10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:47, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Darren Millar. Rydym i gyd yn cydnabod gwerth y celfyddydau a diwylliant yn ein cymdeithas. Yn ogystal â chyfoethogi ein bywydau, mae'r celfyddydau a diwylliant yn cael effaith ehangach sy'n haws ei mesur ar ein heconomi, ein hiechyd a'n lles, ein cymdeithas a'n haddysg. Mae'r pandemig presennol yn parhau i gael effaith ddinistriol ar ein diwydiannau celfyddydol a chreadigol. Mae theatrau, orielau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifdai, gwyliau a sinemâu oll mewn perygl.

Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn deall bod heriau difrifol yn wynebu'r celfyddydau a'r angen i'w cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam y cyhoeddasant becyn achub enfawr o dros £1.5 biliwn ym mis Gorffennaf i helpu i oroesi effaith y coronafeirws. Gall miloedd o sefydliadau ar draws ystod o sectorau gael gafael ar y grantiau a'r benthyciadau brys. Dyma'r buddsoddiad untro mwyaf erioed yn niwylliant y DU, gan ddarparu achubiaeth hanfodol i sefydliadau diwylliannol a threftadaeth ym mhob cwr o'r wlad. O ganlyniad i'r cyllid newydd hwn, mae Cymru'n cael £59 miliwn o arian canlyniadol ychwanegol, fel yr amlinellwyd yn gynharach, ac rydym yn croesawu hynny yng ngwelliant 2. 

Fodd bynnag, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog yn ei gronfa adferiad diwylliannol na fyddai'n cynnwys swm llawn y cyllid a ddarperir. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, David Melding, ar y pryd, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud cam â'r celfyddydau. Carwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog: i ble mae'r cyllid ychwanegol wedi mynd, pam nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddiogelu bywoliaeth pobl yn ein diwydiannau creadigol a pham nad yw'r arian hwnnw'n helpu i sicrhau dyfodol lleoliadau hamdden a threftadaeth a sefydliadau eraill sy'n cyfrannu at dapestri cyfoethog bywyd Cymru?

Nid yw holl broblemau'r sector diwylliant wedi deillio o'r coronafeirws. Daeth yr adolygiad diweddar o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl 10 mlynedd o broblemau ariannol, gydag incwm yn gostwng yn raddol o flwyddyn i flwyddyn a gostyngiad o 23 y cant yn nifer y staff rhwng 2008 a 2019. Daeth yr adolygwyr i'r casgliad nad oedd y llyfrgell genedlaethol wedi bod mor effeithiol nac mor gyson ag y gallai fod wrth ysgogi newid, ac roeddent yn parhau i bryderu am y diffyg cynllun strategol ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hir.  Mae ein gwelliant 9 yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol ac yn galw am gynyddu cyllid llinell sylfaen yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae ein gwelliant 3 yn ceisio dileu gwrthwynebiad Plaid Cymru i'r cynlluniau ar gyfer amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd. Yr amgueddfa gyntaf y cyfeirir ati yw'r amgueddfa meddygaeth filwrol. Byddai'n adrodd hanes pedwar corfflu Gwasanaethau Meddygol y Fyddin: Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, Corfflu Milfeddygol Brenhinol y Fyddin, Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin a Chorffluoedd Nyrsio Brenhinol y Frenhines Alexandra. Byddai archifau'r amgueddfa, sy'n mynd yn ôl i'r rhyfeloedd Napoleonig, yn cael eu defnyddio gan ymchwilwyr ym maes meddygaeth a hanes meddygol. Yr ail amgueddfa arfaethedig yw amgueddfa cerddoriaeth y fyddin. Rwyf mor siomedig o weld bod Plaid Cymru yn gwrthod y cynigion hyn. Ni ellir honni mewn unrhyw ffordd fod amgueddfeydd meddygaeth a cherddoriaeth filwrol rywsut yn gogoneddu rhyfel. Drwy adael i'w heddychiaeth gynhenid gymylu eu barn, mae Plaid Cymru wedi amlygu ei dirmyg tuag at y rhai sy'n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu yn y canghennau hyn o'n lluoedd arfog, ac unwaith eto mae'n ceisio porthi'r diwylliant canslo a fyddai'n gwyngalchu hanes cenedl falch. Mae cofio rhyfel a choffáu aberth yn sicrhau nad yw'r ddynoliaeth yn ailadrodd yr un camgymeriadau.

Lywydd, mae hwn yn gyfnod heriol i'r sector celfyddydau a diwylliant. Credaf fod cyllid diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn dangos ei dealltwriaeth o bwysigrwydd ein hasedau a'n gweithgareddau diwylliannol. Os gweithredwn yn awr, gallwn sicrhau y gall ein sector celfyddydau a diwylliant dyfu a ffynnu pan ddaw'r argyfwng hwn i ben.