn y ddogfen. Ond rwyf eisiau sicrhau hefyd fod yr uchelgais a'r weledigaeth yr ydych chi wedi'u hegluro'n glir yn y ddogfen honno yn rhai y bydd y bobl rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent hefyd yn eu rhannu.
Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn tri o'r pwyntiau a wnaethoch chi o ran eich blaenoriaethau—cyflogaeth, canol trefi a thrafnidiaeth gyhoeddus—oherwydd pan edrychaf ar y gymuned yr wyf yn ei chynrychioli nid wyf yn gwbl argyhoeddedig mai'r gwasanaeth arferol a oedd gennym ni flwyddyn yn ôl oedd y gwasanaeth arferol yr hoffem ni ei weld. Nid wyf yn hollol siŵr mai ein gwasanaeth arferol ni oedd y gwasanaeth yr hoffem ei weld ar gyfer llawer o'n cymunedau, ac rydych chi'n gwybod fy mod i wedi codi materion yn y fan yma droeon am economi Blaenau Gwent, yr angen i fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau a chysylltedd Blaenau Gwent.
Nawr, os ydym ni am wireddu'r uchelgais, nid y prawf i Lywodraeth Cymru yw llwyddo yng Nghaerdydd na Chas-gwent, gyda phob dyledus barch, ond llwyddo yn Nhredegar, Nant-y-glo neu hyd yn oed yn Swffryd. Dyna fydd y maen prawf. Nawr, hoffwn ddeall gennych chi, Gweinidog, sut y bwriadwch chi basio'r prawf hwnnw. Sut y byddwch yn sicrhau y bydd cymunedau ym Mlaenau Gwent yn teimlo mantais y rhaglen hon? Sut y byddwch yn sicrhau bod Blaenau Gwent yn gweld buddsoddi yn ein dyfodol economaidd, y buddsoddir yn nyfodol canol ein trefi ac y buddsoddir yn nyfodol ein pobl? Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y tri phwynt am swyddi, am ganol trefi ac am drafnidiaeth gyhoeddus. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Alun Davies am yr ystod yna o gwestiynau pwysig, oherwydd credaf mai'r hyn y mae ei gwestiwn yn ei wneud yw canolbwyntio ar effaith ei ymyriadau ar fywyd beunyddiol pobl mewn etholaethau sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf. Gallaf ei sicrhau, fel rhywun sydd ei hun yn cynrychioli etholaeth sydd y tu allan i dde-ddwyrain Cymru, os mynnwch chi, fy mod yn rhannu ei flaenoriaeth i sicrhau bod yr ymyriadau'n dwyn ffrwyth ym mhob rhan o'n cymunedau ledled Cymru, oherwydd gwyddom fod yna rannau o Gymru sydd wedi dioddef o ganlyniad i COVID a, maes o law, a fydd yn dwyn baich effeithiau cyfunol COVID a gadael cyfnod pontio'r UE. Mae yna gymunedau ledled Cymru sydd wedi ysgwyddo'r baich hwnnw. Hoffwn adleisio'r sylw a wnaeth nad dychwelyd i normalrwydd yw'r amcan yr ydym yn ei osod i ni ein hunain. Mae normalrwydd yn fath o fywyd y mae'r rheini ohonom ni sydd â bywydau cymharol gyfforddus yn ei ystyried yn beth da, ond i lawer o'n pobl ledled Cymru, nid yw dychwelyd i normalrwydd mewn gwirionedd yn—. Nid oedd normalrwydd yn fan cychwyn da.
O ran y sylwadau a wnaiff, bydd wedi gweld, drwy gydol y ddogfen, yn ogystal â'r cymorth sgiliau a'r cymorth cyflogadwyedd i'r bobl hynny sy'n chwilio am waith ledled Cymru, mae nifer o ymyriadau sydd wedi'u cynllunio i ysgogi'r economi a chreu cyflogaeth newydd ac, mewn gwirionedd, yr ymyriadau ynghylch tai yn arbennig, yn cwmpasu Cymru gyfan, onid ydyn nhw? Rwy'n credu bod hynny'n rhan sylfaenol iawn o'r ymateb. Yn yr un modd, canol trefi. Gobeithio y bydd wedi gwerthfawrogi'r cyfeiriadau at ailgyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yng nghanol ein trefi, boed yn wasanaethau endosgopi neu'n wasanaethau iechyd a gofal integredig—y pethau hynny sy'n dod â phobl i mewn i'n trefi ac yn dod â bywiogrwydd yn ôl i ganol ein trefi, ochr yn ochr â'r buddsoddiad mewn mannau gwyrdd hefyd, y mae'r ddogfen yn sôn amdano. A gwn y bydd gan fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, fwy i'w ddweud am hynny maes o law.
