Ymbellhau Cymdeithasol ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:19, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â'r pwynt y mae'n ei wneud? Mae heriau platfformau byr yn broblem mewn mannau eraill yng Nghymru hefyd, ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn adolygu'n rheolaidd nid yn unig y ffigurau sy'n ymwneud â throsglwyddiad COVID, ond hefyd sut y gallent gynhyrchu ateb newydd i'r her a wynebir gan orsafoedd sy'n rhy fyr i ganiatáu i ddau ddrws agor. Rydym yn ei adolygu'n rheolaidd, byddwn yn parhau i wneud hynny, a chyn gynted ag y gallwn ganiatáu i wasanaethau aros yn y gorsafoedd hynny, byddwn yn gwneud hynny.