Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, dylwn nodi’r ffaith bod Network Rail yn atebol i Lywodraeth y DU; mae’n un o gyrff Llywodraeth y DU. Ond o'n rhan ni, pan wnaethom sicrhau'r contract ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau, pan amlinellwyd ein dyheadau ar gyfer y metro, gwnaethom fanylu hefyd ar sut y bwriadwn ddarparu llu o wasanaethau ar draws ardal y metro a fyddai'n ddi-garbon. Byddai eu pŵer yn dod o fathau o ynni adnewyddadwy. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn falch iawn ohono, wrth inni geisio cyflawni’r targedau ar gyfer datgarboneiddio, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cyfrannu at yr ymdrech honno.