– Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 2, 3 a 9 yn enw Darren Millar, a gwelliannu 4, 5 ac 8 yn enw Rebecca Evans. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 6, 7, 10, 11, 12 a 13 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar yr heriau sy'n wynebu sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, a dwi'n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7421 Sian Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.
2. Yn croesawu’r archwilio o’r newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill.
3. Yn cefnogi galwadau i sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol.
4. Yn gresynu at y ffaith bod cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19.
5. Yn gwrthwynebu cynigion i ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Cyngor y Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';
b) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at ddibenion celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf Coronafeirws 2020 ddod i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif ddiben;
c) archwilio creu amgueddfa genedlaethol hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw i’w lleoli yn Tiger Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o amgueddfeydd milwrol;
d) sicrhau mwy o gyfranogiad pobl ddu a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil Cymru;
e) sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei chyfanrwydd wrth symud ymlaen;
f) cyflwyno gwarchodaeth statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig; a
g) sicrhau bod pob adran o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud hynny.
Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i am yr oedi. Mae'r celfyddydau yng Nghymru yn cyffwrdd pob un ohonom a phob cymuned. Mae Cymru yn un pair o dalent. Rydyn ni'n genedl lle mae diwylliant yn greiddiol i'n ffordd ni o fyw. Sut fyddai'r misoedd diwethaf wedi bod oni bai am y celfyddydau? Heb yr adloniant, y cyfle i adlewyrchu a'r cyfle i ddod at ein gilydd tra'n aros ar wahân. Mi ddylai Llywodraeth ein gwlad uchafu pwysigrwydd y celfyddydau i'r economi, i gymdeithas, ei rôl ataliol a'i rôl ysbrydol, eneidiol. Ond, nid felly mae hi. Ddoe, cyhoeddwyd 'Ail-greu ar ôl COVID-19: yr heriau a'r blaenoriaethau' gan y Cwnsel Cyffredinol Jeremy Miles, ond prin ydy'r sôn am ddiwylliant; dydy diwylliant ddim yn cael ei ystyried fel mater o flaenoriaeth. Cymdeithas, yr economi, yr amgylchedd, iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, ymgysylltu gwleidyddol a thechnegol ddigidol—dyna ydy'r chwe ardal benodol o flaenoriaeth. Mae un flaenoriaeth fawr ar goll, sef diwylliant a'r celfyddydau. Dyma faes sy'n greiddiol i adferiad y genedl ar ôl COVID. Mae'r ffaith nad ydy o'n cael ei restru yn hynod siomedig, ac yn dweud y cwbl: dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gweld ein celfyddydau a'n diwylliant fel blaenoriaeth. Ac yn nogfen Jeremy Miles, does fawr o sôn am unrhyw beth fyddai'n helpu amddiffyn y sector, ei adeiladu nôl yn well na'i ddefnyddio fel arf bwysig yn yr adferiad.
Yn Iwerddon, mae deialog cyson, cadarnhaol rhwng y sector a'r Llywodraeth a gwerthfawrogiad llawn o bwysigrwydd y celfyddydau yn y cynlluniau adfer. Yn Seland Newydd, mae'r sector yn ganolog i'w hadferiad; fe roddwyd gwaith i gannoedd o artistiaid yn ysgolion y wlad fel rhan o'u cynlluniau adferiad. Mae nifer fawr o wahanol gynlluniau a chronfeydd o gefnogaeth, a rhaglen benodol adferiad celfyddydau a diwylliant sy'n cynnwys pob rhan o'r sector. O, am gael gweledigaeth ddychmygus o'r math yma yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae'r celfyddydau a'r sector creadigol mewn cors ar hyn o bryd, neu fel llong fawr, hardd heb gapten wrth y llyw. Wrth siarad â rhanddeiliaid ar draws Cymru, yr un ydy'r neges: does gan y Llywodraeth ddim gweledigaeth glir; mae yna ddiffyg arweiniad a diffyg cyfathrebu efo'r sector drwyddi draw, gan gynnwys efo'r undebau creadigol, gyda llaw.
Mae yna ambell i ddatblygiad positif, oes, fel y gweithgareddau yn Theatr Clwyd i enwi ond un, ond, ar y cyfan, mae'r cyfnod clo wedi tanlinellu'r gwendidau mawr oedd yno yn barod. Model o'r top i lawr sydd gennym ni yng Nghymru, efo cyngor y celfyddydau yn cael arian i weinyddu, a hwnnw yn 'trickle-o' lawr. Ond, nid dyna weledigaeth Plaid Cymru. Yn hytrach, rydyn ni'n rhoi'r pwyslais ar ddiwylliant llawr gwlad yn bwydo i fyny ac yn porthi'r sefydliadau.
Un ecoleg fawr gron ydy'r celfyddydau yng Nghymru, gyda'r gwahanol elfennau yn atgyfnerthu ei gilydd. Ond, i'r olwyn ecolegol gelfyddydol weithio'n iawn, rhaid parchu pob rhan ohoni hi a chefnogi pob rhan. Heb weithwyr llawrydd, byddai'r system yn dymchwel; heb y sefydliadau, fyddai yna ddim prosiectau na seilwaith i gefnogi ymarferwyr artistig unigol.
Ond, ble mae pwyslais Llywodraeth Cymru? Ar ddenu cwmnïau ffilm o'r tu allan a'u canoli yng Nghaerdydd, yn hytrach na meithrin ein creadigrwydd cynhenid ein hunain o'r gwaelod i fyny. Daeth yna gyhoeddiad dros y penwythnos fod Llywodraeth Cymru wedi taro bargen efo cwmni Great Point, sy'n dod i Seren Stiwdios—enw newydd Pinewood. Pam na all Llywodraeth Cymru ffocysu ar helpu'r sector a chwmnïau Cymreig ar lawr gwlad, yn hytrach na chwmnïau mawr rhyngwladol?
Mae'r sector cyfrwng Cymraeg dan fygythiad penodol. Mae tystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i'r pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg yn nodi bod angen i'r sector Cymraeg ei iaith dderbyn cefnogaeth benodol oherwydd y cyfleoedd y mae'n eu cynnig i siaradwyr Cymraeg gymdeithasu yn y Gymraeg, ac mae angen sicrwydd yn y tymor hir fod y Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei gyfanrwydd wrth symud ymlaen.
Dwi'n troi at ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol allweddol, a dwi am sôn am dri yn unig. Mae'r llyfrgell genedlaethol wedi dioddef o ganlyniad i dangyllido systematig gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, ac mae'r adolygiad teilwredig sydd newydd ei gyhoeddi yn mynegi pryder mawr ynghylch dyfodol y llyfrgell genedlaethol, gan nodi'r glir iawn nad ydy'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.
Mae sefyllfa'r amgueddfa genedlaethol yn fregus hefyd, ac yn sicr mae tanfuddsoddi wedi bod, yn arbennig o ran isadeiledd a chynnal a chadw'r safleoedd. Yr Urdd: mae Urdd Gobaith Cymru yn wynebu'r hyn a ddisgrifiwyd gan ei brif weithredwr fel cyfnod mwyaf heriol ei 98 mlynedd o hanes o ganlyniad i'r sefyllfa COVID-19. Mae'r mudiad yn wynebu gostyngiad incwm o £14 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae'n rhaid i ni wrthwynebu'r amarch sy'n cael ei ddangos tuag at ein sefydliadau cenedlaethol; at y celfyddydau drwyddi draw ac at y gweithwyr yn y diwydiant. Fe welwyd enghraifft berffaith o'r amarch yma ddoe gan Rishi Sunak. Fe aeth ati i gynddeiriogi cerddorion efo'i sylwadau amharchus.
Mi roedd Llywodraeth San Steffan yn gyndyn iawn o roi cymorth ariannol i'r celfyddydau pan oedd y pandemig ar ei anterth, a phan ddaeth cyfran o'r arian hwnnw i Gymru, yn llawer rhy hwyr yn y dydd, roedd £6 miliwn ohono fo ar goll. A dim ond wythnos diwethaf y cyhoeddwyd cronfa gwerth £7 miliwn ar gyfer gweithwyr llawrydd—yr arian coll yn ffeindio'i ffordd i'r artistiaid o'r diwedd bellach? Ond yn rhy hwyr i lawer sydd wedi hen roi'r gorau i geisio cynnal bywoliaeth yn y celfyddydau, ac mae'n gwlad ni ar ei cholled o'r herwydd.
