Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, os gallant fodloni meini prawf y grantiau datblygu busnes neu'r grantiau cyfyngiadau lleol, gallaf sicrhau'r Aelod y byddant yn gallu cael y cyllid. Ond mae hefyd yn werth tynnu sylw at y ffaith bod gan Lywodraeth y DU rôl bwysig i'w chwarae yn y maes hwn, oherwydd Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig. A bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Canghellor wedi cyhoeddi estyniad ac y bydd dau grant pellach ar gael. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei groesawu'n fawr, oherwydd mae'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig wedi bod yn hanfodol bwysig i lawer o unigolion yng Nghymru.
Cyfrifir y grantiau cyntaf ar 20 y cant o elw masnachu tri mis, hyd at o leiaf £1,875, a byddwn yn annog unrhyw un a allai fod yn gymwys i'r gronfa benodol honno wneud cais cyn gynted ag y gallant oherwydd, yn anffodus, mae'n dal i fod yn wir nad yw llawer o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn ymwybodol eu bod yn gallu gwneud cais am gymorth neu maent wedi methu gwneud hynny hyd yma.