Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 6 Hydref 2020.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Ydyn, rydyn ni mewn cyfnod o bwysau digynsail ar gyllid, a dwi’n sicr yn cytuno bod diffyg eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymylu pethau ymhellach, a dwi’n gobeithio y byddai llefarydd y Ceidwadwyr yn cytuno bod angen yr eglurder yna. Mae’n rhaid i ni yng Nghymru fod yn gallu gwneud ein dadansoddiad ynglŷn ag a ydy’r arian sydd yn dod yn dilyn y rheolau presennol ar ddyrannu arian rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, ac ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn bosib gwneud hynny.
Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod innau wedi rhoi’r achos droeon am ragor o hyblygrwydd ffisgal wrth inni symud ymlaen. Mae’n gwestiwn dwi wedi ei ofyn droeon yma yn y Senedd. Dwi’n cyd-fynd hefyd bod angen, yn sicr, i lais Llywodraeth Cymru gael ei glywed yn glir fel rhan o adolygiad gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi ddywedodd y Gweinidog wrthym ni yn fanna bod natur y berthynas wedi gwella, bod y trafod yn digwydd ar lefel uwch nag y bu yn gynharach yn y pandemig, ond un peth ydy cynnal wyth neu naw o quadrilaterals; peth arall ydy cyrraedd at bwynt ar ôl y trafod hynny lle byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y Trysorlys heb roi ystyriaeth go iawn a heb roi llais go iawn i Lywodraeth Cymru. Ac, wrth gwrs, dwi a Phlaid Cymru wedi dadlau yn gyson am yr angen i ddod â chyllid cadarn iawn i gymryd lle cyllid Ewropeaidd. 'Fyddai Cymru’n cael dim ceiniog yn llai' oedd yr addewid, wrth gwrs, a dydyn ni ddim yn agos at sefyllfa lle mae hynny yn debyg o gael ei wireddu.
O ran yr arian sydd wedi cael ei wario yn ychwanegol, mi gafwyd cyfeiriad at y £4 biliwn yna a’r £320 miliwn yn ychwanegol. Dwi’n croesawu arian ychwanegol, wrth gwrs, i amrywiol feysydd. Rydw i'n siŵr y bydd fy nghyd Aelodau i yng Nghabinet yr wrthblaid Plaid Cymru yn eiddgar i fynd i'r afael â sawl elfen o'r hyn gafodd ei gyhoeddi a'i gyhoeddi'n gynharach gan y Cwnsler Cyffredinol hefyd, ond mae yna ambell i faes yma lle byddwn i'n licio mwy o wybodaeth. Er enghraifft, roedd llywodraeth leol yn un oedd ar goll yn y cyhoeddiad yma heddiw. Rydyn ni'n gwybod bod yna becynnau ychwanegol o arian wedi cael eu clustnodi ar gyfer llywodraeth leol, ond rydyn ni ar bwynt o hyd lle mae'r cynghorau sydd wedi bod mor allweddol yn y frwydr yn erbyn COVID, yn yr ymateb i COVID, yn dal yn wynebu pwysau ariannol difrifol, ac mi hoffwn i wybod yng nghyd-destun y cyhoeddiad heddiw pa fath o lefel o gymorth ychwanegol mae'r Llywodraeth yn debyg o allu ei gynnig. Yn hynny o beth hefyd, tybed fyddai'r Gweinidog yn gallu cadarnhau wrthym ni beth ydy'r bwriad o ran cyhoeddi cyllideb atodol arall. Mi roddwyd dyddiad inni yn fanna ar gyfer cyhoeddi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond mae'n bosib ein bod ni mewn lle rŵan lle bydd angen cyllideb atodol arall, ac mi fyddai cadarnhad o hynny yn ddefnyddiol.
Yr un elfen arall yr hoffwn i eglurhad arno fo ydy o gwmpas ymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Rydyn ni'n agos iawn at adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Dydy'r rhagolygon ddim yn dda i lefydd fel Caergybi yn fy etholaeth i, porthladd Abergwaun, siroedd fel Ynys Môn a Cheredigion sydd ar y frontier Ewropeaidd a'r pwysau ychwanegol sy'n debyg o ddod yn sgil gadael yn ddi-drefn—cymaint o drefn ag sy'n bosib dychmygu ei chael ar y pwynt yma. Felly, pa gronfeydd sydd gan y Llywodraeth wrth gefn—ar ben, wrth gwrs, y gwasgu sydd yna oherwydd COVID—i ddelio â'r argyfwng hwnnw hefyd, sydd yn prysur agosáu tuag atom ni?