– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 6 Hydref 2020.
Byddwn ni'n parhau â gweddill yr agenda heddiw, a dechreuaf drwy alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Diolch, Cadeirydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer Bil Pysgodfeydd Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, am graffu'n fanwl ar y Mesur hwn yn ystod ei hynt drwy Senedd y DU. Rwyf wedi gosod nifer o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar draws bywydau niferus y Bil hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am eu hystyried. Rwy'n cydnabod bod yr amserlen ar gyfer craffu yn aml wedi bod yn dynn iawn, ond mae llawer o hyn wedi bod y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Mae heriau sylweddol i geisio cydlynu amserlenni Senedd y DU a'r Senedd. Lle bynnag y bo modd, rwyf wedi anelu at roi cymaint o wybodaeth â phosibl i bwyllgorau ac Aelodau.
Roeddwn i'n falch o allu cytuno i ran fwyaf o'r argymhellion yn adroddiadau'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gan y ddau bwyllgor, a gobeithio i mi roi eglurder a sicrwydd ynglŷn â'r pwyntiau a gafodd eu codi. Ysgrifennodd Mick Antoniw, cadeirydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ataf ddoe yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion, a byddaf i'n rhoi i sylw i'r sylwadau hynny yn fy sylwadau agoriadol. Byddaf hefyd, wrth gwrs, yn ymateb yn ffurfiol i'r llythyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil hwn am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae'n ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn materion sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod ym mharth Cymru. Dyna oedd ein prif ofyniad, a llinell goch glir i mi. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru yn y dyfodol ar gyfer holl ddyfroedd Cymru. Yn ail, rydym yn parhau i ymrwymo i weithredu dull cydweithredol ledled y DU o greu fframwaith pysgodfeydd, nid yw'n bosibl ei wneud yn effeithiol ond mewn Bil y DU. Yn drydydd, bydd yn darparu set gydlynol o bwerau ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol. Rwyf wedi bod yn glir nad fy mwriad i yw cadw'r pwerau nad ydyn nhw'n rhai fframwaith mewn Bil y DU am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Yn y cyfamser, rwyf wedi cytuno i argymhelliad y pwyllgor newid hinsawdd fod angen cyflwyno adroddiad bob dwy flynedd i'r Senedd ar weithredu'r Bil mewn cysylltiad â Chymru nes y caiff Bil Pysgodfeydd Cymru ei gyflwyno.
O ran Atodlen 3, rwy'n nodi pryderon y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a wnaeth godi ynghylch y pwerau yn Atodlen 3 ar gyfer awdurdodau trwyddedu pysgod môr. Mae'r pwerau trwyddedu pysgodfeydd yn rhan o'r pwerau fframwaith. O ran yr amgylchiadau lle y byddwn i o'r farn bod angen arfer pwerau Atodlen 3 a bod hynny'n gyfleus, yn fy marn i, mae'r pwerau hyn i wneud rheoliadau wedi'u drafftio'n briodol er mwyn i'n system trwyddedu pysgodfeydd weithredu'n effeithiol yn awr ac yn y dyfodol. Bydd rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud o dan y pwerau hyn yn destun craffu i'r Senedd.
Mater arall a gafodd ei godi gan y ddau bwyllgor yn eu gwaith craffu oedd pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota a'r potensial i effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Mae datrys y mater hwn yn foddhaol wedi bod yn llinell goch i mi bob amser. Nodaf farn Cadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad ar y mater hwn, ond rwy'n fodlon y caiff y mater hwn ei ddatrys drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth fframwaith pysgodfeydd y DU a chyfnewid llythyrau gyda Llywodraeth y DU, a rennais â'r pwyllgorau, ac mae hynny'n rhoi i mi'r lefel o sicrwydd sydd ei hangen.
Fel y dywedais wrth y pwyllgorau, roeddwn wedi gobeithio bod mewn sefyllfa i rannu'r gwaith o ddrafftio'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, o ystyried natur eang y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mae'n dal i gael ei ddatblygu, a chyda'r amserlen ar gyfer y Bil hwn, roedd yn amhosibl ei rannu cyn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, ni fyddwn yn cyflwyno'r Bil hwn i gael cydsyniad os na fyddwn i'n fodlon bod y mater hwn wedi'i ddatrys yn foddhaol. Yn anffodus, mae cyflymder y Bil yn y camau olaf yn Senedd y DU wedi golygu na fu modd i'r Pwyllgor graffu fel sy'n arferol ar y cynigion cydsyniol deddfwriaethol atodol diweddaraf. Rwy'n falch felly ein bod ni'n cael dadl estynedig heddiw i roi cyfle i glywed barn yr Aelodau.