Mae'r cwestiwn ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus wrth wraidd hyn yn llwyr, onid yw? A gwyddom beth fu effaith COVID ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond gwyddom hefyd nad oedd y system a oedd gennym ni pan darodd COVID yn adlewyrchu anghenion ei etholwyr mewn rhannau o'i etholaeth, ac yn sicr rhannau o'm hetholaeth i hefyd. Credaf mai dyna pam y credaf yn bersonol fod y cynlluniau y mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth wedi'u cyflwyno yng nghyswllt ail-lunio'r berthynas honno â chwmnïau bysiau mewn gwirionedd yn gyfle mor gyffrous inni allu darparu gwasanaethau bysiau i bobl yng Nghymru, ble bynnag y bônt, a darparu'r lefel honno o drafnidiaeth gyhoeddus y dylai pobl fod â hawl iddi. Rwy'n credu bod maint yr uchelgais honno yr ydym ni wedi'i gosod yn glir iawn fel Llywodraeth, ac, ochr yn ochr â hynny, cynnig sy'n ymateb i'r galw, a fydd yn newid byd i lawer o bobl rwy'n siŵr, hefyd yn ddatblygiad cyffrous iawn yn fy nhyb i, ac rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny ar ran ei etholwyr hefyd.
Mae gennym ni yn y fan yma ddogfen drawiadol iawn arall gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer ynddi y gellir ei gymeradwyo, ond, unwaith eto, rhaid imi ddweud, mae'n darllen fel pob dogfen arall gan y Llywodraeth. Gallai hynny fod o ganlyniad i feddwl a gweithio cyfunol. Efallai ddim. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Roeddwn yn meddwl bod cyfyngiadau symud caeth iawn yn rhesymol, o ystyried yr holl amgylchiadau, ond ni chydsyniais i, ac ni chydsyniodd llawer o'r bobl sy'n ysgrifennu ataf, erioed i gwtogi ein rhyddid am chwe mis neu fwy. Ac er bod rhywfaint o lacio ar y rheolau a'r rheoliadau, rydym ni i gyd yn ymwybodol y gellir ailgyflwyno y rheolau mwyaf caeth ar fyr rybudd. Erbyn hyn mae sôn am ddangosydd sbarduno cyfyngiadau symud llwyr. Mae'r penawdau, yn hytrach na sgrechian am nifer y marwolaethau, yn sgrechian am achosion nawr. Rydym ni'n gorchuddio ein hwynebau. Unwaith eto, ni allwn ni weld ein hanwyliaid. Mae pobl wedi dychryn, ac mae rhai yn dal i arswydo, ac nid yw negeseua'r Llywodraeth yn helpu nac yn meithrin yr hyder sydd ei angen arnom ni i gyd i wneud ein rhan i gael y wlad yn ôl ar ei thraed eto. Mae'r neges wedi newid o atal cynnydd yn nifer yr achosion i aros am frechlyn, ac ni thrafferthodd neb ddweud wrthym ni pryd y symudwyd y pyst eto. Rwy'n gwybod fy mod i wedi dweud hyn i gyd o'r blaen, ond rwy'n credu ei bod hi'n werth ei ddweud eto, oherwydd yn y cyd-destun hwn y darllenais y ddogfen hon. Felly, nawr, cafwyd sgwrs genedlaethol arall. Mae eich Llywodraeth yn ymateb yn egnïol drwy adeiladu cymunedau cryf, annog teithio llesol ac ymateb i argyfwng yr hinsawdd. Rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud heddiw fod ei Lywodraeth yn agored i drafodaeth a syniadau. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod yr un Llywodraeth honno eisiau trafod yr un pethau yn y Senedd, gan ffafrio siarad â'r wasg yn lle hynny. Nid yw'n argoeli'n dda, onid yw?
Rydych chi'n sôn am dai, ac, yn sgil y sylwadau yr wyf wedi'u gwneud dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â'r ddarpariaeth dai, gan fod tua 65,000 o deuluoedd yn aros am gartrefi yng Nghymru, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i fanteisio i'r graddau mwyaf posib ar dai cymdeithasol a thai cyngor, gyda chynnydd yn y grant tai cymdeithasol. Mae tai yn angen, ac yn wir mae eich Llywodraeth eich hun wedi ei ddisgrifio fel hawl. Nid oedd angen i'ch Llywodraeth aros nes i bandemig ddinistrio ein heconomi i wneud hyn yn unrhyw fath o flaenoriaeth.
