Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:59, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am y pwynt pwysig am rôl Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau dur yng Nghymru drwy'r broses gaffael? Wrth inni geisio ailadeiladu'n ôl yn well, rydym yn bwriadu gwneud hynny gan ddefnyddio dur Cymru, a byddwn yn edrych am bob cyfle i wneud hynny. Mae'r Aelod yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf i ymrwymo i'r siarter dur, ac mae hynny'n dangos ein bod yn benderfynol i ddefnyddio caffael fel ysgogiad i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru. A hoffwn gofnodi fy niolch, Lywydd, i UK Steel am y cyngor a roesant i fy swyddogion hefyd. Maent yn sefydliad ambarél rhagorol sy’n gwasanaethu busnesau dur Cymru yn hynod o dda.