Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 7 Hydref 2020.
Yn sicr. Mae'r economi ymwelwyr yn eithriadol o bwysig i economi Cymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Rydym wedi rhyfeddu at ysbryd a dyfalbarhad y sector yn ystod yr argyfwng. Rydym wedi cydnabod hyn nid yn unig drwy roi cymorth i'r diwydiant twristiaeth drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd a thrwy'r grantiau ardrethi annomestig, ond hefyd drwy glustnodi £20 miliwn, yn benodol, o gam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd, ar gyfer y sectorau pwysig hynny.