Rydych chi'n sôn am gymunedau cryf a chanol ein trefi. Mae canol ein trefi'n cael eu dinistrio drwy gyfyngiadau symud ac yn fwy fyth felly gyda'r ergyd greulon a achosir gan gyrffyw o 10 yr hwyr, felly gadewch i ni gofio y gall noson allan hefyd gynnwys dillad newydd, gwallt, ewinedd, hylif ar ôl eillio ac ati, i ddod â chanol y dref yn ôl yn fyw. Felly, bydd mesurau pellach a pharhaus yn gwneud busnesau a allai fod wedi goroesi drwy ail-agor eu drysau yn anhyfyw.
Rwyf wedi bod yn llafar iawn wrth fynegi fy mhryderon am yr argyfwng iechyd arall yr ydym yn ei chreu o ran rhestrau aros ac iechyd meddwl, felly rwy'n falch o weld y rhoddwyd ystyriaeth ofalus i rai ymyriadau fel clinigau endosgopi yng nghanol ein trefi. Rwyf yn dal yn bryderus iawn am yr effaith ar ein hiechyd meddwl fel cymdeithas gyfan, a gwn fod y cyfraddau hunanladdiad wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y cyfnod hwn.
Clywn lawer am atebion Cymreig, heb fod eisiau dilyn Lloegr nac yn wir yr Alban na Gogledd Iwerddon, ond y gwir amdani yw bod Cymru wedi mynd ati mewn ffordd bur debyg i genhedloedd eraill y DU. Ymddengys ein bod ni i gyd yn yr un cwch ac na fydd yr un ohonom ni yn gweld diwedd hyn unrhyw adeg yn fuan. Rwyf wedi gweld llawer o academyddion, gwyddonwyr a meddygon uchel eu parch—yn anffodus neb sy'n cynghori'r Llywodraeth—yn dweud nawr fod angen inni ddysgu byw gyda'r feirws yma fel yr ydym ni'n byw gydag annwyd, ffliw a chanser. Mae'n ymddangos i mi fod llawer o'r cynnwys yn y ddogfen hon wedi bod ar gael i chi ac yn bethau y gallech fod wedi eu gwneud ers amser maith iawn. Yn fy marn i, nid oedd angen aros amdano. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am y croeso y mae wedi'i roi i'r ddogfen a'r ymyriadau a ddisgrifir ynddi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwy'n credu y gellid crynhoi ei sylwadau mewn dau bwynt bras, ac rwy'n gobeithio nad wyf yn gwneud anghymwynas drwy wneud hynny. Yn gyntaf, ein hatgoffa bod angen ystyried cynnwys y ddogfen ochr yn ochr â'r her iechyd cyhoeddus y mae COVID yn amlwg yn ei chynrychioli bob dydd yn ein bywydau, ac mae cyd-destun hynny'n gyd-destun sy'n newid. Credaf iddi grybwyll y cyd-destun ei hun, a chredaf ei bod yn bwysig cadw hynny mewn cof, ac rwy'n cydnabod y sylw y mae hi'n ei wneud am y pryderon y mae pobl ledled Cymru'n eu teimlo ynghylch byw drwy'r cyfnod hwn a byw drwy gyfyngiadau symud ac ati.
Felly, credaf mai'r dasg y mae'r ddogfen yn ceisio'i chyflawni yw ymateb i'r hyn a wyddom ni eisoes yw effaith COVID, ochr yn ochr â'r dasg o ymateb yn fwy beunyddiol i rai o'r heriau hynny. Ond mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw hefyd. Yr hyn nad ydym ni eisiau ei weld—ac nid ydym ni wedi dilyn y llwybr hwnnw yng Nghymru—yw math o ddull adweithiol, sydd efallai wedi bod yn nodwedd mewn mannau eraill. Rydym ni wedi ceisio ymateb i COVID yn ei amryfal ffurfiau mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi ei raglennu a'i gynllunio, a dyna ddyfodol y ddogfen hon hefyd: mae'n ymgais i edrych ymlaen yn ogystal â dechrau'r gwaith ailadeiladu nawr.