Mae'r cyfnod clo wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y celfyddydau, yn ymgais y ddynoliaeth i wneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas, ond mae o hefyd wedi tynnu sylw at ba mor fregus ydy'r sector yng Nghymru a bod yna lawer iawn o waith i'w wneud cyn gwireddu gweledigaeth Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd am weld diwylliant a'r celfyddydau yn rhan gwbl ganolog o bopeth yr ydyn ni yn ei wneud yng Nghymru.
Mae angen gwreiddio gweithgarwch diwylliannol yn y gymdeithas a'r economi a chreu cydberthynas fywiol, ryngweithiol rhwng y celfyddydau a phob agwedd ar fywyd y genedl. Nid dyna le'r ydyn ni ar hyn o bryd, ond dyna le'r ydyn ni'n mynd pan fydd Plaid Cymru mewn grym yn y lle hwn.
Rwyf wedi dethol chwech o'r 13 gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliannau 1, 10, 11, 12 ac 13 a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton, na gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Dwi'n galw nawr ar Laura Anne Jones i gynnig gwelliannau 2, 3 a 9 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Laura Anne Jones.
Gwelliant 9—Darren Millar
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:
yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol o ariannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd o £1.445 miliwn mewn cyllid sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Darren Millar. Rydym i gyd yn cydnabod gwerth y celfyddydau a diwylliant yn ein cymdeithas. Yn ogystal â chyfoethogi ein bywydau, mae'r celfyddydau a diwylliant yn cael effaith ehangach sy'n haws ei mesur ar ein heconomi, ein hiechyd a'n lles, ein cymdeithas a'n haddysg. Mae'r pandemig presennol yn parhau i gael effaith ddinistriol ar ein diwydiannau celfyddydol a chreadigol. Mae theatrau, orielau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifdai, gwyliau a sinemâu oll mewn perygl.
Mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn deall bod heriau difrifol yn wynebu'r celfyddydau a'r angen i'w cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam y cyhoeddasant becyn achub enfawr o dros £1.5 biliwn ym mis Gorffennaf i helpu i oroesi effaith y coronafeirws. Gall miloedd o sefydliadau ar draws ystod o sectorau gael gafael ar y grantiau a'r benthyciadau brys. Dyma'r buddsoddiad untro mwyaf erioed yn niwylliant y DU, gan ddarparu achubiaeth hanfodol i sefydliadau diwylliannol a threftadaeth ym mhob cwr o'r wlad. O ganlyniad i'r cyllid newydd hwn, mae Cymru'n cael £59 miliwn o arian canlyniadol ychwanegol, fel yr amlinellwyd yn gynharach, ac rydym yn croesawu hynny yng ngwelliant 2.
Fodd bynnag, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog yn ei gronfa adferiad diwylliannol na fyddai'n cynnwys swm llawn y cyllid a ddarperir. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, David Melding, ar y pryd, mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud cam â'r celfyddydau. Carwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog: i ble mae'r cyllid ychwanegol wedi mynd, pam nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddiogelu bywoliaeth pobl yn ein diwydiannau creadigol a pham nad yw'r arian hwnnw'n helpu i sicrhau dyfodol lleoliadau hamdden a threftadaeth a sefydliadau eraill sy'n cyfrannu at dapestri cyfoethog bywyd Cymru?
Nid yw holl broblemau'r sector diwylliant wedi deillio o'r coronafeirws. Daeth yr adolygiad diweddar o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl 10 mlynedd o broblemau ariannol, gydag incwm yn gostwng yn raddol o flwyddyn i flwyddyn a gostyngiad o 23 y cant yn nifer y staff rhwng 2008 a 2019. Daeth yr adolygwyr i'r casgliad nad oedd y llyfrgell genedlaethol wedi bod mor effeithiol nac mor gyson ag y gallai fod wrth ysgogi newid, ac roeddent yn parhau i bryderu am y diffyg cynllun strategol ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hir. Mae ein gwelliant 9 yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol ac yn galw am gynyddu cyllid llinell sylfaen yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae ein gwelliant 3 yn ceisio dileu gwrthwynebiad Plaid Cymru i'r cynlluniau ar gyfer amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd. Yr amgueddfa gyntaf y cyfeirir ati yw'r amgueddfa meddygaeth filwrol. Byddai'n adrodd hanes pedwar corfflu Gwasanaethau Meddygol y Fyddin: Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, Corfflu Milfeddygol Brenhinol y Fyddin, Corfflu Deintyddol Brenhinol y Fyddin a Chorffluoedd Nyrsio Brenhinol y Frenhines Alexandra. Byddai archifau'r amgueddfa, sy'n mynd yn ôl i'r rhyfeloedd Napoleonig, yn cael eu defnyddio gan ymchwilwyr ym maes meddygaeth a hanes meddygol. Yr ail amgueddfa arfaethedig yw amgueddfa cerddoriaeth y fyddin. Rwyf mor siomedig o weld bod Plaid Cymru yn gwrthod y cynigion hyn. Ni ellir honni mewn unrhyw ffordd fod amgueddfeydd meddygaeth a cherddoriaeth filwrol rywsut yn gogoneddu rhyfel. Drwy adael i'w heddychiaeth gynhenid gymylu eu barn, mae Plaid Cymru wedi amlygu ei dirmyg tuag at y rhai sy'n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu yn y canghennau hyn o'n lluoedd arfog, ac unwaith eto mae'n ceisio porthi'r diwylliant canslo a fyddai'n gwyngalchu hanes cenedl falch. Mae cofio rhyfel a choffáu aberth yn sicrhau nad yw'r ddynoliaeth yn ailadrodd yr un camgymeriadau.
Lywydd, mae hwn yn gyfnod heriol i'r sector celfyddydau a diwylliant. Credaf fod cyllid diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn dangos ei dealltwriaeth o bwysigrwydd ein hasedau a'n gweithgareddau diwylliannol. Os gweithredwn yn awr, gallwn sicrhau y gall ein sector celfyddydau a diwylliant dyfu a ffynnu pan ddaw'r argyfwng hwn i ben.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig yn ffurfiol gwelliannau 4, 5 ac 8 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 5—Rebecca Evans
Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle:
b) yn cydnabod y pwyslais y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu defnyddiau diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd.
c) yn gweithio i sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma.
Gwelliant 8—Rebecca Evans
Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle:
e) yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;
f) yn cydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol.
Yn ffurfiol, diolch.
Yn ffurfiol. Diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog. Ac felly dwi'n galw nesaf ar Leanne Wood.
Ar y penwythnos, cefais fy nhagio mewn trydariad o ffotograff a dynnwyd yn 1965 yn gofyn i mi a allwn adnabod y lleoliad o'r cefndir. Teitl y ffotograff oedd 'Brass band, Wales', ac fe'i tynnwyd gan Evelyn Hofer. Roedd yn ddarlun o Fand Canol Rhondda, sy'n dal i fynd er gwaethaf yr heriau y mae pob diddanwr yn eu hwynebu oherwydd COVID. Pan rannais y ffotograff ar fy nhudalen Facebook leol, daeth yn amlwg yn gyflym fod cenedlaethau o'r un teuluoedd wedi chwarae yn y band hwnnw, ac roedd disgynyddion ac aelodau o deuluoedd y dynion yn y ffotograff yn ymddangos ar fy nhudalen, a gwelsom aelodau o deuluoedd yn cyfarfod am y tro cyntaf hyd yn oed o ganlyniad i rannu'r llun hwnnw.
Felly, mae llun a dynnwyd ar safle hen lofa yn 1965 yn ardal fy nghartref, Penygraig, yn dweud cymaint am ein diwylliant, ein hanes a phwysigrwydd cerddoriaeth ynddo. Ac wrth gwrs, yn awr, mae'r holl fandiau hyn yn ei chael hi'n anodd. Maent wedi bod yn chwarae gyda'i gilydd ac yn gwneud cerddoriaeth ers degawdau. Maent wedi bod drwy bob math o bethau gyda'i gilydd ac erbyn hyn mae'n bosibl fod COVID yn bygwth eu dyfodol. Mae ein corau yr un fath; ni allant ymarfer ac ni allant ein diddanu. Wrth gwrs, rydym i gyd yn deall y rhesymeg ac mai'r flaenoriaeth o reidrwydd yw atal lledaeniad COVID, ond rhaid inni hefyd beidio â cholli golwg ar faint o fudd y mae pobl yn ei gael o wneud cerddoriaeth a'r hyn sy'n digwydd i ni pan nad oes modd gwneud hynny. Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd, lle gallwn, o alluogi cerddoriaeth i ddigwydd. Mae mor bwysig i gynifer o bobl.