Ysgrifennais at y pwyllgorau yr wythnos diwethaf, gan nodi ein bod ni'n ceisio gwelliannau pellach yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin. Oherwydd oedi gan Lywodraeth y DU, nid oedd yn bosibl cwblhau rhai o'r gwelliannau angenrheidiol cyn y ddadl hon, ac nid yw hynny'n ddelfrydol. Gyda hynny mewn golwg, yn fy llythyr at y pwyllgorau fe wnes i gynnwys manylion ynghylch y gwelliannau yr ydym ni'n eu ceisio. Rydym wedi ceisio diwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 i sicrhau bod y Ddeddf yn gymwys i is-ddeddfwriaeth wedi'i gwneud o ran parth Cymru ar ôl ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol yn y Bil. Rydym hefyd yn ceisio pwerau trefnu asiantaethau i alluogi Gweinidogion Cymru i ymrwymo i drefniadau gweinyddol gyda Gweinidogion yr Alban, adran Gogledd Iwerddon a'r Sefydliad Rheoli Morol ar arfer swyddogaethau pysgodfeydd—er enghraifft, o ran rheoli a gorfodi cydgysylltiedig neu at ddibenion gwyddoniaeth ac ymchwil. Nid ydym bellach yn ceisio'r gwelliannau i Atodlenni 3 ac 8 yr oeddwn wedi'u nodi yn fy llythyr diweddar.
Un pwynt ychwanegol yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef o lythyr y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad yw'r pryder a godwyd yn adroddiad y pwyllgor ynghylch argymhellion 6 a 7, sy'n ymwneud â newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir a swyddogaethau Cymru. Gallaf sicrhau'r Aelodau nad oes unrhyw bwerau'n cael eu colli, a nodais y dadansoddiad manwl yn fy llythyr at y pwyllgorau ar 3 Medi.
Wrth edrych tua'r dyfodol, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn ddiweddar sy'n nodi ein cynlluniau ar gyfer polisïau pysgodfeydd yng Nghymru yn y dyfodol. Fel y nodais yn y datganiad, rwyf wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyfleoedd pysgota i'n diwydiant yng Nghymru, gan sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o unrhyw gyfleoedd newydd, ac yn ei thro yn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i'n cymunedau arfordirol ac yn caniatáu gweithgareddau newydd, fel prosesu a gweithgareddau a manteision economaidd eraill. Mae'r Bil yn adlewyrchu ein hymrwymiad cryf i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy yn nyfroedd Cymru ac i weithio gydag eraill yr ydym ni'n rhannu stociau â nhw. Yn ogystal â hynny, mae'r angen i gael system fodern a hyblyg o reoli domestig ar gyfer stociau nad ydyn nhw'n gwota hefyd yn ganolog i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru. Mae'r Bil hwn, gan gynnwys, yn bwysig iawn, ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol, yn darparu'r pwerau cyfreithiol priodol i gyflawni ein polisi a'n dyheadau yn y dyfodol. Felly, rwy'n cynnig y cynnig ac yn gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Diolch.
Diolch yn fawr. Galwaf nawr ar Jenny Rathbone i siarad ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Jenny Rathbone.
Diolch, Llywydd dros dro. Wrth siarad ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, sydd wedi cyhoeddi tri adroddiad ar bedwar cynnig cydsyniad deddfwriaethol ers i fersiwn gyntaf y Bil Pysgodfeydd fynd gerbron Senedd y DU ym mis Tachwedd 2018, hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil ym mis Chwefror 2019. Methodd y Bil hwn â chwblhau ei daith erbyn diwedd y sesiwn seneddol ddiwethaf, felly cafodd fersiwn newydd a rhywfaint gwell o'r Bil ei chyflwyno i Senedd y DU ym mis Ionawr eleni. Cyflwynwyd adroddiad gennym ar y Bil newydd ym mis Mai ac eto ym mis Medi ond, ers hynny, mae dau Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach wedi'u gosod heb amser i graffu gan y pwyllgorau cyn y ddadl heddiw. Mae'r drefn dameidiog hon wrth graffu yn dangos pa mor anfoddhaol yw'r broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wrth ystyried Biliau o'r math hwn.
Ar y cyfan, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiadau, gan dderbyn y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Er nad yw hyn wedi arwain at welliannau i'r Bil yn y rhan fwyaf o achosion, rydym wedi llwyddo i sicrhau ymrwymiadau cadarn gan y Gweinidog ar sawl mater allweddol, ac mae'n amlwg y byddwn ni'n mynd ar drywydd y rhain gyda'r Gweinidog maes o law. Rydym yn fodlon ar y cyfan ag ymateb Llywodraeth Cymru, ond mae ambell fater yr wyf i eisiau tynnu sylw'r Senedd atyn nhw.
Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i amlinellu, prif ddiben y Bil yw sefydlu fframwaith ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y DU ar ôl iddo adael y polisi pysgodfeydd cyffredin. Rydym yn derbyn bod angen fframwaith o'r fath, ac mae defnyddio Bil y DU i gyflawni hyn yn ddull synhwyrol; nid yw pysgod yn parchu ffiniau. Ond mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru sy'n mynd y tu hwnt i hynny i sefydlu fframwaith, ac mae'r rhain yn cynnwys pwerau rheoleiddio a gweithredol helaeth i Weinidogion Cymru. Nawr, mae'r Gweinidog wedi mynnu'n gyson fod angen y pwerau hyn i gefnogi pysgodfeydd Cymru i oddef cyfnod ansicr iawn. Mae'n anodd dadlau yn erbyn hynny gyda chytundeb masnach Brexit sydd eto i'w gyflawni, ac mae pandemig COVID yn parhau i adael ei ôl a dim gobaith o Fil Pysgodfeydd Cymru yn y tymor seneddol hwn.
