Ymbellhau Cymdeithasol ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:20, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, os oes gan ein heconomi unrhyw obaith o oroesi'r pandemig hwn, mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda COVID-19. Mae byw gyda'r clefyd yn golygu bod yn rhaid inni gadw ar wahân i bobl nad ydynt yn ein teulu agos a gwisgo masgiau mewn mannau caeedig. Diolch byth, mae masgiau bellach yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond mae cadw ar wahân yn anos. Mae'n rhaid inni sicrhau nid yn unig y gellir cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus ond bod digon o gapasiti i'r rhai sydd ei angen. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau ynghylch cynyddu amlder neu gapasiti gwasanaethau yn ystod y pandemig hwn? Diolch.