Gan ddychwelyd at y ffotograff hwnnw, fe'm hatgoffodd o eiriau un o'm ffefrynnau, y beirniad diwylliannol Marcsaidd Cymreig, Raymond Williams, pan ddywedodd, 'Mae diwylliant yn gyffredin'. I mi, mae'r datganiad byr a syml hwnnw mor bwysig. Mae cymaint o agweddau ar ein diwylliant bob dydd wedi cael eu newid neu eu dwyn oddi wrthym. Soniais am effaith cerddoriaeth, ond mae'r un peth yn wir am y celfyddydau perfformio, comedi a phob math arall o adloniant byw. Mae pobl yn gweithio'n galed, yn ennill arian, ac ar benwythnosau efallai yr hoffem ddianc gyda chymorth y celfyddydau neu drwy fynd i lawr i'r dafarn neu'r clwb neu hyd yn oed i'r neuadd bingo leol. Mae diwylliant yn gyffredin, ac felly mae diwylliant clybiau gweithwyr yr un mor arwyddocaol a'r un mor deilwng o gael ei warchod ag agweddau mwy traddodiadol ar ein diwylliant. Ac mae hynny'n wir am leoliadau sy'n bwysig i bobl liw, fel caffi Paddle Steamer, neu'r amgueddfa hanes pobl ddu yn Butetown a fyddai'n gwasanaethu llawer mwy o bobl nag amgueddfeydd milwrol sy'n edrych ar gerddoriaeth neu feddygaeth. Sut y mae hyn yn digwydd dan reolaeth Llafur?
Mae cynifer o gymunedau wedi colli eu llyfrgell leol, ac efallai fod tafarndai a siopau wedi cau, yn ogystal â chanolfannau cymunedol. Efallai mai'r dafarn neu'r clwb gweithwyr yw'r unig leoliad sydd ar ôl. Os yw'r rheini'n mynd, dyna ni, bydd cysylltiadau diwylliannol yn cael eu colli. Mae hefyd yn wir am y lleoliadau sy'n bwysig i'n pobl ifanc neu bobl hoyw, fel clybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth hwyr y nos sy'n aml wedi'u lleoli yn y mannau gorau yng nghanol trefi neu ganol dinasoedd. Mae angen amddiffyn diogelu'r lleoliadau hyn fel y gall diwylliant clybiau barhau ar ôl COVID, oherwydd mewn clybiau nos, gall pobl bartïa mewn amgylchedd diogel yn hytrach na chael eu denu o bosibl i ddigwyddiadau eraill fel rêfs anghyfreithlon.
Rwy'n gwneud y pwyntiau hyn i sicrhau bod y ddadl hon yn cynnwys pob math o ddiwylliant. Ni ellir ac ni ddylid cael hierarchaeth; mae gan wahanol grwpiau wahanol ffyrdd o fynegi eu hunain yn ddiwylliannol ac mae pob un ohonynt yn ddilys ac mae angen eu diogelu i gyd.
Wel, dyma'r wythnos y mae Cineworld wedi cyhoeddi eu bod yn cau ei holl sinemâu ledled y DU, gan effeithio ar 5,500 o swyddi. Bydd staff yn cael eu diswyddo dros dro. Ceir dau safle yng ngogledd Cymru, yn Llandudno a Brychdyn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros unrhyw un y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt. Dilynwyd y cyhoeddiad ar unwaith gan Odeon yn cyhoeddi'r un peth. Cefais fy siomi'n arbennig gan y datblygiad hwn, gan mai'r sinema oedd fy mhrofiad cyntaf un o fynd allan i gael fy niddanu pan oeddwn yn blentyn. Roedd gweld rhywbeth newydd a chyffrous yn achlysur gwirioneddol. Credaf mai gweld ffilm ar sgrin fawr yw profiad cyntaf llawer o bobl o'r celfyddydau, ac i blant mae'r lluniau a'r pantomeim blynyddol, os ydych yn lwcus, yn llawn o ryfeddod, dihangfa a mwynhad. Ac mewn amrantiad, mae wedi mynd. Ac mae lleoliadau ar hyd a lled y wlad, theatrau bach, lleoliadau cerddoriaeth fyw, clybiau comedi—efallai fod rhai wedi ceisio agor i drefnu digwyddiadau, dim ond i gael eu rhwystro gan gyfyngiadau lleol. Mae'n un cam ymlaen ac yn gamau lawer yn ôl.
Pan welais deitl y ddadl, roeddwn yn meddwl ei fod yn ymyriad amserol a sensitif gan Blaid Cymru, ond roeddwn yn anghywir unwaith eto wrth i mi ddarllen mwy. Fel rwyf wedi datgan o'r blaen, rwy'n hynod wrthwynebus i hongian unrhyw fath o het ar fachyn Black Lives Matter. Er bod y rhain yn deimladau gwych, mae gennyf bryderon mawr ynglŷn â nodau craidd y mudiad ei hun, er y gall Plaid gyflwyno ei hachos ei hun dros gefnogi mudiad sydd am ddatgymalu'r wladwriaeth.
Fel arfer, rydym yn eistedd ym Mae Caerdydd. Arferai fod yn Tiger Bay, ac mae treftadaeth yr ardal wedi'i thrwytho mewn cynwysoldeb a gwahanol gymunedau'n dod at ei gilydd a chartref cysurus i'w threftadaeth forol. Mae'n drueni bod addysg yng Nghymru cyn datganoli yn brin iawn o hanes Cymru; rwy'n credu ac yn gobeithio bod hyn wedi newid erbyn hyn. Rwy'n gwybod bod fy mhlant wedi cynnal eisteddfodau blynyddol ac wedi mynd i'r ysgol wedi gwisgo i fyny ar 1 Mawrth bob blwyddyn, ond er bod y gwyliau hyn yn ein DNA, nid wyf wedi fy argyhoeddi ein bod wedi cael clywed nac yn cofio eu harwyddocâd hanesyddol neu ddiwylliannol. Felly, credaf y gellir gwneud mwy i feithrin ymdeimlad gwirioneddol o ble y maent wedi dod yn ein plant a sut y mae hyn yn cymryd ei le yn y DU a'r byd ehangach. Ond rwy'n cwestiynu ble roedd Plaid Cymru pan oeddent mewn Llywodraeth rhwng 2007 a 2011, neu a fyddent yn defnyddio'r esgus mai partner iau yn unig oeddent? A ble mae Llywodraeth Cymru? Maent wedi bod mewn grym ers 1999.
Ond rwy'n anghysurus braidd ynglŷn â ffocws y cynnig ar artistiaid yn unig. Rwy'n pryderu'n fawr am y glanhawyr, staff y drws a'r bobl sy'n hongian gweithiau celf ar waliau. Ceir cadwyn gyflenwi gyfan ar gyfer y diwydiant adloniant a fydd yn poeni ynglŷn â thalu eu biliau hwythau hefyd. Rhaid i mi gyfaddef eich bod wedi fy ngholli ar bwynt 5 eich cynnig.
Fe ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Laura Jones yn gynharach: fy nealltwriaeth i yw mai cynnig ar gyfer amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd ydyw. Felly, fel mam i fab sy'n gwneud gwasanaeth milwrol, rwy'n falch iawn o'i wasanaeth milwrol, yn falch iawn o unrhyw gyn-filwr ac yn falch iawn o'r ffiniau meddygol a wthiwyd yn ystod llawdriniaethau meddygol mewn rhyfeloedd. Mae Plaid Cymru yn sgorio gôl yn ei rhwyd ei hun yma, oherwydd un o nodau datganedig yr amgueddfa hon yw casglu straeon am filwyr o Gymru sy'n gwasanaethu mewn catrodau Cymreig. Felly, da iawn chi, Blaid Cymru—neu ddim.
Credaf fod y pecyn cymorth ariannol a luniwyd gan Lywodraeth y DU wedi bod yn eithaf cynhwysfawr, er fy mod yn gwybod bod llawer o bobl, yn enwedig pobl hunangyflogedig, ar eu colled a phrin yn gallu ymdopi. Ceir llawer o swyddi a oedd yn hyfyw cyn COVID a llawer na fyddant yn goroesi'r cyfyngiadau. Mae'n siŵr y bydd llawer o gyhoeddiadau eraill yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos hon. Efallai eich bod wedi dyfalu nad wyf yn dadlau—[Anghlywadwy.]—mesurau, ac nid yw fy ngrŵp erioed wedi pleidleisio dros y cyfyngiadau, oherwydd pethau fel hyn. Dyma yw'r canlyniad a gewch yn sgil y rheini. Felly, i'r rhai a bleidleisiodd dros y cyfyngiadau ac sy'n parhau i wneud hynny: cyfaddefwch mai dyma yw'r canlyniad.