Nawr, mae'r Gweinidog wedi honni bod y pwerau sy'n cael eu cymryd yn drosiannol, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Bil. Yn ein hail adroddiad, argymhellwyd terfyn amser statudol ar y pwerau hyn drwy gymal machlud, a chafodd yr un argymhelliad ei wneud gan y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad. Cafodd yr argymhelliad hwn ei wrthod ar y sail na allai Llywodraeth Cymru warantu y byddai Bil Pysgodfeydd Cymru yn cael ei gyflwyno cyn i unrhyw bwerau cyfyngu ar amser ddod i ben. Mae Lesley Griffiths wedi ymrwymo i gyflwyno Bil i Gymru yn y Senedd nesaf, ond nid oes sicrwydd y bydd Gweinidog gwahanol nac, yn wir, Lywodraeth wahanol yn rhoi'r un ymrwymiad. Heb gymal machlud, ni fydd fawr ddim ysgogiad, os o gwbl, i unrhyw Lywodraeth newydd gyflwyno ei Bil ei hun. Byddai'n gallu dibynnu am gyfnod amhenodol ar bwerau ym Mil Pysgodfeydd y DU, pwerau y mae'r Senedd wedi cydsynio iddyn nhw, yn rhannol o leiaf, ar y sail eu bod yn drosiannol. Gan fod y Gweinidog wedi diystyru cymal machlud, rhaid i'r Senedd gael cyfle i ailasesu rhinweddau'r pwerau sy'n cael eu rhoi gan Fil y DU. Fel yr argymhellwyd yn ein hadroddiad diweddaraf, rydym newydd glywed bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyflwyno adroddiad i'r Senedd bob dwy flynedd ar arfer y pwerau hyn.
Ac yna, rwyf eisiau canolbwyntio ar y cymal 23 presennol—pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn y DU. Llinell goch i'r Gweinidog oedd hon i ddechrau. Roedd ei phryderon, a rannwyd gan y pwyllgor, yn ymwneud â graddau'r pwerau a'u heffaith ar faterion datganoledig. Mae'r Gweinidog wedi ceisio mynd i'r afael â'r pryderon hyn nid drwy fynd ar drywydd gwelliant i'r Bil, fel yr oeddem ni wedi'i argymell, ond drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraethau. Er gwaethaf sicrwydd blaenorol, ni all y Gweinidog rannu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwnnw â'r Senedd. Ni all ychwaith rannu memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog wedi darparu copi o'i gohebiaeth ddiweddar â Llywodraeth y DU ar yr hyn a fyddai'n ddull rhesymol o ymgynghori cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer y pŵer o dan gymal 23.
Nid yw ein pwyllgor wedi cael cyfle i ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf hon, ond rwy'n gobeithio fy mod yn siarad ar ran y Pwyllgor wrth ddweud ei bod yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gallu cytuno ar holl ofynion y Gweinidog. Nid yw'n glir o hyd a yw Llywodraeth y DU a'r Gweinidog wedi llwyddo i ddarparu'r lefel angenrheidiol o sicrwydd ar y mater hwn. Llywydd, mae pob un o adroddiadau'r Pwyllgor wedi argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil, yn amodol ar eu bod yn fodlon ag ymatebion Llywodraeth Cymru, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau ystyried y pwyntiau yr wyf i wedi'u codi cyn gwneud eu penderfyniad heno. Diolch.
Diolch yn fawr, a nesaf galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch i chi am hynny. Fe wnaethom ni ddechrau ystyried Bil Pysgodfeydd y DU mor bell yn ôl â mis Rhagfyr 2018, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod fersiwn gyntaf Bil Pysgodfeydd Llywodraeth y DU wedi methu oherwydd diddymu Senedd y DU ddiwedd y llynedd, a hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru osod dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwnnw, yr adroddwyd arno ym mis Chwefror 2019. Cafodd Bil Pysgodfeydd newydd ei gyflwyno gan Lywodraeth bresennol y DU ym mis Ionawr eleni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod pedwar cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rydym ni wedi adrodd ddwywaith, yn gyntaf ym mis Mai, ac wedyn bythefnos yn ôl. Cafodd Memorandwm Rhif 3 ei osod ond ychydig ddyddiau cyn ein dyddiad cau ar gyfer adrodd, a dim ond ddydd Iau diwethaf y cyrhaeddodd y pedwerydd memorandwm.
