10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 6 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:57, 6 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cadeirydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer Bil Pysgodfeydd Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, am graffu'n fanwl ar y Mesur hwn yn ystod ei hynt drwy Senedd y DU. Rwyf wedi gosod nifer o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar draws bywydau niferus y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am eu hystyried. Rwy'n cydnabod bod yr amserlen ar gyfer craffu yn aml wedi bod yn dynn iawn, ond mae llawer o hyn wedi bod y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Mae heriau sylweddol i geisio cydlynu amserlenni Senedd y DU a'r Senedd. Lle bynnag y bo modd, rwyf wedi anelu at roi cymaint o wybodaeth â phosibl i bwyllgorau ac Aelodau.

Roeddwn i'n falch o allu cytuno i ran fwyaf o'r argymhellion yn adroddiadau'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gan y ddau bwyllgor, a gobeithio i mi roi eglurder a sicrwydd ynglŷn â'r pwyntiau a gafodd eu codi. Ysgrifennodd Mick Antoniw, cadeirydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ataf ddoe yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion, a byddaf i'n rhoi i sylw i'r sylwadau hynny yn fy sylwadau agoriadol. Byddaf hefyd, wrth gwrs, yn ymateb yn ffurfiol i'r llythyr. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil hwn am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae'n ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn materion sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod ym mharth Cymru. Dyna oedd ein prif ofyniad, a llinell goch glir i mi. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru yn y dyfodol ar gyfer holl ddyfroedd Cymru. Yn ail, rydym yn parhau i ymrwymo i weithredu dull cydweithredol ledled y DU o greu fframwaith pysgodfeydd, nid yw'n bosibl ei wneud yn effeithiol ond mewn Bil y DU. Yn drydydd, bydd yn darparu set gydlynol o bwerau ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol. Rwyf wedi bod yn glir nad fy mwriad i yw cadw'r pwerau nad ydyn nhw'n rhai fframwaith mewn Bil y DU am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Yn y cyfamser, rwyf wedi cytuno i argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd fod angen cyflwyno adroddiad bob dwy flynedd i'r Senedd ar weithredu'r Bil mewn cysylltiad â Chymru nes y caiff Bil Pysgodfeydd Cymru ei gyflwyno.

O ran Atodlen 3, rwy'n nodi pryderon y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a wnaeth godi ynghylch y pwerau yn Atodlen 3 ar gyfer awdurdodau trwyddedu pysgod môr. Mae'r pwerau trwyddedu pysgodfeydd yn rhan o'r pwerau fframwaith. O ran yr amgylchiadau lle y byddwn i o'r farn bod angen arfer pwerau Atodlen 3 a bod hynny'n gyfleus, yn fy marn i, mae'r pwerau hyn i wneud rheoliadau wedi'u drafftio'n briodol er mwyn i'n system trwyddedu pysgodfeydd weithredu'n effeithiol yn awr ac yn y dyfodol. Bydd rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud o dan y pwerau hyn yn destun craffu i'r Senedd.

Mater arall a gafodd ei godi gan y ddau bwyllgor yn eu gwaith craffu oedd pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota a'r potensial i effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Mae datrys y mater hwn yn foddhaol wedi bod yn llinell goch i mi bob amser. Nodaf farn Cadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad ar y mater hwn, ond rwy'n fodlon y caiff y mater hwn ei ddatrys drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth fframwaith pysgodfeydd y DU a chyfnewid llythyrau gyda Llywodraeth y DU, a rennais â'r pwyllgorau, ac mae hynny'n rhoi i mi'r lefel o sicrwydd sydd ei hangen.

Fel y dywedais wrth y pwyllgorau, roeddwn wedi gobeithio bod mewn sefyllfa i rannu'r gwaith o ddrafftio'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, o ystyried natur eang y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mae'n dal i gael ei ddatblygu, a chyda'r amserlen ar gyfer y Bil hwn, roedd yn amhosibl ei rannu cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, ni fyddwn yn cyflwyno'r Bil hwn i gael cydsyniad os na fyddwn i'n fodlon bod y mater hwn wedi'i ddatrys yn foddhaol. Yn anffodus, mae cyflymder y Bil yn y camau olaf yn Senedd y DU wedi golygu na fu modd i'r Pwyllgor graffu fel sy'n arferol ar y cynigion cydsyniol deddfwriaethol atodol diweddaraf. Rwy'n falch felly ein bod ni'n cael dadl estynedig heddiw i roi cyfle i glywed barn yr Aelodau.

Ysgrifennais at y pwyllgorau yr wythnos diwethaf, gan nodi ein bod ni'n ceisio gwelliannau pellach yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin. Oherwydd oedi gan Lywodraeth y DU, nid oedd yn bosibl cwblhau rhai o'r gwelliannau angenrheidiol cyn y ddadl hon, ac nid yw hynny'n ddelfrydol. Gyda hynny mewn golwg, yn fy llythyr at y pwyllgorau fe wnes i gynnwys manylion ynghylch y gwelliannau yr ydym ni'n eu ceisio. Rydym wedi ceisio diwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i sicrhau bod y Ddeddf yn gymwys i is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud o ran parth Cymru ar ôl ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol yn y Bil. Rydym hefyd yn ceisio pwerau trefnu asiantaethau i alluogi Gweinidogion Cymru i ymrwymo i drefniadau gweinyddol gyda Gweinidogion yr Alban, adran Gogledd Iwerddon a'r Sefydliad Rheoli Morol ar arfer swyddogaethau pysgodfeydd—er enghraifft, o ran rheoli a gorfodi cydgysylltiedig neu at ddibenion gwyddoniaeth ac ymchwil. Nid ydym bellach yn ceisio'r gwelliannau i Atodlenni 3 ac 8 yr oeddwn wedi'u nodi yn fy llythyr diweddar.

Un pwynt ychwanegol yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef o lythyr y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad yw'r pryder a godwyd yn adroddiad y pwyllgor ynghylch argymhellion 6 a 7, sy'n ymwneud â newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir a swyddogaethau Cymru. Gallaf sicrhau'r Aelodau nad oes unrhyw bwerau'n cael eu colli, a nodais y dadansoddiad manwl yn fy llythyr at y pwyllgorau ar 3 Medi.

Wrth edrych tua'r dyfodol, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn ddiweddar sy'n nodi ein cynlluniau ar gyfer polisïau pysgodfeydd yng Nghymru yn y dyfodol. Fel y nodais yn y datganiad, rwyf wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyfleoedd pysgota i'n diwydiant yng Nghymru, gan sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o unrhyw gyfleoedd newydd, ac yn ei thro yn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i'n cymunedau arfordirol ac yn caniatáu gweithgareddau newydd, fel prosesu a gweithgareddau a manteision economaidd eraill. Mae'r Bil yn adlewyrchu ein hymrwymiad cryf i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy yn nyfroedd Cymru ac i weithio gydag eraill yr ydym ni'n rhannu stociau â nhw. Yn ogystal â hynny, mae'r angen i gael system fodern a hyblyg o reoli domestig ar gyfer stociau nad ydyn nhw'n gwota hefyd yn ganolog i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru. Mae'r Bil hwn, gan gynnwys, yn bwysig iawn, ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol, yn darparu'r pwerau cyfreithiol priodol i gyflawni ein polisi a'n dyheadau yn y dyfodol. Felly, rwy'n cynnig y cynnig ac yn gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Diolch.