Mae hi'n gwneud sylw arall, a chredaf ei fod wedi'i fwriadu fel beirniadaeth. Dweud y mae hi fod rhai ymyriadau yma a allai, yn ei geiriau hi, fod wedi digwydd beth bynnag, a chredaf—y pwynt yr oeddwn yn ei wneud i Aelod yn gynharach yw y bu llawer o'r ymyriadau hyn ar waith eisoes. Os yw hi'n edrych ar y rhan o'r ddogfen sy'n sôn am yr ymyriadau yn y cyfnod yn union ar ôl COVID, bydd yn adnabod nifer o bolisïau cyfarwydd yno, a, thrwy gydol y pandemig, rydym ni wedi parhau i fynd i'r afael â llawer o'r heriau hyn y gwyddom ni sydd wedi bodoli ers peth amser drwy flaenoriaethu rhannau o'n rhaglen lywodraethu sy'n ymdrin yn fwyaf penodol â'r rheini.
Ond rwy'n credu—a gobeithio y bydd hi'n derbyn hyn—mai yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yw dealltwriaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd at ei gilydd o anferthedd y materion hyn a brwdfrydedd—mwy o frwdfrydedd efallai, os caf i ddweud hynny—i fynd i'r afael â nhw. Ac yn sicr mae COVID wedi dangos i ni ble mae'r anghydraddoldebau hynny wedi bodoli yng Nghymru, ond rwyf eisiau pwysleisio wrthi ein bod wedi ymafael â'r dasg hon drwy ofyn i bobl yng Nghymru beth sydd bwysicaf iddynt ond yng ngoleuni'r egwyddorion y buom yn eu harddel fel Llywodraeth drwyddi draw, sef cyfiawnder economaidd, cyfiawnder amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol, a dyna wedyn sy'n rhoi'r ystod o flaenoriaethau ac ymyriadau i chi a nodir yn y ddogfen.
Diolch am eich datganiad, ac mae'n dda iawn clywed eich bod wedi ymgynghori mor eang gan ein bod yn wynebu'r fath newidiadau digynsail, a achoswyd nid yn unig gan un pandemig, ond tri tswnami: y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb masnach, a'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nid yw'r pethau hyn wedi diflannu ac mae'r syniad y dylem fynd yn ôl at ein hen ffyrdd drwg yn ymddangos i mi'n gwbl hurt, fel yr oedd Darren Millar yn awgrymu, rwy'n credu.
Rwy'n croesawu'n fawr eich cynnig i gael mwy o dai cymdeithasol carbon isel ac uwchraddio ein stoc dai bresennol i fod yn fwy effeithlon o ran ynni, ond rwyf eisiau holi pam nad ydych chi ychydig yn fwy radical ynglŷn â hyn. Roedd yr Arglwydd Deben, sy'n cadeirio pwyllgor newid yn yr hinsawdd y DU, yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor newid yn yr hinsawdd ynglŷn ag allyriadau carbon yr wythnos diwethaf, a mynegodd siom nad yw Cymru wedi arfer y pwerau sydd ganddi i newid y rheoliadau adeiladu i atal parhau i adeiladu yr hyn a alwodd yn 'dai gwael'. Felly, pam nad yw hi'n bosib i'r Senedd ddiwygio Rhan L o'r rheoliadau adeiladu i godi safonau tai preifat, a rhoi'r un safonau iddynt ag yr ydym yn adeiladu tai cymdeithasol iddynt? A hefyd pam nad ydym yn rhoi rhybudd i landlordiaid na fyddant bellach yn gallu gosod cartrefi y mae eu heffeithlonrwydd ynni yn llai na gradd E? Mae'n ymddangos i mi y byddai hynny'n ysgogiad enfawr i'r economi o ran creu llawer mwy o swyddi pe bai landlordiaid yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw uwchraddio eu heiddo erbyn dyddiad penodol, a byddai'n helpu mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n credu ei bod yn gwneud y pwynt pwysig iawn na ellir edrych ar yr un o'r cyfresi hyn o ymyriadau ar wahân ac, yn amlwg, mae angen ystyried effeithiau cyfunol newid yn yr hinsawdd, COVID a diwedd y cyfnod pontio gyda'i gilydd cyn belled ag y bo modd, ac felly mae ymyriadau wedi'u cynllunio, ar un ystyr, i allu ystyried y cyd-destun cyfan hwnnw a bydd hynny'n glir, rwy'n credu, i'r Aelod, fel y mae'r cwestiwn yn cydnabod, o'r ymyriadau y mae'r papur yn eu cyflwyno.