Felly, yn ein Pwyllgor ddoe buom yn trafod memorandwm Rhif 4, ynghyd â llythyr gan y Gweinidog a gafodd ei anfon atom ar 1 Hydref, ac, o ganlyniad, ysgrifennwyd at y Gweinidog ddoe yn gofyn am eglurhad pellach ar ei llythyr a'i memorandwm Rhif 4. Mae'r ohebiaeth hon wedi'i chyhoeddi, ac rwy'n ddiolchgar am ateb y Gweinidog. Mae'n bwysig nodi nad yw memorandwm Rhif 4 yn ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwelliannau pellach i'r Bil. Nawr, caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud ar ôl i'r Senedd hon bleidleisio ar y cynnig heddiw. Mae llythyr y Gweinidog yn rhoi rhai manylion am y gwelliannau hyn, a gallwch weld y llythyr hwnnw yn y papurau ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Nid ydym wedi cael amser i asesu effaith y gwelliannau hyn. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yn rhoi gwybod i Aelodau'r Senedd am unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin yn dilyn y ddadl. Byddwn i'n awgrymu nad yw hyn yn foddhaol. Yn ein hadroddiad ym mis Chwefror 2019, amlygwyd ein pryder cynyddol ynghylch trosglwyddo pwerau o'r Senedd fel deddfwrfa i Lywodraeth Cymru fel y weithrediaeth. Mae'r pryder hwn yn cynyddu pan gaiff pwerau eu dirprwyo i Weinidogion Cymru drwy Fil y DU, nad yw Aelodau'r Senedd yn gallu dylanwadu arno'n uniongyrchol. I'r gwrthwyneb, byddai Aelodau'r Senedd, yn amlwg, yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad Bil Cymru.
Nawr, yn wreiddiol, dywedodd y Gweinidog wrthym mai ei bwriad oedd cyflwyno Bil Pysgodfeydd Cymru yn nhymor y Senedd hon. Gyda'r bwriad hwnnw wedi'i nodi, nid yw'n glir pam nad yw'r Gweinidog wedi ceisio cynnwys cymal machlud yn y Bil. Rhesymeg y Gweinidog oedd nad oedd gan Lywodraeth Cymru bysgodfeydd eto wedi'u cynnwys yn ei rhaglen ddeddfwriaethol. Codwyd y mater hwn gennym eto yn ein dau adroddiad ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil presennol. Yn ein hadroddiad a gafodd ei osod bythefnos yn ôl, cyflwynwyd cynnig wedi'i wella i'r Gweinidog. Nawr, er nad yw'n ddelfrydol, nid ydym yn gweld bod unrhyw reswm pam na fyddai modd cynnwys darpariaeth machlud ym Mil y DU, yn nodi dyddiad 2024, ynghyd â phŵer Harri VIII i Weinidogion Cymru a fyddai'n caniatáu ymestyn y dyddiad machlud o ddwy flynedd. Dylai pŵer gwneud rheoliadau o'r fath fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd ac, yn anffodus, cafodd y cynnig hwn ei wrthod.
Hoffwn i symud ymlaen nawr a thynnu sylw at fater arwyddocaol arall. Mae'n ffaith annymunol, gyda phob cynnig cydsyniad deddfwriaethol a ystyriwyd ar gyfer Biliau sy'n ymwneud â Brexit, mae anghydfodau amlwg wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fater sydd wedi'i ddatganoli. I ddechrau, roedd y pŵer yn y Bil i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn y DU yn llinell goch i'r Gweinidog, oherwydd ymyrrodd y pŵer â mater datganoledig. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn ceisio datrys y mater hwn drwy femorandwm cyd-ddealltwriaeth, ac mae hynny wedi peri cryn bryder i ni, yn bennaf oherwydd nad yw cytundebau o'r fath yn rhwymo'r naill barti na'r llall. Nododd y Gweinidog fod datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn hanfodol i unrhyw argymhelliad y gall hi ei roi i gydsyniad y Senedd gael ei roi i'r Bil. Nawr, yr wythnos diwethaf, rhannodd y Gweinidog ei llythyr at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol â ni, lle nododd y Gweinidog ei hoff delerau o ran cytundeb ar ddefnyddio'r pwerau i bennu cyfleoedd pysgota. Mae'r cytundeb hwn yn lle'r ffaith bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn dal i gael ei ddatblygu.
Nawr, fel y soniais i'n gynharach, nid oes amser wedi bod i ddadansoddi'n llawn yr ohebiaeth sydd wedi'i rhannu â ni. Fodd bynnag, nid yw'n glir inni ar unwaith fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, na statws unrhyw ymrwymiad, i delerau'r cytundeb fel y'i cynigiwyd gan y Gweinidog. Hyd yn oed gyda'r cyfnewid gohebiaeth hwn, mae'r ffaith na fydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn barod cyn cwblhau taith y Bil drwy Senedd y DU yn annerbyniol. Mae'r Senedd dan anfantais ddifrifol oherwydd nad oes ganddi fanylion y memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy'n ymwneud ag arfer pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu ar gyfleoedd pysgota.
Gan symud ymlaen, mae'r Bil yn rhoi pwerau rheoliadol a gweithredol helaeth i Weinidogion Cymru. Yn ein hadroddiad a osodwyd ym mis Mai eleni, dywedasom ei bod yn rhwystredig nad yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn nodi'n ddigonol y pwerau gwneud rheoliadau sy'n cael eu cymryd nac yn ceisio cyfiawnhau pam y maen nhw'n cael eu cymryd. Roeddem hefyd yn siomedig mai gwybodaeth gyfyngedig y mae'r Gweinidog wedi'i darparu o ran y rhesymeg a'r broses o Weinidogion Cymru yn rhoi caniatâd i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig.
