10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:01, 7 Hydref 2020

Gaf i ffocysu yn fy sylwadau i ar y system gynllunio a sut mae angen i'r gyfundrefn honno newid er mwyn gwneud ei rhan i helpu amddiffyn y celfyddydau, diwylliant a'n treftadaeth ni? Efallai nad oes yna gysylltiad amlwg rhwng y ddau beth, ond dŷn ni'n gwybod bod yna nifer o leoliadau sydd wedi eu defnyddio at y dibenion yma bellach dan fygythiad oherwydd y pandemig. Mae nifer wedi eu gorfodi i gau oherwydd amgylchiadau ac, o ganlyniad i hynny, wedi colli incwm, ac mae rhywun yn poeni y byddwn ni yn colli rhai o'r safleoedd yma gan y byddan nhw efallai'n gorfod cau'n barhaol. Bydd eraill, efallai, yn mynd i drafferthion ariannol, a bydd hynny i gyd yn creu pwysau wedyn pan fydd hi'n dod i'r asedau maen nhw'n berchen, yr adeiladau, neu, wrth gwrs, os ydyn nhw'n eu rhentu, efallai'n gorfod symud. Mae llawer o'r cyrff  a'r endidau yma yn bodoli mewn lleoliadau sy'n hynod o ddymunol mewn ardaloedd trefol, mewn adeiladau trawiadol, adeiladau cyfnod yn aml iawn, a dŷn ni'n gallu gweld yn barod, dwi'n meddwl, sut y byddai datblygwyr, hapfasnachwyr yn eu gweld nhw yn prospect atyniadol iawn o safbwynt gwneud ambell i geiniog, ac mae rhywun yn poeni y byddwn ni'n gweld fflatiau ac apartments a phob mathau o bethau yn cael eu datblygu yn y safleoedd yma.

Felly, heb gefnogaeth ddigonol gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, mae yna risg y byddwn ni'n colli nifer o'r safleoedd a'r lleoliadau pwysig yma yn y dyfodol. Ond mae yna ffordd effeithiol a di-gost i'r Llywodraeth fynd ati i amddiffyn y mannau yma, trwy wneud mwy o fewn y drefn cynllunio i reoli newid defnydd yr adeiladau yma—nid gwahardd newid defnydd yn llwyr, ond fel mae'r cynnig yn ei ddweud, 

'defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu' i newid eu defnydd tra bo'r pandemig yn parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio'r lleoliadau hynny at eu prif ddiben. Hynny yw, defnyddio'r system gynllunio i greu rhyw fath o firewall dros dro o gwmpas y lleoliadau celfyddydol pwysig yma a diwylliannol arwyddocaol iawn tan i'r sector gael yn ôl ar ei thraed. Oherwydd os collwn ni'r lleoliadau yma yn y cyfnod hwn, ddown nhw ddim yn ôl. Unwaith y byddan nhw wedi eu gwerthu a'u datblygu, mi fydd yr adnoddau celfyddydol, diwylliannol, cymunedol bwysig, cymdeithasol bwysig yma sydd wedi bod yn nodwedd mor bwysig o dreftadaeth cymaint o gymunedau ar draws Cymru wedi cael eu colli am byth.

Rŷn ni'n cofio sut y gwnaeth y system gynllunio fethu amddiffyn lleoliadau cerddoriaeth yn y gorffennol—nifer wedi cau am ei bod hi'n fwy proffidiol i ddatblygwyr wneud rhywbeth â nhw yn hytrach nag iddyn nhw barhau fel lleoliadau cerddoriaeth. Rŷn ni'n cofio ymgyrch arbed Stryd Womanby yng Nghaerdydd a dynnodd sylw at ba mor hurt oedd hi fod lleoliadau cerddoriaeth oedd wedi eu sefydlu dros flynyddoedd maith yn gorfod mynd i gost sylweddol i wrthseinio neu 'soundproof-io' eu hadeiladau, am fod adeiladau cyfagos wedi eu trosi at ddefnydd preswyl. Mi gollwyd lleoliadau fel Barfly a'r Point yng Nghaerdydd i'r anghyfiawnder yna flynyddoedd cyn bod lleoliadau Stryd Womanby dan fygythiad, a dydyn ni ddim eisiau gweld yr un fath o sefyllfaoedd yn codi eto yn y cyd-destun yma oherwydd y pandemig.

Dwi ishie sôn hefyd am y ffaith ein bod ni yn parhau i wynebu sefyllfa lle nad oes gan enwau lleoedd hanesyddol Cymru unrhyw fath o amddiffyniad rhag cael eu newid a'u colli. Mae'r diffyg amddiffyniad statudol yma yn warthus yn fy marn i, yn enwedig wrth ystyried pwysigrwydd yr enwau yma yng nghyd-destun treftadaeth a hanes ein gwlad. Mae yna dair blynedd bellach ers i Dai Lloyd gynnig Bil yn y Senedd yma, nôl yn 2017 a fyddai wedi rhoi'r amddiffyniad hwnnw i enwau llefydd hanesyddol Cymru, ond, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cofio sut y gwnaeth y Llywodraeth yma wrthwynebu'r bwriad hwnnw. Mae enwau tai, ffermydd, caeau a nodweddion naturiol yn aml yn gofnod pwysig o arferion amaethyddol, diwydiannau lleol, sut mae'r dirwedd wedi newid, ond doedd y Llywodraeth, wrth gwrs, ddim am weithredu. Yr enwau yma sy'n dweud wrthym ni pwy ŷn ni, ac o ble rŷn ni wedi dod. Maen nhw'n cael eu colli, ac mi fyddan nhw'n cael eu colli yn gynt yn y blynyddoedd nesaf yma oherwydd, wrth gwrs, ein bod ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn symud i mewn ein cymunedau, a diau fydd enwau pellach yn cael eu colli.

Mae'r gwelliant gan y Llywodraeth i newid y cymal yma yn y cynnig yn dweud y cyfan, yn fy marn i: 'parhau i ystyried opsiynau' yw bwriad y Llywodraeth er mwyn sicrhau na fydd yr enwau yma yn cael eu colli. Ble ŷch chi wedi bod ers tair blynedd? Beth ŷch chi wedi bod yn ei wneud ers i Blaid Cymru ddod â'r Bil arfaethedig ymlaen yn 2017? Faint o amser i ystyried sydd ei angen ar y Llywodraeth yma? Mae gwledydd eraill fel Seland Newydd wedi gweithredu; maen nhw wedi creu Deddf. Mae yna enghreifftiau allan yna y gallem ni eu hefelychu pe byddem ni'n dymuno gwneud. Mae yna 18,000 o bobl wedi arwyddo deiseb dros yr haf yn galw ar y Senedd i ddeddfu i atal newid enwau Cymraeg cartrefi. Mae'r tân yn llosgi, Dirprwy Weinidog. Rŷch chi wedi cael hen ddigon o amser i ystyried opsiynau. Does bosib, nawr, fod yr amser wedi dod i weithredu.