Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 6 Hydref 2020.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau yna y prynhawn yma. Rwyf yn ei sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl gymhellion sydd ar gael inni o ran ein hymateb i bandemig y coronafeirws, ac felly hefyd, y gwaith y mae Jeremy Miles wedi'i amlinellu y prynhawn yma o ran ein hymdrechion i ganolbwyntio ar yr ailadeiladu.
Rwy'n credu y gallwn ddangos hynny, yn enwedig yn y gwaith yr ydym wedi'i wneud i ailgyhoeddi cyllidebau ar draws y Llywodraeth. Felly, mae'r gronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn yn enghraifft dda iawn o sut y bu inni addasu cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd at ddibenion gwahanol er mwyn inni allu rhoi'r cymorth cyflym hwnnw ar waith i fusnesau. A gwyddom faint o fusnesau sydd wedi elwa ar hynny—mae dros 60,000 o fusnesau wedi elwa. A gwyddom ein bod wedi sicrhau dros 100,000 o swyddi a chredaf fod hynny'n gyflawniad anhygoel, ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y cyfnod anodd sy'n ein hwynebu o ran yr economi a'r angen i wneud mwy, a dyna pam mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd honno ar agor ar hyn o bryd.
Mae'n dda clywed Nick Ramsay yn siarad am y warant y gwnaethom lwyddo i'w negodi gyda Llywodraeth y DU. Deallwn nawr ein bod ar ben uchaf y warant honno. Roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n rhoi manylion cynhwysfawr inni am symiau canlyniadol Barnett y cyfeiriodd y warant honno atynt. Yn anffodus, nid ydym ni hyd yma wedi cael cysoniad manwl yr wybodaeth honno, felly mae'n ei gwneud hi'n anodd i ni ddeall i ba raddau y mae'r cyllid a gawsom yn ymwneud ag eitemau y mae Llywodraeth y DU wedi gwario arnynt. Er enghraifft, ni allwn weld lle y byddai arian ychwanegol a allai fod wedi'i wario ar ysbytai maes dros y ffin yn dod o fewn y warant honno ac ni allwn weld cyllid ychwanegol ar gyfer peiriannau anadlu, er enghraifft. Mae'n anodd iawn meddwl y gallai adran iechyd Llywodraeth y DU fod wedi ariannu'r rheini o gyllidebau presennol. Felly, mae llawer o waith i'w wneud, rwy'n credu, eto, o ran cael y tryloywder hwnnw ar draws y cyllidebau, y credaf y byddem ni'n cydnabod ei fod yn hanfodol.
O'm safbwynt i, rwyf eisiau bod mor dryloyw â'r Senedd ag y gallaf. Felly, rwyf wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr amser a dreuliodd gyda mi yn trafod sut y gallwn wneud cyllideb atodol dros dro dryloyw, os mynnwch chi, a chyflwyno hynny cyn diwedd y mis. Dylai hynny fod yn gyfle inni gau pen y mwdwl o ran y cyllid yr ydym ni eisoes wedi'i wario yn ymateb i COVID, er mwyn i'r gyllideb atodol, y byddwn i fel arfer yn ei chyflwyno ym mis Chwefror, ganolbwyntio mwy ar yr ymdrech ailadeiladu. Felly, rwy'n awyddus iawn i gael cymaint o wybodaeth â phosib i gyd-Aelodau, a bod mor dryloyw â phosib, oherwydd rwy'n cydnabod bod y symiau yr ydym yn sôn amdanynt yn sylweddol iawn, iawn.
Wrth gwrs, nid yw hyblygrwydd yn ateb i bopeth, ond bydd yn sicr yn helpu llawer, yn enwedig yn y cyd-destun hwnnw o beidio â deall ein cyllideb yn llwyr. Nid ydym yn gofyn am arian ychwanegol yn hyn o beth; rydym yn gofyn am y gallu i ddefnyddio ein cyllid sydd gennym ni eisoes mewn ffordd fwy ystwyth. Mae maint cronfa wrth gefn Cymru yn fach iawn beth bynnag, felly mae cael mynediad ychwanegol at hynny er mwyn rheoli ein cyllidebau dros flynyddoedd yn bwysig iawn. Mae Nick Ramsay a minnau wedi siarad o'r blaen am y ffaith nad yw COVID yn cydnabod blynyddoedd ariannol, felly mae'r angen i symud yn esmwyth ac yn ddi-dor o'r naill i'r llall, rwy'n credu, yn bwysig. Mae'r hyblygrwydd yr ydym yn galw amdano yn arf rheoli cyllideb synnwyr cyffredin, mewn gwirionedd.
Gofynnodd Nick Ramsay hefyd pa drafodaethau ydym ni wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau bod yn gwbl deg a dweud bod ymgysylltu â Llywodraeth y DU wedi gwella'n sylweddol ers dechrau'r argyfwng. Yr wythnos nesaf byddwn yn cael ein hwythfed neu nawfed cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid; rwy'n credu y bu'r rheini yn ddefnyddiol iawn drwy gydol yr argyfwng, ac mae angen inni barhau â'r lefel honno o ymgysylltu cynyddol nawr wrth inni symud drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn croesawu'n fawr yr hyn yr oedd Nick Ramsay wedi'i ddweud am bontio Ewropeaidd a'r angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewidion o ran sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd ac nad yw hi'n colli pwerau o ganlyniad i hyn.