Nawr, cyn cloi, rydym ni'n cydnabod bod y Bil yn ymestyn cymhwysedd y Senedd o ran pysgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod i barth Cymru gyfan. Er ein bod ni'n croesawu'r estyniad cymhwysedd hwn, gallai hefyd fod wedi'i gyflawni drwy Orchymyn adran 109, a fyddai wedi bod yn destun craffu a chymeradwyaeth gan y Senedd. Nawr, fel sy'n dod yn amlwg ar Filiau'r DU yn gysylltiedig â Brexit, mae cyfyngiadau ar y broses cydsyniad deddfwriaethol, yn bennaf oherwydd bod y Senedd wedi'i hatal rhag craffu'n llawn ar gyfraith arfaethedig a fydd yn berthnasol yn y pen draw yng Nghymru ac yn benodol oherwydd yr angen i weithredu'n unol ag amserlennu yn Senedd y DU. Ceir llawer o enghreifftiau lle gallai Senedd y DU yn deddfu dros Gymru ar fater datganoledig fod yn bragmatig ac yn rhesymol. Fodd bynnag, ym marn y Pwyllgor, mae'n drueni na chafodd newid sylweddol i'r gyfraith yng Nghymru ar gyfer y sector pysgodfeydd ei wneud yng Nghymru. Diolch.
Fel cenedl sydd â thraddodiad morwrol balch, nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd y Bil Pysgodfeydd hwn. Mae ein perthynas â'r môr nid yn unig wedi helpu i lunio hanes ein cenedl ond ein diwylliant hefyd. Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cydnabod bod angen dull gweithredu ledled y DU i greu'r fframwaith pysgodfeydd, y mae ond modd ei wneud drwy Fil y DU. Mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i weithredu'n bendant nes inni gyrraedd adeg pan fydd modd dod â Mesur pysgodfeydd cynhwysfawr i Gymru gerbron Senedd Cymru i graffu'n llawn ac yn briodol arno.
Mae'r Bil yn cyflwyno llawer o bethau cadarnhaol a sylweddol i Gymru, gan ailddiffinio cyfrifoldebau yn ymwneud â physgodfeydd neu Lywodraeth Cymru a'i his-adran forol a physgodfeydd, gan gynnwys datblygu rheoliadau newydd, cynlluniau rheoli pysgodfeydd newydd, trefniadau rhynglywodraethol newydd, gan gynnwys y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, memorandwm cyd-ddealltwriaeth a threfniadau datrys anghydfodau, a mwy o gyfrifoldeb o ran rheoleiddio a gorfodi pysgodfeydd ym mharth Cymru. Mae'n cydnabod natur dechnegol a byd-eang y farchnad bysgota. Mae cymalau 12 a 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfle i fanteisio ar bysgodfeydd Prydain gan gychod pysgota o Brydain a thramor. Mae Atodlen 2 hefyd yn cynnwys gwelliannau i sicrhau y bydd unrhyw longau tramor sy'n mynd i mewn i'n dyfroedd yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau â chychod pysgota Prydeinig. Yn y cyfamser, mae cymalau 19 i 22 ac Atodlen 4 yn darparu ar gyfer troseddau mynediad a thrwyddedu. Fodd bynnag, dim ond drwy is-adran forol a physgodfeydd wedi'i hariannu yn llawn y mae modd gorfodi'r cymalau hyn.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi tynnu sylw o'r blaen at bryderon ynghylch gallu staff cyfreithiol a pholisi pysgodfeydd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r llwyth gwaith cynyddol sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth newydd hon. Gweinidog, mewn llythyr a anfonwyd gennych at y Pwyllgor ar 30 Mehefin, fe ddywedasoch:
'lle y gall costau ychwanegol godi' mewn cysylltiad â'r is-adran forol a physgodfeydd,
'byddan nhw'n dod o gyllidebau rhaglenni presennol.'
Gyda phryder hefyd mai dim ond hanner y staff sy'n gweithio i'r tîm hwn ar hyn o bryd, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i egluro pa asesiad sydd wedi'i wneud i ganfod beth allai cyfanswm costau ychwanegol fod ac i ddweud yn bendant a all cyllidebau presennol dalu'r gost hon.
Mae cymal 23 yn galluogi Ysgrifennydd Gwladol y DU i bennu uchafswm y pysgod môr y gall cychod pysgota Prydeinig eu dal a'r nifer mwyaf o ddyddiau y gall cychod pysgota Prydeinig eu treulio ar y môr. O dan gymal 24, cyn i benderfyniad o'r fath gael ei wneud neu ei dynnu'n ôl, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn hyn o beth sydd, ar adeg y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn, yn parhau i aros. Nawr, rwy'n rhannu hyder y Gweinidog yn yr ymrwymiadau y mae Llywodraeth Prydain wedi'u gwneud hyd yma y bydd unrhyw Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cyflawni'r paramedrau a osodwyd rhwng y ddwy ochr.
Mae cymal 1 yn nodi amcanion pysgodfeydd y DU, a fydd yn berthnasol ledled y DU, ochr yn ochr ag amcan cynaliadwyedd wedi'i ailddrafftio. Mae'r Bil erbyn hyn yn cyflwyno amcan newydd o ran newid hinsawdd. Mae'r newidiadau hyn yn sylweddoli bod y Bil hwn yn cynnig cyfle digynsail i'r DU a Chymru ddangos uchelgais ac arweiniad amgylcheddol hyfyw i bolisi morol cynaliadwy, ond mae cynaliadwyedd hefyd yn golygu cefnogi swyddi arfordirol a'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod pysgodfeydd Cymru yn hyfyw yn economaidd ac yn gadarn i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n croesawu cyflwyno amcan newydd o dan gymal 1, wedi'i ddynodi'n 'fudd cenedlaethol'.