Rwy'n credu, o ran tai—gobeithio y bydd yn cydnabod, fel rwy'n credu y bydd hi, pa mor arwyddocaol yw swyddogaeth tai gwyrdd a thai wedi'u huwchraddio o ran ynni fel rhan o'r ymateb hwn. Nid wyf, mae arnaf ofn, yn ddigon cyfarwydd â manylion y rheoliadau adeiladu er mwyn gallu rhoi ateb iddi sy'n deilwng o'r cwestiwn, ond gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed ei sylwadau ac y bydd yn amlwg yn gallu cadw hynny mewn cof, ond byddwn yn dweud bod yr hwb i'r rhaglen dai arloesol wedi'i gynllunio, ar un ystyr, er mwyn canfod atebion creadigol i'r dyfodol, onid yw, mewn gwirionedd, ar gyfer y mathau hynny o eiddo sy'n darparu tai ecogyfeillgar, gan ysgogi'r economi hefyd, a chredaf—ac rwy'n gwybod y bydd yn cytuno â mi—mae hynny'n gyfres bwysig o flaenoriaethau.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad—[Anghlywadwy.]—mae Llywodraeth Cymru—[Anghlywadwy.]—i'ch canmol am ehangder a dyfnder—[Anghlywadwy.] Mae llawer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn amdano, ond, oherwydd cyfyngiadau amser, gofynnaf dri yn unig.
Yn gyntaf, trydydd cam y gronfa cadernid economaidd—sylwaf fod y ddogfen yn datgan y bydd arian wedi'i neilltuo ar gyfer busnesau sydd wedi gorfod cau oherwydd cyfyngiadau lleol. Byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth am hyn, oherwydd mae'n ddigon posib y byddai o gymorth uniongyrchol i fusnesau yn fy etholaeth.
Yn ail, sylwaf gyda diddordeb ar y cyfeiriad at y goedwig genedlaethol, a'r ffaith y byddwn yn bwrw ymlaen â chreu coedwig genedlaethol yma yng Nghymru. Croesawaf hyn a hoffwn ofyn i ystyriaeth arbennig gael ei rhoi i ehangu'r coedwigoedd yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd wedi dioddef cymaint o lifogydd, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwyddom y gall coedwigoedd gael effaith gadarnhaol sylweddol ar leihau dŵr ffo, gan ddiogelu cymunedau yn benodol sydd mewn cymoedd a dyffrynnoedd.
Yn drydydd, o ran y rhaglen dai arloesol, a gaf i eich annog, Gweinidog, i edrych yn benodol ar yr angen am dai hyblyg o fewn y cylch gwaith hwnnw? Gwn o'm gwaith achos fod prinder enfawr tai o'r fath, a chyda mwy o bobl angen dibynnu ar dai cymdeithasol wrth i effaith economaidd argyfwng y coronafeirws dirgrynu drwy Gymru benbaladr, rwy'n siŵr na fydd yr angen am dai hyblyg ond yn cynyddu.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. O ran y pwynt cyntaf ynghylch cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, cyhoeddwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer hynny ddydd Llun yr wythnos hon, a dylent fod ar gael—. Rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud, o'r £140 miliwn, rwy'n credu mai £60 miliwn yw'r ffigwr sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cymorth gyda chyfyngiadau lleol, a bydd y cymhwysedd ar gyfer hynny, mi gredaf, ar gael ar-lein. Ond, os nad ydyw, yna gallaf sicrhau y caiff pa wybodaeth bynnag sydd ar gael ei darparu i'r Aelod a'r Aelodau yn gyffredinol.
O ran y goedwig genedlaethol, rwy'n datgan budd yn hynny oherwydd roedd yr ymgysylltu diwethaf a wneuthum, mi gredaf, cyn y cyfyngiadau symud am y tro cyntaf ym mis Mawrth ynglŷn â dechrau plannu'r goedwig genedlaethol ym Mharc y Gnoll yn fy etholaeth fy hun, ac roedd yn fraint fawr gallu gwahodd y Gweinidog i'r etholaeth i wneud hynny. Rwy'n sicr yn derbyn y pwynt y mae hi'n ei wneud, a byddaf yn gwneud yn siŵr y caiff ei sylw'n ei gyfleu i Weinidog yr amgylchedd yn yr ystyriaethau sydd ganddi dros gyflwyno hynny yn y dyfodol.