Rhaid i mi ddweud nad wyf byth yn mwynhau cyfraniadau gan Aelodau nad oes ganddynt unrhyw beth adeiladol i'w ddweud o gwbl. Mae rhai pobl wrth eu bodd yn rhwygo cynigion pobl eraill ac nid oes ganddynt unrhyw beth cadarnhaol i'w ddweud, felly da iawn, Mandy Jones—neu ddim.
Gaf i ffocysu yn fy sylwadau i ar y system gynllunio a sut mae angen i'r gyfundrefn honno newid er mwyn gwneud ei rhan i helpu amddiffyn y celfyddydau, diwylliant a'n treftadaeth ni? Efallai nad oes yna gysylltiad amlwg rhwng y ddau beth, ond dŷn ni'n gwybod bod yna nifer o leoliadau sydd wedi eu defnyddio at y dibenion yma bellach dan fygythiad oherwydd y pandemig. Mae nifer wedi eu gorfodi i gau oherwydd amgylchiadau ac, o ganlyniad i hynny, wedi colli incwm, ac mae rhywun yn poeni y byddwn ni yn colli rhai o'r safleoedd yma gan y byddan nhw efallai'n gorfod cau'n barhaol. Bydd eraill, efallai, yn mynd i drafferthion ariannol, a bydd hynny i gyd yn creu pwysau wedyn pan fydd hi'n dod i'r asedau maen nhw'n berchen, yr adeiladau, neu, wrth gwrs, os ydyn nhw'n eu rhentu, efallai'n gorfod symud. Mae llawer o'r cyrff a'r endidau yma yn bodoli mewn lleoliadau sy'n hynod o ddymunol mewn ardaloedd trefol, mewn adeiladau trawiadol, adeiladau cyfnod yn aml iawn, a dŷn ni'n gallu gweld yn barod, dwi'n meddwl, sut y byddai datblygwyr, hapfasnachwyr yn eu gweld nhw yn prospect atyniadol iawn o safbwynt gwneud ambell i geiniog, ac mae rhywun yn poeni y byddwn ni'n gweld fflatiau ac apartments a phob mathau o bethau yn cael eu datblygu yn y safleoedd yma.
Felly, heb gefnogaeth ddigonol gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, mae yna risg y byddwn ni'n colli nifer o'r safleoedd a'r lleoliadau pwysig yma yn y dyfodol. Ond mae yna ffordd effeithiol a di-gost i'r Llywodraeth fynd ati i amddiffyn y mannau yma, trwy wneud mwy o fewn y drefn cynllunio i reoli newid defnydd yr adeiladau yma—nid gwahardd newid defnydd yn llwyr, ond fel mae'r cynnig yn ei ddweud,
'defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu' i newid eu defnydd tra bo'r pandemig yn parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio'r lleoliadau hynny at eu prif ddiben. Hynny yw, defnyddio'r system gynllunio i greu rhyw fath o firewall dros dro o gwmpas y lleoliadau celfyddydol pwysig yma a diwylliannol arwyddocaol iawn tan i'r sector gael yn ôl ar ei thraed. Oherwydd os collwn ni'r lleoliadau yma yn y cyfnod hwn, ddown nhw ddim yn ôl. Unwaith y byddan nhw wedi eu gwerthu a'u datblygu, mi fydd yr adnoddau celfyddydol, diwylliannol, cymunedol bwysig, cymdeithasol bwysig yma sydd wedi bod yn nodwedd mor bwysig o dreftadaeth cymaint o gymunedau ar draws Cymru wedi cael eu colli am byth.
Rŷn ni'n cofio sut y gwnaeth y system gynllunio fethu amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth yn y gorffennol—nifer wedi cau am ei bod hi'n fwy proffidiol i ddatblygwyr wneud rhywbeth â nhw yn hytrach nag iddyn nhw barhau fel lleoliadau cerddoriaeth. Rŷn ni'n cofio ymgyrch arbed Stryd Womanby yng Nghaerdydd a dynnodd sylw at ba mor hurt oedd hi fod lleoliadau cerddoriaeth oedd wedi eu sefydlu dros flynyddoedd maith yn gorfod mynd i gost sylweddol i wrthseinio neu 'soundproof-io' eu hadeiladau, am fod adeiladau cyfagos wedi eu trosi at ddefnydd preswyl. Mi gollwyd lleoliadau fel Barfly a'r Point yng Nghaerdydd i'r anghyfiawnder yna flynyddoedd cyn bod lleoliadau Stryd Womanby dan fygythiad, a dydyn ni ddim eisiau gweld yr un fath o sefyllfaoedd yn codi eto yn y cyd-destun yma oherwydd y pandemig.
Dwi ishie sôn hefyd am y ffaith ein bod ni yn parhau i wynebu sefyllfa lle nad oes gan enwau lleoedd hanesyddol Cymru unrhyw fath o amddiffyniad rhag cael eu newid a'u colli. Mae'r diffyg amddiffyniad statudol yma yn warthus yn fy marn i, yn enwedig wrth ystyried pwysigrwydd yr enwau yma yng nghyd-destun treftadaeth a hanes ein gwlad. Mae yna dair blynedd bellach ers i Dai Lloyd gynnig Bil yn y Senedd yma, nôl yn 2017 a fyddai wedi rhoi'r amddiffyniad hwnnw i enwau llefydd hanesyddol Cymru, ond, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cofio sut y gwnaeth y Llywodraeth yma wrthwynebu'r bwriad hwnnw. Mae enwau tai, ffermydd, caeau a nodweddion naturiol yn aml yn gofnod pwysig o arferion amaethyddol, diwydiannau lleol, sut mae'r dirwedd wedi newid, ond doedd y Llywodraeth, wrth gwrs, ddim am weithredu. Yr enwau yma sy'n dweud wrthym ni pwy ŷn ni, ac o ble rŷn ni wedi dod. Maen nhw'n cael eu colli, ac mi fyddan nhw'n cael eu colli yn gynt yn y blynyddoedd nesaf yma oherwydd, wrth gwrs, ein bod ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn symud i mewn ein cymunedau, a diau fydd enwau pellach yn cael eu colli.
Mae'r gwelliant gan y Llywodraeth i newid y cymal yma yn y cynnig yn dweud y cyfan, yn fy marn i: 'parhau i ystyried opsiynau' yw bwriad y Llywodraeth er mwyn sicrhau na fydd yr enwau yma yn cael eu colli. Ble ŷch chi wedi bod ers tair blynedd? Beth ŷch chi wedi bod yn ei wneud ers i Blaid Cymru ddod â'r Bil arfaethedig ymlaen yn 2017? Faint o amser i ystyried sydd ei angen ar y Llywodraeth yma? Mae gwledydd eraill fel Seland Newydd wedi gweithredu; maen nhw wedi creu Deddf. Mae yna enghreifftiau allan yna y gallem ni eu hefelychu pe byddem ni'n dymuno gwneud. Mae yna 18,000 o bobl wedi arwyddo deiseb dros yr haf yn galw ar y Senedd i ddeddfu i atal newid enwau Cymraeg cartrefi. Mae'r tân yn llosgi, Dirprwy Weinidog. Rŷch chi wedi cael hen ddigon o amser i ystyried opsiynau. Does bosib, nawr, fod yr amser wedi dod i weithredu.
Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod wedi rhoi cyfle inni drafod rhai o'r heriau mwy cynnil yn y gwaith o guro'r pandemig hwn.
Mae'n ymddangos i mi fod ein celfyddydau a'n diwylliant mor gyfoethog yng Nghymru oherwydd bod cynifer ohonom yn poeni cymaint am ein hanes, ein straeon a'n cerddoriaeth. Ond hoffwn ddechrau drwy ddiolch i David Stacey, sydd wedi cadeirio bwrdd Theatr y Sherman ers 35 mlynedd, ac a orffennodd yn y swydd yr wythnos diwethaf. Mae wedi cefnogi gwaith arloesol, heriol ac arobryn Theatr y Sherman yn ddiflino. Mae angerdd eu wasanaeth i'r sefydliad ers ei sefydlu yn rhagorol. Er ei fod yn camu o'r rôl honno, rwy'n gwbl hyderus y bydd yn parhau i ddwyn pobl i gyfrif am addewidion a wnaed sydd wedi'u gohirio ar hyn o bryd oherwydd y pandemig.
