Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch yn fawr. Wel, hoffwn ddiolch i bawb, yn amlwg, am eu cyfraniadau, a oedd yn eang iawn eu cwmpas, fel yr adroddiad, ond hefyd, rwy'n meddwl eu bod yn dangos angerdd gwirioneddol dros y pryderon sydd gennym i gyd, a grym gwirioneddol y dadleuon a'r pwyntiau a wnaed i ddod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a'r gwendidau sydd gennym yng Nghymru, a gafodd eu hamlygu'n eglur iawn, fel y dywedodd cynifer o'r Aelodau, ac fel y nodwn yn nheitl yr adroddiad, gan y pandemig.
Oes, mae'n rhaid targedu'r adferiad at y rhai sydd wedi colli fwyaf, a phan soniwn am adeiladu'n ôl yn well, rhaid iddo ymwneud ag unioni'r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli. Felly, roedd yn dda iawn clywed gan y Gweinidog, Jane Hutt, pa mor ymrwymedig yw Llywodraeth Cymru drwyddi draw i'r materion hyn ac i sicrhau bod yr ymateb i'r heriau yn bopeth y mae angen iddo fod. Credaf fod yr ymrwymiad hwnnw, ac unwaith eto, yr angerdd hwnnw, wedi dod drwodd yn glir iawn.
Ydy, mae'n eang ei gwmpas o ran y materion sy'n codi, ac mae'n heriol iawn, ond gwyddom fod rhai pethau eisoes wedi'u gwneud, oherwydd, yn amlwg, mae'n ymwneud â'r tymor byr yn ystod y pandemig yn ogystal â'r tymor canolig a'r tymor hwy. Credaf mai un enghraifft o weithredu ar ran Llywodraeth Cymru, enghraifft a oedd i'w chroesawu'n fawr, oedd y ffordd yr ymdriniwyd â materion yn ymwneud â phobl sy'n cysgu ar y stryd, gyda chyllid ychwanegol, ond hefyd meddwl clir a phartneriaethau cryf a olygai fod y cyllid hwnnw wedi'i ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. A'i ddilyn wedyn â chyllid pellach fel nad ydym yn llithro'n ôl o'r cynnydd a wnaed, sef yn union yr hyn roedd pawb a oedd yn darparu'r gwasanaethau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref yn galw amdano a'i eisiau. Felly, dyna un enghraifft dda, rwy'n meddwl, lle gallwn ni yng Nghymru, er mor anodd yw'r heriau, gymryd camau effeithiol a gwneud y cynnydd angenrheidiol, ac mae'n dda cael yr enghreifftiau hynny i'w hadrodd.
Soniodd pobl yn briodol am y materion sy'n ymwneud â'n cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ac unwaith eto, credaf fod gennym enghreifftiau yma lle gweithredodd Llywodraeth Cymru yn gyflym i sefydlu'r gweithgor gyda'r Athro Ogbonna. Cynhyrchodd y grŵp hwnnw ffyrdd ymarferol ymlaen, gan gynnwys y pecyn cymorth i asesu risg, ac i weithredu ar y risg asesedig honno, gan ddangos unwaith eto ei bod yn berffaith bosibl, gyda'r math iawn o ymrwymiad a threfniadaeth, i weithredu'n gyflym ac yn ystyrlon. Felly, er mor frawychus yw'r heriau, mae'n enghraifft arall o sut y gellir mynd i'r afael â hwy'n effeithiol ac ymdrin â hwy. Mae angen yr enghreifftiau hynny arnom oherwydd credaf fod angen inni ymgalonogi a sicrhau bod pawb sydd allan yno'n darparu'r gwasanaethau yn deall ei bod yn berffaith bosibl ymdopi â maint yr her drwy gydweithio.