9. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau — 'Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:36, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar anghydraddoldeb a'r pandemig COVID. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl sefydliadau ac unigolion a roddodd o'u hamser i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau er gwaethaf y pwysau a roddwyd arnynt gan y pandemig. Roedd ein hadroddiad a'n 44 argymhelliad wedi'u gwreiddio'n fawr yn y dystiolaeth hon.

Wrth gwrs, nid oes yr un rhan o gymdeithas wedi osgoi effaith y pandemig, ond y realiti amlwg iawn yw mai'r unigolion, yr aelwydydd neu'r cymunedau sy'n berchen ar leiaf sydd wedi ysgwyddo'r baich mwyaf—boed yn gyfraddau marwolaeth, incwm is neu effaith ar iechyd meddwl a llesiant. Mae'r pandemig wedi effeithio ar bawb, ond i lawer ohonom, gellir rheoli'r anawsterau, a bydd rhai o ymylon miniog yr anghysur yn cael eu llyfnhau. Nid yw hyn yn wir i'r rheini sydd eisoes yn fwy tlawd a difreintiedig na'r gweddill ohonom. Mae'r pandemig wedi datgelu'r anghydraddoldebau sydd wedi bod yn bresennol yn ein cymdeithas ers llawer gormod o amser. Felly, rwy'n credu ei bod yn addas iawn ein bod ni, yn ein hadroddiad, wedi dyfynnu geiriau Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, a ddywedodd, er ein bod i gyd ar yr un môr, mae'n amlwg bod rhai mewn cychod pleser tra bod eraill yn crafangu am y rwbel sy'n arnofio ar wyneb y dŵr.

Fel y dywedais, gwnaethom 44 o argymhellion, ac rwy'n falch iawn fod y mwyafrif llethol wedi'u derbyn—derbyniwyd 34 o'r 44 yn llawn, cafodd saith eu derbyn mewn egwyddor, cafodd un ei dderbyn yn rhannol—a dim ond dau a wrthodwyd. Mae'r argymhellion yn cwmpasu ystod eang o feysydd o ddatblygu polisi, data, ymgysylltu â dinasyddion i addysg, budd-daliadau, gwaith teg, hygyrchedd ac iechyd a gofal cymdeithasol. Ni allaf geisio gwneud cyfiawnder â phob un o'r rheini yn yr amser sydd ar gael i mi, felly rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw yn bennaf ar dlodi.

Mae'n werth nodi inni gyhoeddi ein hadroddiad yn yr hyn sydd bellach yn teimlo fel cam gwahanol iawn yn y pandemig, yn y seibiant llawer rhy fyr wrth i'r cyfyngiadau symud cychwynnol gael eu llacio, ond cyn yr ail ymchwydd o'r feirws sydd wedi arwain at roi bron hanner pobl Cymru yn ôl dan ryw fath o gyfyngiadau lleol. Yn yr adroddiad dywedasom ein bod yn gobeithio y gallai ein canfyddiadau helpu'r ymateb i unrhyw donnau pellach o haint yn ogystal â helpu i lywio'r cynllun adfer, fel na fyddai'r un camgymeriadau'n cael eu hailadrodd.

Fel pwyllgor, rydym wedi bod yn galw am strategaeth trechu tlodi ar draws y Llywodraeth gyfan wedi'i hategu gan dargedau a data clir ers 2017. Yr adroddiad hwn oedd y trydydd tro i ni wneud yr argymhelliad hwn; yn gyntaf, yn ein hadroddiad Cymunedau yn Gyntaf, lle cafodd ei wrthod, ac yna yn ein hadroddiad ar wneud i'r economi weithio i bobl ar incwm isel, pan gafodd ei wrthod eto. Felly, rwy'n falch o nodi rhywfaint o gynnydd yn awr, yn yr ystyr ei fod wedi'i dderbyn mewn egwyddor y tro hwn, ond rwy'n credu y gallai'r sylwebaeth a ddaw gyda'r derbyniad mewn egwyddor fod wedi bod yn llawnach ac yn fwy argyhoeddiadol, o ran ei chynnwys a'i manylder.

Gwyddom na wnaiff strategaethau ar eu pen eu hunain ddatrys problem tlodi hirsefydlog yng Nghymru, a dull clir a strategol, gyda chamau gweithredu wedi'u targedu yn canolbwyntio ar y rhai sydd naill ai'n byw mewn tlodi neu'n wynebu'r perygl mwyaf o fynd yn dlawd, yw'r unig ffordd y gallwn fod yn sicr o wybod bod y camau cywir yn cael eu cymryd ar yr adeg iawn ac yn y mannau cywir.

Gwyddom nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr holl ysgogiadau sy'n angenrheidiol i ddileu tlodi yng Nghymru, ac ychydig wythnosau yn ôl siaradais am yr angen i ddatganoli budd-daliadau ymhellach, ond dyma pam ei bod mor bwysig i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael iddi. Rhaid iddi sicrhau bod pob gweithred yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl; mae angen iddi gael y data a'r dystiolaeth i'w galluogi i werthuso a monitro llwyddiant a lle bo angen, i newid cyfeiriad.

Nid ein pwyllgor ni yn unig sy'n galw am y strategaeth hon; mae eraill, gan gynnwys Oxfam, yn cytuno â ni. Yn ei hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dyfynnu'r adolygiad o'r rhaglenni trechu tlodi, ond nid yw'n rhoi unrhyw fanylion am y camau y mae'r Llywodraeth wedi cytuno i'w cymryd, felly gofynnaf i'r Gweinidog ddweud wrthym pa gamau a gymerir i gynyddu incwm teuluoedd, ac unigolion hefyd.

Un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth yw drwy'r gronfa cymorth dewisol. Fel y dywedodd pennaeth Oxfam Cymru wrthym,

Pe bawn mewn argyfwng ariannol heddiw, ni fyddwn yn rhoi'r ymadrodd "cronfa cymorth dewisol" i mewn i Google.

Ychwanegodd nad oedd digon o bobl yn ymwybodol ohoni. Mae hwn yn fater hirsefydlog, fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad, felly mae'n syndod gweld y Llywodraeth yn ei ddisgrifio fel brand cyfarwydd. Er ein bod yn croesawu'r cymorth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu drwy'r pandemig drwy gyfrwng y gronfa cymorth dewisol, a yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn hyderus fod pawb sydd angen y cymorth a gynigir ganddi yn ei gael?

Dylai'r pandemig fod yn gatalydd inni fynd i'r afael o'r diwedd â'r anghydraddoldebau sy'n llawer rhy gyffredin yng Nghymru, nid yn unig i helpu adferiad ar ôl y pandemig, ond i adeiladu gwlad decach a mwy cyfartal ar gyfer y dyfodol. Edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob rhan o'r Senedd ac at ymateb y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.