Mae gwaith arloesol y Sherman drwy'r Sherman 5 yn estyn allan at gymunedau nad ydynt fel arfer yn mynd i'r theatr—pobl anabl, aelwydydd incwm isel, cymunedau lleiafrifoedd ethnig—yn cael ei gydnabod yn dda gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chan Lywodraeth Cymru rwy'n siŵr. Mae hyn wedi rhoi ystwythder a dychymyg i'r Sherman allu addasu ei rôl yn adrodd straeon creadigol, gan barhau o dan y cyfyngiadau sydd eu hangen i gyfyngu ar y pandemig COVID. Mae'r 'Tydful Tales' yn enghraifft wych o'u ffordd o weithio. Cyn y pandemig, ymwelodd myfyrwyr o Goleg Merthyr â chartref gofal lleol i gyfweld preswylwyr am eu bywydau fel sail ar gyfer drama newydd. Pan olygodd COVID nad oedd modd cynnal perfformiadau byw, aethant ati i addasu eu dramateiddiadau o'r straeon a gasglwyd ganddynt mewn fformat sain, fel bod preswylwyr cartrefi gofal wedi gallu rhannu'r 'Tydful Tales' gyda'i gilydd. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu clywed y 'Tydful Tales', a'u gweld yn wir. Mae'n nodweddiadol o'r modd y gall ac y dylai sefydliadau addasu i'r cyfyngiadau presennol neu wynebu'r risg o fynd yn fud am byth.
Sefydliad anhygoel arall yn fy etholaeth i yw Rubicon Dance, nad yw ei gymysgedd eclectig o gyfleoedd dawns i bobl o bob oed a gallu wedi dod i ben yn ystod y cyfyngiadau a osodwyd yn sgil COVID. Bydd llawer ohonoch wedi gweld ansawdd eu gwaith yn y Senedd ar adegau gwell. Felly, fe wnaethant ddechrau drwy sicrhau eu bod yn cysylltu â phobl ar yr adeg pan fyddent fel arfer yn mynychu dosbarthiadau er mwyn estyn allan a chyfeillio â phobl yn ystod y cyfyngiadau, ac yn awr, fel Mr Motivator neu Joe Wicks, mae eu dosbarthiadau dawns ar-lein yn parhau i gynnig ymarfer corff a mynegiant creadigol i'w myfyrwyr, ac wedi cael derbyniad arbennig o frwdfrydig gan y myfyrwyr mwyaf swil nad ydynt bellach yn teimlo'n rhy ddihyder i roi mynegiant llawn i'w teimladau drwy ddawns.
Nid yw hyn yn golygu nad yw'r sefydliadau hyn yn wynebu heriau. Mae'r to'n dal i ollwng yn y Sherman, ac nid ydynt yn cael arian o werthu tocynnau a derbyniadau caffi i dalu am hynny mwyach. Maent wedi dibynnu ar grant cronfa sefydlogi cyngor y celfyddydau i fuddsoddi yn y seilwaith TG sydd ei angen i gynnal eu tîm creadigol, a llwyddasant i roi 70 y cant o'u staff ar ffyrlo drwy'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws, sydd, er hynny, yn dod i ben ddiwedd y mis. Ni allant ymestyn eu perfformiadau ar-lein heb uwchraddio eu gwefan, ac maent bellach wedi gwneud cais ar gyfer gwneud hynny i gronfa adferiad diwylliannol Llywodraeth Cymru.
Bu'n rhaid i Rubicon hefyd atal eu gwaith ar adnewyddu adeilad llyfrgell y Rhath ar Heol Casnewydd, a oedd yn drosglwyddiad ased cymunedol oddi wrth Gyngor Caerdydd. Mae'r to'n gollwng yno hefyd, ac mae'r boeler wedi torri ac nid yw'n gweithio o gwbl, felly mae'n amhosibl ei ailagor ar hyn o bryd, ond mae ffyrdd arferol o godi arian yn amhosibl ar hyn o bryd ac felly nid ydynt ond wedi llwyddo i gadw'r lefel bresennol o weithgarwch oherwydd ymroddiad eu pobl greadigol a haelioni ymddiriedolaethau elusennol. Mae am ba hyd y gallant barhau heb gyllid ychwanegol yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom boeni yn ei gylch.
Y bobl rwy'n poeni fwyaf amdanynt yw'r cerddorion yn ein cymunedau, oherwydd, iddynt hwy, mae'r cyfyngiadau coronafeirws wedi bod yn arbennig o feichus. Gwn fod Clwb Ifor Bach wedi ceisio ailagor yn ystod yr haf, pan gafodd y cyfyngiadau eu codi, a'i fod yn gwneud busnes rhesymol fel dim ond bar yng nghanol y ddinas, ar Stryd Womanby, ond pan ddaeth y cyfyngiadau 10 o'r gloch, teimlent fod yn rhaid iddynt gau oherwydd eu bod yn gwneud 70 y cant o'u harian ar ôl 10 o'r gloch y nos. Felly, nawr mae'n anodd gwybod beth y mae sefydliadau fel Clwb Ifor Bach yn ei wynebu, sefydliadau sydd wedi bod mor bwysig yn sicrhau bod gennym ddiwydiant cerddoriaeth bywiog yng Nghaerdydd ac yn datblygu galluoedd cerddorol a llwyddiant cynifer o'n bandiau. Felly, mae arnaf ofn sut ddyfodol y mae rhai o'r sefydliadau hyn yn ei wynebu, yn enwedig ein cerddorion, a hyd yma, nid yw'r cymorth sydd wedi bod ar gael, yn enwedig i weithwyr llawrydd, yn ddigon i gadw'r bobl hyn yn y diwydiannau y maent mor addas ar eu cyfer. Felly, mae gennym heriau amrywiol iawn a heriau sylweddol iawn o'n blaenau, ac nid ydym yn agos at ddod allan o hyn.
Wel, mae llawer yn y cynnig hwn y gallaf gytuno ag ef, yn enwedig pwysigrwydd y celfyddydau. Ar ôl bod yn berfformiwr fy hun ac ymddangos mewn sioeau yn Theatr y Grand yn Abertawe a'r Theatr Newydd yng Nghaerdydd, yn ogystal â phedair sioe, rwy'n credu, pan werthwyd pob tocyn yng ngŵyl Caeredin, nid oes angen i neb ddweud wrthyf pa mor bwysig yw cymorth i'r celfyddydau yn y wlad hon, ac mae'r hyn sy'n digwydd iddynt yn awr yn drasiedi. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd mai canlyniad COVID-19 yw hyn yn y pen draw wrth gwrs, ond yn fwy uniongyrchol, mae'n ganlyniad i'r dewisiadau polisi a wnaed gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19.
Nid oes angen iddi fod fel hyn. Gallai problemau'r celfyddydau fod wedi bod yn llawer haws eu datrys oni bai am y polisïau ar gyfyngiadau a orfodwyd ar bawb ohonom. Pethau fel uchafswm o 50 o bobl mewn awditoriwm ar adeg gynharach, ac yn y blaen—na, mae'n ddrwg gennyf, mae hyn yn rhywbeth nas gwelwyd mewn gwledydd eraill, fel Sweden, er enghraifft, lle cafodd rheol uchafswm o 50 o bobl mewn theatr ei gorfodi, ond serch hynny mae eu diwydiannau wedi goroesi. Mae cadwyn sinema Sweden, Svenska Bio, wedi parhau'n weithredol ac o ganlyniad, mae wedi dod yn weithredwr mwyaf Ewrop yn ôl refeniw tocynnau. A'r ffigurau diweddaraf ar gyfer Sweden yw bod nifer y bobl sy'n dioddef yn ddifrifol o COVID yn yr ysbyty wedi codi o 15 i 20 yn y wlad gyfan, tra bod ein ffigurau ni wedi bod yn codi'n gyflym iawn am mai'r hyn a wnaethom o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud oedd gohirio lledaeniad y feirws, nid ei atal. A'r canlyniad yw niwed economaidd enfawr yn ogystal â niwed artistig eang ledled y wlad.
Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Leanne Wood—nid yw'n digwydd yn aml iawn, ond nid oedd unrhyw beth yn ei haraith y gallwn anghytuno ag ef. Mae angen coffáu hanes cymdeithasol Cymru yn ei holl amrywiaeth ac yn sicr, rwy'n credu bod rôl lleiafrifoedd ethnig yn rhan o'n hanes y mae angen inni ei chydnabod a dysgu amdani, oherwydd mae'n rhan o hanes Cymru, ond nid wyf yn credu y dylem weld popeth drwy brism rhyw fath o weledigaeth Black Lives Matter. Mae Black Lives Matter, fel y dywedais ddoe ac fel y mae Mandy Jones wedi ailadrodd, yn grŵp treisgar mewn gwirionedd, ac yn amlwg yn wrth-Brydeinig ac yn wrth-Gymreig. Mae eu hymgyrchwyr wedi difrodi cofebau rhyfel, cofebau pobl sydd wedi rhoi eu bywydau i ymladd yn erbyn hiliaeth a ffasgaeth, ac maent am ddymchwel cerfluniau fel un Syr Thomas Picton neu'r obelisg yng Nghaerfyrddin. Roedd Picton, fel y mae David Melding wedi nodi, yn ddyn amherffaith ond yn ddyn ei amser, ond serch hynny, roedd ei gyflawniadau milwrol yn gwbl allweddol i fuddugoliaeth yn y rhyfeloedd Napoleonig, a chadw'r wlad hon yn rhydd o afael unben megalomanaidd a oedd am ddod ag Ewrop gyfan o dan ei reolaeth ac ailddyrchafu caethwasiaeth yn India'r Gorllewin Ffrengig.
Felly, ydy, mae hanes fel bwrdd gwyddbwyll gyda sgwariau du a gwyn arno, a dylem eu cydnabod i gyd. Marcsiaeth agored yw polisïau Black Lives Matter a chyfeiriodd Leanne Wood at athronydd Marcsaidd yn ei haraith, ond ni wn faint o bobl sy'n pleidleisio dros Blaid Cymru sy'n credu yn y math o ddelfrydau Marcsaidd y mae Black Lives Matter yn sefyll drostynt mewn gwirionedd—dadariannu'r heddlu, cael gwared ar y fyddin, agor y carchardai ac yn y blaen, datgymalu cyfalafiaeth, ac ati. Nid oes neb yng Nghymru y tu hwnt i ambell ynfytyn am gael hynny.
Rwy'n credu bod y cynnig wedi ei ddifetha gan y mathau hyn o gyfeiriadau, oherwydd fel arall mae llawer ar lefel ymarferol yn hyn y gallwn bleidleisio drosto: er enghraifft, cydnabod rôl gweithwyr llawrydd a'u cefnogi'n briodol; defnyddio'r system gynllunio'n ddychmygus i alluogi sefydliadau celfyddydol i oroesi; cyflwyno amddiffyniadau statudol i osgoi colli enwau lleoedd Cymraeg—gallaf gytuno â hynny, a gallaf gytuno ar bwysigrwydd cadw a datblygu a gwella'r Gymraeg. Ond mae'n rhaid inni gydnabod yn y pen draw y bydd y celfyddydau'n cael eu niweidio'n barhaol gan y cynllun deddfwriaethol cyffredinol y mae'r holl bobl sy'n mynd i bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw wedi ei basio drwy'r Senedd hon. Gwn fod y rhain yn ddewisiadau polisi anodd i'w gwneud ond yn y bôn, mae'r gorymateb i COVID a gosod cyfyngiadau llawdrwm ar bawb yn hytrach na chanolbwyntio ar ddiogelu pobl sy'n agored i niwed wedi gwneud niwed enfawr i'n heconomi, niwed enfawr i'n bywyd cymdeithasol ac yn y pen draw, i les meddyliol pobl Cymru.
Ddoe gofynnwyd i Ganghellor Torïaidd y DU, Rishi Sunak, beth oedd ei neges i gerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau, a dywedodd y Canghellor yn y diwedd wrth ITN fod pawb yn gorfod addasu. A bod yn onest, nid yw hynny'n ddigon da. Lywydd, mae cerddorion, actorion a gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau yn rhan annatod o enaid diwylliannol ac economaidd ein cenedl wych. Mae'n hanfodol fod y Senedd hon, y Senedd hon yng Nghymru, yn gwrthod gadael i Lywodraeth y DU wneud dim i atal ein tirwedd ddiwylliannol rhag cael ei haberthu yn ystod y pandemig hwn.
Ers fy ethol i'r lle hwn, rwyf wedi ymdrechu i sefydlu digwyddiadau cerddorol ac mae'n fraint cael cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar gerddoriaeth. Drwy'r grŵp hwn, rydym wedi ceisio dod â rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r sector cerddoriaeth yng Nghymru at ei gilydd, o addysgwyr cerddoriaeth i gerddorfeydd o'r radd flaenaf, corau cymunedol, bandiau pres ac artistiaid rhyngwladol. Wrth gyfarfod â'r grŵp allweddol hwn, roedd yn amlwg iawn pa mor ddinistriol yw effaith COVID-19 wedi bod i'r sector cerddoriaeth cyfan yng Nghymru.
O'r cyfarfod hwn, daeth tair thema allweddol i'r amlwg o'r heriau sy'n wynebu cerddorion: canllawiau ar gynnal gweithgareddau; cymorth ariannol i weithwyr proffesiynol yn y sector cerddoriaeth; strategaeth ar gyfer eu cynaliadwyedd. Rhannwyd yr heriau hyn â Gweinidogion allweddol yn Llywodraeth Cymru, ac yn sgil fy ngohebiaeth roeddwn yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog diwylliant am gyfarfod â mi ar frys i drafod y materion a godwyd gan y grŵp trawsbleidiol. Fel y dywedwyd eisoes, gwn y byddwn i gyd am weld ymarfer a pherfformio cerddoriaeth yn ailddechrau'n ddiogel cyn gynted ag y bo modd ac wrth gwrs, rhaid iddo gael ei arwain gan wyddoniaeth.
Fodd bynnag, mae angen mwy o eglurder yng nghanllawiau presennol Llywodraeth Cymru ynghylch cerddoriaeth, ac mae angen pennu hyn ar frys yn awr. Er enghraifft, mae angen eglurder ar athrawon cerddoriaeth sy'n gweithio'n breifat ac yng nghartrefi pobl ynglŷn â sut y gallant barhau â'u gwaith mor ddiogel â phosibl, gan gydymffurfio â'r rheolau. Mae bandiau a chorau cymunedol am gael eglurhad ynglŷn â sut y gallant ddychwelyd yn ddiogel i ymarfer gan gadw pellter cymdeithasol. Mae angen darparu canllawiau penodol hefyd ar gyfer addysg perfformio offerynnau cerddorol mewn ysgolion. Mae addysg gerddorol, fel y gŵyr y Gweinidog, yn allweddol i sgiliau, lles, llwybrau gyrfa a chyrhaeddiad.
Fodd bynnag, mae'r angen am ragor o gyllid diwylliannol gan Drysorlys y DU i Gymru yn golygu bod y mesurau hyn yn addasu'n barhaus, ond carwn fynegi'n gryf yn y ddadl hon y dylid rhoi sicrwydd ynglŷn â'r materion a godwyd gyda'r Gweinidog i'r Senedd fel mater o frys, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau penodol pellach, fel y mae'r sector yn galw amdanynt.
Yr ail fater pwysig a godwyd oedd nifer y cerddorion sydd wedi disgyn i'r bylchau, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru a'r cyllid a ddarparwyd gan gynlluniau ffyrlo a chynlluniau eraill. Felly, roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf o weld Llywodraeth Cymru yn lansio'r grant llawrydd o £2,500. Ond rwy'n clywed heddiw, ddyddiau'n unig yn ddiweddarach, fel gyda chynlluniau olynol, fod gormod o geisiadau wedi'u gwneud iddo, a bod y cyfnod cyntaf eisoes wedi cau. Felly, mae hyn yn sicr yn dangos lefel a maint budd cerddoriaeth i economi Cymru, ac mae'n dangos bod amcangyfrif rhy isel wedi'i wneud o'r angen am y gronfa hon i Gymru'n unig. Ond mae angen mwy o gyllid gan y DU. Felly, sut y caiff hyn ei fynegi gan y Gweinidog i Lywodraeth y DU fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gerddoriaeth yng Nghymru?
Yn olaf, Lywydd, amlinellai'r llythyr gan y grŵp trawsbleidiol alwad barhaus a mwyfwy dwys y sector am strategaeth gerddoriaeth genedlaethol i Gymru, a chynllun addysg gerddorol sylfaenol a gweithredu astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ar ddyfodol gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru. Does bosibl y dylid seilio rhwydwaith Gymreig o fynediad hygyrch a theg i ddisgyblion at wasanaeth cymorth cerddoriaeth a hyfforddiant offerynnol yng Nghymru ar god post, ar fympwy penaethiaid ac yn gyffredinol, ar ddyfnder poced rhiant.
