Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:00, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Hoffwn droi, yn fy nhrydydd cwestiwn, at ddiwydiant gwahanol iawn, sef y diwydiant trin gwallt a harddwch. Unwaith eto, daeth cynrychiolwyr o'r diwydiant hwnnw ger ein bron—gerbron y pwyllgor—heddiw, ac roeddent yn pwysleisio pwysigrwydd y busnesau hynny fel cyrchfannau ar y stryd fawr. Wyddoch chi, ni allwch gael eich gwallt wedi'i dorri o bell; efallai eich bod yn gallu prynu eich llyfrau o bell, ond nid yw'n bosibl cael torri eich gwallt o bell. Mynegodd bryder nad oedd bob amser yn argyhoeddedig fod Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd y diwydiant yn iawn. Tynnodd sylw, wrth gwrs, at bwysigrwydd y diwydiant yn darparu cyfleoedd i fenywod, ac i fenywod sy'n gweithio'n rhan-amser.

Tynnodd sylw hefyd at rai anghysonderau posibl yn y rheoliadau diogelwch. Dywedodd wrthym, er enghraifft, er bod barbwyr, gwryw yn bennaf, yn cael eillio cwsmer gwrywaidd, ni chaniateir i weithwyr harddwch, sy'n fenywod yn bennaf, roi triniaeth wyneb i gwsmer benywaidd. Er mwyn sicrhau hyfywedd y diwydiant wrth symud ymlaen, awgrymodd y byddai'n hoffi inni ailystyried rhai o'r anghysonderau hynny yn y rheoliadau. Hoffwn wahodd y Gweinidog heddiw i ymrwymo i edrych ar yr anghysonderau a hefyd i anfon neges glir o'i ddealltwriaeth ei hun o bwysigrwydd y diwydiant hwn, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cael effaith ar les cwsmeriaid.