Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 7 Hydref 2020.
Weinidog, diolch i chi am yr ateb i Helen Mary Jones, oherwydd mae llawer o fusnesau yng nghwm Afan sydd wedi bod yn dibynnu ar y fasnach ymwelwyr ar gyfer beicio mynydd a'r llwybrau rhagorol i fyny yno. Felly, bydd yr ateb hwnnw'n eu helpu'n fawr oherwydd byddant yn gweld eu niferoedd yn gostwng, oherwydd maent yn fusnes o'r tu allan i'r fwrdeistref sirol, nid o reidrwydd o'r tu mewn, oherwydd gwyddom y gallwch deithio yno'n eithaf hawdd.
Ond sector arall yr effeithiwyd arno yw'r gyrwyr tacsi ledled Cymru ynghanol y cyfyngiadau lleol hyn. Cawsant anhawster yn ystod y cyfyngiadau symud, ond rydym bellach yn wynebu mwy o heriau wrth i gyfyngiadau lleol ddod i rym, oherwydd mae llai o bobl yn dod i mewn i'r dref ac nid ydynt o reidrwydd yn gallu cludo pobl y tu hwnt i'r bwrdeistrefi sirol. A ydych chi'n edrych ar y sefydliadau tacsis? Oherwydd mae bysiau wedi cael cymorth, mae trenau wedi cael cymorth, ond nid yw gyrwyr tacsi wedi cael cymorth eto yn hyn o beth ac maent yn ei chael yn anodd gweld eu hyfywedd hirdymor.