Rhaid inni greu llwybrau cyflogaeth wedi'u gwneud yng Nghymru a rhyngweithio proffesiynol â'r cwricwlwm newydd mewn meysydd dysgu creadigol. Yn aml, nid oes gan addysgwyr dosbarth fawr ddim profiad, os o gwbl. Rhaid i Gymru arwain y ffordd yma, a galwaf eto am ddatrys hyn a rhoi terfyn ar erydu addysgu offerynnol ledled Cymru. Mae diwylliant, yn hanesyddol, bob amser wedi teimlo fel perthynas dlawd mewn gwariant cyhoeddus, ond gwn hefyd fod y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn gweld gwerth hyn yn fawr ac yn deall nad yw'n ymwneud yn unig â'r economi, diwylliant na bywoliaeth yn unig—mae hefyd yn ymwneud â'r math o Gymru y mae'r Llywodraeth hon yn ei weld ar gyfer y dyfodol ac yn ei werthu i'r byd ehangach, a gwn ei fod yn teimlo'n angerddol ynglŷn ag enaid diwylliannol Cymru a'r angen i'w achub. Felly, Weinidog, nawr yw'r adeg, ac fe gewch fy nghefnogaeth lawn a diamwys i wneud hynny. Rwy'n cefnogi'r cynnig.
Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gyfrannu—Dafydd Elis-Thomas. Bydd angen i chi—
Diolch, dwi'n ei wneud o nawr. Ydy hynny'n iawn?
Ardderchog.
Dyna ni. Diolch yn fawr iawn ichi. Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r cynnig gerbron, sydd wedi golygu ein bod ni wedi cael dadl mor amrywiol a gwerthfawr. Dwi'n meddwl mai dyma'r ddadl fwyaf cynhwysol ar y celfyddydau ac ar ddiwylliant rydym ni wedi ei chael yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd yma. Fe geisiaf i ateb rhai o'r pwyntiau a wnaed gan bob un a siaradodd os bydd yr amser yn ddigon. Mae gen i ryw wyth munud, oes, Llywydd, gobeithio? Rhywbeth fel yna, ie?
Fe soniodd Siân Gwenllian nad oeddwn i neu nad oedd y Llywodraeth yn uchafu pwysigrwydd y celfyddydau. Wel, gyda phob parch, rydym ni wedi gosod Cymru Greadigol yn ganolog yn ein polisïau ac rydym ni yn datblygu yn arbennig erbyn hyn y gweithgaredd drwy Cymru Greadigol ac yn buddsoddi ynddo fo. Fe feirniadwyd y buddsoddiad yn Seren Stiwdios, ond, wrth gwrs, mae datblygu ffilm ryngwladol ochr yn ochr yn ein polisi ni gyda datblygu y diwydiant yng Nghymru, a drwy i bobl gael profiad o weithio'n rhyngwladol mae safonau yn gallu codi.
Trafododd Laura Anne Jones botensial amgueddfa feddygaeth milwrol yng Nghymru yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae gennym eisoes amgueddfa filwrol fach, y Firing Line, amgueddfa roeddwn yn gysylltiedig â hi flynyddoedd yn ôl, a chredaf ei bod yn bwysig inni sylweddoli y bydd y datblygiadau hyn yn ddatblygiadau preifat—nid ydynt yn rhan o'n system amgueddfeydd genedlaethol—ac felly rwy'n amau'n fawr a fydd galw arnom i'w hariannu neu eu cefnogi.
Aeth Leanne Wood â ni'n ôl i fyd gwych y bandiau pres—unwaith eto traddodiad y gwn ei bod yn ei werthfawrogi a chyda theulu'n dod o Flaenau Ffestiniog fel sydd gennyf i, rwyf innau hefyd yn ei werthfawrogi, ac mae hyn yn rhan ganolog o'n traddodiad cerddorol ac yn un y mae'n rhaid inni ymdrechu i'w chynnal, hyd yn oed drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Ac wrth gwrs, fe enillodd fy ffafr unwaith eto drwy ddyfynnu fy mentor mawr, Raymond Williams. 'Mae diwylliant yn gyffredin' yw arwyddair yr adran ddiwylliant hon, a dyna fydd bob amser.
Cyfeiriodd at ddatblygu amgueddfa hanes pobl ddu. Mae hyn yn rhywbeth nad ydym wedi'i drafod yn fanwl mewn gwirionedd. Y cwestiwn y mae'n rhaid inni ei wynebu yw a ddylai hon fod yn amgueddfa benodol arall neu a ddylem gydnabod bod yn rhaid—rhaid—rhoi statws priodol a llawn, yn enwedig yn y rhan hon o dde-ddwyrain Cymru, i'r cymunedau du a lleiafrifoedd eraill a'r cenhedloedd amrywiol sy'n rhan o'n hanes. Felly, mae'n fater o sut rydym yn datblygu hynny.
Pwysleisiodd Mandy Jones bwysigrwydd y sinema, ac unwaith eto rwy'n cydymdeimlo â hynny oherwydd yn y gorffennol pell roeddwn yn aelod o Sefydliad Ffilm Prydain. Credaf fod profiad sinema a mwynhad y cyhoedd o ffilmiau yn rhywbeth anodd iawn i'w adfer, ond gobeithio y bydd hynny'n datblygu'n fuan.
Diolch yn fawr, Llyr, am y drafodaeth ar y gyfundrefn gynllunio. Mi ydym ni'n awyddus iawn fel Llywodraeth i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r gyfundrefn gynllunio er mwyn diogelu adeiladau hanesyddol ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn barod yn nodi sut y gall lleoliadau cerddoriaeth neu gelfyddydau gael eu cynnal fel rhan o adfywio, a hefyd rydym ni'n ymwybodol ei bod hi'n bwysig bod y gorchymyn dosbarthiadau defnydd yn caniatáu rhai newidiadau i ddefnydd heb fod angen cais cynllunio, ond mae hyn yn gyfyngedig ar gyfer defnyddiau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth, ac dwi'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n gallu cadw hynny.
Diolch, Jenny Rathbone, am eich cyfeiriadau at David Stacey a gwaddol mawr Theatr y Sherman a hefyd am eich cefnogaeth i Rubicon Dance, y mae gennyf gysylltiadau cryf â hwy. Roeddwn yn falch o allu ymweld ag adeilad llyfrgell y Rhath ac rwy'n gobeithio bod yr adeilad canolog yng nghanol Caerdydd, ac sydd o werth pensaernïol mawr—rwy'n mawr obeithio y gellir cael cyllid, cyfuniad o gyllid preifat a chyhoeddus, i adfywio'r lle hwn ar gyfer Rubicon Dance.
Clwb Ifor Bach: roeddwn yn un o'r cyfranwyr gwreiddiol i sefydlu'r clwb hwnnw, ac unwaith eto, rydych chi'n llygad eich lle, rhaid inni geisio sicrhau y gallwn ddod o hyd i ffordd o wneud yn siŵr fod y lleoliadau cerddoriaeth hyn—sydd wedi cael arian gennym, gyda llaw; rydym eisoes wedi rhoi cyllid cyfyngedig i leoliadau cerddoriaeth. Dyna un o'r pethau cyntaf a wnaethom fel Llywodraeth wrth i'r argyfwng hwn ddatblygu.
Soniodd Neil Hamilton wrthym am ei berfformiad yng ngŵyl Caeredin; byddai'n dda gennyf fod wedi'i weld. Ond pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd effaith cyfyngiadau ar iechyd y cyhoedd a gwnaeth rai cymariaethau â Sweden. Wel, yn anffodus, nid Sweden yw Cymru, ac nid yw'r math o ddiwylliant cymdeithasol a gwleidyddol sy'n bodoli yno i'w weld yn yr un ffordd yng Nghymru. Ond dywedodd rai pethau cefnogol am sefyllfa lleiafrifoedd ethnig hefyd, ond nid wyf yn credu ei fod mor frwd ynghylch Black Lives Matter. Rwy'n credu bod Black Lives Matter yn bwysig iawn am ei fod yn fudiad rhyngwladol i'r gymuned ddu a chaiff ei adlewyrchu'n gryf iawn yn y cymunedau du yng ngogledd a de Cymru, a chredaf mai ein dyletswydd ni fel Llywodraeth yw nodi hynny lle gallwn gefnogi gweithgareddau yn y gymuned mewn perthynas â'r gymuned ddu.