Mae gwybodaeth sy'n dyddio'n ôl i 1985 yn awgrymu mai diwydiant pysgota Cymru yw'r diwydiant cenedlaethol lleiaf yn y DU. Yn 2012, roedd tua 1,020 wedi'u cyflogi ym maes pysgota, 643 o weithwyr llawn amser rheolaidd a 347 o staff pysgota. Yn fwy cyffredinol, mae nifer y llongau pysgota yn fflyd y DU wedi gostwng 29 y cant ers 1996. Mae'r economegydd amgylcheddol Griffin Carpenter wedi nodi y bydd y pwerau cymorth ariannol sydd wedi'u cynnig o dan y cymal hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer amrywiaeth ehangach o ddibenion o'i gymharu â chronfa forol a physgodfeydd presennol Ewrop. Roedd hyn yn cynnwys cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant, a awgrymodd Mr Carpenter y gallai helpu i gefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc ac yn ei dro o bosibl adfywio'r diwydiant pysgota yng Nghymru.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid rhoi caniatâd, oherwydd mae gwneud hynny'n gam cadarnhaol ymlaen tuag at ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy i ddiwydiant pysgota Cymru. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar bryderon y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o ran ariannu a staffio'r is-adran forol a physgodfeydd, a'i bod yn ceisio cwblhau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyn gynted â phosibl. Diolch.
Mae rhaid i fi ddweud, mae yna deimlad o groundhog day o gwmpas y ddadl yma, oherwydd mae yna sawl tebygrwydd rhwng y dadl yma yr wythnos yma a'r ddadl gawson ni ar Fil Amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf. Mae yna rai elfennau positif, wrth gwrs, o'n blaenau ni heddiw. Mae estyn cymhwysedd y Senedd mewn perthynas â physgota a physgodfeydd a iechyd pysgod yng nghyd-destun y parth Cymreig—y Welsh zone—yn rywbeth wrth gwrs i'w groesawu. Ond dwi'n ofni bod yna lawer hefyd yn y Bil sy'n llawer llai positif. Dwi'n dal yn poeni does yna ddim eglurder ynglŷn â sut y bydd adnoddau yn cael eu rhannu ar draws gweinyddiaethau y Deyrnas Unedig, na chwaith sut y bydd datrys anghydweld rhwng y gweinyddiaethau hynny, nid yn unig o safbwynt adnoddau ond o safbwynt polisi hefyd.
O'r cychwyn cyntaf, wrth gwrs, mae Plaid Cymru a'r pwyllgorau dŷn ni wedi clywed oddi wrthyn nhw yn y ddadl yma wedi galw am gymal machlud. Rwy'n dal yn teimlo bod hynny yn angenrheidiol; dŷn ni'n dal, fel Aelodau o'r Senedd yma, dwi'n teimlo, angen sicrwydd y bydd yna Fil pysgodfeydd Cymreig fydd yn caniatáu inni ailsetio y pwerau a'r grymoedd sy'n cael ei rhoi i Weinidogion Cymru gan San Steffan mewn ffordd sydd yn 'bypass-io' ein rôl ni fel Aelodau o'r Senedd yma. Dwi'n synnu bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod hynny. Mi dderbynioch chi hynny yng nghyd-destun y ddadl ar y Bil amaeth yr wythnos diwethaf; mae'r egwyddor yn union yr un peth. Mae'r testun yn wahanol, a'r cynnwys yn wahanol, wrth gwrs, ond mae'r egwyddor yn union yr un peth, felly dwi ddim yn deall pam bod un rheol yn dderbyniol mewn un cyd-destun, a rheol arall, mae'n debyg, yn dderbyniol i chi yn y cyd-destun arall.
A nawr mae'r Gweinidog, yn hwyr, yn cynnig neu'n addo adroddiad bob dwy flynedd neu ryw fath o wybodaeth ddiweddaraf reolaidd. Nid yw hynny'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r mater sylfaenol o beidio â chael y cymal machlud, sydd, wrth gwrs, yn un o ddiffyg democrataidd, o'n rhan ni fel Aelodau o'r Senedd hon.
