Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 7 Hydref 2020.
Er bod ein hadroddiad yn nodi, ers mis Mawrth
'mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r effeithiau penodol neu anghyfartal ar grwpiau arbennig o bobl', mae hefyd yn nodi bod llawer o ymatebwyr i'n hymchwiliad wedi pwysleisio'r angen am weithredu ar unwaith yn hytrach na chynhyrchu mwy o strategaethau, ac:
'Wrth lunio polisïau a chamau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn, rhaid ymgysylltu mewn ffordd wirioneddol ac ystyrlon â'r rheini y mae hyn yn effeithio arnynt fwyaf.'
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad cyntaf ein hadroddiad yn datgan y byddant yn
'ceisio dysgu gwersi o'r misoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod ystyried effaith yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau.'
Fodd bynnag, fel y mae ein hadroddiad yn dangos, mae hyn yn fwy o fater o ddod, yn hytrach na pharhau i fod, yn rhan annatod o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau. Fel y noda ein hadroddiad hefyd, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon
'fel bod profiad byw yn cael cymaint o ddylanwad â phosibl ar benderfyniadau, a hynny i sicrhau bod gwaith yn digwydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb presennol yn hytrach na’i gadarnhau.'
Wrth ymateb i'n hargymhelliad 4, dywed Llywodraeth Cymru, pan fydd adnoddau ar gael, y bydd gwaith adolygu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn cael ei ailgychwyn. Fodd bynnag, mae naw mlynedd a hanner bellach ers i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ddod i rym yng Nghymru, wedi'i hategu gan ddyletswyddau penodol gan gynnwys ymgysylltu â phobl, eu cynnwys ac ymgynghori â hwy ac asesu effaith polisïau. Er bod y ddyletswydd hon yn berthnasol i bob awdurdod cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, mae fy ngwaith achos cyn ac ar ôl COVID yn llawn o enghreifftiau o awdurdodau cyhoeddus yn creu rhwystrau pellach er anfantais wirioneddol i bobl â nodweddion gwarchodedig, yn enwedig anabledd. Bydd methu ariannu a blaenoriaethu hyn yn awr yn gwaethygu anghydraddoldeb yn ystod y pandemig hwn ac yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau cyhoeddus ar bob lefel.
Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru ond yn derbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhelliad y dylai gyhoeddi strategaeth lleihau tlodi ar gyfer y Llywodraeth gyfan, gyda thargedau a dangosyddion perfformiad, yn annerbyniol a dweud y gwir. A byddai eu datganiad eu bod yn parhau'n ymrwymedig i ddatblygu eu dull o ymdrin â pholisïau a rhaglenni gwrthdlodi yn y dyfodol yn chwerthinllyd pe na bai hyn mor bwysig.
Fel y dywed ein hadroddiad, rydym wedi dadlau dro ar ôl tro fod angen strategaeth drawsbynciol, gynhwysfawr i fynd i'r afael â thlodi, gyda thargedau, cyflawniadau a cherrig milltir clir y gellir asesu cynnydd yn eu herbyn, fel y pwysleisiodd ein Cadeirydd o'r blaen. Mae Sefydliad Bevan wedi datgan bod angen strategaeth gwrthdlodi sy'n gosod yn glir y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Wrth dderbyn ein hargymhelliad 17, dywed Llywodraeth Cymru ei bod am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl hawlio budd-daliadau datganoledig, megis prydau ysgol am ddim a gostyngiadau yn y dreth gyngor, gan ychwanegu eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i nodi atebion posibl. Fodd bynnag, mae bron i ddwy flynedd bellach ers i Cartrefi Cymunedol Cymru alw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i gydleoli gwasanaethau a galluogi ceisiadau am fudd-daliadau awdurdodau lleol i gael eu gwneud ar yr un pryd â'r credyd cynhwysol. Unwaith eto, mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer prydau ysgol am ddim, mynediad at y grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Wrth dderbyn argymhelliad 37, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod wedi sefydlu grŵp cyfathrebu hygyrch, gan gynnwys sefydliadau sydd wedi tystio i'r anawsterau y profodd rhai sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, yn ddall neu â nam ar eu golwg, sydd ag anawsterau dysgu neu'n awtistig wrth geisio cael gafael ar wybodaeth glir a chryno yn ystod y pandemig coronafeirws. Fodd bynnag, dywedodd un o'r sefydliadau a'i mynychodd wrthyf: 'Roedd y cyfarfod ymhell o fod yn hygyrch i'r rhai a oedd yno. O ddifrif, roedd fel comedi sefyllfa ar sut i beidio â chynnal cyfarfod gyda phobl anabl a phobl fyddar a byddai wedi bod yn ddoniol mewn unrhyw amgylchiadau eraill.'
Yn olaf, wrth dderbyn ein hargymhelliad 38, dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau i ystyried cyfleoedd i wella cymorth i'r rheini na allant gael arian cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gwasanaethau arbenigol bellach yn galw am eglurder ynglŷn â sut y bydd cymorth digartrefedd i oroeswyr nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus yn parhau. Er mwyn cefnogi pob goroeswr nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus yn effeithiol, rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym felly a fydd yn cytuno ar fodel ariannu cynaliadwy gyda gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac awdurdodau lleol yn ystod tymor y Senedd hon i sicrhau eu bod yn cael llety saff a diogel. Diolch yn fawr.