Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, yn anffodus, mae nifer y gwasanaethau ar eu huchaf. Capasiti’r gwasanaethau, nifer y seddi, neu’r capasiti seddi, sydd wedi'i leihau'n sylweddol ar hyn o bryd, ac felly nid oes lle ar y rheilffyrdd hynny i dreialu fel yr awgryma’r Aelod. Ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i gyflawni yn erbyn yr uchelgais am bedwar trên yr awr, nid yn unig ar draws ardal sefydledig y metro, ond yr ardal ehangach. Ond er mwyn cyflawni hynny, fel rwy'n dweud o hyd, mae angen buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, a gall Llywodraeth y DU ddarparu’r buddsoddiad hwnnw. Rydym wedi gweld llawer o sôn droeon am Fil marchnad fewnol y DU a sut y byddai Llywodraeth y DU yn dymuno gwario arian yng Nghymru, ond maent yn dymuno gwario arian mewn meysydd lle nad oes ganddynt gyfrifoldeb. Rydym am eu gweld yn gwario mwy o arian o lawer yng Nghymru, a gallant ddechrau drwy wario ar y seilwaith rheilffyrdd.