1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltiadau rheilffordd â Blaenau Gwent? OQ55641
Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail ar gynllun gwella amlder rheilffordd Glynebwy, a fyddai'n caniatáu i redeg pedwar trên yr awr, ac rydym hefyd yn gweithio gyda Blaenau Gwent ar gynlluniau i ailagor y rheilffordd i Abertyleri.
Weinidog, rwyf bron yn fud. Rwy’n falch iawn eich bod wedi cyfeirio at yr orsaf yn Abertyleri ac at bedwar trên yr awr hefyd. Dyna’r union amcanion y mae pob un ohonom yn dymuno’u gweld. Fe fyddwch yn gwybod, yn well na minnau efallai, sut y mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud tro gwael â phob un ohonom—mae un ar ôl y llall o Lywodraethau’r DU wedi gwrthod buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. A chredaf fod pob un ohonom yn ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod y seilwaith rheilffyrdd yn rhy bwysig i gael ei adael i wywo ar gangen San Steffan. Felly, a wnewch chi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y seilwaith sy'n gwasanaethu Blaenau Gwent, ond hefyd y bydd y metro’n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i sicrhau bod gennym gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n golygu o ddifrif fod cysylltedd ar gyfer y gorsafoedd sy'n gwasanaethu Blaenau Gwent yn rhywbeth y gallwn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu, a buddsoddiad parhaus ynddo yn y dyfodol?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol? Mae'n dadlau achos cryf iawn yn rheolaidd dros ddatganoli cyfrifoldeb am y seilwaith rheilffyrdd, a chyllid teg i'w ganlyn. Ac yn ddiweddar, rwyf wedi amlinellu sut y darganfuom, drwy amcangyfrif ceidwadol, fod gwariant ar seilwaith rheilffyrdd yng nghyswllt Cymru, dros gyfnod o 28 mlynedd rhwng 2001 a 2029, £2.4 biliwn yn is na'r hyn y dylai fod wedi bod—£2.4 biliwn. Felly, fel rhan o ddyhead Llywodraeth y DU i godi lefelau'n gyfartal drwy'r DU, gadewch inni eu gweld yn codi lefelau'r buddsoddiad yn y rheilffyrdd. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod y byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y meysydd rydym yn gyfrifol amdanynt, a byddwn hefyd yn ceisio cyflymu cynlluniau lle mae angen i Lywodraeth y DU roi arian parod ar y bwrdd. Mae'r metro’n flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth hon. Ac er y gostyngiad yn nifer y teithwyr yn ystod y pandemig hwn, rydym yn parhau i fod mor ymrwymedig ag erioed i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau ledled Cymru, gan gynnwys yn etholaeth fy nghyfaill a chyd-Aelod.
Weinidog, a wnewch chi amlinellu goblygiadau strategaeth ddatgarboneiddio Network Rail, sy'n nodi sut y mae'r diwydiant rheilffyrdd yn anelu at gyflawni sero-net o ran allyriadau carbon erbyn 2050 ar y gwasanaeth rheilffordd hwn?
Wel, dylwn nodi’r ffaith bod Network Rail yn atebol i Lywodraeth y DU; mae’n un o gyrff Llywodraeth y DU. Ond o'n rhan ni, pan wnaethom sicrhau'r contract ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau, pan amlinellwyd ein dyheadau ar gyfer y metro, gwnaethom fanylu hefyd ar sut y bwriadwn ddarparu llu o wasanaethau ar draws ardal y metro a fyddai'n ddi-garbon. Byddai eu pŵer yn dod o fathau o ynni adnewyddadwy. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn falch iawn ohono, wrth inni geisio cyflawni’r targedau ar gyfer datgarboneiddio, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cyfrannu at yr ymdrech honno.
Weinidog, y rheswm a roddwyd gan weithredwyr rheilffyrdd dros ddiffyg cyswllt trên o reilffordd Glynebwy i mewn i Gasnewydd yw bod capasiti’r trenau’n llawn oherwydd y gwasanaeth i mewn i Gaerdydd. Weinidog, o ystyried y ffaith bod y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau'r pandemig COVID, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i dreialu trenau i Gasnewydd, i baratoi ar gyfer gwasanaeth llawn? Er yr oedi mewn perthynas â chaffael cerbydau, ac rydym yn cydnabod bod hynny y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, does bosibl nad oes digon o gapasiti dros ben bellach i ganiatáu i’r treialon hyn ddigwydd?
Wel, yn anffodus, mae nifer y gwasanaethau ar eu huchaf. Capasiti’r gwasanaethau, nifer y seddi, neu’r capasiti seddi, sydd wedi'i leihau'n sylweddol ar hyn o bryd, ac felly nid oes lle ar y rheilffyrdd hynny i dreialu fel yr awgryma’r Aelod. Ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i gyflawni yn erbyn yr uchelgais am bedwar trên yr awr, nid yn unig ar draws ardal sefydledig y metro, ond yr ardal ehangach. Ond er mwyn cyflawni hynny, fel rwy'n dweud o hyd, mae angen buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, a gall Llywodraeth y DU ddarparu’r buddsoddiad hwnnw. Rydym wedi gweld llawer o sôn droeon am Fil marchnad fewnol y DU a sut y byddai Llywodraeth y DU yn dymuno gwario arian yng Nghymru, ond maent yn dymuno gwario arian mewn meysydd lle nad oes ganddynt gyfrifoldeb. Rydym am eu gweld yn gwario mwy o arian o lawer yng Nghymru, a gallant ddechrau drwy wario ar y seilwaith rheilffyrdd.