Cefais fy ngogleisio gan y disgrifiad o Gymru gan y Gweinidog fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol wrth agor y ddadl. Rydych yn dweud cymaint â hyn ar y naill law, ac yna, ar y llaw arall, wrth gwrs, rydych chi'n derbyn sefyllfa lle bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gallu arfer pwerau i benderfynu ar gyfleoedd pysgota yn nyfroedd Cymru. Nawr, mae hyn yn dod â mi at y memorandwm cyd-ddealltwriaeth—neu'r diffyg memorandwm cyd-ddealltwriaeth—yr un yr oeddech chi wedi addo y byddem ni'n cael ei adolygu cyn y penderfyniad cydsyniad hwn heddiw. Nawr, wrth gwrs, rydych chi'n dweud wrthym nad oes memorandwm cyd-ddealltwriaeth, ei fod yn dal i gael ei ddatblygu, ond eich bod wedi cael rhyw fath o addewidion gan Lywodraeth y DU sy'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnoch i argymell ein bod yn cymeradwyo'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn. A ydych chi'n ymddiried mewn gwirionedd yn Llywodraeth y DU, Gweinidog? Ydych chi wir yn eu cymryd ar eu gair? Mae hon yn Llywodraeth sy'n hapus i dorri cyfreithiau rhyngwladol mewn ffordd amlwg, a chawsom ein hatgoffa gan gyd-Aelod Llafur o'r Senedd hon eiliad yn ôl na allwch chi ymddiried yn y Torïaid yn y Siambr hon—ei eiriau ef, nid fy ngeiriau i. Ond, yn ôl pob golwg, fe allwch chi. Nawr, ond ychydig wythnosau'n ôl, roeddech chi'n dweud wrthym fod hon yn llinell goch o'ch rhan chi, a nawr rydych chi'n disgwyl i ni gydsynio i'r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar sicrwydd disylwedd yr ydych chi wedi'i gael gan Weinidogion Llywodraeth y DU na fyddan nhw'n diystyru Llywodraeth Cymru fel a phryd y mynnant. Rydych chi wedi'ch camarwain yn llwyr os ydych chi'n credu y gallwch chi seilio eich awdurdod ar ddealltwriaeth mor llipa gyda Llywodraeth y DU. Mae eich llinellau coch newydd ddiflannu, Gweinidog, ac o fy rhan i, mae'n ymddangos i mi eich bod yn plygu i Lywodraeth y DU. Mae Cymru'n haeddu gwell na hyn, ac rwy'n credu eich bod chi'n gwybod hynny, Gweinidog. Rwyf i wir yn credu eich bod chi'n gwybod hynny.
Nawr, rwy'n rhannu'r holl bryderon a fynegwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad yn y llythyr ac yn ei sylwadau cynharach. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n ein hatgoffa bod y Bil yn dal i newid. Ac mae'n adlewyrchu'n wael ar yr holl broses hon, rwy'n credu, bod y Llywodraeth wedi cyflwyno ei Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol ar 12 Chwefror, wedi cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar 8 Gorffennaf, Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol arall ar 16 Medi, ac un arall eto yr wythnos diwethaf ar 1 Hydref—mae'n siŵr y bydd un arall eto cyn inni gyrraedd y man lle mae'r Llywodraeth eisiau bod. Ac mae'r eironi yma, wrth gwrs, yr un fath â'r un y tynnais i sylw ato o ran Bil Amaethyddiaeth y DU yr wythnos diwethaf. Beth bynnag yr ydym ni'n ei benderfynu yma heddiw, bydd Llywodraeth y DU yn parhau yn ddi-hid, gan anwybyddu a ydym ni'n cydsynio iddyn nhw ddeddfu mewn meysydd datganoledig ai peidio. Rwy'n sylweddoli bod rhai pethau cadarnhaol yn y Bil hwn, ond, ar y cyfan, Gweinidog, ni allaf gefnogi'r Memorandwm hwn ger ein bron heddiw.
Mae gennyf bryderon sylweddol ynghylch y trefniant hwn: un ohonyn nhw yw nad wyf i'n ymddiried yn y Torïaid, a dyna fy llinell goch i mi fy hun. Byddaf i yn ei gefnogi, ond rwy'n mynd i'w gefnogi gydag amheuon enfawr, ac rwyf eisiau eu hamlinellu. Nid wyf yn credu bod adrodd bob dwy flynedd yn cyfateb â chymal machlud, ac mae hynny'n peri pryder imi. Ond yr hyn sydd wir yn peri pryder yma yw bod 90 y cant o fflyd bysgota Cymru yn cynnwys llongau bach, a'u bod yn dal pysgod cregyn yn bennaf, ac mae'r rhan fwyaf o hynny'n cael ei allforio i'r UE, ac nid oes cytundeb masnachu ar waith hyd yn oed. Gan ddod yn ôl at fy man cychwyn, nid wyf yn ymddiried yn y Torïaid: mae'n debyg mai ni oedd â'r cytundeb masnachu gorau erioed, a nawr mae'n amlwg nad oes gennym hyd yn oed gytundeb masnachu o unrhyw ddisgrifiad o gwbl. Os ydym ni'n ychwanegu at hynny y ffaith bod COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar y diwydiant, ac mae pris pysgod wedi gostwng yn ddramatig, hyd at 85 y cant mewn rhai achosion—ac, wrth gwrs, mae cau busnesau lletygarwch yn anorfod wedi gwneud y galw am bysgod cregyn yn llawer llai.
Felly, er fy mod i'n mynd i'w gefnogi, rwy'n rhannu'r holl bryderon y mae pobl eisoes wedi'u hamlinellu. Hoffwn i glywed esboniad, mewn gwirionedd, pam yr ydych chi mor hyderus, o fewn y fframwaith—. Ac rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y pethau cadarnhaol y mae eraill wedi'u hamlinellu—nid wyf eisiau cymryd amser i ailadrodd y rheini—ond hoffwn i gael yr ateb i sut yr ydych chi'n teimlo'n hyderus y gallwch chi symud ymlaen, o dan y cytundeb fframwaith, i gael cytundeb a fydd yn diogelu, fel yr wyf i wedi'i ddweud o'r cychwyn cyntaf, fuddiannau'r diwydiant pysgota, er yn fach, sy'n bodoli yng Nghymru.