Mae Rhianon Passmore bob amser yn gryf iawn ei chefnogaeth i gerddoriaeth a gofynnodd am fwy o eglurder ynglŷn â chanllawiau, yn enwedig canllawiau i athrawon cerddoriaeth preifat, ac yn sicr, fe edrychaf eto ar hyn yn dilyn ein trafodaeth.
Rwy'n credu fy mod wedi cyfeirio at y rhan fwyaf o'r bobl sydd wedi siarad, felly unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i ymateb, a byddaf yn astudio unrhyw beth arall a ddywedwyd yn y ddadl nad wyf wedi cyfeirio ato'n benodol.
Dwi ddim wedi gallu cyfeirio at bopeth, ond fe wnawn ni edrych ar y ddadl yma yn ôl, ac fe fyddaf i'n cysylltu ag unrhyw Aelodau nad ydw ddim wedi gallu cyfeirio atyn nhw. Diolch yn fawr am gael cyfle i ddathlu goleuni celfyddyd ynghanol y tywyllwch rydyn ni ynddo fo ar hyn o bryd oherwydd y pla presennol. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwy'n credu bod nifer y bobl sydd wedi cyfrannu—ac yn wir nifer y gwelliannau a gyflwynwyd—yn dangos inni pa mor bwysig yw ein dyletswyddau tuag at sector y celfyddydau i'r pleidiau ar draws y Senedd. Dylwn fod yn glir ar y pwynt hwn fy mod yn siarad ar ran fy mhlaid yma, nid fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, ond mae llawer o'r dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor diwylliant wedi dylanwadu ar ein cynnig heddiw.
Rhoddodd Siân Gwenllian ddarlun llwm iawn o sefyllfa'r sector ar hyn o bryd; mae'n sôn am y rhyng-gysylltedd a'r angen allweddol i gefnogi'r sector cyfrwng Cymraeg, ac i gefnogi ein sefydliadau.
Roedd cyfraniad Laura Anne Jones ychydig yn ddryslyd i mi. Rwy'n croesawu'r hyn a oedd ganddi i'w ddweud am welliant 9; rydym yn derbyn hynny, teimlwn fod hynny'n bwysig iawn. Gwn fod fy nghyd-Aelodau Elin Jones, y Llywydd, a Ben Lake wedi ysgrifennu at y Llywodraeth gyda'u pryderon ynglŷn â'n llyfrgell genedlaethol, fel y gwnes innau. Mae'n sefydliad allweddol, wrth gwrs.
Mewn perthynas â gwelliant 2, hynny yw, nid oes neb yn mynd i ddweud 'na' wrth arian, ond mae siaradwyr eraill yn y ddadl hon wedi cyfeirio at yr hyn a ddywedodd Rishi Sunak ddoe, a chredaf fod hynny'n dangos diffyg parch, a dweud y gwir.
Ar welliant 3, mae angen inni fod yn glir yma: nid wyf yn heddychwr, ac o ran diffyg parch tuag at y fyddin, gwnaeth fy nhad wasanaeth milwrol gweithredol yr holl ffordd drwy'r ail ryfel byd, felly nid oes diffyg parch i'r fyddin ar yr ochr hon i'r tŷ. Ond cwestiynau ynglŷn â blaenoriaethau yw'r rhain. Mae ein hamgueddfeydd presennol yn llawn o hanes milwrol mewn sawl ffordd wahanol. Pan edrychwch ar ein—[Torri ar draws.] Byddai'n dda gennyf pe bawn i'n cael derbyn ymyriad, ond nid yw'r rheolau presennol yn caniatáu hynny, Darren Millar, fel y gwyddoch. Mae'n ymwneud â blaenoriaethau. Mae ein hamgueddfeydd yn llawn o femorabilia milwrol; gallent yn aml, rwy'n siŵr, gael eu portreadu'n well a dweud y stori'n well, ond credwn fod amgueddfa i adlewyrchu'r gymuned hon rydym wedi ein lleoli ynddi, amgueddfa ar gyfer pobl dduon a phobl liw, yn flaenoriaeth uwch, ac roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud, er gwaethaf eu gwelliant, nad ydynt yn cau'r drws ar hyn. Rwy'n synnu'n fawr, o ystyried yr hyn a oedd yn gyfraniad rhagorol gan Laura Anne Jones i'r ddadl wrth-hiliaeth ddoe, nad yw'n cytuno â mi fod hyn yn bwysig.
Roedd cyfraniad Leanne Wood yn ymwneud â pha mor ddwfn y mae'r celfyddydau a cherddoriaeth wedi'u gwreiddio yn ein hanes a'n diwylliant. Rwyf wrth fy modd â'r ymadrodd—fel y Gweinidog yn wir—fod diwylliant yn gyffredin; mae'n gyffredin ac yn anghyffredin ar yr un pryd, ac mae pob math o ddiwylliant yn bwysig.
Rwy'n credu bod Llyr Gruffydd wedi dweud popeth sydd angen ei ddweud, mae'n debyg, mewn ymateb i Mandy Jones. Mae Llyr, wrth gwrs, yn siarad yn gryf iawn am bwysigrwydd diogelu ein lleoliadau a'r canlyniadau hirdymor os na chânt eu diogelu. Mae'n amlwg nad yw'r system gynllunio bresennol yn caniatáu hynny: gwnaed hynny'n glir iawn yn y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor, a'r un yw'r sefyllfa gyda'n henwau lleoedd hynafol. Rydym yn colli enwau lleoedd hynafol bob dydd mewn llawer o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, ac ni allwn aros tra bod mwy o opsiynau'n cael eu hystyried.
Teimlwn fod cyfraniadau Jenny Rathbone am bwysigrwydd y celfyddydau yn ei hetholaeth yn hynod werthfawr ac i'w groesawu, fel roedd cyfraniad Rhianon Passmore. Mae ei brwdfrydedd dros gerddoriaeth yn enwog a gwnaeth gyfraniadau cadarnhaol a chryf iawn yma.
Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb cadarnhaol i'r ddadl, ac mae'n debyg y dylwn fod yn ddiolchgar iddo hefyd fod y Llywodraeth wedi talu mwy o barch i'n cynnig na gwneud y 'dileu popeth a a rhoi yn ei le' sy'n digwydd yn rhy aml, ond ni allwn dderbyn eu gwelliannau. Nid oes gennyf amser i fynd drwy'r holl resymau pam, ond yn y bôn yr hyn y mae gwelliannau'r Llywodraeth yn ei wneud yw glastwreiddio ein cynnig. Mae ychydig bach fel mynd yn ôl i ddweud wrthym fod popeth yn iawn. Wel, mae pobl sy'n gweithio yn y sector yn dweud wrthym, mae pobl sydd angen y sector ar gyfer eu lles emosiynol yn dweud wrthym nad yw popeth yn iawn. Lywydd, nid ydym yn dadlau, wrth gwrs, nad yw'r Llywodraeth wedi gwneud, ac nad yw'n gwneud dim, ond nid ydynt wedi gwneud digon.
I gloi, gwyddom fod sector y celfyddydau a diwylliant yn ddiwydiant allweddol yng Nghymru. Pe baem yn cyfrif yr holl swyddi sydd mewn perygl, byddent yn gymaint o fygythiad i'n heconomi â llawer o'n sefydliadau mawr fel Airbus, fel y diwydiant dur. Ond oherwydd eu bod yn cynnwys cymaint o unigolion, gweithwyr llawrydd, sefydliadau bach, efallai nad ydym yn gweld y pwysigrwydd economaidd hwnnw fel y dylem, a rhaid inni weld gwerth y cyfraniad economaidd hanfodol hwnnw.
Ond fel y mae siaradwyr eraill wedi dweud yn y ddadl hon, mae'r celfyddydau a diwylliant yn ymwneud â llawer mwy na hynny. Mae'r celfyddydau'n ymwneud â phwy ydym ni, ynglŷn â sut y mynegwn ein hunain, sut yr esboniwn ein hunain i'n gilydd, sut y deallwn ein gorffennol a'n presennol a sut y cynlluniwn ein dyfodol. Credaf fod hyn yn wir yn fyd-eang, ond yma yng Nghymru mae ein hanes yn dweud wrthym pa mor bwysig yw'r celfyddydau wedi bod erioed, o'r canol oesoedd ymlaen. Rhaid inni eu diogelu drwy'r cyfnod anodd hwn neu ni fydd cenedlaethau'r dyfodol byth yn maddau i ni. Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru yn ddigon, ac rwy'n cymeradwyo ein cynnig fel y mae, fel y'i diwygiwyd gan welliant 9, i'r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi derbyn gwrthwynebiadau. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.