10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:22, 7 Hydref 2020

Dyna ni. Diolch yn fawr iawn ichi. Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r cynnig gerbron, sydd wedi golygu ein bod ni wedi cael dadl mor amrywiol a gwerthfawr. Dwi'n meddwl mai dyma'r ddadl fwyaf cynhwysol ar y celfyddydau ac ar ddiwylliant rydym ni wedi ei chael yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd yma. Fe geisiaf i ateb rhai o'r pwyntiau a wnaed gan bob un a siaradodd os bydd yr amser yn ddigon. Mae gen i ryw wyth munud, oes, Llywydd, gobeithio? Rhywbeth fel yna, ie?

Fe soniodd Siân Gwenllian nad oeddwn i neu nad oedd y Llywodraeth yn uchafu pwysigrwydd y celfyddydau. Wel, gyda phob parch, rydym ni wedi gosod Cymru Greadigol yn ganolog yn ein polisïau ac rydym ni yn datblygu yn arbennig erbyn hyn y gweithgaredd drwy Cymru Greadigol ac yn buddsoddi ynddo fo. Fe feirniadwyd y buddsoddiad yn Seren Stiwdios, ond, wrth gwrs, mae datblygu ffilm ryngwladol ochr yn ochr yn ein polisi ni gyda datblygu y diwydiant yng Nghymru, a drwy i bobl gael profiad o weithio'n rhyngwladol mae safonau yn gallu codi.