Diolch yn fawr i bawb. Galwaf nesaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Cadeirydd. Rwy'n cydnabod yn llwyr lawer o'r pryderon y mae llawer o'r Aelodau wedi eu codi heddiw ynghylch craffu ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol a'r amserlenni byr yr ydym ni wedi eu cael i ni wneud hyn. Dywedais yn fy sylwadau agoriadol nad yw hyn yn ddelfrydol.
Rydym ni wedi cymryd cam cyfansoddiadol sylweddol ymlaen drwy'r Bil hwn i ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o ran parth Cymru, ac roedd sawl un o'r Aelodau yn cydnabod hynny heddiw. Ynghyd â'r pwerau ehangach sydd wedi eu cynnwys yn y Bil, bydd hyn yn ein galluogi i reoli ein pysgodfeydd yng Nghymru yn well ac i gyflawni ein polisi pysgodfeydd yn y dyfodol, ac rydym ni wedi ymrwymo yn llwyr i ddarparu Bil pysgodfeydd pwrpasol i Gymru. Mae'n ddrwg gen i nad ydym ni wedi gallu gwneud hynny yn y tymor hwn oherwydd cyfyngiadau diweddar y rhaglen ddeddfwriaethol, ac yn amlwg yn sgil COVID-19 hefyd, mae hynny wedi cael effaith sylweddol.
O ran holi pam rwy'n derbyn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, rwy'n credu mai un maes sy'n wahanol, yn wahanol iawn, o ran pysgodfeydd o'i gymharu ag amaethyddiaeth, y gwnaeth Llyr Huws Gruffydd ei godi, yw bod perthynas mor hirsefydlog o ran pysgodfeydd â Llywodraeth y DU. Felly, bob mis Rhagfyr, mae pob Gweinidog—Llywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon, y DU a minnau—yn mynychu'r cyngor mis Rhagfyr ym Mrwsel. Felly, bu'r cytundeb hwnnw a'r berthynas hirsefydlog honno ers blynyddoedd lawer. Felly, rwyf wedi rhannu'r holl ohebiaeth â phwyllgorau a byddaf i'n parhau i wneud hynny i roi'r sicrwydd hwnnw.
Os caf i droi at rai o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, mae'n ddiddorol i mi pam mae gan Janet Finch-Saunders gymaint o obsesiwn â lefel y staffio yn fy adran i. Fel y dywedais wrthych, rwy'n credu, yn ddiweddar mewn cwestiwn ysgrifenedig y gwnaethoch ei ofyn i mi, mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw hynny ac rwyf i wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ysgrifennu atoch ynglŷn â staffio.
Siaradodd Jenny Rathbone ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a Mick Antoniw fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y cymal machlud. Fe wnes i ymrwymo i gyflwyno fy adroddiad fy hun i'r Senedd ar weithredu'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â Chymru yn unig hyd nes y cyflwynir Bil pysgodfeydd Cymru, ac fe wnes i hynny yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Ac fel yr wyf i wedi ei ddweud, nid wyf i'n bwriadu cael y pwerau hyn mewn Bil y DU am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol. Mae angen i ni sicrhau bod gennym ni'r pecyn cymorth angenrheidiol ar waith i reoli'r her y mae Brexit yn ei chyflwyno, a COVID-19 erbyn hyn, i'n diwydiant pysgodfeydd, felly mae angen i ni gadw'r pwerau hynny yn y Bil y DU hwn.
Ac wrth sôn am yr her ddwbl honno, cododd Joyce Watson bryderon ynghylch buddiannau pysgodfeydd bach ac a fyddan nhw'n cael eu diogelu. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch effaith Brexit 'heb gytundeb', sy'n dod yn fwyfwy tebygol wrth i'r misoedd fynd yn eu blaen, nad oes gennym ni'r fargen fasnach honno sydd ei hangen arnom. Rydym ni'n gwybod am ddibyniaeth ein fflyd ar fynediad i farchnadoedd yr UE—ein cymdogion agosaf; 0.5 biliwn o bobl—ac rydym ni hefyd yn cydnabod yr effaith y mae cau marchnadoedd yr UE oherwydd COVID-19 wedi ei chael ar y diwydiant, ac rydym ni wedi darparu £0.5 miliwn o gymorth pwrpasol i'r sector.
Ond, i ailadrodd, bydd y Bil hwn yn rhoi'r pwerau i ni baratoi a rheoli ein pysgodfeydd yn well yn y dyfodol, ni waeth beth sy'n digwydd gyda'r trafodaethau hynny.
Gweinidog, a gaf i ofyn i chi ddod â'ch sylwadau i ben? Rydym ni ychydig dros amser. Diolch.
Diolch, Cadeirydd. O ran y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, nid wyf i'n credu y gwnes i addo ei gyflwyno; dywedais i y byddwn i pe gallwn i. Mae hynny'n dal i gael ei ddrafftio, ond cyn gynted ag y gallaf i ei rannu, fe wnaf i hynny. Diolch, Cadeirydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.