Ac yn olaf, o ran tai arloesol, gwn fod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn rhoi pwys mawr ar greadigrwydd yn ein hymateb i ddefnyddio tai i ddiwallu amrywiaeth o anghenion cymdeithasol ac amrywiaeth o gyfluniadau teuluol, os gallaf ei roi felly, ac mae'r hyblygrwydd a ddaw yn sgil hynny yn bwysig. Rwyf wedi siarad â hi droeon am werth tai sy'n gallu dilyn troeon bywyd y tenant neu'r perchenogion, os mynnwch chi, o wahanol gyfnodau a gwahanol anghenion o ran cartref. Felly, rwy'n gwbl siŵr y bydd hynny'n flaenaf yn ei meddwl o ran y cyhoeddiadau a wnaiff yn y dyfodol.
Y cwestiwn olaf gan Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn. Gweinidog, a gaf i gymeradwyo'r ymgysylltu yr ydych chi wedi'i wneud ynglŷn â hyn, ond hefyd yr elfen radical sy'n britho'r adroddiad hwn a'r datganiad hefyd? Y rheswm am hynny yw, wrth i mi eich cymell ar ddechrau hyn, nid aethoch chi at yr wynebau arferol, ac, wrth gwrs, rydym yn gweithio o fewn uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd, sy'n rhywbeth i'w groesawu.
Gadewch imi ofyn ychydig o gwestiynau ichi yn y fan yma. Un ohonyn nhw yw: o ran trafnidiaeth gyhoeddus, a ydym yn defnyddio'r cyfle hwn nawr i adfer rheolaeth, yn enwedig o ran bysiau yn ein Cymoedd, a gwneud i'r arian yr ydym ni yn ei fuddsoddi yn hyn fynd ymhellach? O ran datblygu canol trefi, a allwn ni fod yn glir nad canol y trefi craidd yn unig sydd o dan sylw yn y fan yma, ond Pontycymer yn ogystal â Phorthcawl, Glyn-nedd yn ogystal â Chastell-nedd—canol y trefi hynny i gyd, gan gynnwys parthau pellaf ein Cymoedd.
Yn olaf, o ran tai carbon isel, rwy'n croesawu'r pwyslais, yn amlwg, ar dai cymdeithasol, ond nid dyna'r cyfan, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir. Dylem lunio ein fersiwn ein hunain o'r ffordd yr ydym yn ôl-osod cyfarpar ar raddfa sylweddol gyda pherchnogion tai preifat hefyd. A fydd hynny'n rhan o'r ffordd ymlaen? Diolch yn fawr iawn.
Mae cwestiynau Huw Irranca-Davies yn mynd at wraidd llawer o'r materion hyn mewn gwirionedd, felly diolch ichi am y sylw am ymgysylltu. Y peth da am ymgysylltu yw amrywiaeth o leisiau, a gyda hynny weithiau rydych chi'n clywed pethau mae arnoch chi eisiau eu clywed, weithiau pethau nad oes arnoch chi eisiau eu clywed, ond mae hynny'n rhan bwysig o'r broses. A hoffwn gydnabod pa mor bwysig fu deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol i'n meddylfryd yn hyn o beth, a diolch i'r comisiynydd am ei hymgysylltu o ran gwaith y Llywodraeth yn y maes hwn.
O ran rheoli'r ddarpariaeth bysiau yn y dyfodol, mae hynny wrth wraidd y cynigion y gwn fod Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yn gweithio arnynt. Bydd Huw Irranca-Davies wedi clywed Ken Skates yn dweud—wyddoch chi, gyda'r swm enfawr o arian cyhoeddus a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau bysiau, dylem allu cael mwy o reolaeth dros y gwasanaethau nag y mae'r gyfres bresennol o drefniadau'n ei ddarparu, felly gwn fod ei gynlluniau wedi'u bwriadu i gyflawni'r amcan hwnnw.
Allwn i ddim cytuno mwy o ran canol trefi. Mae gennyf etholaeth, fel sydd ganddo yntau, gyda nifer o drefi—nid trefi mawr—y mae angen rhywfaint o gefnogaeth ar bob un ohonyn nhw, mi gredaf. O ran y pwynt olaf, o ran ôl-osod cyfarpar mewn tai i'w gwneud yn rhai carbon isel, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog wedi clywed y sylw yna; mae wedi'i wneud gan fwy nag un siaradwr heddiw. Yr ymyriad yn y ddogfen, yn ein hasesiad ni, yw'r ffordd orau o wneud cynnydd cyflym, os mynnwch chi, mewn cyfnod cymharol fyr, ond nid oes amheuaeth mai diben hynny yw creu rhywbeth y mae modd ei addasu mewn maint dros gyfnod hwy.
Diolch, Gweinidog.