5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:38, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, ble i ddechrau? Rwy'n credu ein bod o leiaf yn unedig yn yr awydd i gefnogi swyddi, pobl ifanc, cymunedau a'n hamgylchedd, ac i 'dyfu'n ôl yn wyrddach', i ddefnyddio'r ymadrodd newydd sy'n cylchredeg. Ond, rhaid i mi ddweud, Gweinidog, rwy'n siomedig braidd â'r datganiad heddiw. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith fod gan Lywodraeth y DU y cymhellion macro-economaidd sydd eu hangen i ailgynnau'r economi, ond wrth gwrs rhaid ichi gydnabod hefyd fod gennych chi ddulliau eithaf pwerus ar gael ichi yma hefyd. Credaf mewn gwirionedd fod angen inni beidio â rhygnu ar yr un hen dant mai 'Ar San Steffan y mae'r bai am hyn i gyd', sydd fel petai'n treiddio i gynifer o ddadleuon a datganiadau yn y Siambr hon.

Dywedwch yn eich datganiad fod £4 biliwn wedi'i ddyrannu i liniaru'r pandemig—mae hynny'n wir. Ond, fel y dywedwch chi hefyd, onid yw cyfran fawr o'r arian hwnnw'n dod o symiau canlyniadol gwariant Llywodraeth y DU beth bynnag, sy'n sicr yn enghraifft wych o gymorth macro-economaidd i Gymru? O ran ailflaenoriaethu'r gyllideb y sonioch chi amdani, byddai'n dda cael ychydig mwy o fanylion—gwn ichi sôn am rai prosiectau—ynghylch yr hyn y mae ailflaenoriaethu'r gyllideb honno'n ei gynnwys ac, yn wir, pa gyllidebau sy'n cael eu lleihau i ganiatáu i'r ailflaenoriaethu hwnnw ddigwydd.

Croesawaf yr hyn a ddywedasoch chi am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol a'r angen, wrth inni ailadeiladu'n well ac yn wyrddach, i sicrhau y cydymffurfir â'r ddeddfwriaeth honno, ond pa mor aml ydym ni'n sôn am hynny, ond wedyn, yn ymarferol, nid yw'n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd? Roedd ein diweddar gyd-Aelod Steffan Lewis bob amser yn codi hyn yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor. Mae'r syniadau hyn yn wych mewn egwyddor, ond a ydynt yn gweithio'n ymarferol mewn gwirionedd? Oherwydd os nad ydyn nhw, yna gall hynny fod yn gamarweiniol.

Rwy'n deall yn iawn eich galwadau am fwy o hyblygrwydd cyllidebol ac mae hynny'n beth da, fodd bynnag, nid yw'n ateb i bopeth, nac ydy? Rydym yn croesawu'r sicrwydd a roddodd Llywodraeth y DU ichi ynglŷn â chyllid, ond o ran eich pryderon ynghylch eglurder, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gellid darparu mwy o dryloywder i Lywodraeth Cymru yn awr ac yn y dyfodol pan wneir dyraniadau cyllid? Er hynny, rwy'n amau y gallai'r tryloywder hwnnw dynnu sylw at y ffaith bod y dyraniadau presennol wedi bod yn eithaf hael, mewn gwirionedd, felly nid wyf yn siŵr y byddem yn clywed gormod yn y Siambr hon amdanynt ar hyn o bryd.

Gan droi at gefnogi materion cynllunio a chyllid yr UE, wel, iawn, rydych yn gorfod gwneud rhagdybiaethau ynghylch y grant bloc—deallaf fod hwn yn gyfnod heriol i'ch swyddogion—ond onid oes yn rhaid i Lywodraethau ledled y byd wneud rhagdybiaethau ynghylch pob math o bethau ar hyn o bryd, yn y cyfnod digynsail hwn? Mae'r sefyllfa ledled y DU yn newid yn gyflym. Fel y dywedasoch chi, mae ganddynt gymhellion macro-economaidd ar gael iddynt, felly nid wyf yn credu ei bod hi'n gwbl deg taflu beirniadaeth at Lywodraeth y DU; rwy'n credu bod yn rhaid inni dderbyn bod hwn yn gyfnod digynsail.

O ran cyfnod pontio'r UE, ydym, rydym yn edrych ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE, ac mae'n bwysig parchu'r setliad datganoli. Mae gennych gefnogaeth i hynny.

I gloi, Cadeirydd, gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth glymblaid y DU a gyflwynodd fwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon, gan gynnwys rhai pwerau trethu eithaf sylweddol. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar hynny, ac, ydy, mae hyblygrwydd yn dda, ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am fwy o arian, mae ganddi lawer o arfau ar gael iddi yma eisoes i godi cyllid, benthyca ac ymgorffori hyblygrwydd yn y system. Felly, gadewch i ni gofio hynny yn y dyfodol. A Gweinidog, a allwn ni weithio gyda'n gilydd, bwrw ymlaen â thyfu economi Cymru, tyfu sylfaen drethi Cymru, ailadeiladu'n well, ailadeiladu'n wyrddach a sicrhau bod economi Cymru yn y dyfodol yn gryfach nag y bu yn y gorffennol?